Wednesday, December 21, 2005

Dafydd Iwan yn Cofi Roc

‘Dolig Dafydd yn Dre yn Cofi Roc neithiwr. Roeddwn dan yr argraff bod Dafydd Iwan wedi ymddeol – ond dyna fo – mae wedi gwneud hynny sawl gwaith o’r blaen ac wedi dychwelyd. Mae ambell i beth nad yw byth yn newid.

Noson ddigon difyr. Er bod y gynulleidfa’n ddigon teilwng, nid oedd yn agos cymaint o bobl yno nag oedd yn mynychu’r gigs ‘Dolig mawr DI yn Paradox yng nghanol y 90au. ‘Doedd yna ddim yr un trawsdoriad o ran oedran y gynulleidfa chwaith, digon canol oed oeddem at ein gilydd (mae’n beth braf i rhywun fy oed i gael teimlo’n weddol ifanc mewn gig). Dydi’r hen lais ddim yr hyn oedd o, a dydi’r un angerdd y tu ol i bethau nag a fu yn y dyddiau hynny pan oeddem i gyd yn ieuengach, pan oedd mynyddoedd ein blynyddoedd o’n blaenau.



Mae llawer o law wedi chwipio’r tomeni chwarel ers y dyddiau hynny pan oedd Dafydd yn ifanc ac yn perfformio mewn nosweithiau llawen. Pryd hynny roedd y mudiad iaith yn ei anterth,George Thomas yn fyw ac yn iach, hawliau ieithyddol prin yn bodoli, y syniad o gynulliad yn freuddwyd – ac wrth gwrs, yr ymdeimlad a’r sylweddoliad o’r hyn oedd rhaid ei wneud yn glir ac yn amlwg.

Bellach rydym wedi ennill llawer o’r brwydrau oedd yn edrych mor bwysig ar y pryd, ond mae’r ymdeimlad ein bod am golli’r rhyfel cyn gryfed, yn gryfach efallai nag y bu erioed. Yn waeth mae’r amheuaeth bellach wedi sleifio i’n hymwybyddiaeth torfol nad ydi’n rhyfel yn un sy’n bosibl ei hennill – ta waeth faint o frwydrau unigol yr ydym wedi eu hennill yn y gorffennol, ac y byddwn yn eu hennill yn y dyfodol.

Ac mae Dafydd ei hun ysywaeth wedi heneiddio, wedi ymbarchuso, wedi ymgyfoethogi, wedi troi’n wleidydd go iawn. Mae’n derbyn llawer o feirniadaeth fel gwleidydd – ac mae rhywfaint o’r feirniadaeth honno’n deg – nid gwleidydd naturiol mohono o bell ffordd. Nid yw’n berson sy’n ei chael yn hawdd i godi pontydd, i gymodi, i grisialu ei wleidyddiaeth, a gwleidyddiaeth y Blaid i nifer gyfyng o gysyniadau a sloganau syml, i ffocysu ar yr hyn sy’n bwysig yn wleidyddol. Wedi dweud hynny, mae’n areithiwr da, gall fod yn ddigon ysbrydoledig ar ei ddydd ac yn bwysicach mae ei wleidyddiaeth yn war, goddefgar, eangfrydig, gwlatgarol a gonest.

Ond y caneuon ydi’r pethau pwysicaf am Dafydd. Maent yn llwyddo i wneud rhywbeth nad yw’n gwneud cystal fel gwleidydd. Maent yn mynegi ac yn crisialu gwleidyddiaeth Dafydd – ffordd unigryw anghydffurfiol Gymreig o edrych ar y byd, a gosod y wleidyddiaeth honno mewn cyd destun ehangach gwleidyddiaeth gwrth imperialaidd fyd eang. Yng nghyd destun gwleidyddiaeth gwan y sawl sydd dan orthrwm, y sawl sydd am oroesi yn nannedd grymoedd sy’n fwy pwerus o lawer na nhw eu hunain.

Ac am ychydig neithiwr, ar derfyn y noson, ar ol suddo gormod o beintiau, wrth ddawnsio i gyfeiliant y caneuon hynny, roedd y blynyddoedd cynharach hynny’n dychwelyd fel gwenoliaid yn y gwanwyn. Am ychydig roeddem yn ol yn mwynhau’r dyddiau hynny lle’r oedd cymaint mwy i’w gyflawni na sydd heddiw, ond pryd roeddem hefyd efo mwy o le i obeithio. Ac ar ben hynny roedd Lwi yn ei le wrth y llwyfan, peint o’i flaen.

Da dy weld ti’n well boi – efallai y bydd popeth yn dda wedi’r cwbl.



Lwi.

No comments: