Thursday, July 31, 2008

Yr SNP i gael cweir yn etholiadau San Steffan!

Rhag ofn eich bod yn meddwl fy mod yn colli arni, 'dydw i ddim yn credu y caiff yr SNP gweir go iawn - i'r gwrthwyneb - maent yn debygol o wneud yn dda, ac efallai y byddant yn gwneud yn dda iawn.

Ond pe byddwn yn defnyddio rhesymeg David Williamson yn y Western Mail yna gallwn wneud dadl o'r fath. Fel mae fy nghyd Bleidiwr o flogiwr o Gaernarfon Sanddef yn nodi ar ei flog hynod ddarllenadwy,Ordivicius, 'dydi gwefannau fel un Martin Baxter o fawr o gymorth i rhywun sy'n ceisio darogan canlyniadau etholiad y tu allan i Loegr - ac yn arbennig felly yng Nghymru.

Mae dau brif reswm am hyn. Yn gyntaf mae'r wefan wedi ei chynllunio i ddelio gyda threfn tri phlaid, ac yn ail pe byddai'n gallu delio gyda pedair plaid 'does yna ddim data ar gael o Gymru - anaml iawn y bydd y Western Mail ei hun er enghraifft yn comisiynu pol piniwn Cymreig. Bydd y pleidiau gwleidyddol yn comisiynu polau preifat o bryd i'w gilydd - ond cyfyng iawn yw'r cylch sy'n dod i glywed am ganlyniadau'r rheini.

O ganlyniad mae'r gwefannau darogan yn cymryd bod pleidlais y pedwerydd plaid (hy yr SNP neu'r Blaid) yn aros yn static - beth bynnag y newidiadau eraill. Sefyllfa cwbl amhosibl.

Felly o chwarae gyda'r wefan a bwydo rhai o ganlyniadau polau piniwn diweddar mae'r wefan yn darogan y bydd yr SNP yn colli Perth and North Perthshire, Angus, Moray i'r Toriaid a Glasgow East i Lafur. Byddant yn cael eu gadael gyda Banff and Buchan, Dundee East a Na h-Eileanan An Iar yn unig. Hynny yw byddant yn colli mwy na hanner eu cynrychiolaeth.

'Rwan, 'dydi hyn ddim yn bosibl - does yna ddim un sylwebydd yn credu hynny - ac mae eu barn wedi ei seilio ar bolau piniwn (byddant yn cael eu cynnal yn yr Alban o bryd i'w gilydd), ar etholiadau Senedd yr Alban ac ar etholiadau lleol diweddar. Mae'n ddigon posibl mai dwblu, ac nid hanneru eu cynrychiolaeth fydd yr SNP.

Mae'r dystiolaeth sydd ar gael - etholiadau'r Cynulliad a'r etholiadau lleol eleni yn awgrymu y byddai'r Blaid hithau yn debygol o ddwblu ei chynrychiolaeth, gan gynyddu o 3 i 5 neu 6.

Mae'r hyn sy'n debygol o ddigwydd yn yr etholiad cyffredinol nesaf am amrywio'n sylweddol ym mhedair gwlad y DU. Dwi ddim am fynd ar ol Gogledd Iwerddon y tro hwn (ond bydd yn ddiddorol). Yn Lloegr bydd y Toriaid yn ennill tir - a llawer o dir - o ran pleidleisiau a seddi. Bydd Llafur yn colli tir yn sylweddol ac yn cael ei gwthio'n ol i rannau mwyaf trefol a diwydiannol y wlad. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn colli peth tir ac yn colli seddi gwledig i'r Toriaid. Byddant yn gwneud iawn am rhywfaint o'r colledion hyn yn y dinasoedd a'r trefi mawrion ar draul Llafur.

Yn yr Alban bydd Llafur eto'n colli tir yn sylweddol, ac yn cael ei chwalu i pob pwrpas yn Nwyrain y wlad. Bydd Y Toriaid yn ennill peth tir, yn arbennig yn Ne'r wlad. Bydd yr SNP yn symud ymlaen yn sylweddol ac yn dod yn agos at y bleidlais Lafur neu efallai yn ei goddiweddyd. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn colli cryn dipyn o bleidleisiau a seddi.

Bydd sefyllfa Cymru rhywle rhwng yr Alban a Lloegr. Bydd Llafur yn colli pleidleisiau a seddi. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn symud yn ol yn sylweddol hefyd - gan golli eu tair sedd yn y canolbarth, bydd Plaid Cymru a'r Blaid Geidwadol yn symud ymlaen, gyda'r Blaid Geidwadol yn ennill mwy o dir na Phlaid Cymru. Gwnaeth y Blaid yn well na'r Toriaid yn yr etholiadau lleol a'r etholiadau lleol diweddar, ond bydd yn Toriaid yn ddi eithriad yn perfformio'n gryfach na'r Blaid mewn etholiadau cyffredinol - a bydd y gwynt yn eu hwyliau y tro hwn. Byddant yn ennill 7 - 9 sedd.

Felly mae peth gwirionedd yn namcaniaeth Williamson, ond mae'n idiotaidd seilio stori papur newydd am Gymru ar fframwaith darogan canlyniadau etholiadol nad yw wedi ei gynllunio ar gyfer Cymru, ac nad yw'n gweithio mewn cyd destun Cymreig. Mae hefyd yn dystiolaeth o'r safonau difrifol o isel mewn sylwebaeth gwleidyddol yn y wasg Saesneg ei hiaith yng Nghymru.

ON - pol piniwn gwirioneddol ofnadwy arall i Lafur ar y ffordd 'fory.

Wednesday, July 30, 2008

Brown i golli'r arweinyddiaeth?

A barnu o erthygl David Miliband ac ymateb gwirioneddol ffyrnig criw Brown, ymddengys bod y ddwy ochr yn sylweddoli y bydd etholiad am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn yr hydref.

'Dwi'n rhagweld y bydd Brown yn colli'r arweinyddiaeth i naill ai Miliband neu Harrman, ac os bydd cymaint ag arlliw o fis mel i'r arweinydd / arweinyddes newydd y bydd etholiad yn y gwanwyn - ym mis Ebrill efallai. Go brin y bydd camgymeriad Brown yn ystod yr hydref diwethaf yn cael ei ailadrodd.

Colli o cyn lleied a phosibl fydd yr amcan iddynt yn yr etholiad honno. Os bydd mwyafrif y Toriaid yn is na 30 neu 40, bydd Llafur yn teimlo bod ganddynt obaith i ennill yn 2013 - 2014.

'Dwi ddim yn rhagweld y bydd hyn yn bosibl pwy bynnag yr arweinydd ac y bydd y Toriaid yn cael mwyafrif o fwy na chant.

Tuesday, July 29, 2008

Datganoli - ydi'r "bwriad" yn bwysig

Gan nad ydi pobl yn ymateb mor aml a hynny i'r blog yma, mae'n debyg bod cael ymateb cyn hired ag un Alwyn ddoe yn fater o ddathliad - felly wele ymateb Alwyn ap Huw i fy mlog ddoe wedi ei bastio a'i gopio yn ei gyfanrwydd.:

Yn anffodus yr wyt yn tadogi thesis imi nad ydwyf yn cytuno a hi. Nid ydwyf yn honni nad yw datganoli AM arwain at annibyniaeth.

Fy nadl i yw nad BWRIAD datganoli yw arwain at annibyniaeth.

Nid ydwyf yn ymwybodol o unrhyw ymerodraeth yn y byd sydd wedi dweud wrth wlad daeog yr ydym am gynnig cyfnod o ddatganoli i chi er mwyn i chi ymbaratoi at annibyniaeth.

Yn ddi-os bwriad datganoli cenedlaethol yw ceisio arafu neu rwystro ymgyrchoedd dros annibyniaeth. Yn ddi-os ymateb i Blaid Cymru a'r SNP sydd yn gyfrifol am ddatganoli i'r ddwy wlad. Oni bai am lwyddiannau'r ddwy blaid yn etholiadau cyffredinol San Steffan ers 1974, bydda' datganoli ddim yn bodoli yng ngwledydd Prydain. Bwriad datganoli, yn ôl un o fawrion y Blaid Lafur oedd lladd cenedlaetholdeb y ddwy blaid yn stone dead.

I raddau mae Llafur wedi llwyddo efo datganoli yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi rhoi'r gorau i fod yn blaid genedlaethol yma.

Uchelgais Plaid Cymru yw cael refferendwm, os yw'r amgylchiadau'n iawn, rhywbryd. Refferendwm bydd yn rhoi un rhan o bump o bwerau presennol Senedd yr Alban inni am genhedlaeth (25 mlynedd, o leiaf).

Mae datganoli wedi "methu" yn yr Alban, oherwydd bod yr SNP wedi bod yn glir ac yn groyw mae eu huchelgais yw Annibyniaeth, dim mwy dim llai. Hyd yn oed os yw'r SNP yn colli refferendwm annibyniaeth 2010, mae eu hymrwymiad i'r achos eisoes wedi sicrhau bod y tair plaid unoliaethol wedi addo rhagor o bwerau datganoledig i'r wlad.

Pan oeddwn yn undebwr llafur, y wers roedd yr undeb yn rhoi oedd os wyt am godiad cyflog o 3% rhaid bygwth streicio am gynnig llai na 10%.

Wrth werthu tŷ mae'r asiant yn dweud os wyt eisio £150K rhaid rhoi'r tŷ ar y farchnad am £200k.

Os wyt, wir yr, yn credu bod angen cyfnod o ddatganoli i godi Cymru i fod yn wlad ffit ar gyfer annibyniaeth, y ffordd gorau i gael y profiad gorau o ddatganoli yw trwy ymgyrchu yn groch am annibyniaeth lwyr!


Os 'dwi'n deall y ddadl yn llawn, un o broblemau Alwyn gyda datganoli ydi ei ganfyddiad mai'r cymhelliad tros gyflwyno datganoli oedd i atal annibyniaeth. 'Dwi ddim yn anghytuno o reidrwydd efo'r sylw - ond 'fedra i ddim gweld bod hynny'n broblem. Ceisiaf egluro.

Mae'n dra phosibl bod rhai o'r bobl oedd o blaid datganoli i Gymru yn ei weld fel mesur i atal ymreolaeth pellach. Yn bersonol 'dwi'n meddwl mai'r hyn a symudodd llawer yn y Blaid Lafur tuag at ddatganoli oedd diymaathdrefedd y mudiadau Llafur yng Nghymru ar Alban tros ddeunaw mlynedd o lywodraeth Doriaidd. Wedi'r cwbl, prin bod y mudiadau cenedlaethol yn y ddwy wlad yn cyrraedd rhyw fath o ben llanw ym 1997 - gweddol wan oedd perfformiad yr SNP a Phlaid Cymru fel ei gilydd.

Serch hynny, yn ddi amau roedd rhai o'r sawl a gefnogodd datganoli yn ei weld fel digwyddiad, chwedl Ron Davies - tra bod eraill yn ei weld fel proses - eto chwedl Ron Davies. Roedd rhai o'r proseswyr yn gweld y setliad datganoli fel cam tuag at ddatganoli pellach, tra bod eraill - fel fi - yn ei weld fel cam tuag at annibyniaeth.

Ar ochr arall y ddadl, mae'n debyg gen i bod y rhan fwyaf o'r sawl oedd yn erbyn datganoli yn gwneud hynny am eu bod yn ei weld fel cam cyntaf tuag at lwybr llithrig fyddai yn y diwedd yn arwain at dorri'r Deyrnas Unedig.

Yn fy marn i mae'r rhai ohonom oedd yn gweld datganoli fel cam tuag at annibyniaeth wedi cael ein profi'n gywir - yng Nghymru ac yn yr Alban. Mae'r ddau fudiad cenedlaethol yn llawer, llawer cryfach heddiw nag oeddynt yn 1997, mae'r ymdeimlad o genedligrwydd yn gryfach yn y ddwy wlad, ac mae senedd Cymru o leiaf wedi ennill mwy o bwerau. Hynny yw mae'r tirwedd gwleidyddol wedi ei drawsnewid ers 97 i'r graddau bod y Blaid Lafur - y prif lestair i annibyniaeth y ddwy wlad yn wanach heddiw nag y bu ers degawd cyntaf y ganrif ddiwethaf. Datganoli sy'n gyfrifol am hynny i raddau helaeth.

Wedi dweud hynny 'dwi'n derbyn ensyniad Alwyn nad ydi'r Blaid wedi diffinio ei hamcanion na'i strategaeth yn ddigon clir yn y maes cyfansoddiadol. Mae rhesymeg datganoli yn ein harwain at fwy o ymreolaeth - ond mae'r Blaid wedi methu gosod agenda glir hyd yn hyn. I'r graddau yna o leiaf mae Alwyn a minnau yn gytun.

Monday, July 28, 2008

Sut i ddod dros y Catch 22 sy'n ei gwneud yn anodd i Gymru ennill ei lle ymhlith cenhedloedd y Byd

Yn yn o'i flogiau diddorol a gwreiddiol (ac opinionated beth bynnag ydi'r gair Cymraeg am hynny) mae mae'r Hen Rech Flin neu Alwyn ap Huw i'r sawl sydd yn ei adnabod yn canmol y cyfraniad hwn ym mlog y Pwllmelyn Tangent.

Mae Alwyn yn hoff o'r cyfraniad oherwydd ei fod yn cytuno efo'r thesis canolog - sef nad yw datganoli am arwain at annibyniaeth. Tra'n derbyn rhan o feirniadaeth Edward ap Sion, (awdur y blog) 'dwi'n weddol argyhoeddiedig mai esblygiad yn y broses ddatganoli ydi'r ffordd fwyaf effeithiol a thebygol i greu amgylchiadau lle gall Cymru ennill annibyniaeth. Ceisiaf egluro pam.

Pan fydd gwlad yn ennill annibyniaeth, bydd yn digwydd mewn un o ddwy ffordd fel rheol. Gall symud i fod yn annibynnol o gyflwr o fod yn ddarostynedig yn syth bin, neu gall ennill annibyniaeth tros amser. Y dull cyntaf ddaeth a rhyddid i rhai o wledydd y cyn ymerodraeth Brydeinig. Yr ail ddull ddaeth a rhyddid i rai eraill - Awstralia, Seland Newydd A Chanada er enghraifft.

Mae'r ail ddull yn fwy cyffredin na fyddai dyn yn meddwl - er i Unol Daleithiau'r America orfod ymladd am eu rhyddid, sefydlu senedd ddatganoledig oedd y ffactor a roddodd y ffocws cenedlaethol a wnaeth y rhyfel gwrth Brydeinig yn bosibl. Hyd yn oed yn achos ein cymydog agosaf - Iwerddon er bod dyn yn meddwl am annibyniaeth yn cael ei ennill mewn cyfnod byr, gwaedlyd, mae'r gwirionedd ychydig yn fwy cymhleth. Er i De'r Iwerddon ennill 'annibyniaeth' o ganlyniad i drafodaethau yn dilyn rhyfel ffyrnig ym 1922, ni sefydlwyd y Weriniaeth hyd dyfodiad llywodraeth rhyng bleidiol y trydydd Dail ar ddeg ym 1948. Hyd yn oed wedi hynny roedd degawdau i fynd rhagddynt cyn i'r bunt Wyddelig gael ei gwahanu oddi wrth yr un Brydeinig.

Ceir sawl dadl pam nad yw'n bosibl i Gymru ennill ei hannibyniaeth mewn un cam - diffyg sefydliadau cenedlaethol, rhaniadau mewnol mewn cymdeithas yng Nghymru, diffyg ymdeimlad sifil Cymreig, diffyg cyfundrefn gyfreithiol annibynnol, ansawdd isel y gwasanaeth sifil yng Nghymru ac ati.

A bod yn onest, 'dwi ddim yn meddwl bod rhyw arwyddocad mawr i'r uchod. Pe bai'r sefyllfa'n codi byddai pethau'n addasu i gyfarfod a gofynion y sefyllfa newydd - felly mae pethau'n gweithio.

Serch hynny mae problem mwy arwyddocaol - ac un ariannol ydi honno. Oddi tan y drefn bresennol mae Cymru'n tan berfformio'n economaidd yn gyson - wel yn ddi eithriad. O ganlyniad i hyn, ac o ganlyniad i fformiwla Barnett mae gwariant cyhoeddus yn gymharol uchel yng Nghymru. Rhestraf gwariant cyhoeddus y pen o'r boblogaeth isod:

* Lloegr £7,121
* Yr Alban £8,623
* Cymru £8,139
* Gogledd Iwerddon £9,385

Mewn geiriau eraill mae mil mwy yn cael ei wario y pen yng Nghymru nag yn Lloegr - dyna sut y gallwn dalu am glwbiau brecwast i ysgolion, teithiau bws am ddim i bensiynwyr, presgripsiwns rhad ac am ddim ac ati - pethau nad ydynt ar gael yn Lloegr. Byddai newid mawr yn statws cyfansoddiadol Cymru yn arwain at ddiddymu'r gwariant cyhoeddus ychwanegol - colli gwasanaethau, colli swyddi cyhoeddus - rhywbeth a fyddai yn ei dro yn arwain at fwy o dlodi.

Yn arwynebol o leiaf mae'r rhesymau tros dlodi cymharol y rhan fwyaf o Gymru yn amrywiol ac yn gymhleth - ond mae'r rheswm gwaelodol ym marn awdur y blog hwn yn gwbl syml - y ffaith bod y penderfyniadau mawr economaidd yn cael eu gwneud y tu allan i'r wlad gan gynrychiolwyr trigolion gwlad arall.

O ganlyniad mae ein cyfraddau llog ni - gwlad sydd heb ddatblygu'n economaidd - yn union yr un peth a rhai De Ddwyrain Lloegr - rhanbarth sy'n hynod ddatblygiedig. Mae ein trethi corfforiaethol ni - gwlad sydd ymhell o ganolfanau poblogaeth a marchnadoedd - yn union yr un peth a'r rhanbarthau sy'n cynnal y marchnadoedd hynny.

Mae gen i frith gof i Guto Bebb ddweud wrthyf yn ystod rhyw ddadl neu'i gilydd ar faes e ei bod yn anghyfrifol hyd yn oed i feddwl (ia meddwl) am annibyniaeth oherwydd y rheswm hwn. Gellid disgwyl yr un math o beth gan y pleidiau unoliaethol petai'r mater byth yn mynd i refferendwm:

Pa ysgolion ydych am gael?
Pa ysbytai ydych am gau?
Pa wasanaethau ydych am eu torri?
Pa swyddi ydych am eu dileu?

Neu i'w roi mewn ffordd arall byddai cael Ia fel ateb mewn refferendwm ar annibyniaeth yn ymylu ar fod yn amhosibl.

I edrych ar y peth mewn ffordd arall mae Cymru'n wynebu amgylchiadau Catch 22 chwedl y Sais (neu'n hytrach yr Americanwr). Mae Cymru'n tan berfformio oherwydd ei bod yn rhan o'r DU, ac o ganlyniad mae Cymru'n elwa yn nhermau gwariant cyhoeddus. Byddai gadael y DU yn golygu llai o wariant cyhoeddus ac o ganlyniad mwy o dlodi.

Mae ffordd allan o pob Catch 22 wrth gwrs, ac mae ffordd allan o hon - ond nid galw am annibyniaeth rwan hyn ydi'r ffordd hwnnw.

Mae honiadau ar y We, ac yn y cyfryngau prif ffrwd erbyn hyn bod David Cameron ac Alex Salmond wedi dod i gytundeb - bod yr SNP yn gollwng eu galwad am annibyniaeth llwyr am y tro, ond bod plaid David yn caniatau i'r Alban gael ymreolaeth llawn tros pob mater ag eithrio materion rhyngwladol a milwrol. Yn hanfodol - yn ganolog - byddai gan lywodraeth yr Alban reolaeth tros faterion ariannol gan gynnwys trethiant.

'Rwan 'dwi ddim yn gwybod os ydi'r uchod yn wir - ac mae'n rhaid cyfaddef bod y Catch 22 yn llai amlwg na'r un yng Nghymru - mae refeniw olew Mor y Gogledd yn cymhlethu'r ddadl. Ond byddai targed tymor byr / canolig o ennill rheolaeth tros faterion ariannol / trethianol yn gwneud synnwyr llwyr yng nghyd destun Cymru.

Byddai lleihau'r raddfa trethiant - yn arbennig felly trethiant corfforiaethol yn rhoi'r cyfle i Gymru gau - a dileu'r gwahaniaeth cyfoeth rhwngom ni a Lloegr. Roedd dilyn y math yma o drywydd wrth wraidd y trawsnewidiad llwyr yn economi Gweriniaeth Iwerddon yn ystod y degawd a hanner diwethaf.

Petai Cymru mor gyfoethog - neu'n fwy cyfoethog na Lloegr, ni fyddai yna fawr o ddadl yn erbyn annibyniaeth llawn ar ol - byddai'n dilyn yn naturiol, a byddai'n dilyn yn gyflym.

Fel y dywedais ar gychwyn y llith hwn 'dwi'n derbyn rhan o feirniadaeth Pwllmelyn Tangent - sef nad yw'r Blaid gyda strategaeth i wireddu annibyniaeth, na hyd yn oed ymreolaeth.

Dylai'r Blaid ddadlau - a dadlau hyd at syrffed y dylai Cymru fod yn gyfrifol am ei economi a'i materion trethianol ac ariannol ei hun. Bydd pob peth arall yn dilyn o hynny.

Saturday, July 26, 2008

Pam bod yr SNP yn llwyddo i'r fath raddau?



Mae'r SNP yn hynod boblogaidd ar hyn o bryd - mae mwy na chanlyniad is etholiad Glasgow East yn a'r ffaith eu bod mewn llywodraeth leafrifol i awgrymu hynny. Mae'r polau piniwn yn cadarnhau'r canfyddiad, gyda'r SNP ymhell ar y blaen ar lefel Holyrood, ac ar y blaen hefyd ar lefel San Steffan.



Byddwn yn dadlau bod pum piler i'r poblogrwydd hwn.

(1) Llwyddiant (ac felly poblogrwydd) llywodraeth leiafrifol yr SNP yn Holyrood.

(2) Methiant, (ac felly amhoblogrwydd) llywodraeth Llafur yn San Steffan.

(3) Y tirwedd gwleidyddol newydd sydd wedi ei greu yn yr Alban yn sgil datganoli - tiredd sydd wedi caniatau i'r ddadl tros fwy o ddatganoli ac yn wir annibyniaeth gymryd canol y llwyfan gwleidyddol.

(4) Ansawdd uchel arweinyddiaeth yr SNP.

(5) Gwendidau trefniadol y pleidiau Prydeinig - yn arbennig felly Llafur.

Er ein bod yn gymharol boblogaidd ar hyn o bryd, gallai'r pum piler yma fod yn sail i boblogrwydd tebyg i'r Blaid - ond dydyn nhw i gyd ddim cweit yn eu lle eto.

Mwy maes o law.

Thursday, July 24, 2008

Canlyniad yr is etholiad pwysig

Ahem - is etholiad Cyngor Tref Caernarfon, Ward Menai dwi'n feddwl wrth gwrs:

Alun Roberts (Plaid) 485
Mair Williams (Annibynnol) 184

Y Blaid Geidwadol i fwyta'r UUP?

Ymddengys bod y Blaid Geidwadol yn bwriadu cydweithredu efo'r UUP - un o bleidiau Gogledd Iwerddon. Y bwriad mae'n debyg ydi creu un blaid yn y pen draw gyda'r UUP yn diflannu a'r Ceidwadwyr yn cymryd eu lle yng Ngogledd Iwerddon.

Mae trefniant o'r fath yn gwneud synwyr i'r UUP, ac mae'n ail godi hen gyfeillgarwch gwleidyddol. Y Conservative & Unionist Party oedd enw swyddogol y Toriaid hyd yn gymharol ddiweddar. Tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae'r UUP wedi cwympo o fod yn brif blaid y dalaith i fod yn bedwerydd o ran pleidlais yn etholiadau Cynulliad 2007. Un aelod seneddol sydd ganddi bellach - yn draddodiadol aelodau o'r UUP oedd y mwyafrif o ddigon o aelodau seneddol y dalaith. Nid yw'n ormod i ddweud bod yr UUP yn wynebu cael eu difa'n etholiadol petai patrymau diweddar yn parhau i ddilyn yr un cwrs. Plaid Doriaidd Prydain ydi eu hachubiaeth.

Arch elynion yr UUP ydi'r DUP - nid y pleidiau cenedlatholgar - a nhw sydd bellach yn dominyddu ochr unoliaethol gwleidyddiaeth y Gogledd. Maent yn gwahanol i'r UUP mewn sawl ffordd - dosbarth gweithiol ydi'r rhan fwyaf o'u cefnogwyr, mae ganddynt adain grefyddol gryf a nid oes ganddynt lawer o ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth gweddill y DU. Er eu bod yn blaid unoliaethol yn swyddogol, maent ar un wedd yn genedlaetholwyr Gogledd Iwerddon mwy nag ydynt yn unoliaethwyr. Yn y gorffennol roedd gan yr UUP adain gref oedd yn credu mewn intigreiddio'n llawn efo'r DU. Polisi'r Blaid Geidwadol ydi cefnogi datganoli yn y Gogledd - ond maent yn sicr o fod a'u golygon mwy at Lundain nag ydi'r UUP.

Gall y trefniant newydd fod yn arwyddocaol. Mae'n hawdd rhagweld tri dewis i etholwyr Gogledd Iwerddon - (a) Pleidiau Cenedlaetholgar sydd eisiau intigreiddio efo'r De. (b) Plaid sydd yn gryf o blaid datganoli. (c) Plaid sydd yn gweld y Gogledd mewn cyd destun Prydain gyfan - ac a fydd o bosibl yn datblygu i fod o blaid intigreiddio efo gweddill y DU. Mewn rhyw ffordd bydd gwleidyddiaeth y Gogledd yn mynd yn fwy tebyg i wleidyiaeth yr Alban - gyda ffrwd sy'n amheus o ddatganoli, ffrwd sydd yn gefnogol i annibyniaeth, a ffrwd sy'n gefnogol i ddatganoli.

Gall yr hollt posibl yma mewn gwleidyddiaeth unoliaethol fod yn arwyddocaol. Tros y deg neu bymtheg mlynedd nesaf bydd y pleidiau unoliaethol yn colli eu mwyafrif etholiadol oherwydd newidiadau mawr sydd ar droed yn nemograffeg y Gogledd. 'Dydi hollt sylfaenol deallusol a gwleidyddol yn y garfan unoliaethol ddim am fod o gymorth i'r achos unoliaethol mewn cyfnod sydd am fod yn anodd iawn iddynt beth bynnag.

Tuesday, July 22, 2008

Is etholiad Cyngor Tref Caernarfon, ward Menai

Ddydd Iau - yr un diwrnod ag is etholiad seneddol Glasgow East, bydd is etholiad arall ychydig fwy lleol i mi beth bynnag - un am sedd ar Gyngor Tref Caernarfon.

Mae is etholiad Glasgow East yn un gwirioneddol arwyddocaol wrth gwrs - pe byddai Llafur yn colli, gallai arwain yn hawdd at ddiwedd gyrfa wleidyddol Gordon Brown. Hwyrach fy mod yn blwyfol, ond mae'r etholiad Menai o lawer mwy o ddiddordeb i mi. Os bydd Alun Roberts, ymgeisydd y Blaid yn curo yr annibynwraig Mair Williams yna bydd gan y Blaid wyth o'r ddwy sedd ar bymtheg ar y cyngor tref. Mae gan y Blaid dair o bump sedd Cyngor Sir y dref hefyd.

Hyd y gwn i dyma fyddai'r sefyllfa cryfaf i'r Blaid yn hanes gwleidyddiaeth tref Caernarfon erioed. Rydym wedi dod ymhell ers y noson etholiad cyffredinol 1997 pan gafodd bocsus etholiad cyffredinol y dref eu gwagio ar fyrddau'r Ganolfan Hamdden a dangos bod Llafur gyda mwyafrif. Roedd cyfnod byr lle'r oedd yn edrych bod Llafur wedi cipio etholaeth Caernarfon - ond wedyn daeth bocsus Nefyn, Trefor, Pwllheli, Aberdaron a gweddill y gorllewin i mewn gyda'r mwyafrifoedd anferth arferol i'r Blaid a daeth diwedd disymwth ar unrhyw ragdybiaeth o fuddugoliaeth i Lafur.

Bellach mae'r rhod wedi troi - yn y dwyrain trefol, ac nid yn y gorllewin gwledig mae cryfder etholiadol y Blaid yng Ngwynedd. Gall pethau newid yn llwyr tros ddegawd mewn gwleidyddiaeth etholiadol.

Monday, July 21, 2008

Bil ffon Ieuan Wyn

Deallaf y bydd datganiad ynglyn ag olynydd i Rhodri Glyn yn cael ei wneud fory.

Deallaf hefyd bod perygl y bydd hyd yn oed Ieuan wyn yn cael trafferth i dalu ei fil ffon nesaf - mae wedi bod yn ffonio'r Eidal sawl gwaith am gyfnodau maith.

Mae Alun Ffred ar ei wyliau yn y wlad honno ar hyn o bryd.

6 rheswm pam y dylid rhoi joban Rhodri Glyn i Ffred

Go brin bod Ieuan Wyn yn darllen blogmenai, ond dyma drio dwyn perswad arno beth bynnag.

(1) Mae Ffred yn siarad Cymraeg. Dydi hi ddim yn bosibl i'r Blaid roi hon i rhywun di Gymraeg.
(2) Mae cefndir cyflogaeth Ffred yn agos at fod yn berffaith ar gyfer y swydd.
(3) Dydi Ffred ddim yn 'smygu.
(4) Ffred ydi'r cyntaf ac nid y diwethaf i fynd adref yn ystod sesiwn ddiota.
(5) Mae Ffred wedi rhedeg corff mawr cyhoeddys yn llwyddianus - Cyngor Gwynedd yn ystod y dyddiau pell yn ol pan oedd y corff hwnnw yn weddol boblogaidd.
(6) Mae gan Ffred y lefelau priodol o siniciaeth (hy uchel iawn) i sicrhau ei fod yn gallu cael rhyw fath o berthynas gyfartal gyda'i weision sifil.

Sunday, July 20, 2008

Defnydd da o arian cyhoeddus?

Yn ol y Mail on Sunday llwyddodd gwraig y cyn Brif Weinidog, Tony Blair i ddwyn perswad ar Wasanaeth Moduro'r Llywodraeth i ganiatau iddi barhau i ddefnyddio ei char swyddogol a'i gyrrwr am saith mis wedi i'w gwr beidio a bod yn Brif Weinidog. Mae Mrs Blair yn ddynas hynod o gyfoethog wrth gwrs. Ymddengys i hyn oll gostio £25,000 i'r coffrau cyhoeddus.

Pan wariodd Hywel Williams gyfanswm o £8,930 o bres y cyhoedd yn amhriodol ar hysbyseb yn ystod etholiadau'r Cynulliad y llynedd roedd llawer o wleidyddion Llafur yn uchel iawn eu cloch - Wayne David, Paul Flynn, Alun Davies etc, etc. Er enghraifft roedd yr ymgeisydd Llafur yn Arfon, Martin Eaglestone wedi ypsetio'n ofnadwy.

Gellir bron iawn a theimlo ei boen wrth iddo alaru'r ffasiwn wastraff o arian cyhoeddus yn ei flog -

The nationalists are running scared in Arfon. They know as well as I do that reaction on the doorstep in the area has been extremely positive towards Welsh Labour. "People here want an Assembly Government run by Rhodri Morgan's Welsh Labour, not by Plaid Cymru and the Tories. They do not want Tory Ministers back in charge of the NHS, jobs and schools. "This is a desperate move from Plaid Cymru, terrified of a slump in the polls on May 3. This is a clear misuse of public funds, using taxpayers' money to promote the politics of Plaid Cymru.

Gyda chryn drafferth 'dwi'n osgoi'r demtasiwn i aros efo'r cam ddarllen erchyll ond gogleisiol o'r sefyllfa wleidyddol yn Arfon ar y pryd. Tra'n derbyn nad ydi'r sefyllfaoedd yn union yr un peth byddai'n ddifyr gwybod beth ydi barn Mr Eaglestone, ac o ran hynny Mr Flynn, Mr Davies a Mr David ac ati, ynglyn a'r y trefniant bach hwylys y llwyddodd Mrs Blair i'w darro efo'r awdurdodau.

Glasgow East a chrefydd - y gwir sefyllfa

Bu cryn dipyn o drafodaeth yn y wasg ac ar y We am effaith tebygol yr hollt gwleidyddol ar ganlyniad is etholiad Glasgow East ddydd Iau. Mae'r erthygl eithaf treiddgar hon yn Sunday Independent heddiw yn eithaf nodweddiadol. Mae'r erthygl yn llygaid ei lle bod perthynas agos rhwng patrymau pleidleisio a chefndir crefyddol yn y rhan yma o'r Alban - ac mae'n briodol ystyried hyn oll wrth geisio darogan canlyniad yr etholiad.

Ond ceir camgymeriad eithaf sylfaenol yn yr erthygl, fodd bynnag - mae'n disgrifio Glasgow East fel Catholic constituency. Mae'r Sunday Times a'r Guardian wedi disgrifio'r lle fel overwhelmingly Catholic constituency tros yr wythnosau diwethaf.

'Rwan, etholaeth San Steffan newydd ydi Glasgow East - mae'n cwmpasu tua un etholaeth a hanner yn senedd Holyrood, sef Glasgow Baillieston a rhan o Glasgow Shettleston

Yn ol cyfrifiad 2001 y canran o Babyddion yn Shettleston oedd 34.6%, a'r ganran yn Baillieston oedd 32.8%. Mae 32.5% o'r boblogaeth yn Brotestanaidd yn Shettleston a 40.6% yn Baillieston. Mewn geiriau eraill mae'r hollt yn weddol gyfartal, gydag efallai mwyafrif bach o Brotestaniaid. Mae'r ganran o Babyddion yn uchel - yr uchaf yn yr Alban mae'n debyg - ond nid yw'n fwyafrif.

Mae'n gymharol hawdd deall pam bod y camgymeriad yn cael ei wneud. Cysylltir yr etholaeth gyda Glasgow Celtic ac mae rhannau o'r etholaeth gydag awyrgylch iddynt sy'n ddigon tebyg i ardaloedd dosbarth gweithiol Pabyddol Belfast. Ond y gwir amdani ydi nad Glasgow ydi Belfast. Yno mae'r Pabyddion bellach mewn mwyafrif, ac mae'r boblogaeth wedi ei segrigeiddio bron yn llwyr, gyda llawer o strydoedd a chymdogaethau yn 100% Pabyddol neu Brotestanaidd. 'Dydi Glasgow heb ei rannu yn y ffordd yma - ac nid yw wedi ei rannu felly ers cryn amser.

Mae'n ddisgwyladwy i bapurau tabloid symleiddio pethau er mwyn creu stori syml, ond mae'n siomedig nad ydi'r Guardian, Indie a'r Sunday Times yn trafferthu gwneud eu gwaith ymchwil. Yn yr oes sydd ohoni clic neu ddau ar gyfrifiadur mae'n ei gymryd i wirio pethau.

Wednesday, July 09, 2008

Mae Don yn iawn i boeni

Ymddengys bod y cyfaill Don Touig wedi bod yn dathlu penblwydd Cymru'n Un trwy boeri'r dwmi allan o'r goets.

Mae dyn yn deall yn iawn o lle mae Don yn dod wrth gwrs - mae'n un o ddeinasoriaid gwrth ddatganoli Llafur, ac nid yw'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai caredig i bobl fel fo.

Mae'r Cynulliad wedi hen ennill ei blwyf ac wedi dod yn weddol boblogaidd - cymaint felly nes i'r glymblaid o gwahanol garfannau o wrth ddatganolwyr a ddaeth mor agos at atal datganoli yn ol yn 97 wedi chwalu. Yn wir mae'r Cynulliad wedi ennill mwy o rym - ac mae'n ymddangos bod y broses honno'n mynd rhagddi'n gynt ac yn gynt.

Law yn llaw a hyn mae'r gefnogaeth i Lafur wedi cwympo i lefelau na welwyd tebyg iddynt ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf - ac mae Llafur wedi colli grym ar Gyngor Caerffili - gardd gefn Don ei hun.

Ac yn waeth na'r cwbl, mae'r glymblaid Llafur / Plaid wedi llwyddo i dorri ei chwys ei hun o dan amgylchiadau economaidd digon anodd. Yn wir mae'r hollt rhwng Llafur San Steffan a Llafur Bae Caerdydd wedi ymestyn, ac yn fwyaf sydyn mae'r Blaid Lafur yn y Cynulliad yn edrych yn gymharol 'Wyrdd'.

Mae Don yn iawn i boeni wrth gwrs. Mae Cymru'n Un yn trawsnewid tirwedd gwleidyddol Cymru - ac yn gwneud hynny mewn modd sy'n debygol o amddifadu anifeiliaid gwleidyddol fel Don o'u cynefinoedd naturiol.

Friday, July 04, 2008

Y llywyddiaeth - etholiad di angen

Mae nifer wedi holi pam bod Elfyn Llwyd yn sefyll yn erbyn Dafydd Iwan. Dim ond Elfyn sy'n gwybod i sicrwydd wrth gwrs - ond mi geisiaf fy mymryn barn i ar y pwnc.

Efallai mai'r lle i gychwyn ydi gydag ymarferiad trychinebus yr hen Gyngor Gwynedd ar 'ymgynghori' ynglyn ag ail strwythuro ysgolion cynradd y sir. Fy unig brofiad personol i o'r broses hon oedd mynychu'r cyfarfodydd 'ymgynghori yn nalgylch Ysgol Glan y Mor. Cynhalwyd nifer o gyfarfodydd gyda llywodraethwyr ysgolion, ond byddai'r fformat yr un peth pob tro:

Cam 1: Biwrocrat nad oedd neb ond yr athrawon yn y gynulleidfa yn ei adnabod yn sefyll i egluro, gan ddefnyddio jargon proffesiynol oedd prin yn ddealldadwy i lawer o'i gynulleidfa, pam nad oedd yn gynaladwy i gynnal ysgol annibynnol yn eu pentref nhw.
Cam 2: Llywodraethwyr yn dadlau, weithiau'n ffyrnig, efo'r biwrocrat eu bod am gynnal eu sefydliadau i'r dyfodol.
Cam 3: Cynghorwyr Plaid Cymru yn codi i ddweud eu bod yn cytuno efo'r biwrocratiaid ac nid efo'u hetholwyr.

Byddai'r gynulleidfa yn bennaf yn llywodraethwyr - Cymry Cymraeg parchus sy'n ysgwyddo pob dyletswydd di ddiolch yn eu cymunedau - halen y ddaear ac asgwrn cefn cefnogaeth y Blaid.

Rwan mae'r blog yma wedi dadlau droeon mai prif apel y Blaid yn y Wynedd wledig oedd y ffaith bod yr etholwyr yn ei hystyried yn blaid leol oedd yn amddiffyn buddiannau lleol yn erbyn bygythiadau o'r tu allan.

Os ydi'r canfyddiad hwn yn gywir - a 'dwi mor siwr ag ydwyf o unrhyw beth mewn gwleidyddiaeth ei fod - mae'n anodd dychmygu unrhyw ymarferiad mwy distrywgar i'r Blaid yn etholiadol na'r un a ddisgrifwyd uchod. Ac wedyn - yn y diwedd - anwybyddwyd yr holl broses ymgynghori, ac aethwyd ati i greu cynllun llawer mwy pellgyrhaeddol nag unrhyw beth a drafodwyd yn yr 'ymgynghoriad'.

Mae'n anodd meddwl am unrhyw ffordd mwy effeithiol o ddifa cefnogaeth y Blaid yn rhai o'i chadarnleoedd traddodiadol. Llwyddodd yr 'ymgynghoriad' ail strwythuro i wneud rhywbeth na lwyddodd yr un blaid Brydeinig na'r cyfryngau torfol Seisnig i'w wneud mewn deg mlynedd ar hugain - niweidio'n sylweddol gefnogaeth etholiadol y Blaid yn Ne a Gorllewin Gwynedd. Mi fydda i'n deffro yng nghanol y nos yn fynych yn chwys trostof yn cofio'r ymarferiadau, ac yn cofio ffyrnigrwydd ymateb pobl yr oeddwn i wedi eu hystyried yn genedletholwyr rhonc tuag at y Blaid pan oeddynt yn siarad yn breifat. Ac yn waeth na ffyrnigrwydd mae siom wrth gwrs - siom pobl yn y Blaid oedd y peth mwyaf dirdynol i mi. Cyn yr etholiadau diweddar roedd pob un o saith cynghorydd ardal dalgylch Glan y Mor yn Bleidwyr. Un sydd ar ol heddiw.

Mae Elfyn yn deall hyn yn dda - ac mae'n deall y perygl sydd i'r Blaid ym Meirion Dwyfor (mae Arfon yn fater hollol gwahanol - ond testun blog arall ydi hynny). Ymarferiad sydd yn ceisio ail leoli'r Blaid yn ei thir traddodiadol - ac ail leoli Elfyn cyn belled a phosibl oddi wrth Dafydd Iwan sydd ar waith yma. mae'n ddealladwy - ond yn ddi angen - ac (a benthyg idiom Saesneg) yn methu'r pwynt.

Ond nid dyma'r ffordd o fynd ati. Y ffordd o ad leoli'r Blaid yn ei thirwedd gwleidyddol traddodiadol ydi trwy deilwra polisi cenedlaethol - ac yn bwysicach bolisi lleol. Nid y llywyddiaeth ydi'r mater creiddiol - polisi ydi'r broblem - a polisi ydi'r ateb. Mae arweinyddiaeth newydd y Blaid yng Ngwynedd wedi cymryd camau breision i'r cyfeiriad cywir.

Swydd gyfyng iawn ydi un y llywydd - ysbrydoli aelodau'r Blaid - hynny yw cyfathrebu mewnol mewn cyfrwng sydd ond yn ddealladwy i Bleidwyr. Dyma forte Dafydd. Mae'n dda iawn am apelio at genedlaetholwyr, ac yn wir diffinio cenedlaetholdeb cenedlaetholwyr iddyn nhw eu hunain. Dydi o ddim cystal am lunio polisi sydd ag apel y tu hwnt i'r Blaid - ond nid dyna hyd a lled y swydd.

Dyna pam y byddaf, yn ol pob tebyg yn pleidleisio i Dafydd yn yr etholiad am y llywyddiaeth ('dwi'n siwr bod hyn yn gryn sioc i Dafydd gan nad yw yn ol yr hyn a ddeallaf yn un o edmygwyr y blog hwn).

Mae'r etholiad yn ddi angen, ac yn bygwth tynnu sylw oddi wrth yr hanfodion - osgoi'r broblem ydi newid llywydd.

Sunday, June 29, 2008

Y llywyddiaeth - Gwilym a Guto yn gosod eu stondin

Ymddengys bod etholiad mewnol ar y gweill am lywyddiaeth y Blaid, gydag Elfyn Llwyd yn sefyll yn erbyn y llywydd presenol, Dafydd Iwan.

Mae'r etholiad yn ddiddorol ar sawl cyfrif. Er enghraifft, hyd y gwn i dyma'r etholiad cyntaf oddi mewn i'r Blaid sydd am gael ei hymladd yn rhannol ar y We. Mae Elfyn wedi dechrau blogio ac mae gan Dafydd yntau ei wefan ei hun.

Ymddengys bod hyd yn oed Llais Gwynedd yn cymryd diddordeb, ac mae un o'u cynghorwyr ym Mlaenau Ffestiniog, Gwilym Euros Roberts - gwleidydd mwyaf deallus Cymru os nad y Byd, a'r unig ddisgybl yn Ysgol y Moelwyn gynt oedd yn eillio ei aeliau, yn ein sicrhau nad ydi'r naill na'r llall o unrhyw werth ac yn mynd ymlaen i awgrymu ei fod o ei hun yn 'glyfrach' na'r ddau ohonyn nhw. Sori Gwilym, 'dwi'n rhyw feddwl bod yna ormod o ddwr wedi mynd o dan y ddiarhebol bont i ti fod a siawns realistig o gael y job.

Beth bynnag, 'dwi'n crwydro. Y peth mwyaf diddorol am yr etholiad ydi pam ei bod yn cael ei chynnal yn y lle cyntaf? Swydd digon di ddiolch (a di dal) ydi llywyddiaeth gwirfoddol unrhyw blaid ar y gorau. Os oes yna rhywun arall yn gwneud y joban yn o lew, mae'n anodd ar un ystyr gweld pam y byddai neb arall eisiau cario'r groes yn lle'r deilydd.

Mae digon o ddamcaniaethu wrth gwrs. Mae Guto Bebb (Cath Ddu) ar faes e yn eithaf sicr ei farn ar y mater. Er iddo adael y Blaid rhai blynyddoedd yn ol bellach (yn rhannol o ganlyniad i fethu a chael ei enwebu yn ddarpar ymgeisydd seneddol mewn etholiad mewnol), mae Guto wedi parhau i fod a diddordeb ysol yng ngwleidyddiaeth mewnol y Blaid, a phob tro y bydd yn edrych i'r myrllwch hwnnw bydd yn gweld yr un peth - y drygioni mwyaf mileinig ers cwymp cyn amserol y Trydydd Reich yn ol yn 1945.

Thesis Guto ydi bod Dafydd yn cael ei wneud yn fwch dihangol am gynlluniau trychinebus ail strwythuro ysgolion yr hen Gyngor Gwynedd. Mae hyn braidd yn eironig gan nad ydi Guto erioed wedi gadael i gyfle i sarhau Dafydd ar y We neu yn unrhyw fan arall o ran hynny fynd rhagddo heb fanteisio arno. Mae hyd yn oed yn mynd cyn belled a phriodoli barn ar yr etholiad i bobl sydd heb fynegi barn ar y pwnc megis Dyfed Edwards. Mae'r ffaith bod Guto yn gwybod beth yw barn gwahanol Bleidwyr am faterion etholiadol yn well na maent yn gwybod eu hunain yn profi tu hwnt i bob amheuaeth ei ansawdd a'i alluoedd telepathig, ac yn bwasicach mae'n dangos cymaint o gamgymeriad oedd peidio ei ethol i'r barchus arswydus swydd yr holl flynyddoedd hynny yn ol. Wedi dweud hyn oll, 'dwi'n ofni bod gormod o ddwr wedi llifo o dan y bont yma hefyd - ac na fydd Guto chwaith, er gwaethaf ei ragoriaethau a'i alluoedd goruwch naturiol byth yn llywydd y Blaid.

Ceir wrth gwrs ddamcaniaethau eraill - megis un Ceredig. Ymddengys bod Ceredig yn cytuno gyda Betsan Powys mai achos sydd yma o adain broffesiynol y Blaid wedi cael llond bol ar yr adain wleidyddol yn ymyryd. Mae'r rhan lle mae'n defnyddio'r ddadl nad ydi'r ail strwythuro yn ffactor oherwydd (yn rhannol) nad DI oedd awdur y ddogfen yn ogleisiol o ddi niwed, ac yn bygwth dod a'r gwaetha allan ynddof a'm cael i wneud hwyl am ben cyd Bleidiwr. 'Dwi'n rhoi'r temtasiwm o'r neilltu 'rwan hyn.

Beth bynnag am yr holl ddamcaniaethu a'r ymdrechion gan Gwilym a Guto i roi eu hunain yn y ffram am y job, dwi'n gwybod yn iawn pam bod cystadleuaeth am y llywyddiaeth ar yr arlwy a phwy sy'n mynd i ennill, a phwy ddylai ennill - ond bydd rhaid i chi gyfeillion ddisgwyl tan y tro nesaf 'dwi'n blogio i ddarganfod yr atebion i'r materion pwysig hynny.

Friday, June 27, 2008

A dyna i ni broblem bach arall gyda Mr Eaglestone

Anaml y bydd rhywun yn cynhyrchu blog i ymateb i un sy'n ymddangos ar flogmenai (bydd yn digwydd weithiau, ond ddim yn aml). Ond dyna a wnaeth Mr Eaglestone yma y diwrnod o'r blaen.

Ymateb oedd Martin i'r blog hwn. Roedd Martin wedi ypsetio ychydig yn fwy gyda'r blog hwn gan Ordivicius.

Rwan, mae'n weddol amlwg bod Martin yn cam gynrychioli fy mlog - ond mae hynny'n ddisgwyladwy - blog gwleidyddol sy'n ceisio hyrwyddo ymdrechion Martin i gael ei ethol ar rhywbeth - unrhyw beth dan haul ydi'r ymdrech wedi'r cwbl.

Mae hyn oll yn ddigon teg - ond yr hyn dwi'n ei gael yn chwithyg braidd ydi 'polisi' cymedroli Martin. Mae rhai blogwyr nad ydynt yn caniatau sylwadau - mae hynny'n ddigon teg - 'dydi'r ffaith bod dyn yn credu bod ganddo rhywbeth i'w ddweud ddim yn golygu ei fod eisiau dadl am yr hyn mae wedi ei ddweud.

Yna ceir blogwyr eraill sy'n caniatau pob sylw. Mae hynny'n well - mae'n ffordd o hyrwyddo ymgom gwleidyddol.

Ac wedyn ceir blogwyr fel Martin sy'n cymedroli - hynny yw yn edrych ar gyfraniadau cyn penderfynu os i'w cyhoeddi neu beidio. 'Dwi'n deall pam bod Martin wedi gwneud hyn - ymddengys ei fod yn cael cyfraniadau sarhaus o bryd i'w gilydd.

Ond mae Martin yn cymedroli gan ddefnyddio llinyn mesur llawer ehangach na hynny. Ni fydd yn caniatau i mi gyfranu yn aml iawn - er nad ydw i erioed wedi ei sarhau mewn unrhyw ffordd.

Er enghraifft, ychwanegais bwt at y blog a sonwyd amdano uchod yn egluro yn fras iawn ddiffygion strategaeth Vote Plaid, Get Tory
mewn hinsawdd lle mae Llafur yn llawer llai poblogaidd na'r Toriaid (ac a barnu oddi wrth is etholiad Henley, maent hefyd yn llai poblogaidd na'r BNP a'r Blaid Werdd mewn rhai llefydd). Ni chafodd hynny ei gynnwys.

Yn ystod etholiadau'r Cynulliad y llynedd roedd Martin yn gwneud sylwadau ffeithiol anghywir bod y Blaid yn gyfoethocach na Llafur. Cyfranais bwt yn dangos ffigyrau'r Cwmisiwn Etholiadau oedd yn dangos i Lafur wario tua £20 am pob £1 a wariodd y Blaid yn yr etholiadau San Steffan blaenorol. Ni chafodd honno weld golau dydd wrth reswm.

Mewn geiriau eraill mae Martin yn cymedroli yn ol grym dadl ei wrthwynebydd - nid yn ol egwyddorion o chwaeth, chware teg, cwrteisi neu beth bynnag. Os na all ateb dadl mae'n ei dileu yn y darn bach o'r rhithfro mae'n ei rheoli.

Mae hyn wrth gwrs yn gwbl idiotaidd, gan ei fod yn gweithredu lefel anhygoel o uchel o sensoriaeth mewn cyd destun sydd mor fach (hy ei flog ei hun) nad yw'r sensoriaeth hwnnw'n cael unrhyw effaith yn y byd go iawn.

Hynny yw mae yna bwynt i Mr Mugabe sensro'r cyfryngau yn Zimbabwe - fo sy'n eu rheoli nhw i gyd. Ond does yna ddim pwynt i Martin sensro dadleuon nad yw yn eu hoffi mewn rhan o'r we - ac o'r cyfryngau yn gyffredinol - sydd mor anhygoel o fach. Does yna ddim i'w ennill ac mae'n ymdebygu ei hun i Mr Mugabe'r Felinheli yng ngolwg y sawl sy'n dilyn ei flog.

Monday, June 23, 2008

Y Blaid Geidwadol Gymreig – y blaid mwyaf anhunanol yn y Byd?

Cafwyd dadl yn ddiweddar yn y Cynulliad Cenedlaethol ynglyn a phleidleisio cyfranol. Roedd Peter Black, aelod y Democratiaid Rhyddfrydol tros Orllewin a Chanolbarth Cymru yn cynnig bod y Cynulliad yn gofyn am yr hawl i lunio deddf a fyddai’n mabwysiadu cyfundrefn gyfrannol o bleidleisio mewn etholiadau lleol yng Nghymru. Dyna ydi’r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban ar hyn o bryd.

Yn naturiol ddigon pleidleisiodd y Democratiaid Rhyddfrydol o blaid y cynnig – a felly hefyd Plaid Cymru. Roedd y Blaid Lafur i gyd yn erbyn ag eithrio Rhodri Morgan a rhywun arall – ac mae’n ymddangos eu bod hwythau wedi pwyso’r botwm anghywir. Mae hyn yn eithaf traddodiad ymhlith aelodau Llafur bellach Ymddengys bod y deinasoriaid gwleidyddol yn cael anhawster i ddelio gyda’r dechnoleg newydd. Yr hyn a sicrhaodd bod y cynnig yn syrthio fodd bynnag oedd y ffaith i’r Ceidwadwyr atal eu pleidlais.

Ar un olwg mae hyn yn ymylu ar fod yn syfrdanol. Mae’r drefn sydd gennym ar hyn o bryd yn (First Past the Post - FPTP) yn neilltuol o anheg o safbwynt y Ceidwadwyr yng Nghymru. Ymhellach, gellir dadlau mai FPTP ydi conglfaen hegemoniaeth draddodiadol y Blaid Lafur yng Nghymru.

Heb fynd yn rhy dechnegol mae dau reswm am hyn. Yn gyntaf mae cryn dipyn o bleidleisio tactegol yn erbyn y Ceidwadwyr yng Nghymru, ac mae FPTP yn ddelfrydol ar gyfer pleidleisio tactegol. Yn fwy arwyddocaol mae pleidlais y Ceidwadwyr yn gymhedrol o ran canran ond wedi ei ddosbarthu yn fwy cyson tros y wlad nag un Plaid Cymru er enghraifft. Mewn sefyllfa o’r fath mae amrediad mawr yn fanteisiol pan mae canran y bleidlais yn is na thua 30%. Dyna pam bod Plaid Cymru wedi cael cymaint o seddi na’r Ceidwadwyr yn etholiad San Steffan 05 a mwy na nhw yn 01 a 97 er i ni gael llai o bleidleisia. Yn wir, ni chafodd y Toriaid unrhyw seddi o gwbl yn etholiadau San Steffan yn 01 a 97.

Mae FPTP yn anheg i’r Ceidwadwyr mewn etholiadau lleol hefyd. Er enghraifft mae eu pleidlais yn ddigon tebyg i un y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd, ond mae ganddynt lai o lawer o seddi. Yn y mannau hynny lle mae’r Ceidwadwyr yn wan – y Gymru Gymraeg a’r maes glo nid oes ganddynt prin unrhyw gynrychiolaeth o gwbl. Anaml y byddant yn trafferthu i gynnig ymgeiswyr yn y lleoedd hyn oherwydd eu bod n gwybod nad oes ganddynt obaith o gael eu hethol. Byddai trefn gyfrannol yn rhoi cynrychiolaeth iddynt yn rhai o’r lleoedd hyn.- ac yn rhoi cyfle iddynt ddechrau adeiladu.

Mae FPTP bron yn ddi eithriad o fantais i’r Blaid Lafur yng Nghymru ar pob lefel. Yr unig eithriad posibl ydi’r etholiadau lleol yn gynharach eleni. Oherwydd i’w canran o’r bleidlais syrthio’n sylweddol ac i bobl ddechrau pleidleisio yn dactegol yn eu herbyn mae’r FPTP wedi dechrau milwrio yn eu herbyn mewn rhai rhannau o’r wlad – ond mae’n parhau i’w cynorthwyo mewn mannau eraill.

Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig hanes o wrthwynebu datblygiadau sydd o fantais etholiadol iddyn nhw eu hunain. Roeddynt yn chwyrn eu gwrthwynebiad i ddatganoli ac i’r gydadran gyfrannol o’r gyfundrefn pleidleisio. Oni bai am ddatganoli, a’r elfen gyfrannol ni fyddai’r Ceidwadwyr wedi bod a gwleidydd proffesiynol yng Nghymru o 1997 hyd at 2005. Y cwestiwn diddorol ydi pam?

‘Dwi ddim yn siwr a bod yn onest beth yw rhesymeg swyddogol y Blaid Geidwadol Gymreig am yr ymddygiad ymddangosiadol bisar yma. Efallai eu bod yn defnyddio esgus sy’n ymwneud ag amddiffyn y cyfansoddiad, neu rhywbeth cyffelyb. Byddai dadl o’r fath yn amlwg chwerthinllyd mewn cyd destun llywodraeth leol – gwan iawn ydi cysylltiad llywodraeth leol gyda’r cyfansoddiad anysgrifenedig Prydeinig, a fel y sonwyd uchod mae trefn gyfrannol yn bodoli mewn etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban heb greu anhrefn cyfansoddiadol. Mae llywodraethau Prydeinig o pob lliw wedi bod yn .hollol hapus efo trefniadau cyfrannol yn yr Iwerddon ers blynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf. Ymhellach trefn gyfrannol a geir mewn etholiadau Ewropeaidd ar hyd a lled Prydain.

Yn fy marn i yr eglurhad gwirioneddol ydi sefyllfa’r Blaid Geidwadol yn Lloegr. Mae cefnogaeth y Blaid Geidwadol yn Lloegr yn uwch nad yw yng Nghymru – yn llawer uwch. Yn wir mae ganddi’r potensial i gyrraedd canran o tua 45% o’r bleidlais. Os ydi plaid yn cyrraedd y math yma o gefnogaeth o dan cyfundrefn FPTP maent yn ennill llawer iawn o seddi – efallai 65% neu fwy.

Mewn geiriau eraill mae buddiannau’r Blaid Geidwadol Brydeinig yn bwysicach i’r Blaid Geidwadol Gymreig na buddiannau nhw eu hunain.

Mae hyn oll yn rhywbeth i’w gadw mewn cof pan mae pobl fel Glyn Davies, Dylan Jones Evans a Guto Bebb yn son am Blaid Geidwadol Gymreig gydag elfen gryf o annibyniaeth yn perthyn iddi.

Mae unrhyw endid sydd a mwy o ddiddordeb mewn amddiffyn buddiannau endid arall na rhai ei hun trwy ddiffiniad yn israddol. Fel mae pethau’n sefyll meddylfryd gwasaidd ydi un y Ceidwadwyr Cymreig – ac felly y bu hi erioed.

Friday, June 20, 2008

Beth yw pwynt Llywydd Plaid Cymru?

Dau dro cyntaf i flogmenai mewn wythnos - blog Saesneg a blog wedi ei ysgrifennu gan rhywun ag eithrio'r arferol. 'Penderyn' sydd yn gyfrifol am y cyfraniad isod - mae'n codi cwestiynau pwysig ynglyn a natur llywyddiaeth y Blaid - cwestiynau nad ydynt hyd y gwn i wedi eu hystyried na hyd yn oed eu diffinio'n glir cyn hyn.

Bellach mae’n ymddangos yn sicr y bydd etholiad ar gyfer Llywydd Plaid Cymru eleni. Mae o leia’ dau enw yn y ras ac o bosib y bydd mwy wedi i bawb sylweddoli y bydd etholiad. Nid bwriad yr erthygl hon yw pleidio achos yr un o’r ymgeiswyr, nac ychwaith ceisio darogan y canlyniad, ond yn hytrach meddwl rhywfaint am beth yw rol y Llywydd.

Byth oddi ar ddifinio (yn gwbl addas) Arweinydd y Cynulliad fel Arweinydd y Blaid, mae ‘na dipyn o aneglurdeb wedi bod am rol y Llywydd, a neb mewn gwirionedd wedi gwneud ymdrech i ddiffinio beth yr rol a phwrpas y Llywydd ar ei newydd wedd. Craidd y sylwadau yma yw fod angen fod yn glir beth mae’r Blaid yn ei ddisgwyl o’r Llywydd cyn gallu gwneud penderyfniad ystyrlon am bwy ddyliai’r Llywydd fod.

Mae sawl rol posib, ac wrth gwrs mae modd cyfuno elfennau o’r rhain, ond yr hyn sy’n bwysig mi dybia i yw’r pwyslais … Dwi’n awgrymu isod sawl opsiwn i’w pwysog a mesur, trafod ac ystyried.

PONT. Mewn oes lle mae cynnydd rhyfeddol wedi bod yn y nifer aelodau etholedig a’r Blaid wedi proffesiynoli ar sawl wedd, gan gynnwys y niferoedd sylweddol iawn (dros 100) o unigolion bellach sy’n dibynnu am eu cyflogau ar y Blaid neu’i gwleidyddion; mae ‘na beryg fod llais yr aelodau yn cael ei tan gynrychioli. Mae angen Llywydd felly i gynrychioli’r adain wirfoddol, i roddi llais i’r aelodaeth ac i weithredu fel gwrthbwynt (lle bo angen) i’r aelodau etholedig.

YSBRYDOLWR/AIG CYHOEDDUS. Mae angen rhywun sy’n gallu tanio dychymyg poblogaeth Cymru, gyda dull gafaelgar a chyffrous o gyfathrebu ac i fod yn un o brif lefarwyr y Blaid.

YSBRYDOLWR/AIG MEWNOL. Mae angen rhywun sy’n gallu tanio dychymyg yr aelodaeth trwy gadw cysylltiad rheolaidd a chyson gyda’r aelodau a theithio dros Gymru benbaladr yn cefnogi gwaith canghennau ac etholaethau.

MEDDYLIWR. Eisoes mae gan y Blaid dim o wleidyddion rheng flaen sy’n cyfathrebu’n effeithiol gyda’r etholwyr, does dim diben ychwanegu un arall at y rhestr, yr hyn sydd angen yw rhywun i roddi cyfeiriad syniadaethol i’r Blaid (rol a fyddai wedi bod yn gwbl addas er enghraifft i’r diweddar Phil Williams). Gall fod ar ystod o bolisi neu ar rai o brif bynciau’r oes i’r Blaid e.e. annibyniaeth.

GWLEIDYDD HYN. Gan nad oes fawr o rol penodol gan y Llywydd bellach mae’r swydd yn arwydd o barch y Blaid at unigolyn sydd wedi rhoi oes o wasanaeth. Yn achos yr SNP mi roedd Winnie Ewing yn Lywydd o’r math hwn am flynyddoedd lawer. Yn achos y Lib Dems mae gwleidydd hyn (fel arfer) yn cael ei dewis i lenwi’r rol yn weddol rheolaidd.

STRATEGYDD. Mae angen rhywun i gamu nol o wleidyddiaeth ddydd i ddydd, ac i sicrhau fod y Blaid yn cadw golwg ar y darlun strategol ac yn gweithio i ddatblygu a mireinio strategaeth y Blaid. Gellir hyd yn oed o dderbyn hwn fel y rol dileu swydd Cadeirydd y Blaid, a chael y Llywydd i gadeirio prif gyfarfodydd y Blaid.

Mae na ddadleuon dros bob un o’r opsiynnau uchod, a bid siwr does dim posib i unrhyw unigolyn gyflawni bob un o’r rolau hyn – yn wir mae rhai yn gwbl anghydnaws a’i gilydd. Ond dwi’n argyhoeddedig fod angen i aelodaeth y Blaid ystyried be’ mae nhw eisiau o’r Llywydd, a phob un o’r ymgeisyddion i ddiffinio beth yw eu gweledigaeth hwythau o’r rol.

Penderyn

Thursday, June 19, 2008

Arwel Pierce, Louise Hughes a chadeiryddiaeth Meirion

Yn ol y rhifyn cyfredol o Golwg mae ychydig o ffrae wedi codi rhwng Llais Gwynedd ac arweinydd y grwp annibynnol ym Meirion, Arwel Pierce oherwydd i Lais Gwynedd enwebu Louise Hughes (cynghorydd Llangelynnin), sydd i bob pwrpas yn ddi Gymraeg fel cadeirydd Pwyllgor Ardal Meirion.

Ymddengys bod Alwyn Gruffydd – un o gynrychiolwyr Llais Gwynedd ar fwrdd y cyngor yn dangos ei fod yn gyson os dim arall, ac mae’n beio Plaid Cymru oherwydd bod ei blaid ei hun wedi dewis Lousie. Gobeithio na fydd yr haf yma yn un cyn salad na’r un diwethaf - bydd Ali Bach yn gwybod o'r gorau pwy i'w feio’r am hynny hefyd.

Rwan, ‘dwi’n adnabod Arwel ac rwy’n ei ystyried yn gynghorydd ac yn berson o ansawdd, ac mae fy marn am Lais Gwynedd yn weddol amlwg i unrhyw un sy’n dilyn y blog yma. ‘Dwi hefyd yn meddwl y dylai pobl sy’n byw mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith wneud yr ymdrech i ddysgu’r iaith (a bod yn deg mae Louise yn dweud ei bod yn mynd i ddosbarthiadau Cymraeg).

Ond yn yr achos hwn ‘dwi’n sicr nad ydi barn Arwel yn gywir. Mae Louise yn aelod o Lais Gwynedd – ac oherwydd hynny dylai gael ei thrin fel pob aelod arall o’r blaid honno – beth bynnag am ei sgiliau ieithyddol. Nid yw’n briodol i blaid wleidyddol gael dwy haen o aelodau etholedig – y naill yn deilwng o gyfrifoldebau ychwanegol a’r llall yn anheilwng – gyda’r teilyngdod hwnnw wedi ei seilio ar garfan ieithyddol mae aelodau yn perthyn iddi.

Mae’n rhesymol disgwyl i unrhyw blaid wleidyddol beidio gwahaniaethu rhwng ei haelodau ar sail iaith. Byddai'n fater o gryn ofid i mi petai fy mhlaid i yn gwneud hynny.

Monday, June 16, 2008

Alun Cairns - gwaeth na Hitler

Ymddengys bod Alun Cairns yn y cachu

Ymddengys bod yr athrylith gwleidyddol Wayne David a lwyddodd i golli'r Rhondda i Lafur a

Stori bach gwirioneddol chwydlyd.

Mae greasy wop yn wir yn derm sarhaus sy'n cael ei ddefnyddio i ddi raddio Eidalwyr.

Mae gan yr iaith Saesneg gyfoeth o dermau tebyg sy'n cael eu defnyddio i sarhau trigolion gwahanol wledydd eraill, yn union fel mae gan yr Esgimo dorreth o eiriau i ddisgrifio gwahanol fathau o eira. Mae'r Esgimo yn dod i gysylltiad a phob math o eira, felly mae angen geirfa eang. Roedd gan y Saeson lawer o elynion, felly roedd angen geirfa eang a phriodol i'w disgrifio a'i gwahaniaethu oddi wrth ei gilydd.

'Dwi'n digwydd bod (jest) ddigon hen i gofio sut oedd pethau cyn i Saeson ddechrau teimlo cywilydd ynglyn a'u holl hanes. Roedd y comics yr oeddwn i'n eu darllen fel plentyn yn llawn cyfeiriadau at square headed krauts, slit eyed Japs, greasy wops, filthy frogs ac ati ac ati.

Roedd llyfrau plant megis Rupert the Bear yn llawn cyfeiriadau dilornus at dramorwyr o bob math. Mae unrhyw un sydd ag adnabyddiaeth mwyaf arwynebol o bapurau newydd Fictorianaidd yn gwybod o'r gorau bod cyfeiriadau hollol ddi hid at bobl o hiliau gwahanol yn ddigon a codi gwallt darllenwr modern.

Mae rheswm am hyn - roedd ideoleg y byddem heddiw yn ei disgrifio fel un hiliol wrth wraidd y ffordd yr oedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn cael ei chyfiawnhau ar lefel deallusol.

Mae'r hyn a ddywedodd Alun Cairns wedi ei wreiddio mewn hen naratif - naratif sy'n effeitho ar y ffordd yr ydym oll yn edrych ar y Byd - yn Gymry yn ogystal a Saeson. Mae'n rhan o'n hetifeddiaeth fel petai.

'Dydi cael sterics torfol pob tro mae yna rhyw dwll bach yn ymddangos yn y llen tenau sy'n cuddio'r hen feddylfrydau mae ein byd wedi ei wreiddio ynddo ddim yn ffordd aeddfed o ddelio efo'r pethau sy'n ein gwneud yr hyn yr ydym.

Mae'r ymateb hysteraidd hunan gyfiawn, hunan fodlon, ffug santaidd yr ydym wedi ei gael tros y dyddiau diwethaf gan lympiau o wleidyddion diwerth fel Wayne David a'r erchyll, anymunol Alun Davies yn agwedd neilltuol o anymunol i'r holl beth.

Mae honiad Alun Davies bod yr hyn a ddywedodd Alun Cairns yn arwydd o rhyw hiliaeth sy'n neilltuol i'r Blaid Geidwadol yn esiampl wych o wleidydd bach dwl, deallusol ddiog yn cymryd mantais o'r hysteria sydd wedi ei wreiddio yn ein diffyg gallu i ddeall a delio efo ein cefndir i sgorio pwyntiau gwleidyddol rhad a di ymdrech ar ei ran ei hun.

Mae ymateb ufudd, cachgiaidd y Blaid Geidwadol yn gywilydd arnyn nhw hefyd.

Mi wnaeth Alun Cairns gamgymeriad gwirion. Mae'r hyn sydd y tu ol i'w gamgymeriad yn rhywbeth sy'n rhan ohonom oll. Ceir agweddau llawer mwy maleisus a chignoeth tuag at dramorwyr mewn bywyd pob dydd - mae gwneud hw ha mawr o hyn yn ffordd ddi gost o bellau ein hunain oddi wrth hynny.

Byddai wedi bod yn hen ddigon petai Cairns wedi ymddiheuro a dweud bod ei sylwadau yn gamgymeriad ac yn annerbyniol.

Mae'r llabuddio defodol yn gwbl chwydlyd a llwfr.