Monday, October 12, 2009

10 gwleidydd mwyaf atgas blogmenai

Dyma nhw fy rhai fi:

(10) David Davis
(9) Iorwerth Thomas
(8) Elystan Morgan
(7) Delwyn Williams
(6) Alan Williams
(5) Jeff Jones
(4) Lloyd George
(3) Neil Kinnock
(2) Arglwydd Tonypandy
(1) Glenys Kinnock

Hmm, 7 Llafur, dau Dori a Rhyddfrydwr.



Croeso i chi adael eich detholiad ar y dudalen sylwadau.

20 comments:

Anonymous said...

O Elystan druan. Mae na lawer gwaeth does bosib?

A dim cynrychiolaeth o blith rhai o geidwadwyr y 90au cynnar? Portillo, Peter Lilley, Redwood, a nyttars llwyr fel Teresa Gorman. Oes rhaid iddyn nhw fod yn Gymry? Hyd yn oed wedyn siawns fod Michael Howard yn haeddu lle?

Dyma fy 10 - o Gymru, o fewn cof byw i mi, ac yn etholedig ar ryw lefel uwchlaw llywodraeth leol. Bydd rhaid i fi feddwl ymhellach am y drefn.

Y Kinnockiaid, Tonypandy, Beata Brookes, Michael Howard, Michael Heseltine, Alan Williams, David Davies, Alun Davies, Peter Black.

Anonymous said...

Mae Elystan yn fwy o ffigwr trist nac atgas. Fe dalodd bris enfawr am ei uchelgais.

menaiblog said...

Anon - A dim cynrychiolaeth o blith rhai o geidwadwyr y 90au cynnar? Portillo, Peter Lilley, Redwood, a nyttars llwyr fel Teresa Gorman.

Mae blogmenai yn hynod blwyfol yn y sawl nad yw yn ei hoffi mae gen i ofn.

Alwyn ap Huw said...

Os wyt am fod yn blwyfol rwy'n cymryd mae David DaviEs (Mynwy) yw rhif 10nid y Dai Dau heb E o Haltemprice & Howden.

Dydy Elystan ddim yn aelod o'r Blaid Lafur bellach, mae o'n groes feinciwr annibynnol. Hen foi reit annwyl ac anodd ei gasáu. Nid oes gennyf unrhyw gof am Iorwerth Thomas.

Yn sicr pe bawn i'n wneud rhestr debyg bydda George Thomas ar ben y rhestr a Glynys K yn yr ail safle (dipyn o flaen ei gwr), Leo Absey, Alun Williams (Abertawe) a Dr Alan Williams (Caerfyrddin) a'i rhagflaenydd a oedd hefyd yn Dr, a'r Doctor ffiaidd gwrth Gymreig yna o Aberystwyth gynt, y Ceidwadwr bach gwirion efo mwstas hitleraidd a oedd yn dod o Stiniog ac yn byw yn Neganwy. Nicolas Bennet ac Arglwydd Crughywel

Dyfrig said...

Lloyd George? Lloyd George!?!??? LLOYD GEORGE??!?!??!?

Esbonier.

Plaid Gwersyllt said...

O'n i ddim yn sylweddoli dy fod mor hen ag i gofio Iori Thomos ddim fo farwodd yn 1967 a cael is etholiad Caerffili?
Beth am Ted Rowlands, Llew Smith a Leo Abse?

menaiblog said...

Lloyd George? Lloyd George!?!??? LLOYD GEORGE??!?!??!? - bradwr (i hunan reolaeth Cymreig), llofrudd (Gwyddelod), hilgi a chyfaill achlysurol i'r diweddar Herr Hitler.

OHRF - s wyt am fod yn blwyfol rwy'n cymryd mae David DaviEs (Mynwy) yw rhif 10nid y Dai Dau heb E o Haltemprice & Howden. Ymddiheuriadau ti'n iawn - 'dwi'n eithaf hoff o Davis, er gwaethaf ei drafferthion diweddar.

PG - O'n i ddim yn sylweddoli dy fod mor hen ag i gofio Iori Thomos ddim fo farwodd yn 1967 a cael is etholiad Caerffili?

'Dwi ddim mor hen a hynny - ond roedd yn ddiarhebol o wrth Gymreig. AS un o etholaethau'r Rhondda oedd o gyda llaw.

Alwyn ap Huw said...

Meddai Dyfrig Lloyd George? Lloyd George!?!??? LLOYD GEORGE??!?!??!?

Rwy'n ddeall pam bod nifer o bobl y byd yn casáu Lloyd George. Mae o wrth wraidd gymaint o broblemau cyfoes y byd, yn Iran, Iraq, Twrci ac wrth gwrs Palestina . Ond mae dweud ei fod wedi bradychu'r achos dros ymreolaeth yn annheg.

Methu cael cyd weithrediad aelodau o'i blaid yn y Deheubarth i gefnogi hunan lywodraeth oedd problem DLlG gan eu bod a mwy o ddiddordeb mewn Cymru fel tîm pêl-droed (sef rygbi, nid socer) na fel cenedl

O ran hilgasedd, roedd DLlG yn ddyn o'i oes. Roedd ei agwedd tuag at y duon a phlant bach melynion o Tsiena a Siapan yn un ag agwedd bron pawb arall yng Nghymru, Prydain a'r byd Orllewinol ar y pryd.

Roedd agwedd DLlG tuag at Hitler yn naïf yn hytrach nag yn gefnogol, ac eto yn agwedd a oedd yn cael ei rannu gan nifer o bobl yn y tridegau. Cofier bod Hitler wedi ymddangos ar dudalen flaen Time Magazine fel "Man of the Year" cwta 9 mis cyn i Brydain mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen.

Ond gellir dweud bod DLlG yn rhannol gyfrifol am gyfodiad Hitler. Oni bai am ddymuniad yr hogyn o Lanystumdwy i roi or bwyslais ar gosbi'r Almaen a gwanhau'r Almaen yng Nghytundeb Versailles, maen tebyg na fydda oruchafiaeth Natsïaeth yn yr Almaen na'r Ail Rhyfel Byd wedi digwydd.

Un ôl nodyn bach difyr. Nid Lloyd George oedd yr unig Gymro Cymraeg a oedd yn Brif Weinidog ar ddiwedd y Rhyfel Mawr. Roedd Bili Huws o Landudno, Prif Weinidog Awstralia, yn Gymro iaith gyntaf hefyd. Roedd Bili a Dafydd yn troi i'r Gymraeg yn achlysurol yn ystod y cyfarfodydd heddwch. Roedd hyn yn peri gofid i'r UDA. A oedd y ddau PW o'r Ymerodraeth yn cynllwynio ym mysg ei gilydd o blaid yr Ymerodraeth ac yn erbyn yr UDA?

Gymaint oedd y gofid bod yr Americanwyr yn penderfynu penodi siaradwr Cymraeg i'w mintai yn unswydd er mwyn cyfieithu'r cyfnewidiadau rhwng George a Hughes.

Barn y cyfieithydd oedd bod nhw 'mond yn defnyddio'r Gymraeg er mwyn rhegi ei gilydd!

Hogyn o Rachub said...

Mae 'na ambell un yno sy cyn f'oes i felly mae'n anodd gen i anghytuno gyda llawer gydag unrhyw un, er rhaid i mi gytuno gyda Phlaid Gwersyllt uchod am Llew Smith, a hefyd yr hen rech am Elwyn Jones (dwi'n meddwl mai Elwyn Jones oedd ei enw - y fo efo'i gathod), er ei fod o'n dweud pethau jyst er mwyn corddi pobl gymaint â dim mi dybiaf.

Fydd o ddim yn synnu neb y byddwn i'n rhoi'r Arglwydd Êl yn rhywle ar y rhestr honno, er i fod yn deg nid yr uchaf atgasaf - mae'n gasach gen i David Davies ond ddim o gwbl Elystan.

Dyfrig said...

Onid bod yn gwbl unllygeidiog ydi cynnwys Lloyd George ar restr fel hon? Roedd gan y dyn ffaeleddau, ond ffaeledd bersonol oedd ei hiliaeth honedig, neu ei gyfeillgarwch gyda Hitler. Onid yw'r elfennau yma o'i gymeriad yn ddibwys wrth eu gosod yn y glorian gyda sefydlu'r wladwriaeth les a chwalu grym y Bendefigaeth?
Mae'r un peth yn wir ynglyn a Leo Abse. Roedd ganddo agweddau gwrth-datganoli a gwrth-genedlaetholgar digon hyll. Ond roedd hefyd yn gyfrifol am ysgogi rhai o'r newidiadau cymdeithasol pwysicaf yn ein hanes diweddar. I mi, mae gwaith Abse dros hawliau merched a hoywon yn llawer iawn mwy arwyddocaol na'i ymgyrchu yn erbyn Cynulliad '79.
Creaduriaid amherffaith ydi dynion, a bod dynol yw pob gwleidydd.

menaiblog said...

DJ - Creaduriaid amherffaith ydi dynion, a bod dynol yw pob gwleidydd.

Cweit - a rhestr bersonol oddrychol 'dwi wedi ei chynhyrchu wrth gwrs.

menaiblog said...

O a gyda llaw, doedd arfer ei lywodraeth i ddienyddio carcharorion rhyfel yn yr Iwerddon a chaniatau i'w milwyr wneud defnydd eang o artaith ac ymosod ar gyfleusterau sifilaidd ddim yn ei anwylo llawer chwaith. Ac wedyn dyna i ni'r Cytundeb Eingl Wyddelig _ _ _.

Anonymous said...

Anodd iawn gen innau weld Elystan yn y rhestr o wleidyddion 'atgas'.

Speak as you find, wrth gwrs ... dyn ffeind ofnadwy, yn fy marn i.

menaiblog said...

Anon - Anodd iawn gen innau weld Elystan yn y rhestr o wleidyddion 'atgas'.

Speak as you find, wrth gwrs ... dyn ffeind ofnadwy, yn fy marn i.

Ok, Ok mi dynnan ni Elystan i ffwrdd a'i newid efo Llew Smith - ond mae blydi Lloyd George yn aros.

Alwyn ap Huw said...

Gan dy fod yn gwybod gymaint am hanes gwleidyddol yr Iwerddon a oes modd iti egluro rhywbeth sydd yn peri dryswch i mi?

Rwy'n ddeall pam bod gwleidyddiaeth yr Ynys Werdd wedi ei rhannu parthed enwad, pam bod y Catholigion yn tueddu at yr achos cenedlaethol a'r anghydffurfiwr yn tueddu at yr achos unoliaethol.

Yr hyn rwy'n methu ei ddeall yw pam bod Gwyddelod Pabyddol ar wasgar yng Nghymru a'r Alban yn gymaint o graig i'r Undeb ac mor wrthwynebus i'r achosion cenedlaethol ar y tir mawr.

Mae'r Pabydd Gwyddelig Paul Flynn yn cydnabod bod gan ei gyfaill mynwesol Paul Murphy "ffobia" parthed yr Iaith Gymraeg a chenedlaetholdeb Cymreig. Mae'r Gwyddel Don Touigh yr un mor wrthwynebus i iaith a chenedl y fro ymsefydlodd ei deulu ynddi.

Pam nad ydyw yn cefnogi'r tebygrwydd rhwng achos annibyniaeth yr Iwerddon ac achos Cymru?

Pam bod Gwyddelod Glasgow a Gwyddelod y deheubarth mor frwd dros ryddid yr Iwerddon ond mor frwd o wrthwynebus i hunaniaeth y Cymry a'r Albanwyr?

menaiblog said...

Cwestiwn da iawn Alwyn.

Mi ro i fy mewath ar y pwnc pan gaf gyfle.

Anonymous said...

Dyma fy rhestr innau:

Henry Richard
Lloyd George
Yr Athro W. J. Gruffydd
Ness Edwards
Alan Bach MP
Don Touhig
David Jones
Huw Lewis
Glenys Kinnock
Yr Arglwydd Elis Thomas o Nant Conwy

menaiblog said...

HRF - 'dwi wedi cnoi cil ar dy gyfraniad hynod diddorol yn ystod y dydd.

'Dwi'n meddwl bod yr ateb i dy gwestiwn i'w gael yn hanes a gwreiddiau'r gymuned Wyddelig yn Ne Cymru.

'Dwi braidd yn brin o amser ar hyn o bryd - ond mi geisiaf 'sgwennu pwt o flogiad tros y penwythnos.

Mae'r hyn ti wedi ei godi yn hynod ddiddorol chwarae teg.

Plaid Gwersyllt said...

Ness Edwards o'n i'n meddwl am dan a ddim Iori Thomas, ond roedd gan y ddau yr un atgasedd dros y Gymru Cymraeg. Os dwi'n cofio fy hanes yn iawn, a na do'n i ddim yn Steddfod Caerffili yn 1937. Yma ddath y rheol Gymraeg i mewn gyntaf, Ness oedd yr aelod lleol ac yn Gadeirydd y dydd a Saesneg siaradodd oddi ar llwyfan y Steddfod! Haerllug ar y diawl.

Anonymous said...

Bessy Braddock?