Saturday, July 10, 2010

Maes e

Mae'n dda deall bod ymgais yn cael ei gwneud i adfywio'r negesfwrdd Cymraeg maes e.

Ymryson ar y maes oedd fy mhrofiad cyntaf i o wleidydda ar y We. 'Dwi'n credu mai anghytuno a Guto Bebb ynglyn a rhywbeth neu'i gilydd oedd y sbardun - ac mi gefais sawl dadl digon ffyrnig ar adegau efo Guto ar y maes. 'Dwi'n rhyw gofio cael fy nwrdio o bryd i'w gilydd gan y gweinyddwyr am fod yn rhy ymysodol a thramgwyddo ar etiwcet y maes. Wna i ddim darparu linc - mi gewch chi fynd i chwilio eich hun os ydych eisiau. Roeddwn i'n defnyddio'r enw GT, tra bod Guto'n defnyddio amrywiaeth o enwau, gan gynnwys Boris a Cath Ddu.

Mae'r maes wedi bod yn ddistaw iawn am rai blynyddoedd bellach, ac mae'n anodd credu heddiw mor fywiog, amrywiol a phoblogaidd oedd y wefan pan oedd yn ei hanterth. Mae'n debyg gen i bod nifer o resymau pam ei bod mor ddistaw bellach, ac efallai bod yr arfer o flogio yn un o'r rhesymau hynny, a mae llanw a thrai ffasiwn yn ffactor hefyd. Yn sicr nid diffyg brwdfrydedd ar ran Hedd a'r criw bach o wirfoddolwyr sy'n cynnal y maes ydi'r broblem - maent yn gwneud ymdrech lew. Ac hefyd mae'n sicr bod cynnal negesfwrdd llwyddiannus yn beth digon posibl - hyd yn oed yn oes y blogiau, fel mae'r negesfwrdd hynod boblogaidd Gwyddelig politics.ie yn profi.

Serch hynny mae negesfwrdd bywiog a phoblogaidd yn cynnig nifer o bethau nad ydi blog yn ei wneud - amrywiaeth o ran pynciau trafod a chyfranwyr, cynulleidfa eang, ymatebion cyflym a chyfle i gynnal sawl dadl ar yr un pryd. Y peth pwysicaf fodd bynnag ydi'r ymdeimlad o gymuned a geir ar negesfwrdd - rhywbeth sy'n anodd ei efelychu ar flog. Mae yna ymdeimlad o berchnogaeth dorfol i negesfwrdd, tra bod persenoliaeth blogiwr unigol yn dominyddu pob blog.

Mae'r ffaith bod maes e wedi bod mor ddistaw yn ddiweddar yn golled i'r graddau bod yna gymuned fach Gymraeg wedi peidio a bodoli i pob pwrpas. Yn wir mi fyddwn yn meddwl bod y maes yn gyfle prin i bobl sy'n byw mewn ardaloedd llai Cymreig i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a chael bod yn rhan o gymuned Gymreig. Felly beth am fynd ati i gofrestru? - byddai'n braf adfywio'r fro bach Gymraeg yma.

3 comments:

y bws wedi gadael ers hanner awr said...

Diddorol fod y blogiad yma yn cael ei drafod ar Twitter a nid yma nac ar maes-e. A phiti nad yw'r blogiwr ar Twitter er mwyn ymuno gyda'r drafodaeth.

Cai Larsen said...

Hwyrach bod gennyt bwynt.

Efallai y byddai'n syniad i mi ddechrau trydar - wedi i wyliau'r haf gychwyn efallai.

Ifan Morgan Jones said...

Dwi'm yn meddwl bod y ffaith bod maes e wedi bod i lawr mor aml yn ddiweddar wedi helpu pethau.

Hefyd mae Twitter a Facebook wedi lladd fforymau trafod fel hyn. Dyna lle mae pobol yn mynd ar eu hawr cinio erbyn hyn.

Un posibilrwydd arall ydi bod lot o'r cyfranwyr cynnar, oedd yn eu harddegau pan ddechreuodd y peth, bellach yn ei 20au a gyda swyddi a felly yn llai parod i roi eu barn ar rai o bynciau dadleuol y dydd.