Sunday, March 13, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhif 10

Jones yr ieuengaf unwaith eto mae gen i ofn.  Nid yn nhir y troelli, na chamarwain trwy beidio cyflwyno'r ffeithiau i gyd ydan ni y tro hwn, ond yn nhir y celwydd noeth di addurn.



Mae honiad bod y rhan fwyaf o gytundebau sero awr Cymru  yn cael eu darparu gan Gyngor Gwynedd yn gyfangwbl anghywir - a dydi hi ddim yn bosibl i neb ddod i'r casgliad hwnnw yn ddamweiniol.  

Yn ol y ffigyrau diweddaraf sydd ar gael mae yna 81 o weithwyr Cyngor Gwynedd ar gytundebau sero awr.  Mae'r ffigwr hwnnw wedi gostwng o 477 yn 2014 - y rheswm am hynny ydi bod Cyngor Gwynedd yn dilyn polisi bwriadol o ddileu cytundebau sero awr.  

Ond hyd yn oed yn 2014 byddai'n gwbl gelwyddog i ddweud mai Cyngor Gwynedd oedd yn cynnig y rhan fwyaf o gytundebau sero awr Cymru.   Roedd yna 4,000 o gytundebau felly yn cael eu gweinyddu yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol - gyda thua hanner y rheiny i'w cael ym Mhowys - cyngor sydd (ac oedd) yn cael ei redeg gan grwp annibynnol.  Roedd cannoedd lawer hefyd yn cael eu cynnig gan gynghorau Llafur gyda Chyngor Pen y Bont (sy'n cynnwys rhan o etholaeth Carwyn Jones) yn gyfrifol am 418 ac Abertawe yn gyfrifol am 482.  Mae'n debygol gyda llaw bod gwir ffigyrau rhai cynghorau Llafur yn uwch o lawer na'r hyn sy'n wybyddus oherwydd arfer nifer ohonynt i gontractio gwaith cyngor i gwmniau a chorfforaethau annibynnol - does yna ddim ffigyrau ar gael ar gyfer cyrff felly.  Tua 12% o gytundebau sero awr Cymru oedd yng Ngwynedd bryd hynny.

Fel y dywedais, mae Cyngor Gwynedd wedi cael gwared o tua 80% o'u cytundebau sero awr mewn cyfnod o tua blwyddyn a hanner oherwydd eu bod yn dilyn polisi bwriadol o wneud hynny.  Does gen i ddim gwybodaeth am ffigyrau diweddaraf cynghorau eraill Cymru - ond mae'n anhebygol bod y cwyp wedi bod yn agos at yr hyn sydd wedi digwydd yng Ngwynedd oherwydd nad ydi'r rhan fwyaf o gynghorau yn dilyn polisi rhagweithiol o'u dileu.  Yn wir - os ydi'r graffeg mae Jac Capon yn ei ddyfynu yn gywir, mae yna gynnydd wedi bod yng ngweddill Cymru.

Yn ol pob tebyg mae rhywbeth yn yr amrediad 1% -  2% o gytundebau sero awr awdurdodau lleol Cymru yng Ngwynedd ar hyn o bryd - er nad oes gen i ffordd o fod yn gyfangwbl siwr am hynny.  Mae hyn ymhell, bell o'r 50%+ sy'n cael ei honni gan Sion.  Mae'r honiad yn gyfangwbl gamarweiniol.  

Mae hefyd yn hynod anffodus gweld cynghorydd yn dwyn anfri ar ei gyngor ei hun trwy ddweud celwydd amdano.

Araith Nicola Sturgeon yng nghynhadledd yr SNP

Os ydych eisiau deall pam bod yr SNP yn llwyddo i'r fath raddau yn etholiadol, gwrandewch ar yr araith yma gan Nicola Sturgeon yn gynharach heddiw.   Cyfuniad o weledigaeth gyffredinol o sut i ddod a gwlad yn ei blaen ynghyd a chynlluniau manwl, manwl a chredadwy i wella safon amodau carfannau sylweddol o bobl. 

Dyna ydi'r fformiwla i sicrhau llwyddiant etholiadol.

Os nad ydi'r fideo yn gweithio edrychwch yma.






Friday, March 11, 2016

Y Toriaid ar chwal

Mae pawb sy'n ymwneud a phlaid wleidyddol yn gwybod pam bod cynhadledd wanwyn yn bwysig. Dydi eu pwysigrwydd yn ddim oll i'w wneud efo llunio polisi ac ati. Fel rheol byddant yn cael eu cynnal yn fuan cyn ethloiad o rhyw fath, ac mae'r cyfryngau yn rhoi cymaint o sylw iddynt ag mae unrhyw beth sy'n ymwneud a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn ei gael ganddynt.  O ganlyniad mae'n gyfle i werthu negeseuon etholiadol creiddiol y blaid.  Felly mae'n bwysig cael pethau'n 'iawn'. Does yna ddim lle i gymhlethdod yma - negeseuon clir, syml, deniadol ydi'r nod gyda phawb yn gytun ac yn gwenu'n ddel. Os ydi'r negeseuon yn cael eu cyfleu yn glir, effeithiol a di wrthwynebiad mae'r gynhadledd wedi bod yn llwyddiant.  


Nid dyma mae'r cyfryngau eisiau adrodd arno wrth gwrs - mae anghydfod, ffraeo, negeseuon yn gwrth ddweud ei gilydd a gwrthdaro yn fwy diddorol o lawer o'u safbwynt nhw.  Felly mae'n dipyn o gem i ddod o hyd i rhyw faferic neu'i gilydd i ddweud pethau sy'n groes i'r negeseuon creiddiol.  Gorau oll os ydi'r maferic wedi bod yn bwysig ar rhyw bwynt neu'i gilydd - a gore oll os ydi o'n dweud pethau mawr.  Mae'r cyfryngau yn cael eu stori, mae'r maferic yn cael ymddangos ar y tudalenau blaen a meddwl ei fod yn bwysig am ddiwrnod neu ddau, ac mae rheolwyr y blaid dan sylw yn tynnu eu gwalltiau allan o'u pennau oherwydd bod buddsoddiad sylweddol o ran amser ac adnoddau wedi ei wastraffu ar naratif newyddiadurol negyddol.

Fel rheol mae'n rhaid i'r cyfryngau chwilio am faferic, ac fel rheol mae hwnnw efo'r rhan fwyaf o'i yrfa wleidyddol y tu cefn iddo.  Y tro hwn doedd dim rhaid chwilio, ac arweinydd y blaid oedd yn defnyddio prif bwynt ffocws y gynhadledd i gicio yn erbyn y tresi - a hynny o'r prif lwyfan.  Gallwn fod yn reit siwr bod y Blaid Geidwadol 'Gymreig' wedi gofyn i Cameron draddodi eu negeseuon etholiadol creiddiol a pheidio dweud gair am Ewrop.  Mae'r rhan fwyaf o gefnogwyr potensial y Toriaid o blaid Brexit - a 'dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i'w pechu trwy gymysgu'r negeseuon etholiadol efo negeseuon nad ydynt yn eu hoffi.  

Gwnaeth Cameron yn gwbl groes i'r hyn ofynwyd ohono.  Roedd wyneb Andrew RT Davies werth ei weld wrth wrando ar Cameron yn mynd trwy'i bethau.  Gallwn fod yn eithaf siwr mai'r rheswm am hyn oedd bod Cameron wedi cael y myll efo Andrew RT Davies oherwydd ei benderfyniad i wrthwynebu aelodaeth o'r Undeb Ewropiaidd yn gyhoeddus.

A'r gwersi?  Yn gyntaf yr un amlwg - mae ffraeo am Ewrop yn rhan o DNA y Toriaid.  Yn ail, dydi ffawd y Toriaid Cymreig ddim yn arbennig o bwysig i Cameron - a'r rheswm am hynny yn ei dro ydi nad yw Cymru yn bwysig i'r Blaid Geidwadol Brydeinig.  Mater bach ydi Cymru i'r Toriaid yn y diwedd - yn union fel y pleidiau unoliaethol eraill.


Y Gogledd yn dioddef eto

Ym maes amddiffyn yr iaith mae'r Gogledd yn ei chael hi gan Lywodraeth Lafur Bae Caerdydd y tro hwn.  Gallwch ddarllen y stori'n llawn yma.


Thursday, March 10, 2016

Noson i ddiolch i Alun Ffred

Os ydych chi yn agos at Arfon nos Wener nesaf - beth fyddai'n well i'w wneud nos Wener  na dod i ddiolch i Alun Ffred am ei gyfraniad tros y tair mlynedd ar ddeg diwethaf?



ON - diolch i'r nifer ohonoch wnaeth gywiro'r camgymeriad bach yn y blogiad - dydd Gwener nesaf mae noson Ffred wrth gwrs, nid nos Wener diwethaf!  

Gan nad oes gen i fynediad i'r blog yn ystod y dydd, doedd hi ddim yn bosibl i mi gywiro'r camgymeriad tan wedi 5.  

Tuesday, March 08, 2016

Sut fedrai hogyn o'r Aman droi allan fel hyn?

Rhag ofn bod rhywun yn rhywle yn y Canolbarth a'r Gorllewin yn ystyried rhoi croes i UKIP fis Mai oherwydd eu bod yn meddwl mai hunaniaeth Gymreig sydd gan y sawl sydd ar frig eu rhestr_ _ _.


Monday, March 07, 2016

Ac wedyn dyna i ni Nathan Gill

Dydi etholwyr Lloegr ddim eisiau Mark Reckless a Neil Hamilton _ _

_ _ felly rydan ni yn eu cael nhw.  

Mae'r drefn etholiadol yn sicrhau y byddan nhw yn cael eu hethol.  Does gan y naill na'r llall ddim mwy o ddiddordeb yn y Cynulliad 'na sydd gen i yng Nghynulliad Llundain neu Gyngor Lerpwl - ac mi fyddan nhw'n ei heglu hi am borfeydd brasach y cyfle cyntaf y byddant yn ei gael.  

Ta waeth - i ddathlu'r achlysur mi ail gyhoeddwn dudalen flaen enwog y Guardian o 1996 wedi i Hamilton golli achos enllib yn erbyn y papur.  

Mae Hamilton yn enwog yn bennaf oherwydd iddo dderbyn taliadau am ofyn cwestiynau seneddol am bres pan oedd yn aelod seneddol Ceidwadol - ac eto daeth ar ben y rhestr yn etholiadau mewnol UKIP yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.  Dweud pob dim sydd angen ei ddweud am aelodau UKIP yn y rhan hwnnw o 'r wlad mae gen i ofn.  


Sunday, March 06, 2016

Dewch i 'Pob Lwc Sian' yn y Felinheli

Araith Adam yn y Gynhadledd


Cefnogaeth o le anisgwyl

Ymddengys nad pobl o fy ochr i sydd yn ystyried Lee Waters yn benodol a Llafur yn gyffredinol o fod yn wrthwynebus i'r Gymraeg.  Daw'r sgwrs fach yma o dudalen Facebook Lee (Chwefror 24). Mae'n ymwneud ag ail gategoreiddio Ysgol Llangennech ger Llanelli yn ysgol Gymraeg.  

Heddyr Gregory ydi gwraig Aelod Cynulliad presenol Llanelli.

Lee Waters:  The debate about Welsh language education in Llangennech is a very sensitive one.
I deplore the language used by a Plaid Cymru Councillor who has accused local parents who support bilingual education of 'insisting' on "denying their children fluency in our magnificent indigenous language".
This is not the way to deal with real concerns, or to safeguard the language.

Heddyr Gregory Ddim yn cefnogi'r Gymraeg unwaith eto, Lee? Pam rhoi perchnogaeth dros yr iaith i'r Blaid? Hyn yn batrwm ers hanner canrif - ers dyddiau Cledwyn Hughes a Jim Griffiths.
Lee Waters Unwaith eto? I want the use of the language to grow, speaking about people with concerns like this is not the way to do it
Heddyr Gregory Llafur ar ei waethaf! Ildio eto i'r Blaid!
Lee Waters Heddyr, you are making no sense. How does it help the future of the Welsh language to use such divisive and inflammatory language?
Heddyr Gregory Making no sense? Sorry, I should have posted in English...
Lee Waters You don't seem to want to address my point
Heddyr Gregory Please stop this anti Welsh sentiment within the Labour party. You're playing into the hands of Plaid Cymru...
Lee Waters Heddyr, you completely misunderstand my point. I am hugely supportive of promoting the language, but it needs to be handled sensitivley. The comments by a Plaid Councillor I was responding to are offensive and risk a back-lash for the language. The concerns need to be responded to respectfully, and accusing me of being anti-Welsh by pointing this out underlines my argument
Heddyr Gregory I didn't acuse you of being anti Welsh, Lee - it was a comment about the Labour party. Plaid do not own the language.
Lee Waters Of course they don't, but these comments by one of their senior Councillors needs calling out

Saturday, March 05, 2016

Llafur - mor wrth Gymraeg ag erioed

Mae blogiad diweddaraf ymgeisydd Llafur yn Llanelli yn un digon diddorol.  Blogiad ydi o yn y bon sy'n egluro pam y dylai pobl bleidleisio iddo fo.  I rhywun sydd wedi arwain y IWA mae'r blogiad yn un arwynebol a rhagweladwy - amrywiaeth bach ar wleidyddiaeth yr anterliwt.  Mae'r Toriaid yn bobl arbennig o ddrwg - ac os byddwch yn pleidleisio i Blaid Cymru bydd yr hen bobl ddrwg 'na yn cael eu hethol.  



Ond ynghanol y rwdlan gwrth resymegol dyma hon yn ymddangos.


Plaid have not made the breakthrough that the SNP has, and research shows that in Wales their obsession with independence and the Welsh language turn-off many voters.

A gadael o'r neilltu'r ffaith bod yna gryn dipyn o gwyno o rai cyfeiriadau nad ydi'r Blaid yn canolbwyntio digon ar annibyniaeth a materion ieithyddol, ac a gadael o'r neilltu'r ffaith nad ydi polau cyfredol yn awgrymu bod yna gefnogaeth eang i annibyniaeth ar hyn o bryd - pa ymchwil sy'n dangos bod gan etholwyr Cymru rhywbeth yn erbyn y Gymraeg?  Oes yna ymchwil felly?  Pwy sydd wedi ei wneud?  'Dydi Lee ddim yn trafferthu dweud wrthym - felly ei air o sydd gennym am y peth.  Beth bynnag am hynny - mae'n amlwg bod Lee yn gwneud defnydd o'r iaith yma i bortreadu gwrthwynebwyr gwleidyddol mewn goleuni negyddol.  

Y pethau bach sydd yn ddadlennol yn aml iawn - ac mae'r esiampl fach yma o ddefnyddio'r iaith fel offeryn gwleidyddol etholiadol yn awgrymu nad ydi agweddau gwrth Gymraeg gwaelodol y Blaid Lafur yng Nghymru wedi newid rhyw lawer.  Beth bynnag am yr ystumio cefnogaeth i'r iaith mae'n cael ei defnyddio i bwrpas portreadu negyddol, mae hyd yn oed 'pencampwr iaith' Llafur -Sion Jones - yn credu bod cymryd rhai o'r camau sydd rhaid wrthynt i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gallu gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg (fel cyflogi pobl sy'n siarad y Gymraeg) yn 'ymylu ar fod yn hiliol', mae'r gweinidogion sy'n gyfrifol am y Gymraeg wedi eistedd ar eu dwylo am bron i bum mlynedd, mae llywodraeth Lafur y Cynulliad yn gwrthod caniatau i'r Comiwsiynydd Iaith fabwysiadu safonau iaith rhy radicalaidd, ac yna'n mynd ati i herio'r safonau glastwreiddiedig pan maent yn eu derbyn.

Dydi Llafur Cymru yn y bon byth yn newid - gwleidyddiaeth yr anterliwt yn cuddio agweddau gwaelodol wrth Gymraeg.

Monday, February 29, 2016

Yr unig blaid unedig?

Rydan ni wedi son eisoes am oblygiadau posibl agosatrwydd refferendwm Ewrop ag etholiad y Cynulliiad.  Heb fynd i ail adrodd y stori, awgrymais bod dau bosibilrwydd:

1). Bod yr etholiad yn cael ei dominyddu'n llwyr gan naratif Prydeinig.  Byddai hynny'n dda i'r pleidiau unoliaethol, ac yn arbennig felly UKIP
2). Bod yr ymgyrch etholiadol yn cael ei dominyddu i'r fath raddau gan yr ymgyrch Ewrop fel nad oes fawr o neb yn sylwi arni, a bod hynny 'n llusgo'r cyfraddau pleidleisio tua'r llawr.  Byddai hynny - mae'n debyg - yn llesol i Blaid Cymru.

Ond o weld y trydariad isod gan AS Aberconwy, Guto Bebb mae rhywbeth arall yn fy nharo.


Mae Guto'n gwbl gywir bod ymddangosiad David Jones (AS Gorllewin Clwyd) gydag UKIP yn rhoi hygrededd i'r blaid wrth Ewropiaidd ymysg Toriaid, ac felly yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd Janet Finch Saunders yn cael ei hailethol.  Ond yr hyn sy'n fwy arwyddocaol ydi'r ffaith ydi bod ymgyrchu yn erbyn yr Yndeb Ewropiaidd yn bwysicach i David Jones nag amddiffyn sedd ei protoge, a bod y Toriaid yn fodlon ffraeo'n gyhoeddus tros y mater.  Rydym wedi clywed ffraeo felly ar lefel gweinidogol tros y dyddiau diwethaf wrth gwrs.  Y gwir ydi bod ffraeo am Ewrop yn rhan  o DNA y Toriaid.  Meddyliwch am y naw degau.  Ychwanegwch at hynny'r ffaith bod tyndra eisies yn bodoli oherwydd y newidiadau arfaethiedig yn y ffiniau etholiadol am gael effaith hynod niweidiol ar y Toriaid yng Nghymru, a bod cystadleuaeth chwyrn am y seddi 'diogel'.  Mae yna bosibilrwydd cryf o ffraeo Toriaidd go iawn yn yr wythnosau sy'n arwain at yr etholiad ym mis Mai.  Dydi etholwyr ddim yn hoff o bleidiau sy'n chwifio eu dillad budur yn gyhoeddus.

A daw hynny a ni at y Blaid Lafur - mae'r blaid honno wedi symud o ddisgyblaeth haearnaidd o dan Tony Blair lle nad oedd neb yn cael dweud fawr ddim i'r eithaf arall lle mae pawb yn cael credu beth maen nhw ei eisiau, dweud beth maen nhw ei eisiau a ffraeo'n gyhoeddus am beth bynnag maen nhw ei eisiau.  Ac wedyn dyna UKIP sydd heb ddewis ymgeiswyr rhanbarthol yng Nghymru eto oherwydd ffraeo mewnol, sydd a'r rhan fwyaf o'u ychydig aelodau etholedig wedi ymddiswyddo, lle mae llythyrau maleisus yn cael eu dosbarthu'n fewnol gan aelodau UKIP am wleidyddion blaenllaw UKIP.

Mae hynny'n gadael y Dib Lems a Phlaid Cymru.  Go brin y bydd y cyntaf o 'r rhain yn ffactor arwyddocaol fis Mai, sy'n gadael y Blaid.  Bydd y Blaid yn ol pob tebyg yn cael ei hun yn y sefyllfa  o fod yr unig blaid arwyddocaol fydd yn wynebu'r etholiad ym mis Mai yn unedig, tra bod pawb arall yn ffraeo ymysg ei gilydd yn gyhoeddus.  Mae'r sefyllfa yna'n anarferol os nad unigryw - ac mae'n sefyllfa sy'n cynnig cyfleoedd i elwa'n etholiadol.


Sunday, February 28, 2016

Gair olaf am y tro ar yr etholiadau Gwyddelig

Mae etholiadau Gweriniaeth Iwerddon wedi gadael y wlad yn rhywle nad yw wedi bod o't blaen.  Mae'r ddwy blaid geidwadol Rhyfel Cartref yn debyg iawn o ran maint gyda FG yn colli sleisen enfawr o'i phleidleisiau ac i raddau llai ei TDs.  Perfformiodd y blaid Rhyfel Cartref arall FF yn dda - yn well na'r disgwyl - yn arbennig felly mewn ardaloedd gwledig.  Perfformiodd Sinn Fein yn well na wnaeth yn 2010 gan ennill seddi ar hyd y wlad - ond ddim cystal a roedd nifer yn disgwyl.  Cafodd Llafur brofiad tebyg i un y Lib Dems yn y DU y llynedd, a gwnaeth amrywiaeth eang o ymgeiswyr a grwpiau annibynnol yn dda iawn.

Mae yna lywodraeth amlwg wedi ymddangos o'r canlyniad cwbl anisgwyl yma - clymblaid FG / FF - gyda chymorth rhai o'r elfennau annibynnol gene pool - pobl sydd a'i gwreiddiau yn y ddwy brif blaid - os oes angen hynny.  Ond 'dydi FG a FF ddim yn debygol o wneud hynny.  Y rheswm am hynny ydi bod y Chwith yn y Weriniaeth yn wasgaredig iawn - gyda Sin Fein a nifer o grwpiau llai - a mwy asgell chwith - am yddfau ei gilydd.  Petai'r ddwy blaid fawr yn clymbleidio SF fyddai'n arwain y yr wrthblaid.  Byddai hynny'n eu darparu efo cyfle i uno'r Chwith Gwyddelig o gwmpas eu baner.  Dewis go iawn i'r etholwyr ydi'r peth diwethaf mae'r prif bleidiau a'r sefydliad Gwyddelig ei eisiau.  Felly maen nhw'n anhebygol o ddilyn y trywydd hwn.


   Y Brodyr Healy-Rae, Danny a Michael - Annibynnol.  Cafodd y ddau eu hethol yn Kerry - gyda Michael yn cael y bleidlais uchaf yn y wladwriaeth.  


Y canlyniad mwyaf tebygol i hyn oll ydi ymgais gan un blaid - gyda chymorth grwp o annibynwyr o bosibl - i lywodraethu fel llywodraeth leiafrifol yn ogystal a chydsyniad distaw bach y brif blaid arall. Rhywbeth tebyg i'r hyn ddigwyddodd yn yr Alban rhwng 2007 a 2011, ond mewn amgylchiadau llawer mwy cymhleth.  Byddai hynny'n gadael y blaid fyddai'n arwain yr wrthblaid mewn lle anodd - byddai'n rhaid iddi ymddwyn fel gwrthblaid tra'n gwneud yn siwr nad yw'n dod a'r llywodraeth i lawr.  Ni fydd hynny'n hawdd i'w gynnal - yn arbennig mewn diwylliant gwleidyddol sydd wedi arfer efo gwrthdaro chwyrn.  

Y canlyniad mwyaf tebygol ydi etholiad arall o fewn ychydig fisoedd mae gen i ofn.


Saturday, February 27, 2016

Pol ar y diwrnod Iwerddon - RTE

Os ydi'r pol yma'n cael ei wireddu heddiw - efo dim ond 45% i'r ddwy brif blaid sefydliadol - FG a FF bydd yn sioc sylweddol i'r system wleidyddol yn yr Iwerddon.  Byddai'n rhaid i arweinyddion FG a Llafur fynd - y prif weinidog a'r dirprwy brif weinidog - a Duw a wyr sut y byddai'r llywodraeth nesaf yn edrych.  Mae'n ddigon posibl y byddai yna etholiad arall mewn ychydig fisoedd.

Bydd y cyfryngau Gwyddelig mewn cryn alar hefyd wedi eu hymdrechion mwyfwy hysteraidd i amddiffyn y sefydliad gwleidyddol.

Thursday, February 25, 2016

Mynnu chwarae teg i'r Gogledd



Effaith y newidiadau yn y ffiniau etholiadol ar Gymru

Effaith posibl y newidiadau yn y ffiniau sydd ar y gweill ar gyfer Cymru a gweddill y DU.  

Petai'r bleidlais yr un peth  yn 2020 ag oedd yn 2015 byddai'r Blaid yn colli un sedd yng Nghymru,  y Toriaid pedair a Llafur 6.