Monday, October 19, 2009

Rhagrith o'r top



Mae Llais Gwynedd mewn grym yng Ngwynedd. Dydw i ddim yn tynnu coes - maen nhw'n rheoli, nid y byddai neb yn credu hynny o ddarllen blogs fel un y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts, neu ddarllen y wasg leol. Y rheswm am hyn ydi bod pob plaid mewn grym yng Ngwynedd. Mae'r sir yn anarferol iawn i'r graddau mai ychydig iawn o gynghorau sydd yn gweithredu trefn lle mae grym yn cael ei rannu rhwng yr holl grwpiau.

Mae gan Lais Gwynedd ddau aelod ar Fwrdd Rheoli Cyngor Gwynedd - y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts, a'r Cynghorydd Alwyn Gruffydd. Felly mae Gwilym ymysg gwleidyddion lleol mwyaf pwerus y sir.

Nid oherwydd llwyddiant etholiadol i'w grwp mae wedi cael ei hun yn y sefyllfa yma - chwi gofiwch i Lais Gwynedd golli etholiadau 2007 yn drwm, gan lwyddo i ennill tair sedd ar ddeg o'r saith deg pum sedd posibl. Yn wir, roedd eu cefnogaeth ar hyd y sir mor sobor o wan fel nad oeddynt yn gallu dod o hyd i ymgeisydd hyd yn oed am tua dau draean o'r seddi.

Y rheswm bod Llais Gwynedd mewn sefyllfa i ymarfer grym ydi oherwydd i Blaid Cymru benderfynu ar drefn gynhwysol yn ol yn nyddiau cynnar y cyngor unedol. 'Dwi'n deall pam y byddai'r arweinyddiaeth eisiau mynd i lawr y llwybr hwn, ond roeddwn yn anghytuno efo'r penderfyniad ar y pryd, a 'dwi'n dal i anghytuno heddiw. Fedra i ddim gweld y pwynt mynd i'r drafferth a'r gost o ennill grym, dim ond i'w rannu efo pleidiau aflwyddiannus ar ol yr etholiad. Os ydi'r fathemateg yn gorfodi plaid i rannu grym - iawn - ond ni ddylid gwneud hynny efo pawb a phopeth.

Mae grwp Gwilym yn ychwanegu cymhlethdod pellach i'r drefniant anfoddhaol yma oherwydd eu bod yn sefydliadol anabl i ymarfer grym yn gyfrifol. Gweler y stori fach yma ar ei flog er enghraifft. Fel un o arweinwyr y cyngor, a'r aelod oedd yn gyfrifol am faterion personel roedd ganddo gryn gyfrifoldeb am gomisiynu gwaith ymchwil i lefelau cyflog a baich gwaith swyddogion Cyngor Gwynedd. Roedd rhesymau da am gynnal yr ymchwil yma - y ffaith bod cyflogau swyddogion Gwynedd yn isel o'u cymharu a phobl sy'n gwneud swyddi tebyg mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal a sefyllfa yng Ngwynedd lle mae yna ad drefnu sylweddol wedi bod, sydd yn ei dro wedi arwain at gynyddu baich gwaith swyddogion.



Yn wir mae'r sefyllfa cyn waethed fel mai'r unig ffordd y llwyddwyd i gael ymgeisydd addas i lenwi un o swyddi pwysicaf y sir (o bosibl yr un pwysicaf) yn ddiweddar oedd oherwydd bod unigolyn yn fodlon cymryd gostyngiad yn ei gyflog. 'Dydi hi ddim yn bosibl rhedeg cyngor fel hyn. Un casgliad posibl oedd i'r adolygiad mewn gwirionedd - dod a'r cyflogau yn nes at rai gweddill awdurdodau Cymru. O weld y casgliad cwbl ragweladwy yma i archwiliad roedd o ei hun yn rhannol gyfrifol am ei gomisiynu, penderfynodd ei wrthwynebu - ond gwneud hynny tra'n dal ei sedd ar y Bwrdd Rheoli - ac felly wadu'n llwyr yr egwyddor o gyfrifoldeb corfforiaethol - conglfaen unrhyw drefn o reoli ar y cyd. Wnawn ni ddim hyd yn oed trafod y syniad dw lali yma gan un arall o gynghorwyr Llais Gwynedd o roi rhwng hanner a thraean cyflogau awdurdodau eraill i swyddogion Gwynedd - cam fyddai o'i weithredu yn arwain at yr exodus mwyaf ers dyddiau Moses.

Neu cymerer y stori bach yma - eto o flog Gwilym. Dweud mae Gwilym bod toriadau dybryd ar y ffordd mewn grantiau gan Wynedd i'r sector wirfoddol. Mae'n bosibl ei fod yn gywir, ac mae'n bosibl nad ydyw. Mae'r Bwrdd - chwi gofiwch bod Gwilym yn aelod o'r Bwrdd - ynghyd a'r Pwyllgorau Craffu a'r Cyngor Llawn wedi gofyn i pob adran fodelu toriadau posibl yn eu cyllideb. Dydi hynny ddim yn golygu y bydd pob toriad yn mynd rhagddo - i'r gwrthwyneb, ond mae'r ymarferiad yn ei gwneud yn glir i aelodau am beth y byddant yn pleidleisio. Aelodau etholedig fydd yn penderfynu pa doriadau fydd yn mynd rhagddynt, a pha rai na fydd yn digwydd. Rwan, pan mae Gwilym yn rhoi pennawd fel Mwy o Ragrith o'r Top mae'n anghofio ychwanegu ei fod o ei hun yn ddigon agos at y top. Mae'r ymarferiad o fodelu toriadau yn rhywbeth mae o ei hun a gweddill aelodau Llais Gwynedd wedi bod yn rhannol gyfrifol am ofyn i adrannau ei wneud. Ond pan mae Gwilym yn gweld cynigion posibl nad yw'n rhy hoff ohonynt, mae'n cwyno am y top.

Y cwestiwn diddorol ydi pam? Pam bod haenen uchaf Llais Gwynedd - yr haenen sy'n rhannol gyfrifol am reoli'r sir, yn ymddwyn fel pe bai ganddynt ddim oll i'w wneud a rhedeg y sir honno? Wedi'r cwbl ym mhob ffordd ag eithrio hon maent yn bobl resymegol hyd y gwn i. 'Dwi'n credu mai syniadaeth sylfaenol y grwp ydi'r broblem ganolog.

Mae'r blog yma wedi edrych ar syniadaeth a naratif gwleidyddol Llais Gwynedd yn y gorffennol - yma ac yma er enhraifft. I dorri stori hir yn fyr roeddwn yn gosod Llais Gwynedd yng nghyd destun gwleidyddiaeth populist, ac yn dadlau bod ei syniadaeth yn tynnu ar elfennau cyfyng o'r feddylfryd honno ac yn ffurfio gwleidyddiaeth syml a chul iawn. Prif hanfod y wleidyddiaeth honno ydi'r gred bod Plaid Cymru ac uwch swyddogion Cyngor Gwynedd yn ddrwg, a bod Llais Gwynedd yn dda. Nid oes gan y cyhoedd le yn y tirwedd bach syml yma ag eithio i dwt twtian at ddrygioni Plaid Cymru a'r swyddogion, ac i ddotio at ddaioni Llais Gwynedd.

Mi wnes i fathu term (ychydig yn angharedig efallai) ar y pryd i ddisgrifio'r wleidyddiaeth - gwleidyddiaeth yr anterliwt. Dramau bach o'r ddeunawfed ganrif oedd yn aml yn cynnig moeswersi syml oedd yr anterliwtiaid. Doedd yna byth ymgais i fynd i'r afael a chymhlethdod bywyd. O farnu o ddigwyddiadau diweddar, anterliwt o blaid ydi Llais Gwynedd o hyd mae gen i ofn.

Y broblem i Lais Gwynedd yn y bon ydi hyn - yr unig beth sy'n cadw'r grwp at ei gilydd ydi gwleidyddiaeth bach syml yr anterliwt, a chyda mae aelodau yn crwydro oddi ar y tir cyfyng hwnnw ac yn dechrau ymateb i broblemau go iawn mewn ffordd aeddfed, maent yn ymddwyn mewn ffordd sy'n gosod straen ar feddylfryd simplistig y grwp. Os ydi'r feddylfryd honno'n cael ei difa, yna mae'r grwp yn colli ei cohesion mewnol, a 'does yna ddim ar ol ag eithrio unigolion sydd heb fawr yn gyffredin.

Mae yna adegau pan mae'n ymddangos y gallai Llais Gwynedd esblygu i fod yn rhywbeth defnyddiol. Er enghraifft roeddwn yn ei chael yn fater o gryn galondid pan gytunodd y Cynghorydd Seimon Glyn i gynrychioli Llais Gwynedd ar weithgor ail drefnu ysgolion y sir. Mae gen i gryn barch at Seimon, mae'n hen gyfaill i ysgolion cynradd - a fedra i ond meddwl y byddai ei gyfraniad yn werthfawr ac yn gydymdeimladol tuag at yr ysgolion hynny. Yn anffodus tynnodd ei enw'n ol, gan adael Llais Gwynedd yn ddi gynrychiolydd ar y panel. 'Dwi ddim am feirniadu Seimon am hynny - 'dwi'n siwr bod ganddo ei resymau da tros wneud yr hyn a wnaeth. Beth bynnag ei resymau personol o, 'doedd hi ddim yn bosibl i Lais Gwynedd barhau efo'r trefniant oherwydd bod hynny'n amharu ar eu naratif a'u syniadaeth greiddiol. Roedd eu prif blatfform yn datgymalu.

'Dydi gwleidyddiaeth yr anterliwt ddim yn wleidyddiaeth addas ar gyfer plaid sydd eisiau rheoli - mae cadw at ei gofynion syml yn ei gwneud yn amhosibl rheoli - mae'n gorfodi'r sawl sydd yn ei harddel i ymateb mewn ffordd simplistig a rhagweladwy i bob problem - fel cwn Pavlov. Ar y llaw arall, mae'n wleidyddiaeth addas ar gyfer gwrthblaid - nid gwrthblaid adeiladol a chreadigol wrth gwrs - ond gwrthblaid sydd eisiau gwrthwynebu pob dim.

Dyma pam nad ydi'r sefyllfa bresenol yn gynaladwy yng Ngwynedd. 'Dydi o ddim yn addas i gael rhan o'r glymblaid (a dyna beth ydi o mewn gwirionedd) sy'n rheoli yn ymddwyn fel gwrthblaid pob tro mae problem anodd yn codi sy'n gofyn datrysiad amhoblogaidd - un sy'n torri ar y naratif o ni = da, nhw = drwg. Mae rheoli Gwynedd yn effeithiol wedi mynd yn nesaf peth i amhosibl.

Efallai bod system Bwrdd wedi gweithio yn y gorffennol, ond dydi o ddim yn gweithio yn y tirwedd gwleidyddol sydd ohoni. Not fit for purpose ydi'r term Saesneg. Mae'n bryd i ni symud i drefn Cabinet (trefn lle nad ydi grym yn cael ei rannu rhwng pawb), ac i Blaid Cymru ddod i ddealltwriaeth efo grwp arall ynglyn a rheoli'n effeithiol a chydwybodol. Yn anffodus, nid oes gan y Blaid fwyafrif clir ar y funud, ond 'dydi'r grwp Llafur, yr un Lib Dem na'r rhan fwyaf o'r grwp Annibynnol ddim yn llafurio efo maen melin o ideoleg am eu gwddf - maen melin sy'n ei gwneud yn amhosibl iddynt gyd reoli'n effeithiol. Mae yna hen ddigon o ddewis.

Mae'n bryd i Wynedd symud ymlaen.

11 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai, diolch am dy edefyn diddorol ond hynod o unllygeidiog fel arfer.
Fel ti'n gwybod yn iawn, mae yna unfrydedd bar ar Fwrdd y Cyngor yn aml iawn ar ystod eang o faterion...ydi, mae Llais Gywnedd yn cytuno efo dy Blaid arbennig di yn aml (gobeithio na fydd hynny yn peri noson di gwsg i ti).
Ti'n beirniadu ni pan da ni fel grwp am amddiffyn ysgolion.Ti'n beirniadu ni pan da ni am dori swyddi (Fedri di ddim darganfod arbedion o £16m heb wneud hynny yn anffodus).Ti yn ein beirniadu a'n bychanu am wneud safiad dros iechyd cyhoeddus a gwrthwynebu cau toiledau lle nad oes cytundeb yn ei le i'w gwarchod a cadw ar agor. Ti'n ein beirniadu am beidio cefnogi cau cartrefi i'r henoed a rhoi loes enfawr i'r trigolion ym mlynyddoedd olaf eu hoes. Ti'n ein beirniadu am wneud safiad dros y sector wirfoddol sydd yn darparu gwasanaethau hanfodol i lawer o bobl mwyaf anghenus y Sir ond does gan swyddogion y Cyngor ddim ddigon o gwrteisi i drafod effaith y toriadau hynny gyda nhw. Rwan ti'n fy meirniadu fi am beidio a chefnogi codiadu cyflog o rhwng 5% ac 11% i Uwch Swyddogion y Cyngor tra fo pawb arall yn gorfod derbyn codiadau o 1%.
Ti wedyn yn dweud gan nad yw Alwyn (Gruffydd)yn gallu cytuno ar rhai o faterion mywaf dadleuol sydd yn dod ger bron y Bwrdd y dyali'r Blaid ffurfio cabinet ac wfftio'n barn ni.....syniad rhy syml gan ei fod yn mynd yn groes i ddemocratiaeth a chyfansoddiad presennol y Cyngor.
Be sydd yn dda am dy edefyn ydi mwy na dim,mae o'n profi pa mor allan o gyswllt efo farn gyhoeddus wyt ti - yn union ry'n fath ac arweinwyr dy Blaid ar Gyngor Gwynedd. Pa mor afresymol wyt ti ac pa mor unllygeidiog wyt ti...yn dy fyd bach delfrydol di,byddai pawb yn clodfori dy Blaid ac yn ei dilyn fel lemmings a cytuno i phob syniad dwl y mae dy "arweinydd" ar y Cyngor a'r syddogion yn dod i fynnu efo.
Diolch i Dduw fod rhai ohonom yn gweld pethau yn wahanol, diolch i Dduw fod rhai ohonom am wrando ar y pobl ac yn barod i sefyll yn gadarn dros yr hyn sydd yn iawn....am be yn union mae Plaid Cymru yng Ngwynedd yn sefyll dros erbyn hyn?

menaiblog said...

GER - Ti'n beirniadu ni pan da ni fel grwp am amddiffyn ysgolion.Ti'n beirniadu ni pan da ni am dori swyddi (Fedri di ddim darganfod arbedion o £16m heb wneud hynny yn anffodus).Ti yn ein beirniadu a'n bychanu am wneud safiad dros iechyd cyhoeddus a gwrthwynebu cau toiledau lle nad oes cytundeb yn ei le i'w gwarchod a cadw ar agor. Ti'n ein beirniadu am beidio cefnogi cau cartrefi i'r henoed a rhoi loes enfawr i'r trigolion ym mlynyddoedd olaf eu hoes. Ti'n ein beirniadu am wneud safiad dros y sector wirfoddol sydd yn darparu gwasanaethau hanfodol i lawer o bobl mwyaf anghenus y Sir ond does gan swyddogion y Cyngor ddim ddigon o gwrteisi i drafod effaith y toriadau hynny gyda nhw.

Ti'n gywir fy mod wedi eich beirniadu am y toiledau o leiaf.

Ti wedi gwneud y gweddill i fyny.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Mi ofynai y cwestiwn unwaith eto..
Be yn union mae Plaid Cymru yng Ngwynedd yn sefyll dros erbyn hyn?

menaiblog said...

Yn wahanol i Lais Gwynedd mae Plaid Cymru yn blaid genedlaethol. 'Dydi son am 'Blaid Cymru yng Ngwynedd' ddim yn gwneud llawer o synwyr ar un ystyr.

Os ti eisiau mwy o wybodaeth am y Blaid, ei hamcanion a'r hyn mae'n ei gynrychioli gelli ddod o hyd i wybodaeth yma - http://www.plaidcymru.org/content.php?lID=2

'Dwi'n gwybod bod yna dipyn go lew o ddwr wedi mynd o dan y bont ers i ti fod yn aelod, ond 'dwi'n fwy na pharod i roi gair da ar dy ran os ti eisiau dod yn ol.

Anonymous said...

Diddorol nad ydi GER yn barod i amddiffyn y ffaith ei fod yn aelod o'r Bwrdd Rheoli tra'n lladd ar "tops" y cyngor. Power without responsibility ydi'r math yna o beth yn de?

Alwyn ap Huw said...

Yn wahanol i Lais Gwynedd mae Plaid Cymru yn blaid genedlaethol. 'Dydi son am 'Blaid Cymru yng Ngwynedd' ddim yn gwneud llawer o synnwyr ar un ystyr.

Rwy'n cael rhywfaint o anhawster deall dy bwynt yma! Rwyf wedi gweithredu fel asiant i ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer cyngor tref. Wrth inni drefnu'r ymgyrch yr hyn oedd yn ganolog oedd Be all cyngor Plaid Cymru cynnig i'r dref?

Rwyf wedi gweithio fel asiant i ymgeiswyr ar gyfer cyn Gyngor Bwrdeistref Aberconwy, cyn Gyngor Sir Clwyd a'r hen Gyngor Sir Gwynedd. Ar bob achlysur roedd yr ymgyrch yn seiliedig ar be oedd y Blaid yn gallu cynnig i'r cynghorau / ardaloedd cynghorol hynny!

Rwy'n methu dychmygu trefnu etholiad lleol ar docyn Nid oes gennym fflewj o ddim i gynnig i'r ardal oherwydd bod ein polisïau yn rhai Cenedlaethol yn unig! Rwyt wir yr yn credu mae dyna'r ffordd ymlaen i'r Blaid yng Ngwynedd?

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai - Yn wahanol i Lais Gwynedd mae Plaid Cymru yn blaid genedlaethol. 'Dydi son am 'Blaid Cymru yng Ngwynedd' ddim yn gwneud llawer o synwyr ar un ystyr.

Os ti eisiau mwy o wybodaeth am y Blaid, ei hamcanion a'r hyn mae'n ei gynrychioli gelli ddod o hyd i wybodaeth yma - http://www.plaidcymru.org/content.php?lID=2

Hmmm...Ydi o yn bolisi dy Blaid yn genedlaethol i gefnogi codiadu cyflog o rhwng 5% -11% yn y sector gyhoeddus yntau ydych chi o blaid 1% fel mae pawb arall (Cynulliad a San Steffan) yn argymell?
Tra fod genai lawer iawn o barch i pobl sydd yn dal yn aelodau o Blaid Cymru, dwi'n teimlo'n drist drostynt gan fod dy Blaid yn genedlaethol ac yn bendant yn lleol wedi colli ei ffordd yn llwyr.

Anon - Dwi mwy na barod i gymryd cyfrifoldeb...cofia mi wnes i gytuno i'r codiadu 'ma yn wreiddiol..OND pan ddaeth ffactorau eraill yn amlwg fel dwi wedi nodi yn glir yma http://gwilymeurosroberts.blogspot.com/2009/10/dim-rwan-ydir-amser-i-godi-cyflogau-now.html yna'r peth cyfrifol a phriodol i'w wneud oedd peidio a symud ymlaen gyda'r argymhelliad oedd yn adroddiad Haye. Ffaith nad oedd "Arweinydd" y Blaid ar y Cyngor nac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cytuno ag o. Mater arall ydi os yw'r ddau yn mynd yn groes i bolisiau cenedlaethol eu Pleidiau yn cynning codiadu o'r fath.

menaiblog said...

Alwyn - Rwy'n cael rhywfaint o anhawster deall dy bwynt yma! Rwyf wedi gweithredu fel asiant i ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer cyngor tref. Wrth inni drefnu'r ymgyrch yr hyn oedd yn ganolog oedd Be all cyngor Plaid Cymru cynnig i'r dref?

Dydi o ddim yn bwynt anodd iawn Alwyn, gofyn mae GER am beth mae'r Blaid yn sefyll? - fedra i prin ddweud 'i llnau baw cwn ar sgwar Dolgellau'.

Mae tactegau etholiadol yn arwain ymgeiswyr lleol i wneud addewidion lleol - digon teg - ond dydi Plaid genedlaethol ddim yn diffinio ei hun yn nhermau gofynion plwyfol. Mae'n briodol i ymgeisydd lleol Ceidwadol (dyweder Guto)hel sbwriel yn rhywle neu'i gilydd yn Aberconwy - ond nid plaid hel sbwriel yng Nghonwy ydi'r Blaid Geidwadol.

GER - Hmmm...Ydi o yn bolisi dy Blaid yn genedlaethol i gefnogi codiadu cyflog o rhwng 5% -11% yn y sector gyhoeddus yntau ydych chi o blaid 1% fel mae pawb arall (Cynulliad a San Steffan) yn argymell?

Mi fyddwn i'n synu'n fawr petai gan y Blaid bolisi ynglyn a faint y dylai awdurdodau lleol unigol dalu i'w swyddogion.

Anonymous said...

Llais Gwynedd....blydi idiots!

Alwyn ap Huw said...

Na! Cai!

Be mae Gwil yn gofyn yw Am be mae'r Blaid yn sefyll yng Ngwynedd?Cwestiwn teg!

Dy ateb di oedd ff*** oll, Plaid Cenedlaethol yw PC!

Ymateb idiotaidd, i ddweud y lleiaf!

menaiblog said...

O diar Alwyn, dadl gref iawn.

Chdi sy'n hefru ymlaen y dylai'r Blaid sefyll tros senedd, cenedl, annibyniaeth a ballu.

Ond yng Ngwynedd ti eisiau iddi fod yn rhywbeth gwahanol - rhywbeth tebyg i Lais Gwynedd, sydd ddim efo unrhyw farn ym y cyfryw bynciau.

Ti'n genedlaetholwr anarferol.