Sunday, August 11, 2013

Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru

Cyfeiriad ydi'r teitl at gyfrol fer sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.  Gwaith o eiddo Richard Wyn Jones ydyw, ac mae'n ymdrin a'r hen dalp o fytholeg sy'n dal i ddod i'r wyneb o bryd i'w gilydd - sef bod gan cenedlaetholwyr Cymreig yn gyffredinol, a Phlaid Cymru yn benodol gydymdeimlad efo Ffasgaeth yn ystod tri degau a phedwar degau'r  ganrif ddiwethaf.

Mae'r gyfrol yn gampwaith fach.  Mae'r haeriad yn cael ei ddatgymalu yn llwyr a chyfangwbl mewn cwta 70 tudalen o waith trylwyr, cynhwysfawr, ysgolheigaidd - ond rhyfeddol o gynnil.    Does gennym ni ddim yr union air am elan yn y Gymraeg, ond mae'r gair hwnnw yn disgrifio'r ffordd mae'r awdur yn mynd i'r afael a hen gelwydd i'r dim.

Mae'r gwaith yn olrhain hanes y cyhuddiad, yn diffinio Ffasgaeth yn profi polisiau'r Blaid a safbwyntiau rhai o'i harweinwyr yng ngoleuni'r diffiniad hwnnw, yn edrych ar ddiwylliant gwleidyddol Cymru yn ystod degawd o ryfela ac yn edrych ar y celwydd yng nghyd destun diwylliant gwleidyddol Cymru.

Ar sawl cyfri mae'n anodd ychwanegu llawer at yr hyn mae Richard wedi ei ddweud.   Serch hynny hoffwn aros efo un mater ac edrych arno o gyfeiriad mymryn yn wahanol.  Mae Richard yn cyfeirio at y ffaith  bod gwreiddiau y celwydd  yng ngwrth Babyddiaeth amrwd rhai anghydffurfwyr yn y tri degau.  Mae hefyd yn cyfeirio at y chwithdod bod plaid a ddaeth yn gartref naturiol i Babyddion Cymru o 20au'r ganrif ddiwethaf ymlaen wedi cynnal y celwydd hwnnw - a bod nifer o wleidyddion sy'n Babyddion eu hunain ymhlith y rheiny.  Ceir hefyd eglurhad o'r tueddiad at ymysodiadau hysteraidd ac afresymegol  yng nghyd destun y ffaith bod llawer yn cael y syniad bod Cymru yn wlad ond heb fod yn wladwriaeth yn anghysurus - bod teyrngarwch wedi ei hollti yn seicolegol anodd, a bod hyn yn arwain at ddiffyg aeddfedrwydd wrth drin a syniadau yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Rwan mae Blogmenai wedi nodi yn y gorffennol bod tebygrwydd rhyfedd rhwng y Blaid Lafur Gymreig, a'r blaid Wyddelig Fianna Fail.  Mae gwreiddiau'r ddwy blaid yn gwbl wahanol wrth gwrs, ond maent yn debyg ar sawl cyfri.  Mae'r ddwy blaid yn 'ennill' pob etholiad yn yr ystyr eu bod yn cael mwy o seddi a phleidleisiau na neb arall (er bod y rhod wedi troi go iawn ar FF bellach yn sgil yr argyfwng economaidd).  Mae'r ddwy blaid hefyd yn ymarferol / bragmataidd yn hytrach nag ideolegol.  Eu prif ddiddordeb ydi ennill grym, ac arwahan i edrych ar ol buddiannau eu cleiantiaid a rhoi eu cefnogwyr mewn swyddi cyhoeddus, dydyn nhw ddim yn poeni llawer am beth yn union maen nhw eisiau ei wneud efo'r grym.  Rheoli er mwyn rheoli ydi'r tueddiad.

Mae'r ddwy blaid hefyd yn sefydliadol, ond yn hoffi smalio bod yn wrth sefydliadol.  Roedd yna rhywbeth hynod Wyddelig am antics Leighton Andrews ar lawr gwlad y Rhondda yn gynharach yn yr haf.  Bydd FF hefyd yn taflu'r cyhuddiad 'Ffasgaeth' at eu gwrthwynebwyr gyda llaw - er a bod yn deg mae ganddyn nhw beth lle i wneud hynny - yn wahanol i'r Blaid Lafur Gymreig.  Mae pleidiau fel hyn  yn tueddu i gael eu gyrru gan syniadau eu partneriaid pan maent yn cael eu gorfodi i glymbleidio efo pleidiau mwy synadiaethol eu natur..  Polisiau economaidd adain Dde y PDs oedd yn gyrru'r clymbleidiau FF/PDs, a dogfen Plaid Cymru oedd Cymru'n Un i bob pwrpas.

Mae plaid ddi ideoleg yn naturiol ddrwgdybus o blaid sy'n syniadaethol o ran natur, ac i raddau yn y byd rhyfedd yma mae meddu ar ideoleg yn dystiolaeth ynddo'i hun o eithafiaeth.  Y peth diwethaf mae plaid ansyniadaethol ei eisiau ydi disgwrs ynglyn a syniadau oherwydd nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn syniadau nag unrhyw syniadau eu hunain.  Mae'n llawer haws sgrechian 'ffasgwyr, ffasgwyr, ffasgwyr' na mynd trwy'r anghyfleustra anymunol o orfod siarad am syniadau pan nad oes gennych y diddordeb lleiaf mewn pethau felly - na'r arfau deallusol i'w trafod yn iawn.  Mae'r cyfeiriad at ffasgaeth yn cynnig y fantais ychwanegol o awgrymu bod syniadau eich gwrthwynebwyr yn rhy eithafol i drafferthu efo nhw.  Mecanwaith ydyw mewn gwirionedd sy'n caniatau i'r sawl sydd yn ei defnyddio  ddatgyweddu yn wleidyddol.

Dwi'n siwr y bydd cyfrol wych Richard Wyn Jones yn gwneud llawer i sicrhau na fydd yr union gelwydd yma'n cael ei ail ddefnyddio yn y dyfodol.  Ond os oes arwyddion clir  y bydd Plaid Cymru yn adeiladu ar lwyddiant ddydd Iau diwethaf gallwn ddisgwyl ymysodiadau hysteraidd o rhyw fath neu'i gilydd.  Mae natur y Blaid Lafur Gymreig a'r gwacter sydd yn ei chanol yn sicrhau hynny.  

O.N Os oes yna rhywun yn darllen hwn am yr ail waith ac yn cael ei fod yn wahanol i'r cyntaf y rheswm ydi i blogspot - am resymau sy'n glir iddo'i hun yn unig - ddileu'r blydi job lot. Dwi wedi gorfod ei ail 'sgwennu, ac mae ychydig yn wahanol o ganlyniad.

Friday, August 09, 2013

Aelodaeth y pleidiau Cymreig

Mae'r manylion am aelodaeth y Blaid Doriaidd wrth gwrs yn cael ei gadw'n gyfrinachol, a'r rheswm am hynny yn ol pob tebyg ydi bod 'na cyn lleied ohonyn nhw.  Yn ol Independent heddiw tua 100,000 ydi'r ffigwr tros Brydain.  Mae hyn yn cymharu a thua 3m ym mhump degau'r ganrif ddiwethaf, a 258,000 pan ddaeth David Cameron yn arweinydd.  Ffigyrau'r pleidiau unoliaethol eraill ydi tua 200,000 o aelodau Llafur a 42,500 o aelodau Lib Dem.  Mae aelodaeth y Blaid tua 7,800, tra bod 25,000 aelod gan yr SNP a 30,000 gan UKIP.

O gyfieithu hyn oll i aelodau yr etholaeth mae ffigwr y Toriaid yn 157, Llafur yn 304, y Lib Dems yn 67, UKIP yn 47, Plaid Cymru yn 195 a'r SNP yn 424.

Ond beth am y sefyllfa yma yng Nghymru?  Yn ol Paul Flynn mae yna tua 12,000 o aelodau gan ei blaid yng Nghymru - mae hyn yn 300 yr etholaeth.  Mae hyn ychydig yn anisgwyl - gan bod cefnogaeth y Blaid Lafur yn gryfach yng Nghymru nag yng ngweddill y DU, byddai dyn yn disgwyl i'r aelodaeth fod yn uwch - ond dydi o ddim.  Awgryma hyn y gallai aelodaeth pleidiol yn gyffredinol fod yn is yng Nghymru nag yng ngweddill y DU.

Ond a diystyru hyn am ennyd, pe byddai cryfder cymharol etholiadol (etholiad cyffredinol 2010) yn cael ei ddefnyddio fel arwydd o gryfder cymharol o ran aelodau byddai hynny yn dod a nifer aelodau'r Lib Dems ar gyfer pob etholaeth i lawr i 58 a'r Toriaid i 113.  Neu i edrych arno mewn ffordd arall byddai aelodaeth Gymreig y Lib Dems  yn tua 2,300 ac un y Toriaid yn 4,520.

Fel y dywedais gallai'r ffigyrau yma yn  hawdd fod yn is o lawer os ydi'r gymhareb Llafur yn arwyddocaol (byddai honno'n awgrymu y dylai bod 15,000 o aelodau gan Lafur yng Nghymru).   Os ydi'r lefel o dan aelodaeth Gymreig yma yn wir i'r pleidiau eraill byddai aelodaeth Cymreig y Toriaid yn 3,600 (90 yr etholaeth) a'r Lib Dems yn 1,840 (46 yr etholaeth).

Byddwn yn edrych ar oblygiadau posibl hyn mewn blogiad arall.  

Wednesday, August 07, 2013

Y gair olaf am Ynys Mon am y tro

Oni bai bod rhywbeth anisgwyl yn digwydd, fydda i ddim yn dod yn ol efo blogiad pendodol am Ynys Mon am y tro - ond dyma un olaf i roi'r canlyniad mewn perspectif.


  • Y 42.5% o bleidleisiodd oedd y ganran isaf erioed mewn etholiad Cynulliad neu San Steffan yn Ynys Mon.
  • 16,469 ydi'r bleidlais uchaf erioed mewn etholiad Cynulliad yn yr etholaeth.  IWJ gafodd hwnnw yn 1999 - etholiad mwyaf llwyddiannus y Blaid erioed ym mron i pob etholaeth.  Ail i hynny oedd 12,601 RhaI.  
  • Serch hynny roedd 58.2% a gafodd RhaI yn uwch na'r 52.6% a gafodd IWJ bryd hynny.  Yn wir rhaid i ni fynd yn ol i 1931 i ddod o hyd i ganran uwch mewn etholiad San Steffan - mi gafodd Megan Lloyd George ganran oedd y mymryn lleiaf yn uwch - a dim ond dau enw oedd ar y papur pleidleisio.
  • Mae yr 12,609 o bleidleisiau a gafodd RhaI yn uwch nag unrhyw bleidlais gafodd Albert Owen erioed - a hynny er bod 68.8% wedi pleidleisio yn etholiad 2010.
  • Does yna neb erioed ar lefel San Steffan na Chynulliad wedi dod yn agos y 9,166 o fwyafrif gafodd RhaI.  Serch hynny cafodd Ellis Griffith fwyafrif canranol ychydig yn uwch nag un Rhun yn 1910 - 41.4% i 41.3% - ond 3,452 yn unig oedd mwyafrif Ellis Griffith.
  • Perfformiad Tal Michael oedd yr un salaf i Lafur o ran pleidlais a chanran ers i'r blaid sefyll gyntaf yn 1918.
  • Perfformiad Neil Fairlamb oedd yr un salaf i'r Toriaid o ran pleidlais a chanran ers o leiaf 1885.
  • Perfformiad Steve Churchman  oedd yr un salaf i Lib Dems \ Rhyddfrydwyr o ran pleidlais a chanran  erioed.  Mae'n debyg ei fod ymysg y perfformiadau salaf yn unrhyw le yn hanes y blaid ar unrhyw lefel.  Os oes rhywun yn dod ar draws perfformiad gwaeth, gadewch i mi wybod - mawr yw fy niddordeb.
  • Perfformiad Nathan Gill oedd y gorau erioed i Ukip yn Ynys Mon - a ledled Cymru dwi'n credu.
  • Fedra i ddim profi hyn - ond yn ol pob son enillodd RhaI ym mhob bocs ar draws Ynys Mon - er iddo beidio ag ennill yn rhai ar Ynys Cybi.  Byddwn yn cymryd cryn fet mai dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd.
  • Mae'n debyg i Rhun ddod ar y blaen ym mocs London Road - cadarnle tybiedig Llafur yng Nghaergybi.  Byddwn hefyd yn cymryd cryn fet mai dyma'r tro cyntaf i Lafur beidio a dod ar y brig yno mewn etholiad San Steffan neu Gynulliad.
  • UKIP ddaeth ar y brig ym mocs Trearddur.  Byddwn yn tybio mai dyma'r unig focs i UKIP ei ennill yng Nghymru erioed.

Monday, August 05, 2013

Ynglyn a chanfasio ffon

Mi gododd y pwnc yma sawl gwaith yn ystod yr ymgyrch, yma ar Flogmenai ac wrth sgwrsio efo pobl.  Y cyd destun oedd diffyg ymddangosiad Llafur ar lawr gwlad mewn rhannau mawr o'r ynys.  Byddai pobl yn ymateb i'r sylw trwy ddweud bod gan Llafur ymgyrch ffonio gynhwysfawr, a bod gan ymgyrchoedd felly hanes o gryn lwyddiant.



Rwan cyn mynd ymlaen efallai ei bod werth atgoffa ein hunain mor syml ydi'r broses o ennill pleidleisiau yn ei hanfod:

1.  Adnabod naratif gwleidyddol sy'n apelio at ganrannau arwyddocaol o bobl.
2.  Cyfathrebu'r naratif efo'r carfannau hynny o bobl.
3.  Cadw cysylltiad efo'r carfannau o bobl - rhwng etholiadau ac yn ystod cyfnodau etholiadol.
4.  Sicrhau bod y carfannau perthnasol o bobl yn pleidleisio.

Mae hyn oll yn abswrd o syml wrth gwrs pan rydym yn edrych ar gymhlethdod ymgyrch etholiadol fel yr un sydd newydd ddod i derfyn ym Mon - ond o grafu i lawr i graidd pethau, dyna ydi esgyrn y broses.

O edrych ar bethau felly mae'n amlwg y gellir defnyddio'r ffon yng nghyd destun pwyntiau 2,3 a 4 - ac mae Llafur wedi gwneud hyn yn hynod effeithiol yn y gorffennol.  Ond mae pethau wedi newid ers oes aur y canfasio ffon ddeg i bymtheg mlynedd yn ol.

Yn gyntaf mae llai o lawer o bobl efo ffonau gwifr confensiynol yn y cartref heddiw na phryd hynny.  Mae dyfodiad y ffon symudol fel eitem ar gyfer pawb wedi arwain at lawer o bobl yn gwneud heb ffon confensiynol.  Mae'r ffaith bod cwmniau ffon yn llawer mwy llym o ran disgwyliadau statws credid nag oeddynt ers talwm yn cryfhau'r tueddiad.  Mae'r diffyg ffonau confensiynol yn fwy cyffredin ymysg pobl dosbarth gweithiol - y dosbarthsydd fwyaf tebyg o bleidleisio i Lafur.  Mae'n bosibl wrth gwrs dod o hyd i rifau ffonau symudol - ond mae hynny'n fwy anodd o lawer, ac mae'n fwy anodd eu perthnasu i'r rhestr etholwyr.

Yn ail mae gwneud unrhyw beth ar y ffon wedi ei gymhlethu gan y ffaith bod dwsinau o bobl bellach yn ceisio cysylltu a ni ar y ffon yn ddi ofyn er mwyn ceisio gwerthu gwahanol geiriach i ni.  Dydan ni ddim yn or hoff o'r galwadau ffon di ddiwedd, a rydym yn tueddu i fod yn sinicaidd ynglyn a'r sawl sy'n gwneud y galwadau.  Mewn amgylchiadau felly dydan ni ddim yn debygol o fod eisiau gwneud yr hyn mae'r sawl sy'n ein ffonio eisiau i ni ei wneud.

Mae yna le i ymgyrchu ffon - ond techneg ymgyrchu sydd yn gweithio fel ychwanegiad i dechnegau eraill hen a newydd ydyw mewn gwirionedd.  Os ydi Llafur yn bwriadu defnyddio'r dechneg yma fel craidd eu hymgyrchoedd yn y dyfodol, yna gallant edrych ymlaen at fwy o ganlyniadau fel un Ynys Mon.

Sunday, August 04, 2013

Ymgais ryfedd awdur Syniadau i danselio ei blaid ei hun

Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr  Blogmenai yn ymwybodol o'r ymarferiad estynedig mewn hunan bwysigrwydd a hunan gyfiawnder sydd wedi bod yn mynd rhagddo ar flog   Syniadau ers wythnosau bellach.  Cynhyrchwyd miloedd o eiriau - y rhan fwyaf ohonynt naill ai yn ymosod ar ymgeisydd y Blaid - Rhun ap Iorwerth, neu arweinyddiaeth y Blaid neu'n cyfiawnhau ymddygiad eithriadol awdur y blog, Michael Haggett.  

Rhag ofn nad oes gennych y stumog i wneud eich ffordd trwy'r miloedd o eiriau - mae awdur Syniadau - dyn sydd yn edrych ar wleidyddiaeth Cymru o bellafion Llundain - wedi cael y strop mwyaf ofnadwy oherwydd i Rhun ap Iorweth gael ei ddewis i sefyll tros y Blaid yn is etholiad Ynys Mon, ac wedi mynd ati i boeri ei ddwmi allan o'r pram a chicio a strancio yn gyhoeddus   ers y penderfyniad hwnnw..    Mae llawer o'r strancio wedi cymryd ffurf ymysodiadau hynod bersonol ac anymunol ar Rhun - ymysodiadau sydd ymhell y tu hwnt o ran mileinder a malais i'r  hyn y bydd gelynion pleidiol yn ymdrybaeddu ynddynt fel rheol.  Mae'r ffordd mae'r ymgyrch wedi ymdrin ag ynni niwclear yn wrthrych llawer o'r strancio.  

Mae'r holl bennod yn codi nifer o faterion sy'n ymwneud a blogio, gwleidyddiaeth ac un blogiwr penodol.  

Yn naturiol ddigon mae gelynion y mudiad cenedlaethol wedi cymryd cryn gysur o hyn oll.  Roedd cyfri trydar @Labour4YnysMon yn dyfynnu'r ymysodiadau personol ar Rhun oedd yn cael eu cynhyrchu gan Haggett fel petai fo oedd y Blaid a bod y Blaid yn ymosod yn bersonol a maleisus ar Rhun.  Oherwydd bod yr etholiad yn Ynys Mon doedd gan y rhan fwyaf o'r cyfryngau prif lif yng Nghymru ddim llawer o ddiddordeb ynddi  (Oh God that's somewhere to the north of Merthyr isn't it?  We're not sending anyone to somewhere like that) felly mi wnaethant lunio eu naratif ar yr hyn oedd ar gael iddynt - doethinebu ar lein y boi o Lundain  sy'n ' sgwennu yn yr unig iaith mae gohebwyr  Trinity yn ei deall.

Fel roedd yn digwydd doedd hyn oll ddim ots o safbwynt etholiadol - does ' na neb yn Ynys Mon yn darllen Syniadau, y Western Mail na Walesonline.  A phetaent  yn cael eu gorfodi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'w darllen ni fyddant yn cymryd y mymryn lleiaf o'r cynnwys.  Mae Brynsiencyn a CF10 (heb son am Lundain bell) miliwn o filltiroedd oddi wrth ei gilydd o safbwynt canfyddiad o'r Byd a'i bethau.  Ond o dan amgylchiadau eraill gallai'r holl beth fod yn niweidiol.  Mae yna rannau o Gymru sy'n ymddiddori yn ac yn credu'r hyn sydd gan y Western Mail i'w ddweud.  Mewn etholiad cyffredinol neu Gynulliad gallai diogi a diffyg crebwyll y cyfryngau Cymreig fod wedi creu canfyddiad o hollt ar sail tantro cyhoeddus  un aelod o'r Blaid sy'n digwydd cadw blog.

Mae cwestiynau eraill yn codi. Dwi'n gwybod bod pethau yn newid rwan - ond mae gwendidau hanesyddol yn y ffordd mae'r Blaid yn llunio polisi.  Mae cyfeiriad polisi y Blaid ar hyn o bryd yn ei gyrru i'r lle cywir - i dir lle y gall herio Llafur - tuag at ddatblygu a chryfhau'r economi.  Byddai economi gryf yn ei gwneud yn llawer haws i'r Blaid fynd ar ol ei pholisi hir dymor o sefydlu statws cyfartal i Gymru a gwledydd eraill Ewrop.  Ond eto mae gennym bolisi sy'n awgrymu ein bod yn fodlon gwrthod buddsoddiad o hyd at £10bn a miloedd o swyddi - polisi sydd wedi ei wreiddio yng ngwleidyddiaeth stiwdants chwe degau a saith degau y ganrif ddiwethaf - cyfnod oedd yn parhau i fod o dan gysgod Hiroshima. Nagasaki, cyfnod pan nad oedd neb yn meddwl am gyfyngu ar y carbon oedd yn cael ei bwmpio i'r awyrgylch, cyfnod pan roedd diwydiannau oedd wedi eu gwladoli yn sicrhau cyflogaeth llawn i bob pwrpas yng Nghymru, cyfnod cwbl wahanol i'n cyfnod ni, heddiw.

Ond mae yna fwy i hyn oll na gwendidau'r cyfryngau Cymreig, a phroses greu polisi sy'n gadael y Blaid efo polisiau anaddas i amgylchiadau cyfoes.  Mae'r  bennod ryfedd yn dweud llawer wrthym am flogio gwleidyddol yn gyffredinol a byd mewnol un blogiwr penodol.  Gall blogio fwydo hunan bwysigrwydd dyn pan mae gwahanol gyfryngau prif lif yn tynnu ar y blog i greu eu naratif. Dydi hynny ddim llawer o ots pan mae gan y blogiwr synnwyr o berspectif o'i le ei hun yn y byd, ond pan mae'n greadur hunan bwysig beth bynnag mae perygl iddo chwyddo i fyny fel balwn - ac fel mae'n cael ei ddyfynnu mwy, mae'n sgwennu pethau mwy eithafol ac afresymol er mwyn cael ei ddyfynnu eto ac eto ac eto -  er mwyn teimlo yn bwysicach, ac yn bwysicach ac yn bwysicach.

Ond y cwbl sydd yno yn y diwedd ydi un boi efo'i obsesiynnau yn eistedd ar ei ben ol wrth gyfrifiadur yn Llundain yn bwydo ei hunan bwysigrwydd trwy danseilio ei blaid - tra bod aelodau'r blaid honno - pobl mae'n honni ei fod yn siarad ar eu rhan - cannoedd ohonyn nhw - mwy na sydd wedi cymryd rhan mewn unrhyw ymgyrch tros y Blaid o'r blaen - yn treulio dyddiau maith yng ngwres yr haf yn hawlio'r etholiad ty wrth dy, stryd wrth stryd, pentref wrth bentref.  Llawer ohonyn nhw yn aberthu eu gwyliau, yn teithio ac yn aros ym Mon ar eu cost eu hunain, ac yn cerdded a cherdded a cherdded yn y gwres tanbaid.

Mae aelodaeth o blaid yn galw am hunan ddisgyblaeth, gwyleidd-dra, parch at gyd aelodau a dealltwriaeth nad ni fel unigolion ydi canol y Bydysawd. Mewn geiriau eraill mae rhaid wrth aeddfedrwydd personol. Does yna ddim arwydd  o hynny ar flog Syniadau tros y mis diwethaf.

Saturday, August 03, 2013

Beth ddigwyddodd i bleidlais yr Annibyns?

Dwi'n gwybod nad ydi cymharu gwahanol fathau o etholiadau pob tro yn syniad da, ond mae'n ymarferiad diddorol edrych ar y gwahaniaeth yn y gefnogaeth bleidiol rhwng etholiadau Cyngor Mon eleni ac is etholiad ddydd Iau.  Y ganran gafodd y pleidiau yn etholiadau'r cyngor ydi'r ffigwr cyntaf, canran ddydd Iau ydi'r ail, a'r newid ydi'r trydydd.  Ffigyrau oll wedi eu talgrynnu.

Plaid Cymru - 32% / 58% / +26%
Llafur - 17% / 16% / -1%
Lib Dems - 5% /1% / -4%
Toriaid - 6% / 9% / +3%
UKIP - 7% / 14% / +7%

Yr hyn a geir o edrych ar bethau fel hyn ydi syniad o'r hyn a ddigwyddodd i'r 31% o'r bleidlais aeth i'r Annibyns yn yr etholiadau lleol.  Mae'n amlwg mai i'r Blaid aeth y rhan fwyaf o hwnnw o ddigon. Aeth y gweddill i'r pleidiau unoliaethol adain Dde.  Efallai y byddai'n syniad i un neu ddau o gynghorwyr Annibynnol sydd ar hyn o bryd mewn clymblaid efo Llafur a'r Lib Dems druan edrych ar y ffigyrau yma a meddwl o ddifri os ydynt yn gwireddu dyheuadau y sawl a bleidleisiodd trostynt. Daw'r etholiadau lleol nesaf yn ddigon buan.  

Friday, August 02, 2013

A rhag i ni anghofio _ _

Results
Penyrheol Ward, Caerphilly County Borough Council
Jaime Davies (Trade Unionists and Socialists against the Cuts):173
Cameron Muir-Jones (Conservative):135
Gareth Pratt (Labour):554
Steve Skivens (Plaid Cymru):929
Penyrheol, Trecenydd and Energlyn Community Council (Penyrheol Ward)
Rhydian Dafydd Birkinshaw (Labour): 241
Michelle Britton (Plaid Cymru): 378
Share

Have your say below

Related Links

    Ymgyrch Ynys Mon - argraffiadau milwr troed

    Dwi ddim am sgwennu darn hir - dwi wedi blino a byddwn yn dod yn ol at y pwnc eto.  Ond dyma rai argraffiadau cychwynol am yr ymgyrch.



    Dwi'n argyhoeddiedig mai hon oedd yr ymgyrch etholiadol orau yn hanes y Blaid.  Cymrodd cannoedd o bobl rhyw ran neu'i gilydd ynddi - pobl o Fon wrth gwrs, pobl o Arfon, pobl o rannau eraill o'r wlad - llawer ohonynt yn teithio ac yn aros ym Mon ar eu cost eu hunain.  Maent wedi cwffio am y canlyniad gwych yma ty wrth dy, stryd wrth stryd, pentref wrth bentref.

    Un o'r rhesymau pam y cafwyd ymgyrch mor egniol oedd bod pobl yn ymwybodol y gallai rhywbeth mawr ddigwydd.  Natur broffesiynol yr ymgyrch oedd yn gyfrifol am hynny i raddau helaeth.   Roedd yr ymgyrch wedi ei harwain yn wych - roedd y canfasio yn gysact, trylwyr a gwyddonol,  roedd y timau canfasio unigol yn cael eu harwain yn effeithiol, roedd y naratif yn gadarnhaol, roedd defnydd effeithiol a phwrpasol yn cael ei wneud o ddata canfasio ac roedd yr ymgyrch yn cael ei haddasu yn unol a deilliannau'r  data hwnnw.  Roedd yn ymgyrch ysgafn droed a hyblyg - ac yn hyn o beth roedd y cyferbyniad efo ymdrech haearnaidd ddi gyfnewid Llafur yn greulon.  Prif weithredwr y Blaid, Rhuanedd Richards oedd yn arwain yr ymgyrch fanwl, ddeallus yma, ac yn ei harwain o Ynys Mon. Mae llawer o ddiolch hefyd i Geraint Day.

    Mae'r ymgyrch yn adlewyrchu'n dda ar arweinydd y Blaid hefyd.  Mae Leanne yn arweinydd gwahanol i'r hyn a gafwyd yn y gorffennol - ei phrif nodwedd i mi ydi ei bod yn arweinydd hynod o hands on.  Mae wedi ei lleoli yn Ne Ddwyrain Cymru ond rydym wedi ei gweld yn aml iawn yn y Gogledd Orllewin ers iddi ennill yr arweinyddiaeth - yn ystod ymgyrchoedd etholiadol ac yn ystod cyfnodau eraill. Mae'n dda iawn am rwydweithio efo aelodau.  Mae hyn yn dod ag arweinyddiaeth y Blaid a'r aelodaeth yn nes at ei gilydd, ac mae hyn yn wych o safbwynt moral.  Mae ei phresenoldeb mynych iawn ar lawr gwlad yn ymgyrchu ochr yn ochr a'r aelodau cyffredin yn dyrchafu statws yr ymgyrch yng ngolwg ymgyrchwyr ac etholwyr fel ei gilydd.

    Ac wedyn mae yna'r ymgeisydd penigamp wrth gwrs.  Mae llawer yn cael ei ddweud amdano ar hyn o bryd, a wna i ddim ychwanegu llawer at hynny ag eithrio i ddweud un peth.  Fel ymgeisydd mae'n ffitio'r etholaeth fel maneg - gwers i'w hystyried ym mhob rhan o Gymru.

    Roedd llawer o weithwyr proffesiynol y Blaid yn ymgyrchu ac arwain timau am wythnosau.  Efo Dic Thomas (arweinydd tim Arfon) yr ymgyrchais i yn bennaf, ond roedd ei frwdfrydedd, trwyaldre a phroffesiynoldeb yn adlewyrchu gwaith clodwiw gweddill y staff proffesiynol.  Roeddynt yn rhan allweddol o'r hyn ddigwyddodd.

    Roedd mewnbwn y cynghorwyr a etholwyd yn gynharach eleni hefyd yn hynod werthfawr - eu llwyddiant nhw oedd is seiledd y canlyniad rhyfeddol a gafwyd ddoe.  Cafwyd hefyd gefnogaeth llawr gwlad mynych a phwrpasol gan y rhan fwyaf o ddigon o ASau ac ACau'r Blaid.

    A dyna chi - templed ymgyrch lwyddiannus wedi ei gosod yn glir - arweinyddiaeth effeithiol, dulliau ymgyrchu cyfoes, ymyraeth bwrpasol o'r canol, hyblygrwydd, ymgeisydd perffaith, naratif atyniadol, cyfathrebu'r naratif yn effeithiol, ymgyrchwyr gwirfoddol rif y gwlith, cyd weithio rhwng pawb, cysactrwydd - attention to detail. Syml yn tydi?

    Wna i ddim manylu ar yr hyn a gafodd Llafur yn anghywir - am resymau amlwg.  Ond edrychwch ar y baragraff uchod - ac roedd bron i pob un o'r rhinweddau a restrir yn absennol o'u hymgyrch neu'n ddiffygiol.

    Mae'n arwyddocaol bod llawer o'u pobl yn meddwl y byddant yn ennill reit at y diwedd.  Cawsant eu chwalu hyd yn oed yn eu cadarnleoedd trefol - eu taro gan dren nad oeddynt yn ei gweld yn dod.  Bu ymgyrch y Blaid ym Mon yn fodel pwerus i weddill Cymru yn hyn o beth.

    Un nodyn bach cyn gorffen.  Yr hyn fydd fwyaf cofiadwy i mi am yr holl ymgyrch oedd cerdded i neuadd Plas Arthur i glywed y canlyniad a gweld pobl yn syllu'n geg agored ar y bwrdd lle'r oedd y pleidleisiau wedi eu pentyrru yn hynod anghyfartal a meddwl wrthyf i fy hun - be _ _ _ _ ydan ni wedi ei wneud?

    Nos Da




    Sibrydion

    Rhun wedi ennill pob bocs ar Ynys Mon a rhai ar Ynys Cybi.

    Sibrydion

    Cywiriad - Turnout 42.5%

    Thursday, August 01, 2013

    Sibrydion

    Tal Michael newydd gerdded heibio'r Bull - edrych yn drist.

    Sibrydion

    Tebyg i Rhun ennill pob bocs trwy'r ynys ag eithrio rhai yng Nghaergybi.

    Sibrydion

    Turnout 35%

    Sibrydion

    Pleidlais gref iawn i'r blaid, UKIP yn drydydd cryf.

    Sibrydion

    Sibrydion ei bod eisioes yn glir mai Plaid Cymru sydd wedi ennill

    Sibrydion

    Son bod y gyfradd pleidleisio yn isal yn Amlwch a Caergybi

    Un peth y gellir ei ddarogan efo sicrwydd _ _ _

    _ _ _ ydi na fydd dymuniad yr ymgeisydd Lib Dem, Steve Churchman i gael ei ethol yn AS San Steffan tros Ynys Mon yn cael ei wireddu.


    Ynys Mon - diweddariad bach

    Dwi'n deall i 65% o bleidleisiau post Ynys Mon gael eu dychwelyd bellach, ac mae'n debyg y bydd mwy yn dod i law cyn diwedd heddiw.  Ymddengys i gryn dipyn ddod i law yn gymharol hwyr  felly.  Mae'n bosibl  y bydd yn agos at 70% wedi dod i mewn  erbyn diwedd heddiw.  Dydi hyn ddim yn brin iawn o'r gyfradd arferol - felly mae'n bosibl y bydd y gyfradd gyffredinol yn uwch na'r 40% a awgrymwyd gennyf ddoe.  

    Nos da

    Y pethau mae dyn yn eu gwneud tros Gymru!