Sunday, May 17, 2009

Treuliau Aelodau Seneddol Cymreig

'Dydi'r aelodau seneddol Cymreig heb fod ymysg 'ser' y sgandal hawlio treuliau diweddar, ac mae'n debyg nad ydi hynny'n anisgwyl ar un olwg. 'Dydi ceisio hel swmiau mawr o bes ddim ymhlith gwendidau'r Cymry yn draddodiadol - dyna'n rhannol pam bod llai o bobl gyfoethog iawn yng Nghymru i gymharu a'r Alban neu'r Iwerddon er enghraifft. Ta waeth, mae rhai wedi gwneud eu gorau - dyma sut mae pethau'n edrych hyn yn hyn.

Peter Hain (Llafur, Castell Nedd). Er nad oes awgrym bod y creadur anymunol yma wedi hawlio pres nad oedd yn briodol iddo ei hawlio, mae wedi llwyddo i hawlio swmiau sylweddol o arian - £431,905 0 2005 - 2008. Mae hyn yn uwch na'r un Aelod Seneddol Cymreig arall, ac mae bron i £200,000 yn fwy na hawlwyd gan ei 'gymydog', Alan Williams.

Lembit Opik (Lib Dem, Trefaldwyn). Mae gan Lembit dalent o gael ei hun yng nghanol rhyw smonach neu'i gilydd bron yn barhaol. Wnaeth o ddim siomi y tro hwn chwaith. Ymddengys ei fod o'r farn y dylai'r cyhoedd dalu am ei ddirwyon (£40) a £12,655 er mwyn uwchraddio ei dy - turning into a bit of a maintenance disaster oedd yr esgys am hyn. Roedd hefyd o'r farn mai mater i'r trethdalwr oedd talu am ei deledu plasma £2,500. Yn anarferol nid oedd awdurdodau Tai'r Cyffredin yn cytuno. Roedd nifer o fan eitemau megis dodrefn oedd i fod ar gyfer ei 'ail' dy yn cael eu cludo i'w gartref yn Nhrefaldwyn, neu i'w swyddfa yn Llundain.



'Roedd y swmiau roedd yn eu hawlio ar gyfer ei ail dy yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn yn ol pob golwg:

2004-05: £14,026

2005-06: £14,685

2006-07: £16,237

2007-08: £23,083

Paul Murphy (Llafur, Torfaen). Mae'n ymddangos bod Paul eisiau prynu'r les ar ei ail gartref, ond nid oedd eisiau cael ei wahanu oddi wrth ei bres chwaith. Felly cafodd y cyhoedd y fraint o dalu £2,336.37 ynghyd a £1,799 mewn treth er mwyn i Paul gael ei les. Cawsom hefyd y fraint o dalu £3,419.25 i brynu boilar newydd iddo oherwydd bod yr hen un yn gor gynhesu'r dwr. Mae Paul yn codi ar y trethdalwr am bob math o fanion - £30 am rhywbeth i ddal papur toiled, £6 am declyn agor tuniau, £6 am leinars i'r hwfer ac ati. Mae'n un da am fwyta hefyd - bydd yn hawlio £200 i £300 yn fisol am fwyd.

Don Tohuig (Islwyn, Llafur) Don ydi un o aelodau mwyaf gwrth Gymreig ei blaid - ymddengys ei fod yn ystyried pob siaradwr Cymraeg yn grachach. Fo hefyd sy'n cadeirio pwyllgor sy'n ystyried treuliau aelodau seneddol.



Fflipio ydi prif bechod Don - honnodd mai ei gartref yng Ngwent oedd ei ail gartref er mwyn gallu hawlio £2,500 i addurno'r lle. Hefyd hawliodd £1,325 am fwyd pan oedd Aelodau Seneddol ar eu gwyliau.

Mae faint o arian mae o'n ei wario ar ei dai hefyd wedi bod yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn:

2004/05: £20,902

2005/06: £21,531

2006/07: £22,106

2007/08: £23,080

Stephen Crabb (Tori, Preseli Penfro). Er mai aelod cymharol newydd ydi Stephen, 'doedd o ddim yn hir cyn dod i ddeall sut i wthio 'rheolau' treuliau i'r eithaf. Trwy honni mai ei brif gartref oedd fflat roedd yn ei rentu efo aelod seneddol arall yn Llundain, gallai hawlio'r £9,300 o dreth stamp ar y ty mae ei deulu yn byw ynddo ym Mhenfro.

Kevin Brennan (Llafur, Gollewin Caerdydd). Roedd Kevin yn hoff o hawlio am eitemau megis teledu £450 ar gyfer yr ail gartref mae'n ei rannu efo ei frawd yn Llundain, ond trefnu iddynt gael eu hanfon i'w dy cyntaf yng Nghaerdydd. Roedd hefyd yn hawlio am pob math o fanion i'w ail gartref, gwely ar gyfer ei blant yn ei ail dy yn Llundain. Cadarnle etholiadol Kevin ydi stad enfawr Trelai ar gyrion y brifddinas - un o'r llefydd tlotaf ym Mhrydain.

Mae'r santaidd Paul Flynn wedi bod ar Radio Cymru yn cyfiawnhau treuliau Kevin a Paul Murphy tra'n ymosod ar Cheryl Gillan am ddisgwyl i'r trethdalwr dalu am fwydo ei chi (ac mae Nick Bourne - dyn y stafell molch a'r i pod fe gofiwch - yn ei hamddiffyn ar y sail ei bod yn agos iawn at ei y dywydiedig gi).

Chris Bryant (Llafur, Rhondda). Fflipio oedd prif bechod Chris hefyd. Trwy wneud hyn ddwy waith mewn dwy flynedd fe'i galluogodd ei hun i hawlio £20,000 i uwchraddio dau dy. Tros gyfnod o 5 mlynedd llwyddodd i wario £92,000 o bres y cyhoedd ar dri thy.

Yn Ebrill 2005, fe fflipiodd ei dy yng Ngorllewin Llundain, oedd wedi ei brynu am £400,000 yn Ebrill 2002. Hawliodd £630 y mis am log morgais. Wedi hawlio £3,600 tros dri mis gwerthodd y lle ym Mehefin 2005 am £477,000. Defnyddiodd yr elw i brynu lle newydd am £670,000. Mae nifer o'r wardiau tlotaf ym Mhrydain yn etholaeth Chris.

1 comment: