Mae'r blog hwn wedi edrych ar y berthynas rhwng Llais Gwynedd a'r dull o wleidydda a adwaenir yn Saesneg fel populism yn y gorffennol.
Wna i ddim ceisio diffinio'r term - i'r sawl sydd a diddordeb ceir ymdriniaeth yma. Mi fyddwn yn nodi fodd bynnag nad wyf yn hoff o'r math yma o wleidydda - oherwydd ei fod yn ffurf simplistig ar wleidyddiaeth, ac mae'n annog rhesymu gwleidyddol arwynebol a diog. Mae hefyd yn tueddu i greu dull o wleidydda anymunol sy'n diafoli gwrthwynebwyr gwleidyddol.
Rydw i wedi son am rai o gyfraniadau diweddar Gwilym Euros ar ei flog yn ddiweddar, a chan obeithio na fyddaf yn cael fy nghyhuddo o fod yn gas efo Gwilym, 'dwi'n mynd i edrych ar ddau gyfraniad arall diweddar ganddo er mwyn dangos pam nad wyf yn or hoff o'r traddodiad arbennig yma.
Wele'r cyfraniad cyntaf. Awgrymu mae Gwilym yma bod Plaid Cymru yn rhagrithiol oherwydd nad ydynt yn gefnogol i gynllun ad drefnu ysgolion uwchradd yng Nghaerfyrddin, tra eu bod yn gefnogol i gynllun ad drefnu addysg gynradd yng Ngwynedd. 'Dydi Gwilym ddim yn manylu'n union pwy sy'n rhagrithiol - y Blaid yng Ngwynedd, y Blaid yng Ngheredigion neu'r Blaid yn gorfforiaethol.
Beth bynnag am hynny, mae'r awgrym yn amlwg yn gwbl afresymegol. Mae awgrymu y dylai plaid gefnogi pob cynllun ail strwythuro yng Nghymru oherwydd ei bod yn cefnogi un cynllun, neu wrthwynebu pob un, oherwydd ei bod yn gwrthwynebu un, yn ymylu ar fod yn chwerthinllyd o ddi reswm. Yn amlwg mae'n rhaid i pob cynllun unigol gael ei ystyried ar ei ben ei hun. 'Dydi hi ddim yn bosibl eu hystyried nhw i gyd ac wedyn dod i gasgliad cyfansawdd.
'Rwan mae rhesymu Gwilym yn hynod o simplistaidd yma. 'Dydi hyn ddim yn golygu bod Gwilym ei hun yn simplistaidd wrth gwrs - i'r gwrthwyneb. Yr hyn sydd wedi digwydd ydi bod Gwilym wedi cael ei hun mewn sefyllfa lle mae'n rhesymu mewn cyd destun gwleidyddol simplistaidd. Diffinir y rhesymeg sydd y tu ol i benderfyniadau gwleidyddol gwrthwynebwyr mewn termau o'u drygioni - rhagrith yn yr achos yma. 'Dydi'r traddodiad populist ddim yn annog y rhai sy'n ei arddel i geisio rhesymu mewn ffordd soffistigedig wrth geisio canfod cymhelliad gwleidyddol gwrthwynebwyr gwleidyddol. Syml ydi pob dim - ac mae pob dim yn rhan o ddeialectic da / drwg.
Yr ail gyfraniad 'dwi am edrych arno ydi hwn. Ymateb mae Gwilym yma ('dwi'n meddwl) i gyfraniad cynharach gen i ar fy mlog i.
Rwan er nad ydw i'n cytuno efo rhai o fanylion Gwilym parthed genedigaeth Llais Gwynedd, a'u hynt ers hynny - 'dwi ddim am fynd ar ol pob sgwarnog. 'Dwi yn meddwl ei bod braidd yn anheg awgrymu nad ydw i'n meddwl ei bod yn briodol i Lais Gwynedd ymddwyn fel gwrthblaid -'dydi hynny ddim yn wir. Y cysyniad o fod yn wrthblaid gwrthnysig iawn a llywodraethu ar yr un pryd ydi fy mhroblem i.
Ta waeth, 'dwi'n crwydro - rhesymu simplistaidd sy'n cael ei esgor gan dirwedd gwleidyddol Llais Gwynedd ydi thema'r darn yma - ac fe awn ni ar ol hynny.
Mae'n ddiddorol bod Gwilym yn arenwi'r pwynt pan drodd aelodau Plaid Cymru yn bobl ddiafolaidd mewn termau metaffisegol. Rydym wedi gwerthu ein heneidiau i'r Diafol trwy gymryd rhan yng nghlymblaid Cymru'n Un. 'Dydi Gwilym ddim yn dweud wrthym os byddai mynd i glymblaid gyda'r Toriaid hefyd yn fater pechadurus - ond cymraf ei fod.
O sefyll yn ol am ennyd a meddwl yn hytrach na syrthio i'r demtasiwn o ddiafoli gwrthwynebwyr gallai Gwilym weld bod goblygiadau pell gyrhaeddol i unig blaid genedlaetholgar Cymru ddilyn yr egwyddor yma, a pheidio ystyried mynd i lywodraeth, oni bai bod ganddi fwyafrif llwyr. Mae'n hynod o anodd ennill mwyafrif llwyr o dan y drefn etholiadol sydd ohoni, ac nid oes unrhyw le i gredu y gallai'r Blaid ennill mwyafrif felly yn y dyfodol agos - nag yn y dyfodol canolig o ran hynny. Felly byddai agwedd o'r fath yn sicrhau mai mater i bleidiau unoliaethol yn unig fyddai llywodraethu Cymru. Agenda unoliaethol di gymysg fyddai felly yn cael ei ddilyn efallai am ddegawdau yn y Cynulliad. Byddai gweithredu yn y ffordd yma yn frad cenedlaethol yn fy marn i.
Y mater olaf hoffwn ei godi o'r cyfraniad ydi'r ffaith ei fod yn beio Plaid Cymru oherwydd bod setliad ariannol llywodraeth leol yn isel eleni ar y sail ein bod mewn llywodraeth yng Nghaerdydd. 'Rwan, mae'n hysbys i bawb am wn i bod y setliad gwael a gafodd llywodraeth leol yn dilyn yn uniongyrchol o setliad gwael a gafodd y Cynulliad gan San Steffan. Nid oes gan y Cynulliad ffordd o godi ei gyllid ei hun - mae'n cael ei ariannu gan grant blynyddol o San Steffan. Nid oes gan y Cynulliad unrhyw rol yn y broses o bennu maint y grant hwnnw. Mae Gwilym yn gwybod hyn - ond yn y tirwedd deallusol (os mai dyna'r gair) mae cynrychioli'r diffyg adnoddau fel ymdrech faleisus ar ran y Blaid i amddifadu pobl o wasanaethau yn gwneud mwy o synnwyr.
A dyna yn ei hanfod ydi'r broblem gyda gwleidyddiaeth Llais Gwynedd - anterliwt syml o ymgiprys rhwng daioni a drygioni a geir - a rhaid i pob dim ffitio i'r cyfyngiadau hynny - ta waeth pam mor amhriodol, simplistaidd a weithiau gogleisiol y casgliad.
1 comment:
Cytuno'n llwyr efo'r post yma blogmenai.
Post a Comment