Monday, October 18, 2004

Diolchgarwch, y Mayflower ac Indiaid Cochion

Tybed pwy sy'n gwybod pam bod Americanwyr yn meddwl y byd o wyl Diolchgarwch? Y rhan fwyaf o bobl mae'n debyg, ond 'dwi am ail adrodd y stori. Mae hi bron yn ddameg o'r hyn sy'n digwydd pan mae'r Dde crefyddol yn America yn cael ychydig o wynt yn ei hwyliau.

Croesodd y Mayflower gefnfor yr Iwerydd yn 1620 i ddianc rhag erledigaeth crefyddol yn Lloegr. 'Roedd 102 o bobl ar fwrdd y llong. Yn anffodus roedd amodau yn hynod o galed yn ystod y gaeaf cyntaf, a bu farw 46 o'r 102. Oni bai am gymorth Indiaid Cochion lleol mae'n debyg y byddai'r cwbl wedi marw.

'Roedd 1621 yn flwyddyn well o lawer a chafwyd cynhaeaf da. I ddathlu'r gwelliant hwn yn eu lwc gorchmynodd William Brewster, arweinydd y trefedigaethwyr i rai o'r dynion fynd i hela gwyddau a chwiaid er mwyn cael parti. Cafwyd gwledd anferth gyda pob math o fwyd - bwyd mor, ffrwythau wedi sychu, bara wedi ei ffrio mewn menyn, cig eidion, cig carw, llysiau (ond ddim tatws - roedd pobl yn meddwl eu bod yn wenwyn pur pryd hynny!), a llawer o bethau eraill. Fel arwydd o ddiolch i'r Indiaid oedd wedi eu helpu tros y gaeaf caled, cafodd 91 ohonynt wahoddiad i'r wledd.

Nid oes cofnod o wledd ym 1622, ond cafwyd un arall tebyg ym 1623. Y rheswm y tro hwn oedd bod sychter hir yn bygwth y cynhaeaf a bod y gymuned gyfan wedi ymgasglu i weddio i Dduw am law. Cafwyd glaw y diwrnod wedyn. Eto cafodd yr Indiaid wahoddiad.

Nid oes cofnod o wledd arall hyd 1676. Nid oedd yr Indiaid yno y tro hwn. 'Roedd y wledd yn rhannol yn dathlu gorchfygu'r Indiaid yn filwrol - neu i'w roi mewn ffordd arall, eu lladd.

No comments: