Bu cryn son yn sgil digwyddiadau diweddar am ddefnyddio'r technegau rheoli tyrfa a defnyddir yng Ngogledd Iwerddon yn ninasoedd mawr Lloegr. Golyga hyn dri pheth yn y bon - plismona hynod ymysodol, y defnydd o ganon dwr a'r defnydd o fwledi plastig. 'Dwi ddim yn amau y bydd y ddwy dechneg gyntaf yn cael eu defnyddio os bydd yr helyntion yn parhau, ond byddwn yn synnu'n fawr petai bwledi plastig yn cael eu cyflwyno oni bai bod pethau'n mynd yn llawer iawn gwaeth.. Mae'r rheswm am hynny yn eithaf syml - mae bwledi o'r fath yn lladd ac yn anafu pan maent yn cael eu defnyddio mewn trefi - rhestraf isod y sawl a laddwyd yng Ngogledd Iwerddon gan fwledi plastig.
Stephen McConomy 11, Sean Downes 23, Stephen Geddis 10, Carol Ann Kelly 12, Brian Stewart 13, Julie Livingstone 14, Peter Doherty 33, Michael Donnelly 21, Paul Whitters 15, Tobias Molloy 18, Peter McGuinness 41, Frank Rowntree 11, Seamus Duffy 15, Thomas Friel. 21, Henry Duffy 45, Keith White 20, Nora McCabe 30.
Stephen McConomy 11, Sean Downes 23, Stephen Geddis 10, Carol Ann Kelly 12, Brian Stewart 13, Julie Livingstone 14, Peter Doherty 33, Michael Donnelly 21, Paul Whitters 15, Tobias Molloy 18, Peter McGuinness 41, Frank Rowntree 11, Seamus Duffy 15, Thomas Friel. 21, Henry Duffy 45, Keith White 20, Nora McCabe 30.
Marwolaeth Sean Downes, Andersonstown Belfast 1984
Dydi hanesion am farwolaethau plant a delweddau fel yr uchod yn y papurau newydd ddim yn debygol o fod yn dderbyniol ar dir mawr Prydain heddiw. Dydan ni ddim yn son am ragrith fel y cyfryw - ond roedd amgylchiadau yn wahanol yn Belfast y 70au a'r 80au i strydoedd Tottenham a Maenceinion heddiw. Roedd y marwolaethau bwledi plastig yn digwydd yng nghyd destun llawer iawn o farwolaethau eraill, roedd canfyddiad bod y sawl oedd yn defnyddio'r bwledi yn wynebu perygl uniongyrchol, ac roedd y sawl a laddwyd yn dod o gymunedau oedd yn cael eu diafoli'n ddyddiol gan y cyfryngau Prydeinig.
Yn ychwanegol at hynny, beth bynnag y rhethreg ar y pryd bod Gogledd Iwerddon 'fel unrhyw ran arall o Brydain', y gwir ydi bod yr endid hwnnw wedi cael ei drin yn wahanol i weddill Prydain ers iddo gael ei ffurfio - a phe na bai wedi ei drin yn wahanol ni fyddai wedi bod yn bosibl ei gadw'n rhan o'r Undeb.
















