Yn y rhifyn cyfredol o Barn mae Dicw'n ymdrin ag arolwg barn anferthol PoliticsHome fis Medi diwethaf o seddi ymylol tros y DU.
Os ydi'r arolwg hwnnw'n gywir, bydd map gwleidyddol Cymru'n cael ei drawsnewid wedi'r etholiad cyffredinol nesaf gyda Llafur yn cael eu sgubo o bron i pob sedd ag eithrio rhai'r cymoedd, a'r Toriaid gyda mwy o seddi na Llafur.
'Dwi ddim yn disgwyl i bethau fynd mor bell a hynny. 'Dwi'n ddigon hapus efo'r pwt o waith darogan y gwnes i yn ddiweddar.
Serch hynny, mi fydd yna newid arwyddocaol - sef y bydd nerth etholiadol Llafur wedi ei leihau'n sylweddol. Os erys y sefyllfa yna, ac os caiff ei gyfieithu i etholiadau'r Cynulliad (ac mae hynny'n sicr o ddigwydd i rhyw raddau neu'i gilydd) yna yn fy marn bach i bydd newid pell gyrhaeddol arall yng ngwleidyddiaeth Cymru, bydd Plaid Cymru mewn grym fwy neu lai yn barhaol.
Real politik gwleidyddiaeth y Pleidiau unoliaethol yn y Cynulliad ydi na all Llafur a'r Toriaid glymbleidio. Byddai hynny'n chwalu'r cyswllt rhwng gwleidyddiaeth Cymru ag un Prydain, a gallai fod yn farwol i'r achos unoliaethol yng Nghymru. Mae pob cyfuniad arall yn bosibl.
'Rwan, os ydi Llafur yn sylweddol wanach nag ydyw ar hyn o bryd, 'dydi'r cyfuniad Llafur / Dem Rhydd ddim am fod mor debygol o lawer iawn, iawn, oherwydd bod Plaid Cymru cymaint o flaen y Dem Rhydds ar lefel Cynulliad. Ond mae Llafur / PC yn bosibl, a Llaf / PC Dem Rhydd a PC / Tori a Tori / PC / Dem Rhydd.
Beth sy'n gyffredin rhwng yr holl gyfuniadau yna?
Ar lefel Cynulliad mae gan y Blaid fwy i'w ennill o wendid Llafur na neb arall - hyd yn oed os ydi'r Toriaid yn elwa mwy yn etholiadol o'r gwendid hwnnw. Ac wrth gwrs, mae'r Blaid wedi dangos yn y gorffennol ei bod yn effeithiol iawn am ddwyn pleidleisiau Llafur mewn etholiadau Cynulliad.
7 comments:
Dwi ddim yn siwr am hyn blogmenai. Am glymblaid Plaid Cymru a Toriaid, byddai rhaid i un o ddau beth newid. 1. Eu agwedd tuag at genedlaetholdeb a'r iaith fendigaid, neu 2. newid llwyr mewn syniadaeth.
Doedd Llafur na'r Toriaid wir yn ticio bocs 1. yn 2007, ond mae Llafur yn rhannu syniadaeth sosialaidd gyda'r Blaid. Gan nad ydi'r Toriaid yn debygol o fabwysiadu'r polisiau yma, yr unig ffordd i ni glymbleidio fydd os y byddai'r blaid yn barod datganoli mwy fyth o bwerau a chefnogi mwy ar ddedfwriaeth ieithyddol.
Heb fod na fantais sylweddol i glymbleidio gyda'r Toriaid, ni fuaswn i yn cytuno clymbleidio a phlaid asgell dde.
Nid dyna fy mhwynt i Rhydian.
Yr hyn 'dwi'n ei ddweud ydi lle nad ydi'r fathemateg yn gweithio i greu clymblaid Llafur / Dem Rhydd ac ni fydd os ydi'r polau piniwn (Prydeinig rhaid cyfaddef) yn gywir - yna mae'r Blaid yn rhan o pob cyfuniad posibl.
Bydd y Blaid yn wir mewn sefyllfa i ddewis eu partner / partneriaid.
Ti yn iawn gyda'r pwynt yna, wrth gwrs!
Mae erthygl Richard ar wefan Barn erbyn hyn. Dyma'r linc
http://www.cylchgrawnbarn.info/index.php?option=com_content&view=article&id=114:cymru-las&catid=36:colofnau&Itemid=93
ООО, Какие отличные слова
Thanks fоr taking thе tіme tο ρоst thiѕ type οf ԁetaileԁ
anԁ аlso informativе poѕt.
my wеbpage green smoke review
Wow, this аrticle is pleaѕant, my ѕister is analyzіng these κinds of things,
ѕo I am goіng to inform hеr.
Also vіsit my weblоg - http://www.sawers.com.bo
Post a Comment