Saturday, June 29, 2013

Llongyfarchiadau _ _ _

_ _ _ i Sian a Hywel ar gael eu dewis i sefyll tros y Blaid yn etholiadau San Steffan a'r Cynulliad. Edrych ymlaen i ganfasio efo'r ddau.

Oes gan y Bib embargo ar newyddion drwg i Lafur?

Mi ddreifiais o Gaernarfon i Wrecsam ac yna i Gaerdydd ddoe gyda Radio Cymru ymlaen ar hyd y ffordd - a gwrandewais ar Post Prynhawn drwyddo.  Doedd yna ddim gair am yr homar o ffrae sydd yn ysgwyd y Blaid Lafur yn Ynys Mon - dim un gair.  Deallaf nad oedd gair ar Newyddion Naw chwaith.  Rwan dydi is etholiadau Cynulliad ddim yn gyffredin, ac mae stitch up mor hollol amrwd a di gywilydd a hon hyd yn oed yn llai cyffredin.  Mae'r ddwy stori wedi dod efo'u gilydd ac wedi cyfuno'n un.  A dydi'r Bib ddim yn gweld stori yno?

Wrth gwrs eu bod nhw yn gweld stori, ond mae'n un nad ydyn nhw am ei hadrodd ar hyn o bryd.  Pam tybed?  Yn wahanol i Gwilym Owen sydd byth a hefyd yn gofyn cwestiwn nad yw yn ei ateb mi gynigiaf un.  Roedd y Blaid Lafur Gymreig yn flin fel tinceriaid oherwydd i Rhun ap Iorwerth roi ei enw ymlaen i sefyll tros y Blaid ym Mon.  Roeddynt yn fwy blin fyth na chafodd y creadur ei daflu allan o'i gyflogaeth mewn cywilydd a gwarth y tro cyntaf i'r syniad o sefyll dros y Blaid yn rhywle neu'i gilydd groesi ei wefysau..  Maent wedi bod yn hefru am y peth ar y We, ac maent wedi rhyddhau y stori i'r blog adain Dde eithafol, Guido Fawkes.  Gallwn fentro nad oedd y tantro yna'n ddim wrth ymyl y tantro mwy swyddogol i lawr y lein ffon o Cathedral Road i Landaf tros y dyddiau diwethaf.

Mi fedrwn fentro hefyd nad oedd yr hogiau yn rhy hapus i wasanaeth newyddion maent yn disgwyl teyrngarwch ganddi redeg y strori am ymddygiad bisar Leighton Andrews yn y Rhondda yn protestio yn erbyn canlyniadau'r polisiau y mae o ei hun wedi eu llunio.  Ac mi fedrwn fentro
bod y myllio a'r hefru i lawr y llinellau ffon hyd yn oed yn fwy ffyrnig a hysteraidd yn sgil hynny.

A dyna'r eglurhad yn ol pob tebyg, mae gan haenen reolaethol y Bib yng Nghymru ofn y Blaid Lafur Gymreig ac mae'r newyddiadurwyr wedi cael gorchymyn i fynd yn ol i'w bocsus a chadw allan o drwbwl am y tro.  Mae'n debyg nad oedd dewis ond adrodd ar ddewis trychinebus a chwbl naif Llafur o ran ymgeisydd ym Mon.  Tybed os byddant yn trafferthu adrodd ar y canlyniad?  Mae hwnnw bellach yn sicr o fod yn drychinebus i Lafur - mae hynny'n amlwg - cyn i'r ymgyrch gychwyn hyd yn oed.

Thursday, June 27, 2013

Rhun ap Iorwerth wedi ei ddewis i sefyll tros y Blaid ym Mon.

Llongyfarchiadau i Rhun.  Pob cydymdeimlad i Heledd ac Ann.  Tri ymgeisydd penigamp.

Rwan mae'r gwaith go iawn yn dechrau.

Yn y cyfamser mae'n ymddangos bod Llafur yn gwneud eu gorau i helpu'r Blaid i fuddugoliaeth ysgubol.  Eu rhestr fer ydi Tal Michael, Julia Dobson, Dan ap Eifion a Paul Penington.  Mae'r olaf yn gynghorydd o Ddinbych, Julia a Dan yn ymgeiswyr aflwyddianus yn yr etholiadau cyngor diweddar a  Tal wrth gwrs yn crwydro'r wlad yn rhoi ei enw ymlaen am pob dim sy'n mynd.

Y sioc ydi nad ydi bos y Blaid Lafur ar yr ynys, John Chorlton ar y rhestr - ac mae'n ymddangos i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud yng Nghaerdydd ac nid ar Ynys Mon.  Mae'n anodd meddwl am ffordd o achosi cymaint o anghytuno mewnol.  Gallai'r bleidlais Lafur fod yr isaf yn yr etholaeth ers cyn cof.  

Nonsens diweddaraf Gwilym Owen yn Golwg

Y golofn bythefnosol mae Golwg yn ei rhoi i Gwilym Owen ladd ar Blaid Cymru sydd gen i heddiw eto mae gen i ofn.  Byrdwn ymdrech yr wythnos yma ydi'r fantais fawr fydd gan Albert Owen tros Blaid Cymru yn is etholiad Mon.

Fel llawer o'r hyn mae Gwilym yn ei sgwennu mae'r damcaniaethu diweddaraf mewn gwagle - wedi ei sgwennu fel petai digwyddiadau diweddar erioed wedi digwydd.  Dyna ydi"r broblem efo gadael i ragfarnau yrru'r hyn yr ydym yn ei 'sgwennu yn hytrach na ffeithiau go iawn.

Rwan dydi Albert ddim yn sefyll wrth gwrs ond doedd Gwilym ddim yn gwybod hynny pan roddodd ei ysgrifbin  ar y paparus.  Ei bwynt oedd y byddai Albert wedi cael llwyddiant mawr oherwydd ei gefnogaeth di amwys i Wylfa B.  Ar y llaw arall mae o dan yr argraff y byddai safbwynt mwy nuanced y Blaid yn amhoblogaidd.  Dydi o ddim - wrth gwrs - yn trafferthu i egluro pam y byddai mater sydd ddim oll i'w wneud efo'r Cynulliad yn cael dylanwad arwyddocaol ar etholiad Cynulliad.

Dydi o ddim yn  egluro chwaith pam - er gwaethaf ei chefnogaeth i Wylfa B  - mai trychineb  etholiadol gafodd Llafur yn yr etholiadau cyngor sir diweddar, tra bod y Blaid wedi profi'r canlyniadau gorau yn ei hanes ar yr ynys.

Hwyrach y caf fod o gymorth iddo.  Ffantasi ydi ei ddamcaniaeth bod cefnogaeth nesaf peth i unfrydol i Wylfa B ar Ynys Mon.  Mae'r farn ar y mater yn amrywio o gyfnogaeth lwyr i wrthwynebiad llwyr, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn rhywle rhwng y ddau begwn.  Yn y cyd destun yna mae safbwynt y Blaid yn fwy effeithiol ac yn nes at y farn gyfansawdd nag ydi un Llafur.  Mae'r Blaid yn derbyn y realiti nad oes gan y Cynulliad na'r Cyngor fawr o ddylanwad ar ddyfodiad Wylfa B, ond mae'n tyngu i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod cymaint a phosibl o'r swyddi a ddaw yn sgil y datblygiad yn cael eu llenwi gan bobl leol.  Mae'r safbwynt yna yn gwneud synwyr i amrediad eang o bobl.  Mae safbwynt Gwilym (a'r Blaid Lafur) o gefnogaeth cibddall a di gwestiwn  i ddatblygiad na allant ddylanwadu ar ei ddyfodiad yn gwneud synwyr i lai o bobl o lawer. 

Wednesday, June 26, 2013

Ynys Mon eto

Dwi'n deall i Ann a Rhun  gael eu derbyn i'r rhestr heddiw - felly mae'n ymddangos mai dewis o dri sy'n wynebu pleidwyr Mon - Ann, Rhun a Heledd.

Tuesday, June 25, 2013

Leighton mewn panig - unwaith eto

Roedd y stori Leighton Andrews yn torri fel roeddwn yn dreifio i'r gwaith y bore 'ma, ac roeddwn yn rhyw feddwl pa agwedd i fynd ar ei ol i bwrpas blogio - mae yna gymaint o bosibiliadau:

  • Y ddeuoliaeth honno o fod eisiau bod yn sefydliadol a gwrth sefydliadol ar yr un pryd sy'n rhan mor greiddiol o enaid y Blaid Lafur Gymreig.
  • Arweinyddiaeth wael ar ran Leighton yn disgwyl i wleidyddion eraill gymryd penderfyniadau amhoblogaidd a wynebu risg gwleidyddol tra'n methu wynebu gwneud hynny ei hun.
  • Y diffyg cydlynedd o fewn llywodraeth Cymru.
  • Y diffyg gonestrwydd ymhlith gwleidyddion Llafur yn gyffredinol - canu un gan yn eu man gwaith ac yn cwbl wahanol ar strydoedd eu hetholaethau.
  • Llongyfarch y Bib (yn anarferol i Flogmenai) am ddal gweinidogion y llywodraeth i gyfrif.
  • Tueddiad Llafur i wneud mor a mynydd o wneud dim byd.
Ond wna i ddim datblygu'r un o'r themau yma.  Y peth mwyaf diddorol ydi pam bod Leighton yn ymddwyn mewn ffordd mor afresymegol - ac yn mentro ei yrfa fel gweinidog wrth wneud hynny?

Awgrymaf mai ar Leanne mae'r bai.  Bydd yn sefyll yn erbyn Leighton yn 2016 ac mae yntau yn teimlo'r pwysau.  Os ydi o mewn panig fel hyn dair blynedd cyn yr etholiad, Duw a wyr mewn sut stad fydd y creadur erbyn dechrau 2016.

Leighton Andrews wedi mynd!

Mae'n ymddangos ei fod yn wir.

Byddwn yn dod yn ol at hon yn hwyrach heno.

Cais bach i ddarllenwyr, cyd flogwyr ac ati

Mae'n un o nodweddion gwleidyddiaeth America bod ochr y sawl sy'n sefyll mewn etholiad yn aml yn gwneud mwy o niwed i ymgeisydd na'i elynion.  Oherwydd bod ymgeiswyr yn gorfod sefyll mewn etholiad agored yn erbyn aelodau eraill o'i blaid ei hun cyn cael cynrychioli ei blaid mewn etholiad go iawn, mae'n cael ei hun yn destun ymysodiadau ymhell, bell cyn yr etholiad hwnnw.

Mae'r naratifau ymysodol sy'n cael eu ffurfio yn yr etholiad cyntaf gan wrthwynebwyr o'r un blaid a'r ymgeisydd yn cael eu codi a'u datblygu fisoedd wedyn gan ei wrthwynebwyr o'r blaid arall.  Roedd y rhan fwyaf o'r naratifau a ddefnyddwyd gan Obama yn erbyn Mitt Romney y llynedd wedi eu defnyddio gan gyd Weriniaethwyr Romney yn yr etholiad am yr ymgeisyddiaeth.

A dyma ydi'r perygl efo blogio fel hyn a chan rhai o'r sylwadau sydd wedi eu gadael ar y blog yma.  Erbyn diwedd yr wythnos  bydd gan y Blaid un ymgeisydd ar gyfer is etholiad Ynys Mon.  Bydd rhaid i holl aelodau a charedigion y Blaid gefnogi hwnnw neu honno.  Mae'n wirion bost mynd ati i greu proffil negyddol ar gyfer rhywun a allai'n hawdd fod yn sefyll mewn etholiad Cynulliad mewn ychydig mwy na mis.

Ar pob cyfri defnyddiwch dudalennau sylwadau'r blog yma neu unrhyw flog arall i ganmol pwy bynnag rydych eisiau iddo / iddi ennill yr ymwybyddiaeth - ond wir Dduw peidiwch a gwneud gwaith gwrthwynebwyr y Blaid trostynt trwy ladd ar y sawl nad ydych am ei weld yn ennill yr ymgeisyddiaeth.

Y datblygiad diweddaraf ar Ynys Mon

Mi soniais neithiwr bod un o'r cynghorwyr newydd a etholwyd yn gynharach eleni yn debygol o sefyll am enwebiaeth Cynulliad Ynys Mon.  Dwi'n deall bod cyfarfod wedi ei gynnal tros y penwythnos i drefnu ymgeisyddiaeth Ann Griffith, Bro Aberffraw.

Monday, June 24, 2013

Ynys Mon - y diweddaraf

Mae sibrydion o gwmpas bod Rhun ap Iorwerth wedi croesi'r glwyd gyntaf sy'n rhaid iddo ei chroesi os yw i fod yn ymgeisydd y Blaid yn is etholiad Cynulliad Ynys Mon.

Cyn iddo gael mynychu'r cyfweliad - sydd rhaid i bawb sydd eisiau bod yn ymgeisydd ei wynebu - roedd rhaid i Bwyllgor Gwaith y Blaid gytuno i hynny.  Dydw i ddim yn eistedd ar y pwyllgor hwnnw, a does gen i ddim mynediad i'r hyn sydd yn mynd ymlaen yno.  Ond mae sibrydion ar led i'r pwyllgor  ddod i benderfyniad unfrydol heno i agor y ffordd iddo symud ymlaen i gyfweliad.

Gan bod yr hystings yn digwydd ddydd Iau, gallwn gymryd y bydd y cyfweliad yn digwydd yn fuan iawn - fory neu ddydd Mercher mae'n debyg.

Mae yna o leiaf dri yn debygol o sefyll, Rhun, Heledd yn ogystal ag un o'r cynghorwyr newydd.  Mae'n debyg bod mwyafrif clir iawn o'r cynghorwyr eraill yn cefnogi ymgeisyddiaeth Rhun.


Gwleidyddiaeth Cymru yn ymddangos ar Guido Fawkes

Wel, wel - mae gwleidyddiaeth Cymru yn derbyn sylw gan y blogiwr Paul Staines.

Mae'r blog Guido Fawkes ymysg blogiau gwleidyddol mwyaf poblogaidd y DU.  Mae hefyd yn flog gwrth sefydliadol, adain dde sydd a diddordeb anymunol mewn sgandalau tabloid. Mae'r stori yn ymosod ar Rhun ap Iorwerth, y Blaid a'r BBC ar yr un pryd.  Mae'n amlwg nad ydi Staines wedi cael y stori ei hun - heb son am y manylion - felly pwy sydd wedi ei hanfon ato.  Pwy tybed?

Wel, gofynwch i chi'ch hun - pwy sydd yn flin uffernol efo Rhun, Y Blaid a BBC Cymru ar hyn o bryd?  Pwy sydd efo hanes hir o ddefnyddio'r We i bwrpas pardduo gwleidyddol?

Mae cyfleustra yn arwain at gyfeillgarwch go ryfedd weithiau.


Sunday, June 23, 2013

Gwleidyddion Llafur sydd wedi gweithio yn y cyfryngau

Owen Smith  (Bib)
Chris Bryant (Bib)
Edwina Hart (Cyngor Darlledu Cymru)
Ann Clwyd (Bib)

Teimlwch yn rhydd i gyfeirio at fwy yn y dudalen sylwadau.

Y Blaid Lafur Gymreig ac ymgeisyddiaeth Rhun ap Iorwerth

Mae sylwadau Ifan Morgan Jones ynglyn ag ymateb hysteraidd rhai aelodau o'r Blaid Lafur i ymgeisyddiaeth Rhun ap Iorwerth yn gwbl gywir.  Mae'n gywir hefyd i dynnu sylw at ymateb ymddangosiadol boncyrs gan Alun Davies (Blaenau Gwent) i drydar gen i ynglyn a'r mater.

Because he's been interviewing me recently &; this blows away his personal & the BBC's credibility.

Fel sy'n digwydd mor aml, mae rhywbeth sy'n cael ei ddweud neu'i 'sgwennu yng ngwres y funud yn llawer mwy dadlennol na rhywbeth a ddywedir neu a ysgrifennir wedi pwyllo.  Yr hyn sy'n dod i'r amlwg yma ydi'r diffyg goddefgarwch a thueddiadau unbeniaethol rhai yn y Blaid Lafur Gymreig.

Fel rhywun sydd a greddf mwy democrataidd na'r un sydd gan Alun hwyrach y bydd yn maddau i mi am gynnig gwers fach syml ynglyn a democratiaeth sylfaenol iddo.

Dydi bod a barn wleidyddol wahanol i un Alun Davies ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi bod ag uchelgais wleidyddol ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi holi Alun Davies tra'n dal barn wleidyddol wahanol iddo ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi cyflogi pobl sydd a barn wleidyddol wahanol i farn Alun Davies ddim yn dryllio hygrededd y BBC.

Mae'r hen gyfaill David Taylor wedi mynd ymhellach hyd yn oed - mae'n gweld cynllwyn cenedlaetholgar yn erbyn y Blaid Lafur gan y Bib -  The unjustified persistent and personal criticisms of @AlunDaviesAM over farming and weather in North Wales makes a bit more sense now

Oes rhywun yn gwybod beth ydi'r gair Cymraeg am delusional?

Rhun ap Iorwerth yn sefyll - swyddogol

Dwi ddim adref, a fedra i ddim cynnig linc - ond mae Rhun ap Iorwerth wedi cyhoeddi ei fod yn ceisio am enwebiad y Blaid yn Ynys Mon o fewn yr awr diwethaf.  Mae dau yn y ras hyd yn hyn felly - Heledd a Rhun.

Gyda llaw mae'r Llafurwyr ar trydar - David Taylor a Alun Davies wedi ypsetio braidd.  Bechod.

Ynys Mon - y dyfalu diweddaraf

Mae'n werth cael cip ar gyfri trydar Y Cynghorydd Carwyn Jones am wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf  o Ynys Mon - @CarwynJones22.  

  Rydym eisoes yn gwybod bod Heledd yn bwriadu rhoi ei henw ymlaen, ac yn ol Carwyn fydd o ddim yn rhoi ei enw ymlaen y tro hwn.  Mae o'n dweud fodd bynnag y bydd enw arall yn dod i'r amlwg fory.  Dydi o ddim yn dweud pwy - ond mae'n debygol bod yr enw yn un adnabyddus - Rhun ap Iorwerth.

Saturday, June 22, 2013

Cyfle unigryw i'r Blaid yn 2015

Felly mae Ed Milliband yn cadarnhau'r hyn oedd yn amlwg ers i Ed Balls ddweud y bydd Llafur yn cadw at gynlluniau gwariant George Osborne os byddant yn ennill yr etholiad San Steffan nesaf - ni fyddant yn benthyg mwy o arian er mwyn dad wneud toriadau'r llywodraeth sydd ohoni.  Maent felly yn derbyn dadansoddiad y Toriaid mai'r hyn sydd angen ei wneud i ddod a'r amgylchiadau economaidd anodd presenol i ben ydi toriant mewn gwariant cyhoeddus.

Rwan ar un olwg mae dadlau mai peidio a benthyg mwy ydi'r ffordd orau i fynd i'r afael ag argyfwng sydd wedi ei sylfaenu i raddau helaeth ar or fenthyg yn gwneud synnwyr.  Ond mae dadl arall hefyd - ac mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn tueddu i gefnogi honno.

Mae'r ddamcaniaeth Tori / Llafur / Lib Dem bod torri'r sector cyhoeddus am roi hwb i'r economi ehangach wedi ei phrofi am flynyddoedd bellach - ac wedi methu yn llwyr a chreu unrhyw dwf economaidd gwerth son amdano.  Mae'r llwybr mae Balls a Milliband mor awyddus i'w gerdded efo'r Toriaid a'r Lib wedi methu ac wedi methu yn llwyr i gael yr economi yn symud.

Y ddadl arall ydi y gallai cynyddu gwariant cyhoeddus yn y byr dymor gael yr economi yn symud a byddai torri ar fenthyg yn y dyfodol - pan mae'r economi yn tyfu - fod yn fwy effeithiol a llai poenus i bobl gyffredin na cheisio gwneud hynny pan mae'r economi yn llonydd neu'n crebachu.

Ag edrych y tu hwnt i'r DU mae pleidiau sydd y tu hwnt i'r consensws mai gwariant cyhoeddus ydi sail y wasgfa economaidd wedi gweld eu cefnogaeth yn cynyddu yn sylweddol tros y blynyddoedd diwethaf.  Mae hyn yn wir o Wlad Groeg i'r Iwerddon.

Mae'r sefyllfa yma yn rhoi cyfle i'r Blaid - yn arbennig felly yng nghyd destun etholiad San Steffan 2015.  Mae ganddi'r cyfle hynod anarferol feddiannu tir etholiadol poblogaidd, ar ei phen ei hun reit wrth galon yr hyn sy'n penderfynu canlyniadau etholiadau cyffredinol.  Mae etholiadau cyffredinol yn cael eu penderfynu gan ystyriaethau tymor byr carfannau o etholwyr ynglyn a sut orau i amddiffyn eu safonau byw eu hunain.

Dydi Plaid Cymru ddim yn gorfod poeni ynglyn a barn llond dwrn o bobl sydd a buddiannau personol wedi eu clymu i'r status quo ym milltir sgwar Dinas Llundain.  Dydi Milliband ddim mewn sefyllfa i'w pechu.  Mae'n gyfle gwych i lwyddo yn etholiad 2015.  Y ffordd o baratoi ar gyfer yr etholiad hwnnw ydi trwy baratoi naratif effeithiol sy'n gwrthwynebu'r consensws toriadau, mynd a'r naratif hwnnw i mewn i'r flwyddyn etholiad a siarad am ddim arall trwy'r ymgyrch.




Thursday, June 20, 2013

Plaid Carwyn Jones mor awyddus i dorri gwariant cyhoeddus a'r Toriaid

Dylai fod o gryn ddiddordeb i'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad bod Ed Balls wedi dod i'r casgliad bod Llafur - o gael eu hethol - yn bwriadu cadw oddi mewn i gynlluniau gwariant George Osborne.

Bydd unrhyw un sy'n dilyn sesiynau holi'r Prif Weinidog yn y Cynulliad yn gwybod mai un ateb sydd gan Carwyn Jones i pob beirniadaeth o'i weinyddiaeth - sef mai bai'r Toriaid drwg efo'u toriadau ydi pob dim.

Ond erbyn deall gan Ed, petai yn cael ei hun yn 11 Downing Street byddai'n gwario cyn lleied aG Osborne ar wasanaethau cyhoeddus - hy cyn lleied a phosibl.  Felly pan mae Carwyn Jones yn osgoi ateb cwestiynau trwy feio'r Toriaid am eu toriadau mewn gwariant cyhoeddus, cofier bod plaid Carwyn yn Llundain yn cytuno efo'r toriadau hynny.

Is etholiad Ynys Mon

Mae'r ffaith y bydd is etholiad Ynys Mon yn digwydd yn fuan - ar Awst 1 o bosibl - yn rhoi mantais tactegol sylweddol i'r Blaid.  

Mae'r etholiad cyngor sir diweddar wedi dangos yn gwbl glir nad oes gan y pleidiau unoliaethol ar yr ynys fawr o drefniadaeth, fawr o glem pwy ydi eu cefnogwyr a'u cefnogwyr potensial, na fawr o glem am dechnegau canfasio diweddar.  Dydi'r amserlen fer ddim yn rhoi cyfle iddynt ddechrau cael trefn ar bethau, heb son am osod peririant etholiadol effeithiol a chyfoes mewn lle.  

Byddai'r Blaid yn disgwyl ennill beth bynnag - mae'n amser maith ers i un o'r pleidiau unoliaethol ei churo ar Ynys Mon mewn unrhyw etholiad ag eithrio etholiad San Steffan - mae hyn yn cynnwys etholiadau cyngor, Cynulliad ac Ewrop.

O dan yr amgylchiadau hyn dylai'r Blaid ddal y sedd yn hawdd - yr unig beth a allai newid hynny fyddai dewis sobor o anoeth o ymgeisydd - a does yna ddim rheswm o gwbl i boeni y gallai hynny ddigwydd.  

Sunday, June 16, 2013

Ymgeisyddiaeth Arfon ar gyfer etholiadu'r Cynulliad 2016

Dwi'n siwr na fydd y Cynghorydd Dyfrig Jones yn anghytuno ei bod yn beth rhyfedd ei fod o a minnau yn perthyn i'r un Blaid ond yn cael ein hunain yn anghytuno mor aml am cymaint o wahanol bethau.

Dwi yn cytuno serch hynny efo'i ddadansoddiad o'r frwydr am ymgeidyddiaeth y Blaid yn Arfon.  Yn Sian Gwenllian a Heledd Fychan mae gennym ddau ymgeisydd cryf.  Mae Sian serch hynny yn well ymgeisydd i Arfon.  Mae yna bedwar rheswm pam 'dwi o'r farn yma:

  • Mae ganddi gysylltiadau personol ar hyd a lled yr etholaeth - yn wir mae ganddi fwy o gysylltiadau lleol nag unrhyw ymgeisydd diweddar i'r Blaid yn yr ardal.  Mae cysylltiadau lleol yn bwysig yn y Gogledd Orllewin.
  • Mae iddi hanes o fod a'i chlust ar y llawr yn wleidyddol a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd llawr gwlad yn lleol. Mae ymgyrchoedd felly yn ffordd effeithiol o adeiladu cefnogaeth bersonol.
  • Mae ei chefndir newyddiadurol yn ei rhoi mewn lle cryf i fynd i'r afael a phroblem sydd gan y Blaid yn y Gogledd Orllewin.  Dydi ymdriniaeth y wasg a materion gwleidyddol lleol ddim yn gydymdeimladol a'r Blaid - i'r gwrthwyneb.  Mae'r cefndir newyddiadurol yn ei harfogi i geisio newid y naratif negyddol yma - yn ogystal a hyrwyddo ei hymgeisyddiaeth yn y wasg.
  • Mae unrhyw un sydd wedi bod yn ddeilydd portffolio addysg yng Ngwynedd yn ddiweddar efo o leiaf ddwy nodwedd wleidyddol hynod bwysig - croen mor dew ag un eliffant a pharodrwydd i gymryd penderfyniadau anodd.  
Mi fydda i yn hapus i gefnogi Sian ddydd Gwener a dwi'n hapus hefyd i ddymuno'n dda i Heledd yn y dyfodol.  Mi fydd yn aelod cynulliad effeithiol rhyw ddiwrnod - ond mae yn sefyll yn erbyn ymgeisydd mwy addas ar gyfer Arfon y tro hwn.



Wednesday, June 12, 2013

Pwy sy'n siarad y Wyddeleg (a'r Gymraeg) yn ddyddiol?

Digwydd dod ar draws yr adroddiad yma - wel mae'n rhaid i fi wneud rhywbeth efo'r holl amser sbar mae rhywun yn fy swydd i yn ei gael.  Adroddiad i Gyngor Sir Galway ydyw ar dlodi yn y sir.  Mae'r darn dwi wedi ei ddewis fodd bynnag yn canolbwyntio ar y defnydd o'r iaith Wyddeleg.

Mae'r fethedoleg yn ddiddorol i'r graddau mai'r hyn a edrychir arno ydi niferoedd o bobl sy'n defnyddio'r iaith yn ddyddiol yn hytrach na'r niferoedd sy'n gallu ei siarad.  Ymhellach mae'r adroddiad yn cymryd bod iaith yn un gymunedol os ydi hanner trigolion y gymuned honno yn siarad Gwyddeleg pob dydd.   Yr egwyddor sydd y tu cefn i hyn ydi bod amlder defnydd o iaith yn bwysicach na gallu goddefol i'w siarad.  

Mae hyn yn fy nharo yn ffordd synhwyrol o edrych ar bethau.  Os oes arolygon iaith cenedlaethol neu leol yn cael eu cynnal yng Nghymru tros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn awgrymu y byddai mynd ati yn y ffordd yma yn llawer mwy dadlennol na holi unwaith eto pwy sy'n gallu siarad y Gymraeg ac yn lle - mae'r wybodaeth yna eisoes gennym.