Saturday, October 31, 2009

Y brif ddinas




Mae’n anodd gen i gredu hynny weithiau, ond mae’n dri deg un o flynyddoedd ers i mi fynd i Gaerdydd am y tro cyntaf – roeddwn yn ddeunaw oed a newydd ddechrau canlyn y wraig, sy’n frodor o Gaerdydd. ‘Roedd yn gryn newid byd i mi – roeddwn wedi fy magu mewn cymdogaeth lle’r oedd fwy neu lai pawb yn siarad y Gymraeg yn rhugl, ac roeddwn yn ymweld ag ardal lle nad oedd fawr neb yn siarad Cymraeg – oni bai eich bod yn gwybod ymhle i chwilio. Byddai clywed rhywun yn siarad Cymraeg ar y stryd yng Nghaerdydd yn ddigwyddiad anarferol iawn bryd hynny.

Roeddwn yn rhedeg yn gystadleuol pan oeddwn yn ddeunaw – a ‘dwi wedi parhau i redeg yn rheolaidd hyd heddiw. Arferwn chwarae gem fach wrth redeg strydoedd y ddinas - cyfri aerials teledu. Roedd gennych ddewis yng Nghaerdydd i gyfeirio eich aerial at fast yn y Mendips, neu un yn y Wenfo gerllaw Caerdydd. Os oedd eich aerial yn cyfeirio at y Mendips byddech yn derbyn rhaglenni De Orllwin Lloegr, rhaglenni Cymru oedd i’w cael o’r Wenfo. Roedd tua naw o pob deg aerial wedi ei gyfeirio at y Mendips, Roedd y rhan fwyaf o’r gweddill efo dau aerial – un yn cyfeirio at y Mendips a’r llall at Wenfo. Prin iawn oedd y llefydd oedd ag un aerial yn cyfeirio at y Wenfo – y lle prydau parod Sieniaidd sydd drws nesaf i’r Clive Arms oedd un o’r enghreifftiau prin o hynny yn Nhreganna.




‘Rwan roedd derbyn rhaglenni teledu rhanbarthol o Loegr yn caniatau i bobl osgoi derbyn rhaglenni Cymraeg, ond roeddynt hefyd yn osgoi derbyn rhai Cymreig. Newyddion am gemau pel droed Bristol Rovers, nid y Bluebirds fyddai ar y newyddion rhanbarthol. Os oedd yna newyddion am rygbi o gwbl am Bath a Gloucester fyddai’r newyddion hwnnw, nid am Gaerdydd. Pan roedd yna gem rygbi lle’r oedd Cymru’n chwarae ac un lle’r oedd Lloegr yn chwarae ar yr un pryd, gem Lloegr fyddai ar gael yn y rhan fwyaf o gartrefi’r brif ddinas. Fyddai yna ddim rhaglenni materion cyfoes yn ymwneud a Chymru, a chredwch fi doedd newyddion rhanbarthol De Orllewin Lloegr yn y saith degau hwyr a’r wyth degau cynnar ddim yn ddiddorol. Mae gen i frith gof o edrych ar eitem dri munud yn ymwneud a chath yn Keynsham oedd wedi mynd yn sownd ar ben coeden ac wedi cael ei hachub gan griw injan dan.

Roeddwn yn meddwl am hyn ddydd Mawrth diwethaf. – roeddem yn aros efo teulu’r wraig yn Nhreganna. Roeddwn i’n rhyw edrych ar ganlyniadau pol YouGov (fel mae rhywun yn gwneud) pan ddaeth y wraig o’r dref a son ei bod wedi ymweld a’r llyfrgell ysblenydd sydd yng nghanol y ddinas. Roedd gwraig a thair o genod bach efo hi yn ciwio i gofrestru eu llyfrau. Roedd y bedair wedi eu gorchuddio mewn lifrai du Mwslemaidd, a llyfrau Cymraeg oedd gan pob un i’w gofrestru. Dwi’n eithaf sicr bod y stori fach am y llyfrgell yn ddadlennol i’r graddau ei bod yn arwydd o newid sydd wedi digwydd yn y brif ddinas yn ystod y cyfnod ‘dwi wedi bod yn ymweld a’r lle. Arwydd arall ydi pam mor – wel - normal ydi hi i glywed pobl yn siarad Cymraeg mewn tafarnau yn rhannau o’r ddinas bellach.






Roedd agweddau ar ffigyrau moel y pol YouGov yn cadarnhau’r argraff o newid mae dyn yn ei gael o ddwsinau o brofiadau bach uniongyrchol fel yr un a soniais amdano uchod. Mae YouGov yn ystyried Caerdydd yn rhanbarth unigol – ac maent yn cyhoeddi ffigyrau rhanbarthol. Cyn mynd ymlaen dyliwn egluro mai is setiau ydi’r ffigyrau rhanbarthol, ac is setiau sydd yn rhy fach i fod yn ddibenadwy o safbwynt ystadegol. Bydd yn ddiddorol gweld os fydd polau yn y dyfodol yn cadarnhau patrymau un yr wythnos ddiwethaf.

Y peth cyntaf sydd yn drawiadol ydi cymaint o bobl sy’n dweud eu bod yn siarad y Gymraeg yn rhugl. Mae 15% yn uwch nag unrhyw ranbarth ag eithrio’r Gorllewin a’r Canolbarth a’r Gogledd. Mae’r ddau ranbarth hynny gyda rhannau sylweddol ohonynt i’r gorllewin i hen isopleth ieithyddol sydd wedi dynodi lleoliad y Gymru Gymraeg am gyfnod. Mae Caerdydd ymhell i’r dwyrain ohoni.

Yn ail mae’r gefnogaeth i’r Cynulliad yn gryf – gyda llai yn wrthwynebus i’r sefydliad nag unrhyw ran arall o’r wlad, tra bod yr 20% oedd o blaid rhyw ffurf ar annibyniaeth yn rhoi Caerdydd ar frig rhanbarthau Cymru.

Bu arwyddion mewn etholiadau diweddar bod patrwm ‘Prydeinig’ Caerdydd o bleidleisio – patrwm sydd wedi bod yn amlwg am y rhan fwyaf o’r ganrif ddiethaf – yn dechrau gwanio. Mae’r pol yn cadarnhau hyn. Er nad ydi’r 10% mewn etholiadau San Steffan ac 16% mewn etholiadau Cynulliad sy’n dweud eu bod am bleidleisio i Blaid Cymru yn ymddangos yn uchel i gymharu a ffigyrau’r rhanbarthau Gorllewinol, mae’n arwyddocaol mai cymharol ychydig o wahaniaeth sydd rhwng Caerdydd a gweddill Canol De Cymru o ran bwriadau pleidleisio ar lefel Cynulliad. Mae gweddill y rhanbarth wedi cynnal patrymau mwy ‘Cymreig’ o bleidleisio. Mae hefyd yn arwyddocaol bod canrannau’r Blaid yn debyg i rai’r Lib Dems – plaid fwyaf y ddinas o ran nifer eu cynghorwyr, a phlaid sydd a sedd San Steffan a sedd Cynulliad yn y ddinas.

Mae’r blog hwn yn ei ddyddiau cynnar wedi ystyried yr newidiadau sylweddol diweddar ym mhatrymau ieithyddol oddi mewn i’r Gymru Gymraeg – mae’r wardiau mwy trefol yn ymddangos i fod yn fwy gwydn o ran cynnal eu Cymreigrwydd na rhai gwledig (fedra i ddim dod o hyd i'r blogiad - mae'n rhaid fy mod wedi ei chwalu'n ddamweiniol - sy'n bechod, mi ymrodd oriau i mi ei roi at ei gilydd). Mae’n bosibl bod rhywbeth tebyg yn digwydd yn ehangach na’r Gymru Gymraeg, gyda’r ymdeimlad o Gymreigrwydd yn cryfhau mewn ardaloedd trefol – yr ardaloedd lle’r oedd yr ymdeimlad hwnnw yn wanach yn y gorffennol. Mae yna dystiolaeth etholiadol sy’n cefnogi’r ddadl yma – ond mater ar gyfer blogiad arall ydi hwnnw.

‘Dwi’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y rhan fwyaf o genedlaetholwyr fy oed i wedi treulio lwmp go lew o’u bywydau fel oedolion yn credu bod y llinynau hynny sy’n ein dal ni at ein gilydd fel pobl yn araf erydu a datgymalu, ac y byddem yn marw mewn gwlad llawer llai Cymreig na’r un y cawsom ein geni iddi. Rhywsut mae’r llinynau wedi ail ymddangos o’r pridd, yn fudur efallai, yn anodd i’w hadnabod ar adegau – ond yn ymddangosiadol gryf ac yn ein cadw at ein gilydd o hyd.

Mae’n anodd gwybod pa mor arwyddocaol a pharhaol ydi’r dadeni diweddar mewn ymdeimlad o Gymreigrwydd – yn aml ‘dydi prosesau hanesyddol mawr ddim yn glir tan ein bod mewn sefyllfa i edrych yn ol arnynt. Ond mae’r stori fach am rhywun sydd a’i gwreiddiau ymhell, bell o Gymru yn mynd a’i phlant i chwilio am lyfrau Cymraeg oherwydd ei bod am uniaethu ei theulu gydag hunaniaeth ei gwlad newydd yn ddelwedd hyfryd a gobeithiol.

Blogmenai'n ystyried ei fotwm bol eto

Diwrnod olaf y mis, ac mae'n amser edrych ar ystadegau blogmenai unwaith eto.

Mae'n dda gen i ddweud mai mis Hydref oedd mis mwyaf llwyddiannus blogmenai erioed (o ran unique users - yr unig fesuriad 'dwi'n ei ystyried yn ddadlennol) - a 'dwi'n arbennig o falch o fod wedi 'curo' mis Mehefin. Roedd yna etholiad yn ystod y mis hwnnw - ac mae'r traffig ar flogmenai yn sylweddol uwch na'r arfer yn ystod wythnos etholiad.

Wednesday, October 28, 2009

Pol YouGov

Dwi'n sylweddoli fy mod mymryn yn hwyr yma ond mi hoffwn wneud pwynt neu ddau - efallai y byddaf yn dod yn ol i gymryd cip fwy manwl yn ddiweddarach.

(1) Mae YouGov yn gwmni uchel ei barch - ond 'dwi'n cytuno efo Alwyn - dydi'r fethodoleg heb ei phrofi yn erbyn etholiadau go iawn eto - felly mae'n ddigon posibl bod y ffigyrau'n llai na chywir.

(2) Os 'dwi'n gweithio pethau allan yn iawn, naw sedd ychwanegol fyddai'n cael eu hychwanegu at gyfanswm y Toriaid - Brycheiniog a Maesyfed, Gogledd Caerdydd, Aberconwy, Bro Morgannwg, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gorllewin Casnewydd, Dyffryn Clwyd, Bro Gwyr a Phen y Bont. Byddai Plaid Cymru yn ennill Arfon, Ceredigion ac Ynys Mon.

Ond y ffaith amdani ydi nad ydi gogwyddau yn gyson y dyddiau hyn - gallai'r gogwydd fod yn uwch na'r 9% gogwydd o Lafur i'r Ceidwadwyr a'r 5.5% gogwydd oddiwrth Llafur i Blaid Cymru mewn rhai seddi (ac yn is mewn rhai eraill wrth gwrs). Felly gallwn ddadlau bod amrediad o seddi eraill mewn perygl - os ydi canfyddiadau YouGov yn gywir byddai Delyn, Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd Penarth, De Clwyd a Dwyrain Casnewydd o fewn 2.5% i'r gogwydd cyffredinol (felly dim ond angen 1.25% neu lai o ogwydd ychwanegol) - mae hyn yn agos iawn.

Ymhellach byddai Llanelli, Wrecsam, Alyn a Glannau Dyfrdwy, a Gorllewin Abertawe angen llai na 5% o ogwydd yn ychwanegol i'r gogwydd cyffredinol. Mae amrywiaeth felly yn eithaf cyffredin. 'Dydi hyn ddim yn golygu eu bod i gyd am syrthio wrth gwrs, ond mae'n golygu eu bod oll yn rhan o'r gem. Mi fyddwn i'n dadlau mai'r unig seddau Llafur sydd yn weddol saff ydi'r 11 sydd yn y cymoedd (ag eithrio Blaenau Gwent). Fyddwn i ddim yn hoffi gorfod amddiffyn 18 sedd mewn amgylchiadau anffarfiol - ond dyna fydd rhaid i Lafur ei wneud.

(3) Mae'r ffaith bod cymaint mwy o blaid pwerau 'fel rhai'r Alban' na sydd o blaid 'pwerau deddfu llawn' yn bisar. Mae trefn yr Alban yn cynnig mwy na phwerau deddfu llawn (yr hawl i amrywio treth incwm er enghraifft). Yr unig eglurhad y gallaf feddwl amdano ydi os ydi'r cwestion yn cael ei fframio mewn ffordd sy'n tynnu sylw at rhywbeth sydd gan wlad gyfagos bod yr etholwyr am efelychu'r wlad honno.

Felly mi hoffwn wneud awgrym i Syr Emyr - beth am ofyn Ydych chi eisiau annibyniaeth fel Iwerddon, Ffrainc neu Sbaen?

Neu yn well, Ydych chi eisiau annibyniaeth fel Iwerddon, Ffrainc neu Sbaen, ta bod yn rhan o wlad fwy o lawer fel Chechnya, De Ossetia, neu Darfur?

Hwyrach y byddai llun o draeth yn Ffrainc a chregyn o adeiladau Chechneyaidd wedi eu bomio gan danciau'r Rwsiaid yn syniad hefyd.

Monday, October 26, 2009

Churchill y BNP a Mrs Windsor

Fel rydych wedi amau 'dwi'n siwr, 'dwi'n un mawr am y News of the World. Yn ol copi cyfredol y papur hwnnw mae brenhines Lloegr yn flin iawn oherwydd i'r BNP ddefnyddio llun o Churchill i hyrwyddo eu 'delwedd hiliol'.



Wel - mae'n amlwg fod Mrs Windsor yn iawn i boeni - wedi'r cwbl fyddai yna ddim un syniad hiliol neu 'wleidyddol anghywir' yn croesi meddwl y diweddar wladweinydd na fyddai?

Wel, un neu ddwy efallai - roedd Churchill o blaid gwneud y 'gwan eu meddwl' yn anffrwythlon a'u carcharu yn erbyn eu hewyllys - yn ei eiriau fo -

The unnatural and increasingly rapid growth of the Feeble-Minded and Insane classes, coupled as it is with a steady restriction among all the thrifty, energetic and superior stocks, constitutes a national and race danger which it is impossible to exaggerate


a

The improvement of the British breed is my aim in life

Doedd ganddo fo ddim llawer o gydymdeimlad efo Indiaid Cochion Gogledd America Chwaith.

I do not agree that the dog in a manger has the final right to the manger even though he may have lain there for a very long time. I do not admit that right. I do not admit for instance, that a great wrong has been done to the Red Indians of America or the black people of Australia. I do not admit that a wrong has been done to these people by the fact that a stronger race, a higher-grade race, a more worldly wise race to put it that way, has come in and taken their place.



Er nad oedd y dyn yn hoff iawn o dramorwyr, roedd ganddo ddiddordeb byw mewn nwy gwenwynig:

I do not understand this sqeamishness about the use of gas. I am strongly in favour of using poison gas against uncivilised tribes

Gyda llaw doedd hawliau merched ddim yn agos iawn at ei ei galon -

The women's suffrage movement is only the small edge of the wedge, if we allow women to vote it will mean the loss of social structure and the rise of every liberal cause under the sun. Women are well represented by their fathers, brothers, and husbands.

Rwan 'dwi'n gwybod bod rhywbeth yn anheg am farnu pobl o'r gorffennol am fod a gwerthoedd sy'n wrthyn yn y byd sydd ohoni - ond wir Dduw 'dydi hi ddim yn bosibl dadlau nad ydi hi'n briodol i ddefnyddio Churchill i hyrwyddo 'delwedd hiliol'.

Roedd hiliaeth y dyn yn ddigon i wneud i hyd yn oed y BNP wrido.

Sunday, October 25, 2009

Pwysigrwydd cyd dynnu er lles pawb

Mae'n rhaid i mi ddweud bod yr ymysodiad personol a digon annifyr yma gan Gwilym Euros ar arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards yn peri cryn syndod - yn ogystal a pheth gofid i mi.

Cyn mynd ymlaen mi hoffwn ddweud bod gen rhyw fymryn o gydymdeimlad efo Gwilym - mae pawb yn cael diwrnod drwg weithiau, a phan roedd Gwilym yn 'sgwennu'r blogiad roedd yna ddiwrnod felly y tu cefn iddo. Roedd cynnig Gwilym i rewi'r broses ail strythuro ysgolion yng y sir wedi syrthio'n hawdd yn siambr y Cyngor, ac roedd cynnig Dyfed Edwards i godi tal uwch swyddogion wedi ei basio. Mae'n debyg gen i bod y ffaith i'r Cyngor ddewis anwybyddu dadleuon Gwilym wrth bleidleisio ar gynnig Dyfed yn slap braidd gan mai fo ydi deilydd y portffolio Adnoddau Dynol. Ond 'dydi hynny ddim yn esgys o gwbl am oslef a natur y blogiad.

Beth bynnag am hynny 'dwi ddim yn meddwl ei bod yn ddoeth i un aelod o Fwrdd Rheoli Cyngor Gwynedd ymosod yn bersonol yn gyhoeddus ar aelod arall o'r corff hwnnw. Fel 'dwi wedi egluro yma, 'dwi'n meddwl bod y drefn o rannu grym efo gelynion gwleidyddol yn gamgymeriad - ond tra bod trefn felly mewn bodolaeth (ddim am hir gobeithio) mae'n bwysig bod pobl sydd mewn grym yn ceisio cyd dynnu er lles y sir gyfan - beth bynnag eu gwahaniaethau personol a gwleidyddol.

Os ydi'r Bwrdd ei hun yn mynd yn dysfunctional yna bydd sgil effeithiadau ar draws y Cyngor. Does yna ddim yn waeth am wneud i rhywbeth beidio a gweithio yn iawn na chwystrelliad o ddrwg deimlad personol, a does yna ddim yn waeth am greu awyrgylch o ddrwg deimlad nag ymysodiadau personol cyhoeddus. Mae'r rhagolygon ariannol yn wirioneddol fygythiol ar hyn o bryd, ac mae'n hanfodol bod y Cyngor yn gyffredinol a'r Bwrdd yn benodol yn gweithredu'n gall. 'Dydi blogiad bach chwerw, sbeitlyd Gwilym ddim am hyrwyddo hynny mewn unrhyw ffordd.

Cyn gorffen mi hoffwn wneud sylw am un o honiadau Gwilym yn benodol, (mae'n anodd ymateb i lawer o'r honiadau ac ensyniadau cyn eu bod naill ai yn sylwadau personol, neu yn sylwadau cyffredinol iawn) sef hwn -
Ble mae’r “Arweinydd” yn methu yn llwyr ydi ei ddiffyg i allu enyn cefnogaeth, brwdfrydedd a chyfaddawd gan eraill pan fo anghytundeb. - i ddeud y gwir, tydi o erioed wedi ceisio gwneud chwaith! Er ei fod wedi cael digon o gyfleoedd i wneud hynny.


Mae'n rhaid gen i bod Gwilym yn ymwybodol bod pob cynnig ag eithrio un a wnaed gan y Blaid yn y Cyngor llawn wedi ei basio ers yr etholiad, 'doedd hynny ddim yn wir am y Cyngor blaenorol - er bod gan y Blaid fwyafrif llwyr yno - a dydi o'n sicr ddim yn wir am gynigion Llais Gwynedd.

Saturday, October 24, 2009

Comisiwn ffiniau rhan 4

'Dwi'n meddwl y byddai'n well i mi orffen efo fy nghip ar waith y Comisiwn Ffiniau yng Ngwynedd cyn i mi ddychryn fy holl ddarllenwyr i ffwrdd!

Gweddill Meirion a Dwyfor:

Gorllewin Dwyfor:

Ar hyn o bryd mae yna saith cynghorydd yng Ngorllewin Dwyfor. O gadw at y gymhareb 1 cynghorydd i 1,750 o bobl, tri yn unig a ddylai fod. Gellid gwneud tair trwy gyfuno Botwnnog, Aberdaron a hanner Llanengan i greu un sedd, gellid gwneud un arall trwy gyfuno Efailnewydd, Tudweiliog ac Edern (o Forfa Nefyn), a chyfuno Abersoch, Llanbedrog a hanner arall Llanengan i wneud un arall.

Dwyrain Dwyfor:

Byddai llai o gwymp yn Nwyrain Dwyfor - o 6 i 4 cynghorydd. Gellid cyfuno y rhan fwyaf o Glynnog efo Llanaelhaearn, cyfuno rhan o Lanaelhaearn efo Cricieth a gwneud dwy sedd o Abererch, gweddill Clynnog a Llanystumdwy, Dolbenmaen a Beddgelert (o ward Tremadog).


Gogledd Meirion:

Ar hyn o bryd ceir 8 cynghorydd - tua 5.5 ddylai fod yno ar gymhareb o 1 i 1,750. Gellid ad drefnu y Gogledd Ddwyrain yn weddol hawdd i greu dwy sedd o'r Bala, Llanuwchllyn a Llandderfel. Gellid cyfuno Dyffryn Ardudwy a Llanbedr, ond cyfuno chwarter deheol Dyffryn Ardudwy efo Abermaw i'r De iddo. Mae Penrhyndeudraeth eisoes uwchben y gymhareb angenrheidiol. Byddai cyfuno rhan ogleddol Trawsfynydd efo Harlech yn sicrhau bod Harlech uwchlaw'r gymhareb hefyd - gellid wedyn gyfuno'r rhan fwyaf o Drawsfynydd efo rhai o wardiau De Meirion.

De Meirion:

Ceir saith cynghorydd yma ar hyn o bryd. Lle i tua 4.5 sydd a dilyn y gymhareb 1 i 1,750. Byddai cyfuno gweddill Trawsfynydd efo Brithdir yn creu un ward. Gellid dileu Aberdyfi a'i gyfuno efo ward dau aelod Tywyn a chadw'n agos iawn at y gymhareb, a gellid yn hawdd creu dwy ward o rannau gwledig Gogledd Dolgellau, Corris, Llangelynin a Bryncrug.

Mae yna un posibilrwydd nad wyf wedi ei ystyried yn fy ymdriniaeth efo gwaith y Comisiwn Ffiniau - sef eu bod yn creu wardiau mawr aml sedd. Dyma'r norm yn llawer o Gymru - yn arbennig felly y rhannau trefol.

'Dwi yn bersonol ddim yn hoff o wardiau aml aelod oni bai bod y drefn bleidleisio yn un gyfrannol - a 'dydi hynny ddim am ddigwydd yng Nghymru am dipyn. Y rheswm am hynny ydi bod y drefn yn anemocrataidd - gellir cael (dyweder) pedair sedd i un plaid mewn ward ar bleidlais o efallai 30%. Bydd hyn yn digwydd yn weddol aml mewn wardiau trefol.

Wedi dweud hynny byddai'n fanteisiol i bleidiau gwleidyddol - ac yn arbennig felly i Blaid Cymru yng Ngwynedd. Er enghraifft byddwn yn disgwyl i'r Blaid ennill pob sedd yng Nghaernarfon, Dyffryn Ogwen ac ardal Llanberis petai'r lleoedd hynny yn wardiau aml aelod. Y mwyaf y ward, y gorau i bleidiau gwleidyddol - a'r gwaethaf i ymgeiswyr annibynnol.

Mae'n ddigon posibl y bydd y Comisiwn yn dilyn y trywydd hwn - mewn rhannau o'r sir o leiaf.

Question Time a Griffin

Fel mae nifer wedi nodi - Alwyn er enghraifft - bod natur y rhaglen Question Time nos Iau yn anffodus a dweud y lleiaf.

I mi y broblem sylfaenol oedd bod pawb - y panelwyr, y cyflwynydd a'r gynulleidfa ar un ochr tra bod Griffin ar y llall. Roedd hyn yn gweddu'n berffaith a naratif y BNP mai nhw ydi'r unig ddewis amgen.

Oherwydd hynny doedd hi fawr o ots bod Griffin yn ymddangos yn berson dan din oedd heb sgiliau cyfathrebu da. Roedd fformat y rhaglen yn cadarnhau'r naratif. Byddai wedi bod yn fwy effeithiol o lawer i ddewis y cwestiynau arferol ynglyn a'r economi, polisi trafnidiaeth a'r holl stwff rhyfeddol o ddiddorol arall sy'n cael ei drafod fel arfer ar Question Time. Mi fyddai persenoliaeth y dyn wedi niweidio ei blaid o dan yr amgylchiadau hynny.

Roedd y rhaglen yma o gymorth i'r BNP - a'r fformat oedd y rheswm am hynny. Mae'n anodd credu bod y Bib mor ddi niwed.

Bygythiad newydd i Flogmenai

A minnau wedi dechrau dod tros y bygythiad gan Simon i fy nisodli fel prif flogiwr Caernarfon dyma Dylan Llyr yn ymddangos i ychwanegu at fy mhroblemau. Pincer movement ydi'r term milwrol Saesneg 'dwi'n meddwl.

Ond 'tydi bywyd yn llawn poen a gwewyr dywedwch?

Thursday, October 22, 2009

Comisiwn ffiniau - rhan 3

Gweddill Arfon:

Dyffryn Ogwen:

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o Wynedd mae pedair o'r pum ward yma yn agos at y targed o 1,750 o etholwyr. Ward fwyaf gwledig yr Ardal ydi'r unig un sy'n sylweddol is (gydag 1,038 o etholwyr). Serch hynny, fyddwn i ddim yn synnu petai'r nifer o wardiau yn cwympo i bedwar yma. Yr hyn a fyddwn yn disgwyl iddo ddigwydd ydi bod man addasiadau i'r ddwy ward drefol (Ogwen a Gerlan), bod rhan o Pentir yn mynd i un o wardiau Bangor a bod gweddill Pentir, Tregarth ac Arllechwedd yn cael eu troi'n ddwy ward.

Ardal Llanberis:

Mae poblogaeth y wardiau hyn (Llanberis, Deiniolen, Cwm y Glo, Penisarwaun, Bethel, Waunfawr a Llanrug) yn is na rhai Dyffryn Ogwen. Mae'n debyg mai tua pum ward fyddai ar ol petai'r comisiwn yn glynu efo'r rheol 1,750. Mae yna sawl ffordd o fynd o gwmpas ad drefnu yma, ond y ffordd sy'n ymddangos symlaf i mi ydi dileu ward Cwm y Glo a chyfuno Ceunant efo Waunfawr a Chwm y Glo efo Llanberis. Wedyn gellid ail ddosbarthu y bedair ward sy'n weddill a'u troi yn dair ward. Y broblem yma ydi y byddai rhaid tynnu llinell trwy un o bentrefi cymharol fawr yr ardal (a symud y pentrefi llai - Rhiwlas at Bethel er enghraifft) - Penisarwaun, Llanrug, Deiniolen neu Fethel. Penisarwaun fyddai'r mwyaf tebygol mae gen i ofn.

Mae Felinheli'n sefyll ar wahan i'r lleill - rhwng Caernarfon a Phentir. Gan bod poblogaeth y ward yn weddol agos at y targed beth bynnag, byddwn yn meddwl y gellid ei haddasu ychydig trwy symud y ffiniau yn nes at Gaernarfon a Bangor, ond ei gadael yn edrych yn ddigon tebyg i sut mae'n edrych heddiw.

Dyffryn Nantlle a'r Gorllewin i Gaernarfon:

Chwe ward sydd yna ar hyn o bryd, pedair fyddai yna os cedwid at y rheol 1,750. Mae'r datrysiad yn weddol syml yma - o ran y fathemateg o leiaf. Y ddwy ward leiaf o ran poblogaeth o ddigon ydi'r Bontnewydd a Llanllyfni. Gellid dileu y Bontnewydd a'i rhannu rhwng Groeslon a Llanwnda a gwneud yr un peth i Lanllyfni a'i rhannu rhwng Talysarn a Phenygroes. Byddai llinell trwy'r ddau bentref yma eto - ond ymddengys nad ydi hynny'n poeni'r comisiwn.

Wednesday, October 21, 2009

Comisiwn Ffiniau 2

Mi soniais am y Comisiwn Ffiniau yn y blogiad diwethaf. Roeddwn yn rhyw feddwl y byddai'n syniad edrych ar beth sy'n debygol o ddigwydd os ydi'r Comisiwn yn cadw at y rheol 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd - fel sy'n edrych yn debygol o'r profiad mewn rhannau eraill o Gymru..

Mi gychwynwn ni efo'r trefi.

Bangor:

Ar hyn o bryd mae yna 10 cynghorydd ym Mangor. Petai yna 1 am pob 1,750 o etholwyr ceid 5.02 cynghorydd. Felly mae'n bosibl y bydd y nifer yn cwympo i bump cynghorydd. Mae hyn yn gwymp sylweddol iawn.

Mae'n debygol felly mai un ac nid dau gynghorydd fydd yn Menai (mi leiciwn i wybod sut fydd y Lib Dems yn penderfynu pwy sy'n sefyll trostynt yma). Un fyddai ym Marchog (Maesgerchen) hefyd. Mae hynny'n gadael tri yn ormod. Does yna'r un o'r wardiau sy'n weddill gydag yn agos at 1,750 o etholwyr, felly gellid disgwyl ad drefnu sylweddol gyda Deiniol, Hendre a Garth o bosibl yn diflanu ac yn cael eu cyfuno gyda wardiau cyfagos.

Caernarfon:

Ar hyn o bryd mae yna bump cynghorydd. Byddai'r cwymp yma yn un llawer llai na'r hyd y gellid ei ddisgwyl ym Mangor - byddai pedwar ar ol. Mae'n debyg mai'r hyn fyddai'n digwydd ydi y byddai ward Seiont yn colli un aelod ac y byddai'r Comisiwn yn chwarae o gwmpas tipyn efo ffiniau'r bedair er mwyn lleihau'r gwahaniaeth rhwng y fwyaf a'r leiaf o ran poblogaeth.

Nefyn:

Ar hyn o bryd ceir dau gynghorydd - un ar gyfer Nefyn a'r llall ar gyfer Morfa Nefyn. Ychydig tros un fyddai yma o dan ganllawiau'r comisiwn - felly mae'n debyg gen i y byddai Nefyn a Morfa Nefyn yn cael eu cyfuno, a byddai Edern (sy'n rhan o ward Morfa Nefyn) yn rhan o adrefnu sylweddol yng ngorllewin Dwyfor.

Pwllheli:

Dau gynghorydd a geir ar hyn o bryd - o dan y drefn newydd un a hanner y gellid ei gyfiawnhau. 'Does gen i ddim syniad sut y bydd y comisiwn yn delio efo hyn. Byddai cyfuno'r ddwy ward yn creu un anferth, a byddai dechrau cyfuno efo wardiau cyfagos yn stwffio cymunedau gwahanol iawn at ei gilydd. Efallai y bydd Pwllheli'n cael llonydd, hyd yn oed os ydi pob man arall yn gweld newidiadau sylweddol,

Blaenau Ffestiniog:

Lle'r oedd Pwllheli'n anodd i'r Comisiwn, bydd cylch y Blaenau'n hawdd. Ar hyn o bryd ceir 3,529 o etholwyr a thri chynghorydd yn y cylch. Mae hynny'n teilyngu 2 gynghorydd, felly mae'n debyg y bydd rhan o Diffwys a Maenofferen yn mynd at Teigl, a bydd y rhan arall yn mynd at Bowydd a Rhiw.

Porthmadog:

Mae yna dair sedd ar hyn o bryd (gan gynnwys Tremadog). Mae'r nifer etholwyr yn teilyngu dau. Serch hynny byddai troi'r ardal yn un a dau ward yn arwain at gael Beddgelert (sydd yn ward Tremadog) bell yn yr un ward a rhannau o Ddwyrain Porthmadog. Efallai mai'r hyn fydd yn digwydd ydi y byddai rhan Tremadog ward Tremadog (os ydych chi'n gweld yr hyn sydd gen i) yn cael ei gyfuno efo Porthmadog i greu dwy sedd, ac y byddai Beddgelert yn mynd at Dolbenmaen.

Dolgellau:

Dau gynghorydd sydd yno ar hyn o bryd - lle i 1.16 sydd yno o dan y drefn arfaethiedig. Mae'r ateb yn ymddangos yn eithaf syml - troi'r dref gyfan yn un ward a chyfuno rhai o'r ardaloedd gwledig iawn sydd ynghlwm a Gogledd Dolgellau a rhai o'r wardiau gwledig cyfagos.

Tuesday, October 20, 2009

Y Comisiwn Ffiniau


Mae'r Comisiwn Ffiniau ar fin edrych ar ffiniau wardiau Gwynedd.

Ymddengys eu bod o dan gyfarwyddiadau gan y Gweinidog i geisio peidio a chael wardiau un aelod o llai na 1,750 o etholwyr. Ychydig iawn o wardiau un sedd sydd a mwy na'r ffigwr hwn ar hyn o bryd. Yn wir mae nifer gydag o dan hanner hynny o etholwyr.

Petai'r comisiwn yn cadw yn gaeth i'w gyfarwyddiadau byddai'r nifer o seddi yng Ngwynedd yn cwympo o 75 i 50. Byddai hyn yn newid sylweddol, a byddai'n effeithio yn arbennig ar wardiau gwledig.

Mae'n debyg bod 75 cynghorydd yn ormod i sir o boblogaeth Gwynedd, ond byddwn yn meddwl bod 50 yn rhy ychydig. Gobeithio y bydd y Comisiwn yn cydnabod bod anawsterau arbennig yn wynebu cynghorwyr sy'n cynrychioli wardiau gwledig iawn.

Monday, October 19, 2009

Rhagrith o'r top



Mae Llais Gwynedd mewn grym yng Ngwynedd. Dydw i ddim yn tynnu coes - maen nhw'n rheoli, nid y byddai neb yn credu hynny o ddarllen blogs fel un y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts, neu ddarllen y wasg leol. Y rheswm am hyn ydi bod pob plaid mewn grym yng Ngwynedd. Mae'r sir yn anarferol iawn i'r graddau mai ychydig iawn o gynghorau sydd yn gweithredu trefn lle mae grym yn cael ei rannu rhwng yr holl grwpiau.

Mae gan Lais Gwynedd ddau aelod ar Fwrdd Rheoli Cyngor Gwynedd - y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts, a'r Cynghorydd Alwyn Gruffydd. Felly mae Gwilym ymysg gwleidyddion lleol mwyaf pwerus y sir.

Nid oherwydd llwyddiant etholiadol i'w grwp mae wedi cael ei hun yn y sefyllfa yma - chwi gofiwch i Lais Gwynedd golli etholiadau 2007 yn drwm, gan lwyddo i ennill tair sedd ar ddeg o'r saith deg pum sedd posibl. Yn wir, roedd eu cefnogaeth ar hyd y sir mor sobor o wan fel nad oeddynt yn gallu dod o hyd i ymgeisydd hyd yn oed am tua dau draean o'r seddi.

Y rheswm bod Llais Gwynedd mewn sefyllfa i ymarfer grym ydi oherwydd i Blaid Cymru benderfynu ar drefn gynhwysol yn ol yn nyddiau cynnar y cyngor unedol. 'Dwi'n deall pam y byddai'r arweinyddiaeth eisiau mynd i lawr y llwybr hwn, ond roeddwn yn anghytuno efo'r penderfyniad ar y pryd, a 'dwi'n dal i anghytuno heddiw. Fedra i ddim gweld y pwynt mynd i'r drafferth a'r gost o ennill grym, dim ond i'w rannu efo pleidiau aflwyddiannus ar ol yr etholiad. Os ydi'r fathemateg yn gorfodi plaid i rannu grym - iawn - ond ni ddylid gwneud hynny efo pawb a phopeth.

Mae grwp Gwilym yn ychwanegu cymhlethdod pellach i'r drefniant anfoddhaol yma oherwydd eu bod yn sefydliadol anabl i ymarfer grym yn gyfrifol. Gweler y stori fach yma ar ei flog er enghraifft. Fel un o arweinwyr y cyngor, a'r aelod oedd yn gyfrifol am faterion personel roedd ganddo gryn gyfrifoldeb am gomisiynu gwaith ymchwil i lefelau cyflog a baich gwaith swyddogion Cyngor Gwynedd. Roedd rhesymau da am gynnal yr ymchwil yma - y ffaith bod cyflogau swyddogion Gwynedd yn isel o'u cymharu a phobl sy'n gwneud swyddi tebyg mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal a sefyllfa yng Ngwynedd lle mae yna ad drefnu sylweddol wedi bod, sydd yn ei dro wedi arwain at gynyddu baich gwaith swyddogion.



Yn wir mae'r sefyllfa cyn waethed fel mai'r unig ffordd y llwyddwyd i gael ymgeisydd addas i lenwi un o swyddi pwysicaf y sir (o bosibl yr un pwysicaf) yn ddiweddar oedd oherwydd bod unigolyn yn fodlon cymryd gostyngiad yn ei gyflog. 'Dydi hi ddim yn bosibl rhedeg cyngor fel hyn. Un casgliad posibl oedd i'r adolygiad mewn gwirionedd - dod a'r cyflogau yn nes at rai gweddill awdurdodau Cymru. O weld y casgliad cwbl ragweladwy yma i archwiliad roedd o ei hun yn rhannol gyfrifol am ei gomisiynu, penderfynodd ei wrthwynebu - ond gwneud hynny tra'n dal ei sedd ar y Bwrdd Rheoli - ac felly wadu'n llwyr yr egwyddor o gyfrifoldeb corfforiaethol - conglfaen unrhyw drefn o reoli ar y cyd. Wnawn ni ddim hyd yn oed trafod y syniad dw lali yma gan un arall o gynghorwyr Llais Gwynedd o roi rhwng hanner a thraean cyflogau awdurdodau eraill i swyddogion Gwynedd - cam fyddai o'i weithredu yn arwain at yr exodus mwyaf ers dyddiau Moses.

Neu cymerer y stori bach yma - eto o flog Gwilym. Dweud mae Gwilym bod toriadau dybryd ar y ffordd mewn grantiau gan Wynedd i'r sector wirfoddol. Mae'n bosibl ei fod yn gywir, ac mae'n bosibl nad ydyw. Mae'r Bwrdd - chwi gofiwch bod Gwilym yn aelod o'r Bwrdd - ynghyd a'r Pwyllgorau Craffu a'r Cyngor Llawn wedi gofyn i pob adran fodelu toriadau posibl yn eu cyllideb. Dydi hynny ddim yn golygu y bydd pob toriad yn mynd rhagddo - i'r gwrthwyneb, ond mae'r ymarferiad yn ei gwneud yn glir i aelodau am beth y byddant yn pleidleisio. Aelodau etholedig fydd yn penderfynu pa doriadau fydd yn mynd rhagddynt, a pha rai na fydd yn digwydd. Rwan, pan mae Gwilym yn rhoi pennawd fel Mwy o Ragrith o'r Top mae'n anghofio ychwanegu ei fod o ei hun yn ddigon agos at y top. Mae'r ymarferiad o fodelu toriadau yn rhywbeth mae o ei hun a gweddill aelodau Llais Gwynedd wedi bod yn rhannol gyfrifol am ofyn i adrannau ei wneud. Ond pan mae Gwilym yn gweld cynigion posibl nad yw'n rhy hoff ohonynt, mae'n cwyno am y top.

Y cwestiwn diddorol ydi pam? Pam bod haenen uchaf Llais Gwynedd - yr haenen sy'n rhannol gyfrifol am reoli'r sir, yn ymddwyn fel pe bai ganddynt ddim oll i'w wneud a rhedeg y sir honno? Wedi'r cwbl ym mhob ffordd ag eithrio hon maent yn bobl resymegol hyd y gwn i. 'Dwi'n credu mai syniadaeth sylfaenol y grwp ydi'r broblem ganolog.

Mae'r blog yma wedi edrych ar syniadaeth a naratif gwleidyddol Llais Gwynedd yn y gorffennol - yma ac yma er enhraifft. I dorri stori hir yn fyr roeddwn yn gosod Llais Gwynedd yng nghyd destun gwleidyddiaeth populist, ac yn dadlau bod ei syniadaeth yn tynnu ar elfennau cyfyng o'r feddylfryd honno ac yn ffurfio gwleidyddiaeth syml a chul iawn. Prif hanfod y wleidyddiaeth honno ydi'r gred bod Plaid Cymru ac uwch swyddogion Cyngor Gwynedd yn ddrwg, a bod Llais Gwynedd yn dda. Nid oes gan y cyhoedd le yn y tirwedd bach syml yma ag eithio i dwt twtian at ddrygioni Plaid Cymru a'r swyddogion, ac i ddotio at ddaioni Llais Gwynedd.

Mi wnes i fathu term (ychydig yn angharedig efallai) ar y pryd i ddisgrifio'r wleidyddiaeth - gwleidyddiaeth yr anterliwt. Dramau bach o'r ddeunawfed ganrif oedd yn aml yn cynnig moeswersi syml oedd yr anterliwtiaid. Doedd yna byth ymgais i fynd i'r afael a chymhlethdod bywyd. O farnu o ddigwyddiadau diweddar, anterliwt o blaid ydi Llais Gwynedd o hyd mae gen i ofn.

Y broblem i Lais Gwynedd yn y bon ydi hyn - yr unig beth sy'n cadw'r grwp at ei gilydd ydi gwleidyddiaeth bach syml yr anterliwt, a chyda mae aelodau yn crwydro oddi ar y tir cyfyng hwnnw ac yn dechrau ymateb i broblemau go iawn mewn ffordd aeddfed, maent yn ymddwyn mewn ffordd sy'n gosod straen ar feddylfryd simplistig y grwp. Os ydi'r feddylfryd honno'n cael ei difa, yna mae'r grwp yn colli ei cohesion mewnol, a 'does yna ddim ar ol ag eithrio unigolion sydd heb fawr yn gyffredin.

Mae yna adegau pan mae'n ymddangos y gallai Llais Gwynedd esblygu i fod yn rhywbeth defnyddiol. Er enghraifft roeddwn yn ei chael yn fater o gryn galondid pan gytunodd y Cynghorydd Seimon Glyn i gynrychioli Llais Gwynedd ar weithgor ail drefnu ysgolion y sir. Mae gen i gryn barch at Seimon, mae'n hen gyfaill i ysgolion cynradd - a fedra i ond meddwl y byddai ei gyfraniad yn werthfawr ac yn gydymdeimladol tuag at yr ysgolion hynny. Yn anffodus tynnodd ei enw'n ol, gan adael Llais Gwynedd yn ddi gynrychiolydd ar y panel. 'Dwi ddim am feirniadu Seimon am hynny - 'dwi'n siwr bod ganddo ei resymau da tros wneud yr hyn a wnaeth. Beth bynnag ei resymau personol o, 'doedd hi ddim yn bosibl i Lais Gwynedd barhau efo'r trefniant oherwydd bod hynny'n amharu ar eu naratif a'u syniadaeth greiddiol. Roedd eu prif blatfform yn datgymalu.

'Dydi gwleidyddiaeth yr anterliwt ddim yn wleidyddiaeth addas ar gyfer plaid sydd eisiau rheoli - mae cadw at ei gofynion syml yn ei gwneud yn amhosibl rheoli - mae'n gorfodi'r sawl sydd yn ei harddel i ymateb mewn ffordd simplistig a rhagweladwy i bob problem - fel cwn Pavlov. Ar y llaw arall, mae'n wleidyddiaeth addas ar gyfer gwrthblaid - nid gwrthblaid adeiladol a chreadigol wrth gwrs - ond gwrthblaid sydd eisiau gwrthwynebu pob dim.

Dyma pam nad ydi'r sefyllfa bresenol yn gynaladwy yng Ngwynedd. 'Dydi o ddim yn addas i gael rhan o'r glymblaid (a dyna beth ydi o mewn gwirionedd) sy'n rheoli yn ymddwyn fel gwrthblaid pob tro mae problem anodd yn codi sy'n gofyn datrysiad amhoblogaidd - un sy'n torri ar y naratif o ni = da, nhw = drwg. Mae rheoli Gwynedd yn effeithiol wedi mynd yn nesaf peth i amhosibl.

Efallai bod system Bwrdd wedi gweithio yn y gorffennol, ond dydi o ddim yn gweithio yn y tirwedd gwleidyddol sydd ohoni. Not fit for purpose ydi'r term Saesneg. Mae'n bryd i ni symud i drefn Cabinet (trefn lle nad ydi grym yn cael ei rannu rhwng pawb), ac i Blaid Cymru ddod i ddealltwriaeth efo grwp arall ynglyn a rheoli'n effeithiol a chydwybodol. Yn anffodus, nid oes gan y Blaid fwyafrif clir ar y funud, ond 'dydi'r grwp Llafur, yr un Lib Dem na'r rhan fwyaf o'r grwp Annibynnol ddim yn llafurio efo maen melin o ideoleg am eu gwddf - maen melin sy'n ei gwneud yn amhosibl iddynt gyd reoli'n effeithiol. Mae yna hen ddigon o ddewis.

Mae'n bryd i Wynedd symud ymlaen.

Sunday, October 18, 2009

Gair o gydymdeimlad i'r Lib Dems


Mi fydd darllenwyr cyson blogmenai yn gwybod bod gennyf barch mawr tuag at y Lib Dems.

Trist felly yw nodi bod eu dau wleidydd mwyaf adnabyddus yng Nghymru yn cael ffrae hyll yn gyhoeddus.

Nid dyma'r tro cyntaf i bethau fynd yn fler yng nghorlan y Lib Dems ers i Kirsty Williams gydio yn yr awenau. Gobeithio nad oes yna fwy o'r math yma o beth ar y ffordd.

Trist iawn, very sad.

Friday, October 16, 2009

Marwolaeth ryfedd y bleidlais Wyddelig yng Nghymru

Mewn trafodaeth ymhellach i lawr y dudalen yma, mae Alwyn yn gwneud y sylw canlynol:

Yr hyn rwy'n methu ei ddeall yw pam bod Gwyddelod Pabyddol ar wasgar yng Nghymru a'r Alban yn gymaint o graig i'r Undeb ac mor wrthwynebus i'r achosion cenedlaethol ar y tir mawr.

Mae'n bwynt diddorol.

I ddechrau 'dwi ddim yn cytuno efo'r gososiad 100%. O fewn tafliad carreg i fy nhy fi yng Ngogledd Caernarfon mae yna bedwar aelod o Blaid Cymru sydd o gefndiroedd Gwyddelig, neu rannol Wyddelig (OK - y Mrs ydi un ohonyn nhw). 'Dwi ddim yn meddwl bod patrymau pleidleisio Gwyddelod y dref yma'n arbennig o wahanol i rai Cymry dosbarth gweithiol cynhenid y dref - maen nhw'n pleidleisio naill ai i Lafur neu i Blaid Cymru ac maent yn gallu symud rhwng y naill blaid a'r llall. Ond - ac mae'n ond mawr, pobl a symudodd i Gymru yn y pum degau a'r chwe degau ydi'r rhan fwyaf o Wyddelod Caernarfon. Mae'r gymuned Wyddelig yn y De yn un llawer iawn hyn - ac mae hynny'n yn arwyddocaol. Mae mwyafrif pobl y gymuned honno yn pleidleisio i Lafur, ac maent wedi gwneud hynny ers dau ddegau'r ganrif ddiwethaf. Mi wnawn ni ystyried pam ymhellach ymlaen.

Gardd Goffa Newtown - hen gymdogaeth Wyddelig yng Nghaerdydd

Yn ychwanegol at hynny, 'dwi'n cofio pan oeddwn i yn y coleg yn Aberystwyth ers talwm, roedd nifer o fyfyrwyr o gefndir Gwyddelig De Cymru yn llawer mwy penboeth na'r sawl yn ein mysg oedd o gefndir cenedlaetholgar Gymreig traddodiadol (cyfarchion os ti'n digwydd darllen Dave).

Soniais yngynt bod rhai o fy nghymdogion o gefndir Gwyddelig. Mae un o'r rheiny, fel fy ngwraig (Lyn) yn dod o Gaerdydd. Trwy gyd ddigwyddiad mae'n ymddangos bod ei chyn dadau hi, a chyn dadau fy ngwraig yn gymdogion yn Landore Court (slym Gwyddelig) Caerdydd ar ddechrau'r ganrif diwethaf. Roedd ei theulu hi - y Sextons, a theulu hen nain Lyn - yr O'Driscolls yn dod yn wreiddiol o Orllewin Cork. Doedd hyn ddim yn gyd ddigwyddiad - cafwyd mewnfudiad sylweddol o Wyddelod o'r rhan honno o'r wlad trwy borthladdoedd De Cymru yn ystod blynyddoedd y Newyn Mawr - an Gorta Mór . Cyn hynny 'doedd yna ddim niferoedd sylweddol o Wyddelod yn byw yng Nghymru (er bod rhai, yn arbennig ym Morgannwg a Gwent).

O Orllewin Cork yr oedd llawer iawn o'r trueniaid yma'n dod - lle gwyllt, gwledig anghysbell, lle a ddioddefodd yn enbyd yn ystod y newyn - a lle oedd bryd hynny'n unieithog Wyddelig. Duw a wyr beth oeddynt yn ei wneud o ddinasoedd De Cymru yng nghanol y bedwerydd ganrif ar bymtheg, O Bandon mae teulu'r Mrs yn dod yn wreiddiol. 'Dwi bron yn siwr mai o ardal Timoleague mae teulu Mari'n dod. Dydi Sexton ddim yn enw cyffredin yn Iwerddon y tu allan i ddinas Limerick, ond mi stopidd y Mrs a minnau i grwydro mynwent yn abaty Timoleague yn ddiweddar. Sextons oedd chwarter da o'r sawl oedd wedi eu claddu yno. Welais i ddim Sexton ar garreg bedd arall yn yr Iwerddon.

Mynwent Timoleague

Saith deg pump o flynyddoedd yn ddiweddarach roedd Gorllewin Cork yng nghanol stormydd mawr y Rhyfel Eingl Wyddelig a'r Rhyfel Cartref - doedd cyflafan Kilmichael na Béal na mBláth y man y lladdwyd Michael Collins ddim ymhell o Bandon a Timoleague. Mae'r holl enwau ar gofgolofnau man drefi'r ardal yn dystiolaeth i hynny hefyd. Roedd y digwyddiadau hynny ymhell yn y dyfodol pan roedd lwmp sylweddol o'r boblogaeth a oroesodd yng Ngorllewin Cork yn gwneud eu ffordd tua'r llongau oedd i'w cludo i Dde Cymru, ond roeddynt i gael effaith arwyddocaol ar wl;eidyddiaeth eu disgynyddion - a'u gyrru i gyfeiriad gwleidyddol anisgwyl.

Kilmichael

'Rwan, does yna ddim mymryn o amheuaeth i hunaniaeth cenedlaethol a gwleidyddol Gwyddelod De Cymru oroesi ymhell i mewn i'r ganrif ddiwethaf. Mae'r hunaniaeth cenedlaethol yn dal i fodoli i raddau. 'Does yna ddim amheuaeth chwaith i hynny effeithio'n sylweddol ar y ffordd roeddynt yn ymresymu'n wleidyddol. Cefnogi prif ffrwd cenedlaetholdeb cyfansoddiadol Gwyddelig wnaeth y gymuned Wyddelig yn Ne Cymru wedi 1868, er bod tystiolaeth o gefnogaeth arwyddocaol i'r Fenians ar hyd y De cyn hynny. Mae'r ymgiprys rhwng dwy ffrwd o syniadaeth cenedlaetholgar yn Iwerddon, y naill yn gyfansoddiadol a'r llall yn anghyfansoddiadol a milwriaethus yn nodwedd o genedlaetholdeb Gwyddelig ers canrifoedd. Mae'n dal yn fyw heddiw.

Yn ystod y bedwerydd ganrif ar bymtheg (ac am gyfnod wedyn wrth gwrs) lleiafrif bach oedd a'r hawl i bleidleisio. Does dim amheuaeth bod y Gwyddelod yn y De oedd a'r hawl i bleidleisio yn ymresymu mewn ffordd neilltuol Wyddelig wrth wneud hynny - ond nid oedd hynny'n golygu eu bod o anghenrhaid i gyd yn pleidleisio yn yr un ffordd.

Er enghraifft, yn etholiad 1874 roedd Rhyddfrydwyr y De yn gwneud yn fawr o'u cydymdeimlad ag achosion Gwyddelig, ond roedd y Toriaid yn gefnogol i addysg enwadol. Er bod mwyafrif llethol Gwyddelod cyffredin (di bleidlais) o blaid y Rhyddfrydwyr mae'n debyg i leiafrif sylweddol o'r sawl a gai bleidleisio roi eu pleidlais i'r Toriaid - gan sicrhau mai crafu adref wnaeth y Rhyddfrydwyr yng Nghaerdydd a cholli ym Mynwy (Casnewydd ydi'r ardal efo'r dwysedd mwyaf o bobl o gefndir Gwyddelig yng Nghymru). Mae'r rhwyg yma rhwng gofynion yr Eglwys ac ystyriaethau cyfansoddiadol hefyd yn hen rwyg sydd wedi goroesi. Wedi dweud hynny mae'n debyg i gefnogaeth i'r Rhyddfrydwyr ymysg Gwyddelod y De fynd yn fwy cadarn o lawer wedi i'r Irish Nationalist Party ffurfio cysylltiadau clos efo nhw - er i addysg godi ei ben sawl gwaith wedyn, a chostio pleidleisiau Gwyddelig i'r Rhyddfrydwyr.

Y cyfnod 1916 i 1922 yn Iwerddon oedd yn gyfrifol am newid patrymau pleidleisio'r Gwyddelod yn y De. Doedd Gwrthryfel 1916 ddim yn boblogaidd ymysg Gwyddelod y De, ond roedd dienyddio'r arweinwyr yn ddigwyddiad gwleidyddol arwyddocaol oherwydd iddo wanio cenedlaetholdeb cyfansoddiadol yn Iwerddon, a gwanio'r cyswllt rhwng y Rhyddfrydwyr a'r Irish Nationalist Party. Dyma pryd y dechreuodd Gwyddelod yn rhannau o'r De symud tuag at y Blaid Lafur, a'r Independent Labour Party - yn arbennig felly ym Merthyr.

Yn y cyfamser newidiodd etholiad 1918 yn yr Iwerddon y tirwedd gwleidyddol yno'n llwyr - fe chwalwyd cenedlaetholdeb cyfansoddiadol yn gyfangwbl, a symudodd Iwerddon yn ol at draddodiad gwleidyddol Wolf Tone. Effeithwyd ar wleidyddiaeth Gwyddelod y De gan hyn - ac eto daeth yn haws i Wyddelod bleidleisio i Lafur, ac yn fwy arbennig i'r ILP. Er enghraifft, erbyn 1921 roedd gan yr Irish Self Determination League gysylltiadau clos iawn efo'r ILP. Roedd gwleidyddion Llafur ac ILP lleol hefyd yn uchel iawn eu cloch yn erbyn rhai o weithredoedd lluoedd diogelwch Prydain yn Iwerddon yn ystod y cyfnod.

Y cam mawr, fodd bynnag, oedd ffurfio Gwladwriaeth Rydd yn Iwerddon ym 1922. Roedd y digwyddiad hwn yn 'rhyddhau'r' gymuned Wyddelig yn Ne Cymru i integreiddio yn wleidyddol ac yn gymdeithasol. Roeddynt yn cael eu rhyddhau o'r berthynas draddodiadol efo'r Rhyddfrydwyr, ac roeddynt yn gallu pleidleisio mwy yn ol gofynion eu buddiannau economaidd nhw eu hunain. Pobl drefol dosbarth gweithiol oedd y rhan fwyaf ohonynt erbyn hynny, ac roedd llawer ohonynt eisoes yn weithgar yn yr undebau Llafur. Daeth Llafur i sefydlu ei hun fel prif blaid - unig blaid mewn mannau - y De diwydiannol yn ystod cynni'r tri degau. Am y tro cyntaf roedd Gwyddelod De Cymru yn defnyddio'r un rhesymeg na phawb arall yn y De wrth bleidleisio - ac roedd y rhesymeg hwnnw'n eu gyrru i gyfeiriad y Blaid Lafur.

Mae Alwyn yn cyfeirio at wrth Gymreigwyr Llafur o gefndiroedd Gwyddelig fel Paul Murphy a Don Touhig. Mae Paul Flynn a Kevin Brennan o'r un traddodiad yn union. Mae yna ffrwd wrth Gymreig i wleidyddiaeth Llafur y De, ac mae yna ffrwd sydd ddim yn wrth Gymreig. Adlewyrchu hynny mae Messrs Touhig, Brennan, Flynn a Murphy - nid adlewyrchu'r traddodiad gwleidyddol Wyddelig yng Nghymru. Mae hwnnw i bob pwrpas wedi hen farw.

Os oes rhywun efo diddordeb yn y materion uchod, darllenwch lyfr Paul O'Leary (Gwyddel Cymreig arall oedd yn Aberystwyth yr un pryd a fi) Immigration & Integration. 'Dwi wedi pori yn hwnnw am rai o'r manylion uchod.

Thursday, October 15, 2009

Cymru'n Un - buddugoliaeth ddeallusol i genedlaetholdeb?

Mae un o fy hoff blogs - Welsh Ramblings - yn tynnu sylw at yr elfennau cenedlaetholgar sydd yn apel dau o ymgeiswyr Llafur yn ras y crwbanod.

Dadl Ramblings ydi bod syniadau Huw Lewis am bartneriaeth gymdeithasol yn tynnu ar syniadau cyffelyb gan Blaid Cymru. Mae cydweithrediad glos rhwng y llywodraeth, busnes, undebau llafur, y sector wirfoddol a phartneriaid cymdeithasol eraill yn nodwedd o'r ffordd mae pethau'n cael eu gwneud mewn nifer o wledydd 'llai' Ewrop - ac yn un o'r rhesymau am lwyddiant economaidd y gwledydd hynny. Mae magu cydweithrediad felly yn ddibynol i raddau helaeth ar ymdeimlad o genedlaetholdeb ymysg y partneriaid - ymdeimlad sy'n caniatau iddynt weld ymhellach na gofynion un rhan o gymdeithas yn unig. Mae Huw'n gofyn am fwy o genedlaetholdeb - os ydi o'n sylweddoli hynny neu beidio.

Mae agenda Edwina Hart hyd yn oed yn fwy cenedlaetholgar - addasu Barnett mewn ffordd sy'n caniatau i'r fformiwla ymateb i angen (ac felly cynyddu'r adnoddau cyhoeddus yng Nghymru), cynyddu pwerau'r Cynulliad, diwygio gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd neilltuol Gymreig, cryfhau cysylltiadau rhwng gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

A fyddai brwydr am arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru yn cael ei ymladd ar y tirwedd yma ychydig flynyddoedd yn ol?

'Dwi ddim yn meddwl. Mae'r tirwedd gwleidyddol a deallusol yng Nghymru wedi mynd yn raddol fwy gwyrdd ers datganoli, ac mae Cymru'n Un wedi cyflymu'r broses honno.

Wednesday, October 14, 2009

Cas wleidyddion blogmenai - ail gynnig

Wedi lobio ffyrnig gan un neu ddau, 'dwi wedi penderfynu addasu ychydig ar restr cas wleidyddion blogmenai.

Roedd cynnwys Elystan Morgan yn broblem i rai, a David Lloyd George i eraill. Wedi'r holl bledio bod Elystan yn goblyn o foi iawn (yn ogystal a'r ffaith fy mod rhywsut, rhywfodd wedi anghofio bod WJ Gruffydd yn 'wleidydd' ar un adeg) mi gaiff Elustan adael yr adeilad, a chaiff WJ ddod i mewn yn ei le.

Ar y llaw arall, po fwyaf 'dwi'n meddwl am Lloyd George y mwyaf sicr 'dwi fy mod yn rhy garedig efo fo. Felly mi gaiff hwnnw symud o bedwerydd i ail.

Dyma'r rhestr newydd:

(10) WJ Gruffydd
(9) David Davies
(8) Iorwerth Thomas
(7) Delwyn Williams
(6) Alan Williams
(5) Jeff Jones
(4) Neil Kinnock
(3) Arglwydd Tonypandy
(2) Lloyd George
(1) Glenys Kinnock

Mae'r ail restr yn edrych yn well na'r un wreiddiol am reswm arall hefyd - 'roeddwn wedi rhyw feddwl bod ploncio Tonypandy i gysgu rhwng y Kinnocks yn gosb addas i'r ddau oherwydd eu hamrywiol gamweddau. Mae gollwng Lloyd George yna hefyd hyd yn oed yn well.

Tuesday, October 13, 2009

Siom yn aros y Toriaid yng Nghymru?

Mae yna gryn dipyn o edrych ymlaen wedi bod ymhlith y Toriaid i'r etholiad cyffredinol yn sgil eu 'llwyddiant' yn etholiadau Ewrop eleni. Yn wir, bu un neu ddau yn darogan 15 neu fwy o seddi - gyda'r Toriaid yn brif blaid Cymru.

Fodd bynnag, os ydi'r arolwg hwn gan IPSOS MORI i'w gredu, bydd yr hogiau yn cael eu siomi. Fel y gwelir o'r graff isod tua hanner y cynnydd cyfartalog Prydeinig yn unig maent yn debygol i'w gael yng Nghymru.


Yr hyn mae IPSOS MORI wedi ei wneud ydi edrych ar eu holl bolio ers dechrau'r flwyddyn a rhoi'r ffigyrau at ei gilydd. Golyga hyn bod y samplau 'rhanbarthol' yn ddigon mawr i fod yn ystadegol arwyddocaol (rhywbeth sydd ddim yn wir am boliau unigol). Mae hefyd yn bwysig am nad ydi Cymru'n cael ei bolio ar wahan gan gwmni o statws IPSOS MORI yn aml.

Mae'n anodd darogan yn union beth fyddai'n digwydd petai'r patrwm hwn yn cael ei adlewyrchu tros Gymru gan nad yw'r arolwg yn dangos (eto) beth sy'n digwydd i bleidleisiau Plaid Cymru a'r Lib Dems. Ond a chymryd am funud mai gogwydd syml o 5% o Lafur i'r Ceidwadwyr a geid (heb i bleidlais y ddwy blaid arall symud) yna byddai'r Toriaid yn cadw Mynwy, Gorllewin Clwyd, Gogledd Penfro / Preseli ac yn ennill Aberconwy, Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro, gan ddod a'u cyfanswm i saith.

A newid pethau ychydig a chymryd bod pleidlais Llafur yn cwympo 9% (sydd yn ddigon posibl), ond bod 4% o hwnnw yn mynd i Blaid Cymru (yn ogystal a'r 5% sy'n mynd i'r Toriaid wrth gwrs), yna gellid ychwanegu Dyffryn Clwyd at y rhestr honno gan ddod a'u cyfanswm i wyth.

Ychwanegwch at hynny'r ffaith bod rhywfaint o amheuaeth am Aberconwy a Phreseli / Penfro (a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro o bosibl) am gwahanol resymau, a gallai fod yn etholiad symol iawn i'r Toriaid yng Nghymru - gyda phosibilrwydd bach y byddant yn ail o ran pleidleisiau, ond yn drydydd o ran nifer seddi.

Monday, October 12, 2009

10 gwleidydd mwyaf atgas blogmenai

Dyma nhw fy rhai fi:

(10) David Davis
(9) Iorwerth Thomas
(8) Elystan Morgan
(7) Delwyn Williams
(6) Alan Williams
(5) Jeff Jones
(4) Lloyd George
(3) Neil Kinnock
(2) Arglwydd Tonypandy
(1) Glenys Kinnock

Hmm, 7 Llafur, dau Dori a Rhyddfrydwr.



Croeso i chi adael eich detholiad ar y dudalen sylwadau.

Sunday, October 11, 2009

Llygad Mr Brown


Mae'r stori am fan broblem Gordon Brown efo'i lygad dde yn gwneud i rhywun feddwl. Mi gofiwch na all weld efo'i lygad chwith o ganlyniad i ddamwain pan oedd yn ifanc. Mae dyn yn cydymdeimlo efo'i sefyllfa wrth gwrs - gyda golwg yn un llygad yn unig, mae'n amlwg y byddai rhywun yn sensitif iawn i broblemau gyda'r lygad honno.

Yr hyn sy'n croesi fy meddwl ydi sut y daeth stori ynglyn a phroblem gweddol ddi ddim i sylw'r cyfryngau?

Ydi hi'n bosibl fod Brown yn paratoi exit strategy fyddai'n rhoi'r cyfle iddo ymddiswyddo heb orfod cyfaddef methiant cyn etholiad 2010? Wedi'r cwbl mae ganddo hanes o osgoi etholiadau - cofier na safodd yn erbyn Blair yng nghanol y nawdegau a'i fod wedi sicrhau nad oedd rhaid iddo wynebu etholiad am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Efallai fy mod yn sinicaidd - ond hen fusnes digon sinicaidd ydi gwleidyddiaeth yn aml - ac yn arbennig felly'r math o wleidyddiaeth mae Brown yn ei hymarfer.

Friday, October 09, 2009

A fydd y toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn effeithio llai ar Gymru nag ar Loegr?

'Dwi'n petruso cyn gofyn y cwestiwn, rhag gwneud ffwl ohonof fi fy hun - ond mi wnaf i beth bynnag.

Mae'r pleidiau mawr Prydeinig yn dweud y byddant yn cynnig gwarchodaeth i addysg a iechyd yn ystod toriadau mawr y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae'r fformiwla Barnett yn cyllido Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon trwy ddarparu canran (5% yn achos Cymru) o wariant cyhoeddus ar feysydd dynodedig yn Lloegr i'r gwledydd hynny. Addysg ac iechyd sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o'r gwariant dynodedig hwnnw o lawer iawn.

Mae'n ymddangos i mi felly y bydd dyraniad Cymru yn 5% o feysydd fydd yn derbyn gwarchodiad.

Ydw i'n methu rhywbeth?

Thursday, October 08, 2009

Ceidwadwyr Aberconwy yn siomi eto fyth!

Pan addawodd darpar ymgeisydd y Toriaid yn etholaeth Aberconwy, ddydd Sul, y byddai'n rhoi inside track i'r blogosffer Cymreig ar yr holl bethau gwych a chynhyrfus a fyddai'n siwr o ddigwydd yng nghynhadledd ei blaid ym Maenceinion (I will report back as things happen!), roeddwn yn edrych ymlaen yn arw.

Ond am rhyw reswm wnaeth Guto ddim trafferthu i adrodd yn ol o gwbl rhwng hynny a rwan. Mae'n bosibl wrth gwrs na chafodd gyfle, cyn bod y digwyddiad mor llawn a diddorol. Digon teg - ond mi gafodd gyfle i ail adrodd stori ddibwys a phlwyfol am gynghorydd yn Aberconwy oedd eisoes wedi ei hadrodd gan ei elyn achlysurol - Oscar.



Ymddengys bod Guto'n edrych ymlaen at un neu ddau o eitemau'n arbennig - I'm looking forward to a fringe meeting discussing the Centre for Social Justice report on reducing the dependency culture in the UK and also to hear Chris Grayling MP outline his ideas on how to tackle anti social behaviour.

Rydym yn aros o hyd am adroddiad o'r hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod ymylol oedd yn ymdrin a syniadau siop rwdlan Iain Duncan Smith, a 'does gennym ni ddim syniad chwaith os ydi Chris Grayling mor awyddus a'i fos i ymgoleddu hwdis.

Hwyrach mai'r broblem ydi nad oes dim oll ond darogan gwae, angau a distryw i adrodd yn ol arno, ac nad oes gan Guto stumog mor gryf ag un George Osborne. Os nad ydi'r Toriaid eu hunain eisiau riportio ar eu cynhadledd, mi wna i yn eu lle. Peidied neb a honni nad ydi blogmenai yn darparu gwasanaeth cyflawn. Dyma rai o'r addewidion a gafwyd eisoes:
  • Rhewi cyflogau 5 miliwn o weithwyr sector gyhoeddus.
  • 3 biliwn o doriadau i'r weinyddiaeth sifil.
  • Neb yn y sector cyhoeddus i gael cyflog uwch nag un David Cameron, heb ganiatad gan ei hen fet coleg - George Osborne.
  • Diddymu ymddiriedolaethau plant i'r rhan fwyaf o bobl.
  • Symud oed pension dynion o 65 i 66, a chymryd camau i symud yr oedran i ferched i'r un lle.
  • Dod a'r means test yn ol mewn perthynas a chredydau treth.
  • Difa gallu cynghorau i liniaru ar y toriadau arfaethiedig trwy rewi treth y cyngor.
  • Cyfyngu ar fudd daliadau anabledd a gorfodi 500,000 o bobl sal i weithio.
  • Diddymu Future Jobs Fund sy'n rhoi chwe mis o waith i 150,000 o bobl ifanc.
  • Annog pobl tros 65 i 'wirfoddoli' i dalu £8,000 o flaen llaw er mwyn yswirio eu hunain rhag colli eu tai - cam fyddai'n sicr o arwain cynghorau lleol i ddympio pobl sydd wedi cymryd yr yswiriant mewn cartrefi i'r henoed yn hytrach na gofalu amdanynt adref.
  • Creu worcws ar gyfer mamau sengl (OK mi gawsom ni'r em fach yma cyn y gynhadledd).
'Rwan, peidiwch a fy ngham ddeall i - 'dwi'n sylweddoli y bydd rhaid i'r Toriaid wneud rhywbeth pan fyddant yn ennill yr etholiad, ac mae rhywun yn eu hedmygu am fod yn onest - hyd yn oed os ydi'r gonestrwydd hwnnw yn amlygu'r ffaith nad ydynt wedi meddwl trwy eu polisiau yn fanwl - a bod eu toriadau, yn ol yr arfer, am effeithio llawer mwy ar y tlawd na'r cyfoethog.

Mae'r ystumio nad ydi'r dirwasgiad yn ddim oll i wneud efo nhw yn ddigri - y rheswm yr ydym yn y twll yr ydym ynddo ar hyn o bryd ydi oherwydd i Lafur ddechrau edrych ar fancwyr yn benodol, a'r sector breifat yn gyffredinol, yn yr un ffordd babiaidd na mae'r Toriaid yn edrych arnynt - duwiau nad oes angen eu rheoli am na fedrant wneud camgymeriadau. Mi fyddem yn yr un llanast yn union petai'r Toriaid wedi rheoli am y deuddeg mlynedd diwethaf.

Ta waeth - yn ol at Geidwadwyr Aberconwy. Mae'n amlwg o ddarllen eu blog mai rhyngddyn nhw a Phlaid Cymru mae hi - dydyn nhw prin yn trafferthu ymosod ar y Blaid Lafur. Eu prif (os nad eu hunig) strategaeth ydi ceisio cysylltu Plaid Cymru mor agos a phosibl at Blaid Lafur amhoblogaidd. Mae hynny'n ddigon teg - felly mae etholiadau yn cael eu hymladd.

Y strategaeth i'r Blaid yn Aberconwy ddylai fod i wneud yn glir mai Plaid Cymru, a Phlaid Cymru yn unig, all guro'r Ceidwadwyr yn yr etholaeth honno. Yn hyn o beth mae ymysodiadau mynych y Toriaid ar y Blaid o gymorth. Dylai'r rhestr faith o doriadau mae'r Toriaid am eu gweithredu, a'r awch amlwg i gael gwneud hynny, helpu hefyd. Byddai strategaeth felly hefyd yn ddigon teg.

Y tro diwethaf i lywodraeth Doriaidd gymryd trosodd oddi wrth un Llafur yn 1979, roedd yna lanast economaidd bryd hynny hefyd, ac roedd rhaid i'r Toriaid dorri'n ol ar wariant cyhoeddus. Mi wnaethant hynny, ac aethant yn llawer iawn pellach nag oedd rhaid - gyda Geoffrey Howe yn troi rhesymeg economaidd ar ei ben yn 1981 ac yn torri gwariant cyhoeddus yng nghanol dirwasgiad - rhywbeth roedd Cameron ac Osborne eisiau ei wneud eleni a llynedd.

Yr unig ffordd i bobl Aberconwy - a nifer o lefydd eraill yng Nghymru - bleidleisio'n effeithiol yn erbyn toriadau gormodol a chyn amserol mewn gwariant cyhoeddus - toriadau sydd wedi eu gyrru gan ddogma adain Dde, simplistaidd a phlentynaidd, ydi trwy fwrw pleidlais i Blaid Cymru. Mae natur ymgyrch y Toriaid yn Aberconwy yn fwy o brawf o hynny na dim y gallaf i ei ddweud.

Tuesday, October 06, 2009

A beth wnawn i o hynt a helynt yr LCO iaith?


'Dwi ddim yn siwr ble i ddechrau efo hon a dweud y gwir.

Dyna ni Peter Hain yn gwneud datganiad i'r wasg ynglyn a'r mater cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud yn y Cynulliad - ac felly'n dangos ei ddirmyg a'i wawd tuag at y corff hwnnw.

Wedyn, fel mae Vaughan yn nodi, mae bellach yn amlwg bod Ty'r Cyffredin yn ail siambar i'r Cynulliad.

Wedyn ymddengys bod cwmniau sy'n cynnig hyfforddiant - fel un Peter Hain a'i wraig bellach ddim yn dod o dan ofynion y ddeddf, oherwydd nad ydynt yn derbyn arian cyhoeddus. Gobeithio ei fod wedi datgan diddordeb os oedd angen iddo wneud hynny - rydym eisoes wedi gweld bod y boi'n gallu bod yn rhyfeddol o anghofus.

Ond y pwynt mwyaf arwyddocaol ydi hwn - pam goblyn bod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig eisiau trafod y mater eto, a chabinet San Steffan eisoes wedi rhoi sel bendith i'r newidiadau?

Yr ateb mwyaf tebygol ydi nad oes gan Aelodau Seneddol Cymreig bellach fawr o ddim byd i wneud efo'u hamser, a dyna pam maen nhw'n torri glo man yn glapiau yn ystod y broses craffu ar argymhellion Caerdydd, a dyna pam maen nhw'n cyfarfod i drafod penderfyniadau sydd eisoes wedi eu gwneud.

Wir Dduw, mae pedwar deg Aelod Seneddol yn San Steffan yn ormod o beth coblyn. Byddai hanner hynny'n gwneud yr un joban yn llawer mwy cost effeithiol na'r criw presenol o holltwyr blew proffesiynol.

Monday, October 05, 2009

Apel i gynghorwyr - ym mhob man


Yn ol Andrew Davies, mae'r blynyddoedd o ddigonedd trosodd, a bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri tros y blynyddoedd nesaf.

'Dydw i ddim yn sicr at beth yn union mae Andrew'n cyfeirio ato pan mae'n cyfeirio at ddigonedd, ond mae'n sicr yn gywir pan mae'n dweud y bydd toriadau sylweddol y flwyddyn nesaf. Ni fydd y toriadau sy'n sicr o ddilyn yn sgil y ffaith i Mr Darling roi pob ffadan goch (a mwy) sydd gan y trysorlys tuag at gadw gwahanol fanciau yn agored, yn dechrau brathu tan 2011 - a byddant yn parhau i frathu am flynyddoedd wedi hynny.

A dweud y gwir, erbyn i'r cylch o doriadau fynd rhagddynt - ac yn arbennig felly os daw'r Toriaid i rym yn San Steffan ym mis Mai, bydd gwasanaethau cyhoeddus wedi eu trawsnewid. Bydd hyn yr un mor wir am wasanaethau llywodraeth leol nag am wasanaethau sy'n cael eu cyllido yn uniongyrchol o Gaerdydd a Llundain. Mae'r genhedlaeth bresenol o aelodau etholedig lleol yn haeddu pob cydymdeimlad - byddant yn debygol o orfod gweinyddu toriadau ar raddfa na fu'n rhaid i'r un genhedlaeth o'i blaen hyd yn oed ei ystyried. Mae'n hanfodol gwneud hyn yn gyfrifol ac yn effeithiol.

Dau beth sy'n rhaid eu harbed yn y bon - yr hyn sy'n statudol, a'r hyn sy'n cyfrannu mewn ffordd arwyddocaol at ansawdd bywyd pobl. Mae gofal yn bwysig i ansawdd bywyd yr hen a'r methiedig, mae ymyraeth ym mywydau'r bregus a'r sawl sydd yn anabl i reoli eu bywydau eu hunain a'u plant yn bwysig i ansawdd bywyd y bobl hynny, ac mae safon uchel o addysg yn bwysig i ansawdd bywydau plant yn y dyfodol.

'Dydi gwagio biniau'n wythnosol na chael rhwydwaith o doiledau cyhoeddus ddim yn effeithio ar ansawdd bywyd neb - mae toriadau yn y meysydd hyn yn dipyn o niwsans, ond dyna'r oll. Mae gofyn am gyfraniad tuag at gost teithio gan fyfyrwyr ol 16 yn ddrud i rieni'r unigolion hynny, ond nid yw'n effeithio'n arwyddocaol ar ansawdd bywyd neb. 'Dydi disgwyl mwy i gael ffyrdd wedi eu trwsio ddim am effeithio llawer ar ansawdd bywyd neb chwaith. 'Dydi cynghorau ddim angen ribidires o asedau i ddarparu gwasanaethau angenrheidiol.

Un gair bach cyn gorffen - 'dydi'r rhaniad rhwng gwasanaethau 'rheng flaen' a rhai 'swyddfa' ddim mor amlwg a mae llawer yn meddwl. Mae llawer o swyddi gweinyddol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn rhedeg yn effeithiol - ac mae llawer o swyddi felly nad ydynt yn cyfrannu i'r rheng flaen o gwbl. Yn hanesyddol 'dydi cynghorau heb fod yn dda am arenwi pa swyddi sy'n bwysig a pha rai sydd ddim mor bwysig. Mae mynd i'r afael a hynny yn hanfodol os ydi cynghorau am lwyddo i ddod allan o'r cyfnod anodd sydd o'u blaenau yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ansawdd bywydau pobl.

Sunday, October 04, 2009

Gair o gyngor caredig i'r Blaid Lafur (go iawn - ia wir!)

'Dwi ddim yn disgwyl i neb o'r Blaid Lafur gymryd sylw o gyngor sy'n dod o gyfeiriad blogmenai - ond byddant yn ddoeth i gymryd sylw o'r mymryn yma o gyngor - os dim arall.

Wel dyma fo - Peidiwch a dewis arweinydd sydd ddim yn dderbyniol i Blaid Cymru - a 'dwi'n ei feddwl o.

Cyn i chi ddechrau chwerthin - hoffwn eich hatgoffa o'r blogiad bach yma. Y pwynt oeddwn yn ceisio ei wneud oedd ei bod yn ymddangos bod newid strwythurol yn digwydd yng ngwleidyddiaeth etholiadol Cymru. Mae etholiadau Ewrop eleni wedi cadarnhau bod y newid hwnnw yn digwydd. Prif ganlyniad etholiadol hyn fydd Plaid Lafur Gymreig gwanach o lawer - plaid fydd yn rhy wan i ffurfio llywodraeth ar ei phen ei hun - ac a fydd hefyd yn rhy wan i ffurfio llywodraeth gyda'r Lib Dems.



Felly yr unig lwybrau yn ol i lywodraeth i Lafur yng Nghymru ydi trwy glymbleidio gyda naill ai'r Toriaid neu gyda Phlaid Cymru. Mi fyddai'r cyfuniad cyntaf yn un hyfryd i genedlaetholwr - ond 'dydi o ddim am ddigwydd. Sy'n gadael Llafur efo un opsiwn os ydynt i gael eu hunain yn ol yn y swyddfeydd llywodraethol yng nghrombil y Senedd ym Mae Caerdydd.

'Rwan, mae yna resymau strategol cadarn iawn (mwy am hyn eto) pam mai gyda Llafur y dylai Plaid Cymru glymbleidio wedi 2011 - ond wnewch chi ddim gwthio pethau gormod na wnewch fy nghyfeillion Llafuraidd?

Mi wneith Edwina neu Carwyn y tro'n iawn - ond anghofiwch am Huw. Wedi'r cwbl mi fydd y Blaid efo dewis o pwy rydym am ffurfio llywodraeth efo nhw. Fydd gennych chi ddim dewis o gwbl.

Dallt?

A dyna i ni rhywbeth arall am ras y crwbanod_ _ _


Nid Huw Lewis ydi fy hoff wleidydd i - ond 'does yna ddim amheuaeth ei fod yn cynrychioli safbwyntiau gweddol gyffredin yn y Blaid Lafur Gymreig. Byddai dyn yn meddwl y byddai'n gymharol hawdd i wleidydd adnabyddus a chyn weinidog, sydd yn cynrychioli ffrwd pwysig o ran meddylfryd ei blaid, roi ei enw ymlaen i sefyll am arweinyddiaeth y blaid honno. Mae hynny'n arbennig o wir pan mae'r ddau ymgeisydd tebygol arall yn cynrychioli agweddau cwbl wahanol i rai Huw.

Ond na - 'dydi pethau ddim cweit yn gweithio felly yn y Blaid Lafur Gymreig. O farnu o flog Vaughan, cafodd Huw gryn drafferth i ddod o hyd i'r chwech Aelod Cynulliad roedd eu hangen er mwyn cael rhoi ei enw ymlaen. Petai ganddo fwy na chwech, go brin y byddai wedi gorfod rhoi ei enw ei hun ac un ei gymar, Lynne Neagle ar y papur.

Erbyn meddwl mae sylwadau Lynne ar y mater yn rhai digon anisgwyl: - Now, there are three good candidates to choose from. Carwyn's easy, affable manner is an attractive quality in the Assembly Chamber; Edwina's decisive nature as Health Minister has been a valuable asset - but I don't live with either of them.

A barnu o'r sylwadau hynny mae'n rhyw ymddangos nad ydi Lynne eisiau pleidleisio i Huw mewn gwirionedd, ond ei bod yn teimlo bod rhaid iddi arwyddo ei bapur er mwyn osgoi misoedd o dreulio min nosweithiau ynghanol ysbeidiau hir o ddistawrydd pwdlyd, gwrando ar ddrysau yn clecian a chysgu cefn wrth gefn efo'i phartner.

Am blaid ryfedd, wir Dduw.

Saturday, October 03, 2009

Iwerddon yn fotio 'Ia'


Er mai canran isel iawn o'r blychau pleidleisio sydd wedi eu hagor, mae'n weddol amlwg mai 'Ia' fydd y canlyniad yn ail etholiad Lisbon - a hynny gyda mwy na 60% o'r bleidlais. Mae hyn yn gryn newid ers Lisbon 1. Mae hefyd yn adlewyrchiad o'r hyn ddigwyddodd yn 2001 - 2002 lle cafwyd dwy refferendwm Nice. 'Doedd y canlyniad cyntaf ddim yn dderbyniol i sefydliad gwleidyddol Ewrop, felly cafwyd ail refferendwm yn gofyn fwy neu lai yr un cwestiwn.

Wna i ddim gwneud mor a mynydd o'r refferendwm - mae gen i deimladau cymysg am Lisbon, ond bydd yn ddiddorol gweld os bydd hen batrwm mewn refferendwms (os mai dyna lluosog refferendwm) Gwyddelig.



Mae refferendwm yn beth cyffredin iawn yn yr Iwerddon - mae'n rhaid cael un cyn addasu'r cyfansoddiad mewn unrhyw ffordd. Yn yr ystyr yna mae'r Iwerddon yn fwy democrataidd nag unrhyw wlad arall yn Ewrop.

Ond ceir gwahanol fathau o refferendwm, gan gynnwys rhai ynglyn a materion cymdeithasol a chyfansoddiadol. Mae rhai o'r rhai cyfansoddiadol yn cael eu hystyried yn fygythiad i'r Weriniaeth gan gydrannau o gymdeithas y wlad. Roedd Lisbon a Nice yn syrthio i'r categori yma.

Mewn refferendwms sy'n ymwneud a materion cymdeithasol (ysgariad neu erthyliad er enghraifft), mae ardaloedd ceidwadol (gwledig a Gorllewinol yn aml), yn pleidleisio'n drwm yn erbyn unrhyw newidiadau. Mae cymunedau dosbarth gweithiol, trefol yn pleidleisio'n drwm iawn o blaid - weithiau'n drymach na neb arall. Mae cymunedau dosbarth canol yn tueddu i fod yn rhyddfrydig.

Fodd bynnag, mewn refferendwms sy'n ymddangos i gynnig newidiadau sy'n bygwth y Weriniaeth, mae'r cymunedau dosbarth gweithiol, trefol a'r rhai ceidwadol gwledig yn pleidleisio yn yr un ffordd. Er enghraifft yn ystod Lisbon 1 pleidleisiodd Donegal North East - lle gwledig iawn, anghysbell a hynod geidwadol a Dublin South West sydd wedi ei ganoli ar stad tai cymdeithasol enfawr Tallaght, yn yr un ffordd yn union (tua 65% yn erbyn). Roedd etholaethau cyfoethog iawn Dublin South a Dublin South East yn drwm o blaid y cynnig.

Mae'r patrwm yma'n mynd yn ol i gyfnod cyn creu'r Weriniaeth - ceidwadwyr gwledig a phroletariaid trefol oedd fwyaf taer tros ei sefydlu.

Bydd yn ddiddorol gweld os bydd y patrwm hwnnw'n cael ei ailadrodd unwaith eto.

Friday, October 02, 2009

Pam nad oes gan Lafur ymddiriedaeth yn eu haelodau eu hunain?


Gyda ras y tri chrwban newydd gychwyn, efallai ei bod werth gofyn os ydi Llafur yn bwriadu ymuno efo'r ugeinfed ganrif cyn i'r unfed ganrif ar hugain ddod i ben?

Yn hytrach na gadael i'w haelodau ddewis, mae gan Lafur ddull rhyfeddol o gymhleth o ddewis arweinydd - traean yn unig o'r pleidleisiau sydd yn nwylo'r aelodau cyffredin. Mae traean arall yn nwylo'r undebau, ac mae'r draen sy'n weddill yn nwylo'r aelodau etholedig.

'Rwan mae'r drefn yma yn rhyfeddol o anemocrataidd, gydag arweinyddion cyflogedig undebau yn cael y flaenoriaeth, aelodau etholedig yn ail a'r aelodau cyffredin mewn sefyllfa lle nad yw eu pleidleisiau unigol werth fawr ddim. Meddyliwch mewn difri - petai Llafur byth yn colli pob Aelod Cynulliad, a phob Aelod Seneddol namyn dau, yna byddai pleidlais y ddau aelod yna'n gyfwerth a phleidleisiau pob aelod cyffredin i gyd efo'i gilydd.

Mae'r drefn hefyd yn agored i jerimandro gan arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig. Dyma'n union ddigwyddodd pan benderfynodd Blair ei fod eisiau Alun Michael yn brif weinidog Cymru yn hytrach na Rhodri Morgan. Mae'n debyg bod hwnnw wedi cymryd yn erbyn Rhodri Morgan oherwydd ei fod yn 'fler'. Pen draw'r penderfyniad gorffwyll hwnnw oedd colli seddau fel y Rhondda ac Islwyn yn yr etholiadau Cynulliad ym 1999.

Mi fyddai rhywun wedi meddwl y byddai gwers syml wedi ei dysgu - bod creu trefn etholiadol anemocrataidd a di draidd yn ffordd o grefu am drwbwl. Ond mae dysgu gwersi syml y tu hwnt i'r Blaid Lafur Gymreig mae gen i ofn.