Saturday, April 19, 2014

Blogio o'r Almaen - rhif 8

Mae yna dipyn go lew mwy o sylw i etholiadau Ewrop yma yn yr Almaen na sydd adref.  Mae Ewrop yn bwysicach i'r Almaen nag ydyw yn y DU.  Adlewyrchir hyn gan sylw cyfryngol a chan bosteri ar hyd ochru'r ffyrdd.  Gan bod uchel lys yr Almaen wedi penderfynu yn ddiweddar bod y trothwy o 5% mae'n rhaid i bleidiau ei gyrraedd cyn cael cynrychiolaeth yn Senedd Ewrop yn anghyfansoddiadol, mae'n hollol bosibl y bydd pleidiau sydd ond yn cael 1% o'r bleidlais yn ennill cynrychiolaeth am y tro cyntaf.

A barnu o bosteri Berlin mae'r gystadleuaeth yn lleol rhwng y prif bleidiau - yr SPD a'r CDU, y blaid sydd wedi esblygu o'r hen Blaid Gomiwnyddol - Y Chwith, Y Gwyrddion sydd efo cyfres o bosteri uniaith Saesneg sy'n clodfori eu rhyddfrydiaeth,  ac a barnu oddi wrth nifer y posteri mae'r Morladron  yn gystadleuol.  Dydw i heb glywed dim am yr FDP - fersiwn yr Almaen o'r Lib Dems

Os nad ydi hynny'n ddigon o ddewis mae yna hefyd blaid neo Naziaidd yr NDP i'r sawl sydd efo diddordeb yn y math yna o beth,  mae'r  SSW sy'n cynrychioli lleiafrifoedd Ffrisian a Daeneg, ac mae'r BIW (neu 'Dinasyddion Blin') yn bopiwlistiaid Adain Dde.  Mae'r oll o'r uchod efo cynrychiolaeth genedlaethol neu ranbarthol.  Os nad ydi hynny at ddant yr etholwyr chwaith mae yna bump ar hugain o bleidiau llai i ddewis ohonynt gan gynnwys Plaid Cristnogion Sy'n Parchu'r Beibl,Plaid  Anarchaidd Pogo a'r Blaid Amddiffyn Anifeiliaid.  Bydd y rheolau newydd yn arwain at gynrychiolaeth eclectig iawn o'r Almaen yn Senedd Ewrop y tro hwn.

Wele rhai o'r posteri sy'n 'addurno' strydoedd Berlin.









Friday, April 18, 2014

Blogio o'r Almaen - rhif 7

Daw'r lluniau isod o un o lochesau niwclear Berlin.  Ceir lle  i tua 3,600 o bobl gysgodi mewn amgylchedd heb ymbelydredd am gyfnod o bedwar diwrnod ar ddeg.  Wedi hynny roedd y dwr, bwyd ac awyr yn dod i ben.  Ymarferiad mewn gwneud i bobl deimlo'n fwy diogel yn ystod cyfnod y Rhyfel Oer oedd y llochesau mewn gwirionedd, nid ymarferiad mewn darparu diogelwch go iawn - er bod 23 lle tebyg ym Merlin, doedd yna ond lle i tua 1% o boblogaeth y ddinas aros yno.

Beth bynnag, ymddengys bod gwersi wedi eu dysgu o brofiadau'r Ail Ryfel Byd.  Doedd yna fawr ddim yn yr ystafell feddygol ag eithrio offer i ddelio efo genidigaethau.  Roedd genidigaethau buan yn digwydd yn aml iawn yn ystod ymgyrchoedd bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a byddai lloches niwclear yn debygol o fod efo mwy na'i siar o ferched beichiog.

Roedd cyn lleied o doiledau ar gael er mwyn sicrhau ciwiau parhaol fwy neu lai i gyrraedd yno.  Roedd yn gyffredin iawn i bobl mewn amgylchiadau tebyg i hyn gloi eu hunain yn y toiled a chyflawni hunan laddiad yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Mae'n anodd gwneud hynny efo ciw anferth y tu ol i chi.








Thursday, April 17, 2014

Blogio o'r Almaen - rhif 6

Na, nid Groeg neu Dwrci ond y tu mewn i Amgueddfa Pergamon ym Merlin.  Mae'r allor yn esiampl hynod drawiadol o'r degau o filoedd o eitemau bach a mawr o'r Dwyrain Canol sydd wedi dod o hyd i'w ffordd i amgueddfeydd neu gasgliadau preifat yn y Gorllewin.


Blogio o'r Almaen - rhan 5

Siop lyfrau Iddewig ddim ymhell o Sw Berlin.  Mae'n ymddangos bod y lle angen cael ei warchod gan yr heddlu - mae heddlu wedi bod yn sefyll y tu allan i'r lle pob tro 'dwi wedi mynd heibio.  Ag ystyried pob dim ddigwyddodd yn nhri degau a phedwar degau'r ganrif ddiwethaf byddai rhywun wedi meddwl y byddai'r ysfa i erlid Iddewon wedi pylu.

Blogio o'r Almaen - rhan 4

Gardd goffa yng nghysgod y Reichstad i goffau grwp o bobl mae eu dioddefaint yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cael ei anghofio yn aml iawn - y Sipsiwn - neu i fod yn gywirach o bosibl pobl y Sinti, Roma, Lallere, Louvari a Monouche.  Bu hyd at 500,000 ohonynt farw rhwng 1933 a 1945 o ganlyniad i buro ethnig gan lywodraeth yr Almaen yn ystod y cyfnod hwnnw.

Blogio o'r Almaen - rhan 3

Un o'r ychydig rannau o Wal Berlin sy'n sefyll o hyd ydi ychydig gannoedd o fetrau ar hyd yr Afon Speer - Oriel yr Ochr Ddwyreiniol.  Mae'r wal wedi ei gorchuddio efo murluniau o un ochr i'r llall ar y ddwy ochr.

Yn wahanol i Belfast - dinas arall enwog am ei murluniau - ychydig iawn o luniau ar thema gwleidyddol a geir.  Ond wedyn mewn ambell i gyd destun mae gwneud rhywbeth anwleidyddol yn ffordd o wneud datganiad ynddo'i hun.

Wednesday, April 16, 2014

Blogio o'r Almaen - rhan 2

Reit dwi heb gael llawer o amser i flogio - ond un neu ddau o argraffiadau brysiog am Berlin.  Mae'r llun isod wedi ei dynnu yn Alexanderplatz yn Nwyrain y ddinas.  Ar flaen y llun ceir cerfluniau o Marx ac Engles gan Ludwic Engelhart, ac yn y cefndir ceir Twr Teledu Fernsehturm.  Codwyd y ddau yn nyddiau'r GDR. 

Er mor wahanol, os ydi rhywun yn meddwl am y peth mae'r ddau strwythur yn cyflenwi pwrpas tebyg - lledaenu propoganda.  Mae'r twr yn ol pob tebyg yn fwy - ac yn fwy rhwysgfawr - na sy'n rhaid iddo fod.  Mae'n 368m o uchder ac mae'n weladwy o llawer o Orllewin Berlin - ac ymhell y tu hwnt yn Nwyrain yr Almaen.  Yn ogystal a bod yn dyst i rym y wladwriaeth roedd hefyd yn gallu lledaenu propoganda'r wladwriaeth.  Codwyd y strwythur tros gyfnod o 1965 - 1969 gyda dyfodiad teledu yn Nwyrain yr Almaen i bwrpas trosglwyddo signalau'r orsaf  deledu genedlaethol.  Roedd dyfodiad teledu yn fendith i unbeniaethau (ac nid unbeniaethau yn unig) ar hyd a lled y Byd - yn wahanol iawn i ddyfodiad y We Fyd Eang hanner canrif yn ddiweddarach.  Gall gwladwriaethau reoli'r naill yn llwyr - os ydynt am wneud hynny.  Ychydig iawn o reolaeth sydd ganddynt tros y llall.

Mae celf cyhoeddus ac adeiladau sific sy'n cael ei gomisiynu gan weinyddiaethau gwladwriaethol yn aml iawn yn wleidyddol o ran naws.  Mae'r cerflun o Marx ac Engles yn clodfori seiliau deallusol Marcsiaeth, mae'r Ardd Goffa yn Nulyn yn rhoi ffocws i amgylchiadau sefydlu'r wladwriaeth Wyddelig, mae'r Arc de Triumph yn tanlinellu grym milwrol Ffrainc ac mae'r Statue of Liberty yn ymgorfforiad o'r ideoleg weriniaethol a roddodd fodolaeth i'r Unol Daleothiau.

Mae gallu gwladwriaethau i gomisiynu celf neu godi adeiladau sy'n adlewyrchu eu grym yn nodwedd o'r ffordd y buont wedi cynnal eu hunain erioed - rhoi ffurf ddiriaethol i'w ideolegau creiddiol.  Mae dyfodiad y We a chyfryngau amgen eraill am ei gwneud yn fwy anos i gynnal ideolegau syml yn y dyfodol.  Mae'n anodd barnu os bydd hyn yn arwain at fwy 'ta llai o adeiladu a chomiwsiynu i bwrpas gwleidyddol yn y dyfodol.





Monday, April 14, 2014

Blogiadau o'r Almaen - rhan 1


Roedd yr haf diwethaf yn anarferol i Flogmenai yn yr ystyr na chymerwyd gwyliau.  Yn lle hynny mi es ati i wneud ychydig o flogio gwleidyddol tra ar wyliau yng ngwlad y Basg a Gogledd Spaen.  Doeddwn i ddim yn disgwyl i lawer ddarllen a dweud y gwir, ond er syndod i mi cefais fwy o ddarllenwyr yn ystod y cyfnod hwnnw nag yn ystod unrhyw ran arall o'r flwyddyn.  Felly dyma drio'r un peth eto - 'dwi yn ardal Berlin y tro hwn.

Y Trabant ydi'r car isod - darn o beirianwaith a ddaeth yn drosiad am fethiant y drefn Gomiwnyddol i lwyddo ar lefel economaidd.  Fyddai neb wedi credu hynny pan gynhyrchwyd y Trabant am y tro cyntaf yn Nwyrain yr Almaen yn 1958  - fel car roedd yn cymharu'n ffafriol ag unrhyw beth a gynhyrchwyd yn y Gorllewin ar y pryd.  Serch hynny ychydig iawn o ddatblygiadau a gafwyd wedi hynny - erbyn diwedd yr wythdegau roedd y cyferbyniad rhwng y Trabbi ar un ochr i Wal Berlin a'r Mercs a'r Beamers ar yr ochr arall yn ymylu ar fod yn greulon.  

Er mor elfennol mae'r car yn ymddangos i ni heddiw, roedd yn eitem i'w thrysori yn Nwyrain yr Almaen - roedd rhestr aros o ddeuddeg mlynedd i gael un, ac roedd yn costio rhwng 11,000 a 13,000 Ostmark - cyfwerth a chyflog cyfartalog ugain mis.  Mae cyflog cyfartalog yng Nghymru yn tua £20,000 y flwyddyn - felly roedd yn costio mwy na £32,000 yn ein pres ni.  

Rydych yn hynod o anhebygol o weld Trabbi ar y lon heddiw oni bai bod ei injan wedi ei addasu'n sylweddol - mae'n cynhyrchu llawer mwy o lygredd na sy'n gyfreithlon - tua phump gwaith cymaint o carbon monocsid na char gorllewinol o'r un cyfnod.   Roedd y  cynhyrchu llawer iawn mwy o wenwyn na Mercs oedd efo injan chwe gwaith cymaint a'r uned 600cc oedd yn gyrru'r Trabbi.



Sunday, April 13, 2014

Ydi'r Toriaid Cymreig mymryn bach yn dwp?

Rhyw feddwl oeddwn i wrth wrando am ymysodiad hollol anghmedrol a thros y top (a defnyddio idiom Saesneg) David Cameron ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru os ydi'r Toriaid - neu a bod yn fwy manwl y Toriaid Cymreig - wedi ystyried o ddifri beth fydd goblygiadau naratif y Toriaid Prydeinig iddyn nhw.

Mae strategaeth Cameron yn un eithaf hawdd i'w deall - portreadu Cymru fel rhyw Uffern ar y Ddaear, priodoli hynny i'r ffaith mai Cymru ydi'r unig ran o'r DU i gael ei reoli gan Lafur a dweud y byddai gweddill y DU hefyd yn Uffern ar y Ddaear petai Miliband yn ennill yr etholiad cyffredinol flwyddyn nesaf.  Rhyw amrywiaeth bach ar Project Fear yr ymgyrch Bitter Together yn yr Alban.  Gallai hyn weithio yn Lloegr wrth gwrs - a dyna ydi bwriad Cameron - dychryn Saeson yn wirion. Ond
beth fydd yr effaith yng Nghymru.  Mae'n anodd rhagweld y pethau 'ma - ond hoffwn awgrymu dau sgil effaith posibl:

1). Bydd yn haws i Lafur Cymru amddiffyn ei hun rhag beirniadaethau cwbl rhesymol o'r ffordd maent yn rhedeg gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru trwy gysylltu'r beirniadaethau hynny efo hefru hysteraidd Cameron am Glawdd Offa yn ffin rhwng bywyd a marwolaeth ac ati.  Mi fydd hi'n hawdd sgubo pob beirniadaeth o dan y carped.

2). Mae'n bosibl y bydd y strategaeth yn gelyniaethu llawer o ddarpar bleidleiswyr Toriaidd yng Nghymru.  Efallai y bydd sterics y Toriaid, y Mail a'r Sun yn argyhoeddi trigolion yr East Midlands bod Cymru yn wlad trydydd byd, ond fydd o ddim yn argyhoeddi trigolion Aberconwy na Gogledd Caerdydd.  Yn wir mae'n ddigon posibl y byddant yn cael yr holl beth yn sarhaus.  Os felly byddai'r bobl hyn yn agored iawn i wrth naratif Llafur sy'n portreadu'r ymgyrch fel rhyfel ar Gymru - pe byddai  hyn yn digwydd byddai pris sylweddol i'w dalu gan y Toriaid Cymreig tros y dair blynedd nesaf.

Mae yna rhyw ddyfyniad neu'i gilydd yn y Beibl sy'n canmol dyn sy'n fodlon rhoi ei einioes er mwyn ei frawd.  Efallai mai dyna gymhelliad y Toriaid Cymreig tros gymryd rhan yn ymgyrch Cameron gyda'r fath frwdfrydedd.  Ar y llaw arall efallai eu bod nhw'n rhy dwp i ystyried y posibilrwydd y gallai strategaeth Cameron arwain at wrthdrawiad rhwng y Toriaid Cymreig a thren etholiadol yn 2014, 2015 a 2016.

Mae'r ail bosibilrwydd yn fwy tebygol na'r cyntaf.

Saturday, April 12, 2014

Mae gan yr Alban y Sunday Herald _ _ _

 _ _ _ ac mae gennym ni bapur cenedlaethol o'r enw'r Western Mail.

Ymgyrchu

Wele rhai o'r timau o Bleidwyr oedd allan ar hyd a lled y wlad yn ymgyrchu tros Jill Evans yn etholiad Ewrop heddiw.


























Friday, April 11, 2014

Defnydd o'r Gymraeg yn y Cynulliad

Dydi Blogmenai ddim yn ymateb i geisiadau am flogiadau ar bwnc arbennig yn aml iawn, ond cyn bod rhai o fy ffrindiau bach anhysbys yn codi record y Blaid o ran defnyddio'r Gymraeg yn y Cynulliad mi wna i eithriad.  Dwi wedi torri'r tablau isod o astudiaeth hynod drylwyr a defnyddiol Cymdeithas yr Iaith o'r pwnc - ac mae'n ddadlennol.

Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru yn gwneud dwywaith cymaint o ddefnydd o'r iaith na phawb arall efo'i gilydd.  Oni bai am y Blaid llai na 4% o drafodaethau'r Cynulliad fyddai'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.  Un aelod unoliaethol sy'n defnyddio'r iaith mwy na 50% o'r amser - Keith Davies, Llanelli.  Ychydig iawn o ddefnydd o'r Gymraeg mae siaradwyr cwbl rhugl fel Carwyn Jones, Gwenda Davies, Suzy Davies, Paul Davies, Mark Drakeford neu Leighton Andrews yn ei wneud.  Yn wir mae Leighton yn ymddangos i fod wedi rhoi'r gorau yn llwyr i ddefnyddio'r Gymraeg ers colli ei swydd fel Gweinidog Addysg.

Ydi hyn oll yn bwysig?  Wel ydi - wrth gwrs.  Mae'n hen bregeth sy'n cael ei chyfeirio at y Blaid na ddylai ystyried yr iaith yn rhywbeth sy'n perthyn yn arbennig iddi hi.  'Dwi'n meddwl bod hynny yn ddadl synhwyrol o safbwynt lles yr iaith.  Ond mae hefyd yn wir nad yw'n ymddangos bod aelodau'r pleidiau unoliaethol yn cymryd yr iaith o ddifri - neu o leiaf nid ydynt  ei chymryd yn ddifri i'r graddau eu bod yn fodlon gwneud defnydd cyhoeddus ohoni.  Bai yr unoliaethwyr ydi hynny, nid bai y Blaid.









Thursday, April 10, 2014

Y system addysg yng Nghymru

Fydda i ddim yn ail redeg blogiadau o'r gorffennol yn aml iawn, ond  yn sgil cyhoeddi adroddiad yr OECD ar y gyfundrefn addysg yng Nghymru dwi am ail gyhoeddi blogiad o ddiwedd y llynedd.  Mae nifer o'r pwyntiau roeddwn yn eu codi bryd hynny yn codi yn adroddiad heddiw - nid fy mod yn honni fy mod yn arbennig o glyfar - mae'r hyn a ddywedwyd gan yr OECD yn gwbl gyfarwydd i bawb sydd yn y byd addysg.  Byddai holi addysgwyr wedi arbed £200,000 i lywodraeth y Cynulliad.

Mae'r blogiad yn codi rhywbeth arall sydd yn niweidiol i'r system addysg ond nad yw'n codi yn yr adroddiad - y ffaith bod llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion fod yn asiantaethau aml bwrpas.

Roedd un o'r  cyfeillion anhysbys yn holiyn nhudalen sylwadau'r blogiad diwethaf pam bod Vaughan Roderick yn dweud bod y gwrth bleidiau yn cytuno efo cyfeiriad newidiadau'r llywodraeth i'r gyfundrefn addysg, ond yn amau mai'r Blaid Lafur oedd y blaid i'w gwireddu.  Roedd am wybod beth oedd gan Vaughan mewn golwg.  Y gwir ydi nad ydw i'n gwybod - ond mae gen i farn am y ffordd mae Llafur wedi rhedeg y gwasanaeth addysg yng Nghymru a'r cysylltiad rhwng hynny a methiant addysgol yng Nghymru.

Mae'n debyg mai'r hyn y ceir cytundeb ynglyn a fo gan y gwrth bleidiau ydi cyflwyniad diweddar Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd  gan y llywodraeth.  Os mai codi safonau llythrennedd a rhifedd ydi blaenoriaeth y llywodraeth mae'n synhwyrol cynllunio ar gyfer hynny - a chynllun i ffocysu'r cwricwlwm ar lythrennedd a rhifedd ydi'r fframweithiau mewn gwirionedd.  Fel sy'n arferol efo blaengareddau Llywodraeth Cymru mae'r ffordd mae'r fframweithiau wedi eu cyflwyno yn rhy frysiog, heb eu hystyried yn fanwl ac yn afresymegol mewn rhai ffyrdd - ond stori arall ydi honno.

Ond mae newidiadau cymharol ddiweddar ehangach o lawer na hynny.  Er enghraifft rhoir pwyslais bellach ar dracio disgyblion unigol yn fanwl iawn - a gwneud hynny trwy gydol eu gyrfa ysgol.  Profir plant yn flynyddol a gwneir defnydd o ddeilliannau'r profion hynny i gymharu plant ar hyd a lled y wlad efo'i gilydd.  Rhoir pwyslais ar grwpio plant i wahanol gategoriau a thracio cynnydd y grwpiau hynny.  Mae ysgolion ar hyd a lled yr wlad hefyd yn cael eu grwpio ac yn cael eu cymharu efo ysgolion eraill yn yr un grwp.  Mae ysgolion hefyd yn cael eu bandio er mwyn eu cymharu a'i gilydd.  Disgwylir i ysgolion fod a strwythurau rheolaethol mewn lle i reoli perfformiad y sawl sy'n gweithio ynddyntl..  Anogir awdurdodau lleol, llywodraethwyr a chonsortia lleol i herio ysgolion i bwrpas sicrhau bod safonau cyflawniad yn dda a bod y strwythurau rheolaethol mewn lle i sicrhau gwelliant.  Ceir mwy o atebolrwydd - a mwy o lefelau atebolrwydd ag a gafwyd erioed o'r blaen.

Ydi hyn oll yn debygol o wella safonau llythrennedd a rhifedd?  Wel o gael amser mae'n debyg y gwnant - ond mae'r newidiadau yn gymhleth, maent wedi eu cyflwyno yn gyflym iawn ac mae agweddau arnynt yn rhedeg yn groes i rhai o flaengareddau eraill  y llywodraeth.  Yn y tymor byr maent yn achosi peth anhrefn oddi mewn i'r gyfundrefn - a gallai hynny'n hawdd yrru safonau i lawr am gyfnod.

Ond yr hyn sydd heb ei wneud ydi ystyried yn llawn beth yn union mae'r llywodraeth  eisiau gan y gyfundrefn addysg.  Mae llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r gyfundrefn  i wthio eu agenda tegwch cymdeithasol ers 1999.   O ganlyniad bydd ysgolion yn cael eu hunain yn gyfrifol am glybiau cyn ac ar ol ysgol, yn hybu iechyd ac arddull byw cynaladwy, yn gweithredu i hybu gwahanol chwaraeon, yn cydlynnu cynlluniau gwella sgiliau rhiantu, yn sicrhau bod plant yn glanhau eu dannedd, yn gweithredu ar ran adrannau gwasanaethau cymdeithasol ac awdurdodau iechyd, yn paratoi prydau i'r henoed ac ati ac ati.  Ychwaneger at hyn y ffaith bod mwy a mwy o gyfrifoldebau sy'n ymwneud a chynnal adeiladau, rheoli cyllid a delio a materion personel wedi cael eu datganoli i ysgolion unigol ac mae'n weddol amlwg bod ffocws ysgolion wedi newid..

Rwan does gen i ddim problem efo'r un o'r gofynion uchod fel y cyfryw - os ydi'r llywodraeth eisiau defnyddio'r gwasanaeth ysgolion i bwrpas hybu ei gwahanol flaengareddau cymdeithasol, mae hynny'n iawn.  Ond yr hyn sydd ddim yn iawn ydi ymddwyn fel petai'n bosibl defnyddio ysgolion fel asiantaethau aml bwrpas heb i hynny effeithio ar eu pwrpas creiddiol.  Dydi hi ddim yn bosibl symud ffocws ysgolion oddi wrth y busnes o addysgu plant  tra'n cynnal a chodi safonau ar yr un pryd.  Dydi hi ddim yn rhesymol disgwyl i neb na dim wneud pob un o ddeg joban mor effeithiol ag y byddant yn gwneud dwy joban.  Os ydi pwrpas sefydliad yn cael ei ehangu a'i  ymestyn, yna mae'n sefyll i reswm y bydd y ffocws creiddiol yn cael ei lastwreiddio  - fel yna mae pethau.

Gyda llaw cafwyd cyfnod o ddeg mlynedd (hyd at 2009) pan roedd yn ymddangos bod y gyfundrefn addysg yn marchogaeth y ddau geffyl - gwella safonau addysgol a gwthio agenda cymdeithasol y llywodraeth.  Roedd canlyniadau profion ac arholiadau yn gwella, roedd arolygiadau ESTYN yn gadarnhaol yn amlach na pheidio - roedd yna ganfyddiad bod pethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir.  Wedyn daeth profion Pisa (oedd yn dangos bod safonau yn syrthio a bod Cymru yn tan berfformio o gymharu a gwledydd tebyg) a newidiodd pob dim tros nos.  Dechreuodd ESTYN fod yn llawer, llawer mwy beirniadol o ysgolion ac awdurdodau addysg, a dechreuodd y llywodraeth osod eu strwythurau newydd mewn lle.  Cynllwyn cyfforddus oedd yn siwtio pawb oedd y 'llwyddiant'.

A dyna ni'n dod yn ol at y broblem efo Llafur a'r gwasanaeth addysg.  Mae yn natur Llafur Cymru i fod eisiau defnyddio'r gwasanaeth addysg i fynd i'r afael efo anghyfartaledd a thlodi - mae gwneud hynny yn sicrhau na fydd y gyfundrefn addysg yng Nghymru yn perfformio i'w photensial.  Ar ben hynny dydi defnyddio'r gyfundrefn addysg i ddelio efo tlodi ddim yn ffordd effeithiol o ddelio efo tlodi..  Y ffordd o wneud hynny ydi trwy greu swyddi o ansawdd, a'r ffordd orau o wneud hynny yn ei dro ydi defnyddio'r system trethiant i annog buddsoddiad - ond fel rydym wedi nodi sawl gwaith dydi Llafur ddim eisiau cael eu dwylo ar y gyfundrefn drethiant.  Felly maent yn defnyddio'r gyfundrefn addysg i ddelio efo problem nad yw wedi ei chynllunio i'w datrys.  Canlyniad hyn ydi methiant i fynd i'r afael efo tlodi a system addysg aneffeithiol.

Wednesday, April 09, 2014

Faint o wahaniaeth sydd yna rhwng ymddygiad Maria Miller ac un Chris Bryant mewn difri?

Wele ymateb y Blaid Lafur i ymddiswyddiad Maria Miller heddiw  -

It is welcome that Maria Miller has finally done the right thing. By resigning she has recognised that the public expect and deserve the highest standards from politicians.

Dwi ddim eisiau edrych fel pe byddwn yn ceisio amddiffyn Maria Miller - ond dwi yn cael ychydig o drafferth gweld yn union sut mae yr ymddygiad sydd wedi arwain at ei hymddiswyddiad yn wahanol mewn gwirionedd  i ymddygiad nifer o Aelodau Seneddol Llafur sydd yn ddarpar weinidogion ar hyn o bryd. Mae'r stori wreiddiol bellach wedi ei cholli'n llwyr ynghanol y miri am yr ymddiheuriad di ddim, y galwadau am ei hymddiswyddiad, yr honiadau ei bod yn ceisio bwlio'r wasg a'r hunan gyfiawnder cyffredinol sy'n syrthio tros Dy'r Cyffredin ar adegau fel hyn.  Serch hynny mae'n stori eithaf syml yn y bon.


Rhwng 2005 a 2009 aeth Maria Miller ati i hawlio mwy na £ 90,000 mewn treuliau seneddol ar gyfer ei thŷ yn ne-orllewin Llundain ty mae'n ei rannu gyda'i gŵr, ei phlant a'i rhieni.  Aeth y Comisiynydd Seneddol, Kathryn Hudson, ati i ymchwilio i'r mater yn 2012 yn dilyn honiadau bod Mrs Miller  wedi torri y rheolau hawlio lwfansau ar gyfer ail gartrefi.



Cafodd Maria Miller ei chlirio o hawlio treuliau yn anghyfreithlon ar y sail  nad oedd ei rhieni wedi
elwa'n ariannol o'r trefniadau. Fodd bynnag daeth Ms Hudson hefyd i'r casgliad bod y gweinidog wedi gor hawlio tua £45,000 oherwydd iddi beidio a dweud wrth yr awdurdodau bod ei chostau morgais wedi syrthio yn sgil cwymp mewn cyfraddau llog.  Cafodd orchymyn i  dalu'r arian yn ôl. Dyfarnwyd hefyd bod Maria Miller wedi ymddwyn yn amhriodol yn ei dynodiad o ail gartref.  Penderfynodd Pwyllgor Safonau o gyd ASau Maria Miller yn ddiweddarach mai £5,800 y dylid ei dalu, a dyna a dalwyd.

Rwan byddai'r math yma o ymddygiad yn gwbl amhriodol i'r rhan helyw o bobl, ond roedd diwylliant wedi datblygu yn San Steffan oedd yn caniatau i lawr o Aelodau Seneddol gredu bod y math yma o beth yn iawn.  Roedd Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda yn un o'r Aelodau Seneddol hynny.  Mae Mr Bryant yn weinidog cysgodol ar faterion cartref ar hyn o bryd.



Yn 2004 ceisiodd  hawlio £58,000 i bwrpas addasu ei ail gartref yn y Porth. Ymddengys ei fod am wario'r arian ar ystafell ymolchi a chegin newydd ac i wneud ychydig o waith strwythurol.  Roedd hyn bron i dair gwaith yn fwy na'r uchafswm blynyddol y gellid ei hawlio ar gyfer y pwrpas hwn.  Ei gyfiawnhad - yn ol swyddogion yn Nhy'r Cyffredin -  oedd ei fod yn cael problemau dod o hyd i eiddo addas oherwydd ei fod o dan yr argraff mai tai teras glowyr neu dai perchnogion glofeydd yn unig oedd ar gael yn y Rhondda' . Ni lwyddodd i hawlio ei £58k yn 2004, ond daeth ei dreuliau am adnewyddu a thrwsio yn 2004 a £ 20,902 i'r coffrau.


Ym mis Ebrill 2005, 'fflipiodd' ei ail gartref i bwrpas hawlio ar ei fflat yng ngorllewin Llundain , a brynwyd ganddo am £400,000 ym mis Ebrill 2002. Hawliodd £630 y mis am log ar ei forgais ynghyd a chostau eraill . Wedi hawlio mwy na £ 3600 dros dri mis, gwerthodd y fflat ym mis Gorffennaf 2005 gan wneud elw o £77,000. Defnyddiodd yr elw i brynu fflat  drutach hyd yn oed yng ngorllewin Llundain - £670,000.  Dynododd y fflat newydd fel ei ail gartref yn syth.  Hawliodd bron i £ 6,400 ar dreth stamp, ffioedd cyfreithiol a ffioedd morgais.  Aeth ati'n ddi ymdroi i hawlio £1,000 y mis at log y morgais. Hawliodd £ 6,000 arall y flwyddyn ar gyfer costau gwasanaethu'r  fflat a rhent ar y tir.

I gyd efo'i gilydd cafodd y trethdalwr y fraint o dalu  £ 92,415 tuag at wahanol 'ail gartrefi' Chris Bryant rhwng 2004 a 2009.

Yn wahanol i Maria Miller nid yw Mr Bryant wedi gorfod talu dim o'r arian yma yn ei ol.  Y rheswm am hynny ydi bod Maria Miller wedi torri rheolau trwy beidio datgan y gostyngiad yn ei chyfraddau llog tra bod holl drachwant Mr Bryant oddi mewn i'r rheolau. Mater pwysig o safbwynt gyrfaoedd y ddau wrth gwrs, ond  i'r rhan fwyaf o bobl gyffredin 'does yna ddim gwahaniaeth moesol rhwng ymddygiad y naill na'r llall.  Roedd y ddau yn hapus i odro'r trethdalwr oherwydd trachwant.

Ag ystyried bod yna gnwd da o Lafurwyr sydd wedi ymddwyn yn union fel Chris Bryant mae yna rhywbeth digon chwithig am wrando ar y Blaid Lafur yn clochdar.

Tuesday, April 08, 2014

Y ddadl boncyrs ddiweddaraf yn erbyn annibyniaeth i'r Alban

Ar rhyw olwg mae honiad George Robertson y byddai ymadawiad yr Alban a'r DUyn ddigwyddiad catyclismic i'r Gorllewin a bod America yn poeni yn ofnadwy am y peth yn ymylu at fod yn ddoniol.

Wedi'r cwbl byddai Alban annibynnol yn rhan o NATO, ac mae gan yr UDA wariant milwrol blynyddol o $682bn.  £35bn ydi cyfanswm gwariant llywodraeth yr Alban eleni.  Cost adeiladu un llong yn llynges yr UDA - yr USS Gerald Ford - oedd $18m - heb gyfri'r 75 awyren F35 sydd ar ei bwrdd ar gost o £200m yr un.  Mae gan yr un llong yma yn unig griw o 4,600 - ceir llai na 12,000 o aelodau o'r lluoedd  diogelwch yn yr Alban i gyd efo'i gilydd.

Ymddengys bod yr Alban yn rhy fach i gael bod yn aelod o barth sterling, ond mor fawr fel y byddai ei hymadawiad a'r DU yn drychineb strategol i'r Gorllewin ac yn fuddugoliaeth ysgubol i'w gelynion.

Ar un olwg yr un bin sbwriel a gweddill y darogan gwae gwyllt ydi lle rwdlan Robertson - y byddai'n rhaid i Loegr fomio meysydd awyr yr Alban, y byddai'n rhaid i'r Alban ail drafod 14,000 o gytundebau rhyngwladol,  y byddai'r gwasanaeth post yn dod i ben,  y byddai'n rhaid i'r pandas adael sw Caeredin,  y byddai'n rhaid i'r wlad ddod o hyd i biliynau lawer i adleoli Trident ac ati, ac ati.

Ond mae hon ychydig yn wahanol o safbwynt goblygiadau ei gwiriondeb.  Collwyd y rhan fwyaf o'r Ymerodraeth Brydeinig yn ystod y Rhyfel Oer.  Fedra i ddim dychmygu bod Robertson yn credu na ddylai India fod wedi mynd ati i dorri ei chwys ei hun oherwydd ystyriaethau strategol y Gorllewin - er i'r ymadawiad hwnnw wneud gwahaniaeth strategol sylweddol trwy amddifadu 'r DU o ffynhonell milwyr anferth tra'n darparu Rwsia efo cyfaill diplomyddol.

Mae natur gwledydd a gwladwriaethau wedi newid ac amrywio trwy gydol hanes.  Mae pob gwladwriaeth yn dod i ben yn y diwedd, mae pob ffin gwleidyddol yn newid.  Mae mapiau gwleidyddol o'r Byd yn newid dro ar ol tro ar ol tro.  Roedd map gwleidyddol y Byd gan mlynedd yn ol yn gwbl wahanol i'r map gwleidyddol gan mlynedd ynghynt ac i'r map can mlynedd wedyn.  Mae hyn yn digwydd weithiau oherwydd rhyfeloedd, ond yn amlach oherwydd bod y rationale tros ffiniau penodol yn newid.  Ymddengys bod Robertson yn dadlau y dylai'r broses honno ddod i ben ar unwaith rhag bygwth buddianau strategol un bloc penodol - hyd yn oed yn yr achos yma lle byddai'r newid yn cael effaith hynod o fach o safbwynt strategol - neu yn wir unrhyw safbwynt o gwbl.  Byddai dilyn y rhesymeg yma yn arwain at gyfundrefn wladwriaethol sydd wedi ei rhewi a'i ffosileiddio am byth bythoedd.

Saturday, April 05, 2014

Y Wales Blog Awards

Mae'n braf nodi i Flogmenai gael ei hun ar y rhestr fer yng nghategori blog gwleidyddol y flwyddyn y Wales Blog Awards.  Y ddau flog arall ar y rhestr fer ydi  Carmarthenshire Planning Problems, Jacqui Thompson ac Oggy Bloggy Ogwr Owen Donovan - dau flog arbennig o dda - felly mae'n fraint cael ymddangos.  Bydd y noson wobreuo yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Chapter yn Nhreganna ar Fai 15.  

Diolch i bwy bynnag oedd ddigon caredig i fy enwebu.

Gobeithio na fydd yna lythyr gan Archesgob Cymru ac aelodau o Dy'r Arglwyddi yn cyrraedd y beirniaid yn mynnu bod y wobr yn mynd i Gaerfyrddin!

Thursday, April 03, 2014

Gwilym Owen a'r penderfyniad i symud S4C i Gaerfyrddin

Gan bod Gwilym Owen yn gofyn yn ei golofn yn Golwg heddiw beth yw fy niffiniad o'r term 'nytars' (a ddefnyddwyd gennyf mewn cyfeiriad at sylwadau gwrth Gymraeg ar Radio Wales yn ddiweddar) waeth i mi ateb.  Yng nghyswllt y blogiad dan sylw 'nytars' ydi pobl sy'n defnyddio'r cyfryngau torfol i wneud i bawb wrando ar eu rhagfarnau afresymegol a di dystiolaeth.

Daw hyn a ni'n dwt at ddadansoddiad Gwilym Owen o pam y symudwyd pencadlys S4C i Gaerfyrddin yn hytrach na Chaernarfon.  Yn ol Gwilym cais Plaid Cymru oedd un Caernarfon tra bod  cais Caerfyrddin yn un oedd wedi ei gefnogi gan Archesgob Cymru, gwahanol Arglwyddi, ac Aelodau Seneddol a Chynulliad.  Cyngor Gwynedd oedd yn arwain cais Caernarfon tra mai Coleg y Drindod oedd yn arwain un Caerfyrddon.  Mae'n anodd gwybod beth yn union i'w ddweud am ddamcaniaeth Gwilym a dweud y gwir.

Mae'n wir bod Cyngor Gwynedd yn cael ei redeg gan glymblaid Plaid Cymru / Llafur, ond dydi hynny ddim yn golygu mai cais Plaid Cymru oedd yr un i gael S4C i ddod i Gaernarfon.  Yn yr un ffordd byddai'n gwbl amhriodol i honni mai Llafur sy'n darparu addysg yn Rhondda Cynon Taf, neu mai'r Toriaid sy'n darparu gwasanaeth llyfrgelloedd ym Mynwy, neu mai'r Annibynwyr sy'n hel biniau yn Ynys Mon.  Mae Cyngor Gwynedd, fel pob cyngor arall, yn endid corfforaethol sydd a gwleidyddion lleol o wahanol bleidiau yn ei reoli ac yn craffu ar ei reolaeth, yn ogystal a swyddogion sy'n wleidyddol ddi duedd.

Yr hyn sy'n fwy difrifol o bosibl ydi awgrym Gwilym bod y penderfyniad wedi ei wneud i raddau helaeth o ganlyniad i lythyr gan bwysigion gwleidyddol a chrefyddol o Sir Gaerfyrddin.  Mewn geiriau eraill mae'n awgrymu bod y penderfyniad yn un gwleidyddol.  Rwan dwi ddim yn gwybod faint o wybodaeth mewnol sydd gan Gwilym Owen ond byddai penderfyniad i leoli gwasanaeth cyhoeddus ar sail lobio gwleidyddol yn fater o gryn ofid.  Yr unig ffordd y dylid dod i benderfyniad o'r fath fyddai trwy gymharu i ba raddau mae'r ddau gais yn cydymffurfio a meini prawf  sydd wedi eu rhoi i'r ymgeiswyr o flaen llaw.  Dylai'r meini prawf yna fod yn union yr un peth i'r holl ymgeiswyr.  Does yna ddim lle i lobio gwleidyddol mewn proses felly.

Yn wir pe byddai yna dystiolaeth gadarn bod bwrdd S4C wedi dod i'r canlyniad y daeth iddo ar sail lobio/ pledio / bwlio gan gasgliad o Esgobion,  Arglwyddi a chynrychiolwyr etholedig ynghyd a chanfyddiad cwbl ragfarnllyd  mai 'cais Plaid Cymru' oedd un Caernarfon, yna mae'n fwy na thebyg y byddai gan Gyngor Gwynedd hawl i wneud cais am adolygiad barnwrol o'r ffordd y daethwyd i'r penderfyniad.

Dwi ddim yn awgrymu am eiliad bod Cyngor Gwynedd yn dilyn y trywydd hwnnw - mae'r penderfyniad yn ddwr o dan y bont bellach. Pob lwc i S4C yn ei bencadlys newydd. Ond mae'n adrodd cyfrolau am natur diwylliant gwleidyddol Cymru nad ydi sylwebyddion gwleidyddol profiadol yn cael unrhyw broblem efo'r cysyniad bod penderfyniadau pwysig am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu gwneud ar sail pwysau gwleidyddol o gyfeiriad pwysigion. 

Wednesday, April 02, 2014

Mater o amser?

Felly mae aelod arall o'r glymblaid Llafur / Annibynnol sy'n rheoli Cyngor Mon wedi gadael y grwp.  Jeff Evans sy'n gadael y tro hwn - mae Peter Rogers a Raymond Jones eisoes wedi gadael.  Daw hyn a chyfansoddiad y cyngor i Clymblaid 13, Plaid Cymru 12, Eraill 5.  Bwriad y Glymblaid i gynnig cadeiryddiaeth y cyngor i aelod o Blaid Cymru (yn hytrach nag i Mr Evans) oedd asgwrn y gynnen y tro hwn.

Ag ystyried hanes grwpiau annibynnol yn Ynys Mon - maen nhw i gyd yn chwalu yn hwyr neu'n hwyrach - tybed os mai mater o amser yn unig ydi hi tan y bydd newid gweinyddiaeth yn y sir?