Peidied neb a meddwl fy mod i'n arbenigwr ar wleidyddiaeth Meirion, ac yn arbennig felly de'r cyn sir - 'dwi ddim. Serch hynny mae yna sibrydion - wel mwy na sibrydion a dweud y gwir wedi cyrraedd cyn belled ag Arfon sy'n awgrymu nad pawb o bell ffordd ym Mro Dysynni sy'n edrych ymlaen i gael carchar ar eu stepan drws.
'Rwan, peidiwch a fy ngham ddeall, does gen i ddim problem efo'r syniad - roeddwn yn gefnogol iawn i gael carchar yng Nghaernarfon, er bod safle Ferodo yn agos iawn at fy nghartref. 'Dwi'n rhyw deimlo y bydd yn anodd i'r ymgyrch lwyddo - mae is strwythur trafnidiaeth De Meirion yn salach o lawer nag un Arfon, ac mae'r ffaith bod y boblogaeth yn denau yno am achosi problemau recriwtio ac ati. Ond os oes yna ewyllys yn lleol i geisio cael carchar yno, pob lwc i'r ymgyrchwyr.
Llais Gwynedd yn ol Gwilym sydd wedi gwthio'r cwch diarhebol i'r dwr diarhebol yn yr achos yma. Mae'n debyg bod y Blaid, a Hywel Williams yn benodol yn cael eu cysylltu efo'r symudiad i gael carchar i Gaernarfon (cyn i hynny fynd i'r gwellt). Nid pawb o fewn y Blaid na'r dref oedd yn cytuno efo'r cynllun wrth gwrs - ond mi wnaeth cangen y Blaid yng Nghaernarfon gymryd y drafferth i ymgynghori efo pobl - yn anffurfiol ar lefel cynghorwyr a thrwy gynnal cyfarfod cyhoeddus a rhoi gwahoddiad i bawb yn yr ardal fynychu.
Mi fyddwn yn clywed yn aml rhai mor fawr ydi Llais Gwynedd am ymgynghori. Byddai'n ddiddorol gwybod faint o ymgynghori maent wedi ei wneud yn lleol cyn ac ers rhoi cychwyn ar y cywaith yma.
No comments:
Post a Comment