Sunday, April 18, 2010

Byw mewn dau le ar yr un pryd


Mae'n rhaid cyfaddef bod Robin 'I live in Gerlan' Millar (ymgeisydd y Toriaid yn Arfon) yn ddyn clyfar iawn. Mae'n llwyddo i gyflawni'r dasg anodd o fyw mewn dau le ar yr un pryd.

Yn ol gwefan Forest Heath District Council mae'n gynghorydd tros ward All Saints yn y fan honno ac yn byw yn 42 Barry Lynham Drive, Newmarket, CB8 8YT. Mae ganddo rif ffon landline yno yn ogystal a chyfeiriad e bost llywodraeth leol - robin.millar@forest-heath.gov.uk

Yn y cyfamser mae ei wefan etholiadol
yn honni ei fod yn hogyn lleol, wedi ei eni ym Mangor ac yn byw yn Arfon (ond ddim yn manylu ynglyn a lle yn yr etholaeth mae'n byw). Mae ganddo gyfeiriad e bost gwahanol - robin@adeiladuarfon.com yn ogystal a rhif ffon symudol.

Gan bod Robin yn fodlon gwneud cymaint o wybodaeth amdano ei hun, a sut i gysylltu efo fo, yn gyhoeddus, mae'n rhyfedd braidd nad yw'n ein darparu efo ei gyfeiriad honedig yn Arfon.

Tybed os oes ganddo gyfeiriad yn Arfon o gwbl?

2 comments:

Anonymous said...

Ma Robin yn honni ei fod yn byw yn Rhiwlas ers 1991!

Cai Larsen said...

Os ydi hynny'n wir doedd ganddo fo ddim hawl i sefyll i fynd yn gynghorydd yn Forest Heath.