Saturday, May 09, 2009

Cynnig i Mr Ian Lucas




Diolch i Plaid Wrecsam am ddwyn ein sylw at y llythyr uchod sydd wedi ei ysgrifennu gan Mr Ian Lucas, AS Wrecsam at un o'i etholwyr.

Mae'r dasg o ddysgu plant bach sut i 'sgwennu llythyr ffurfiol, cwrtais yn syrthio arnaf yn fy ngwaith pob dydd. Yn anffodus ymddengys bod bwlch bach yn rhywle yn addysg Mr Lucas, ac nad yw wedi cael y cyfle i feistrioli'r grefft eto. Mae hyn yn arbennig o anffodus o ystyried bod llythyru yn rhan greiddiol o waith dyddiol Mr Lucas.

Felly 'dwi'n fodlon cynnig gwers neu ddwy iddo'n rhad ac am ddim - cyn belled a'i fod yn addo peidio a chymryd arno fy mod wedi codi tal arno a hawlio'r 'costau' gan y trethdalwr. 'Dwi'n deall bod arweinyddiaeth ei blaid wedi gosod esiampl drwg braidd iddo yn hyn o beth.

1 comment:

Plaid Gwersyllt said...

A mae Lucas yn un o'r AS's sydd yn edrych i fewn i'r LCO yr iaith...Duw a'n helpo ni. O'n i'n meddwl fod creaduriad fel hyn wedi hen fynd hefo'r hen George Thomas.