Saturday, January 20, 2024

Hynt a Helynt y Pleidiau ers 2016 - Plaid Cymru

 Mae’r busnes o edrych yn ôl tros y blynyddoedd ers i’r blogio rheolaidd yma ddod i ben wedi cymryd mwy o amser nag oeddwn i wedi ei ragweld – ond rydan ni’n cyrraedd tua’r diwedd – ac wedi gwneud hynny byddwn yn dechrau ymateb i ddigwyddiadau cyfredol. 




Edrych ar hynt a helynt Plaid Cymru wnawn ni nesa’, Llafur wedyn a’r iaith Gymraeg wedyn.  Wedi gwneud hynny byddwn yn symud ymlaen i edrych ar faterion cyfredol.

Mae naratif wedi datblygu i’r cyfnod ar ôl 2016 fod yn un aflwyddiannus i’r Blaid yn etholiadol.  ‘Dydi hynny ddim yn dal dwr mewn gwirionedd.  Cafwyd pump etholiad yn ystod y cyfnod – dau etholiad cyffredinol, un etholiad Senedd Cymru ac etholiadau Cyngor ddwywaith.


 Er i’r bleidlais fynd i lawr yn yr etholiadau cyffredinol rhwng 2015 a 2019 aeth nifer seddi’r Blaid i fyny o 3 i 4 tros y cyfnod a llwyddwyd i beidio colli seddi yn wyneb yr ymchwydd Corbyn yn 2017 na’r fuddugoliaeth Doriaidd fawr yn 2019.  Yn wir  roedd y canlyniadau oddi mewn i’r amrediad cul iawn o ran y ganran o’r bleidlais mae’r Blaid wedi bod yn sicrhau dros y degawdau diwethaf – rhwng 9.9% a 14.3%  mewn etholiadau cyffredinol a rhwng 17.9% 21.2% mewn etholiadau Senedd Cymru.

 

Llwyddodd y Blaid i ethol mwy o gynghorwyr sir yn 2022 nag erioed o’r blaen ag eithrio 2017. Er bod cwymp bach  yn 2022 o gymharu a 2017, digolledwyd y Blaid am hynny wrth iddi ennill rheolaeth llwyr ar bedwar Cyngor – Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin. Yn ychwanegol cafodd ei hun yn rhan o’r glymblaid sy’n rheoli cynghorau Conwy, Dinbych, Penfro a Chastell Nedd Port Talbot. Cafwyd llwyddiant arwyddocaol o ran seddi a enillwyd yn Wrecsam hefyd. 


Cafwyd cwymp bach iawn yng nghanran y bleidlais yn etholiad Senedd Cymru yn 2021, ond enillwyd sedd yn ychwanegol.


Ond rhaid cyfaddef na symudodd y Blaid ymlaen yn etholiadol – yn hanesyddol anaml y bydd hynny yn digwydd pan nad yw Llafur mewn grym yn San Steffan. 

Serch hynny mae’r cytundeb efo Llywodraeth Cymru wedi caniatáu iddi ddylanwadu yn sylweddol ar bolisi llywodraethol ac felly ar natur cyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol a bywyd Cymru yn y presennol.  Fel yn nyddiau Cymru’n Un mae crynswth y datblygiadau ddaeth o gydweithio rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur wedi dod o gyfeiriad Plaid Cymru ac – yn wahanol iawn i’r Blaid Geidwadol -  mae felly wedi cael dylanwad sylweddol ar fywyd yng Nghymru.

No comments: