Thursday, January 04, 2024

Brexit a Gogledd Iwerddon

 Un o ganlyniadau eraill Brexit sydd ddim yn cael digon o sylw yr ochr yma i’r Mor Celtaidd – ond sydd yn cael sylw di ben draw yng Ngogledd Iwerddon - ydi’r effaith ar y berthynas rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU. 

Mae’n ffaith bod y broses Brexit wedi gwthio Gogledd Iwerddon ymhellach oddi wrth gweddill y DU nag yw wedi bod ers canrifoedd.  I’r graddau yna mae Brexit yn rhoi mwy o straen ar undod y DU mwy nag unrhyw beth arall ar hyn o bryd.  ‘Dydi hi ddim yn anodd egluro’r fecanwaith sy’n arwain at hyn.





Mae safonau gwahanol o ran nwyddau, trefniadau masnachu ac ati yn sicr o arwain at ffin eithaf caled rhwng yr endidau sy’n arddel safonau gwahanol. Os na wneir hyn mae nwyddau ac ati o’r endid sydd efo safonau is yn sicr o lygru marchnadoedd yr endid sydd a safonau uwch.  Mae hyn yn wir ym mhob ran o’r Byd.


Petai Gogledd Iwerddon yn ddrws cefn i nwyddau israddol gyrraedd yr  UE, byddai hynny’n fygythiad gwirioneddol i’r Farchnad Sengl. ‘Doedd yr UE erioed am gymaint ag ystyried hynny.  Felly oni bai bod y DU yn cytuno i ffin eithaf caled ni fyddai cytundeb erioed wedi dod i fodolaeth rhwng yr UE a’r DU – a byddai goblygiadau economaidd sylweddol i hynny.


Tra bod dealltwriaeth o hyn yn bodoli o’r cychwyn mae’n debyg bod rhagdybiaeth gan lawer o bobl oedd o blaid Brexit y byddai’r rhwystrau i fasnach yn cael eu gosod ar hyd ffin Gogledd Iwerddon / Gweriniaeth Iwerddon.  ‘Doedd hynny erioed am ddigwydd mewn gwirionedd. Mae sawl rheswm am hyn. 


Yn gyntaf byddai ffin ar dir mawr Iwerddon yn broblem sylweddol i’r Weriniaeth (ac i’r Gogledd wrth gwrs) a ‘doedd yr UE erioed am flaenoriaethau’r DU dros y Weriniaeth. ‘Dydi’r UE ddim yn blaenori gwledydd sydd ddim yn aelodau ar draul rhai sydd yn aelodau.


Yn ail ni fyddai’n  bosibl plismona ffin sydd a 300 a mwy o leoliadau croesi. ‘Doedd hi ddim yn bosibl selio ffin Gogledd Iwerddon pan oedd degau o filoedd o filwyr ac is adeiledd milwrol enfawr yn ceisio gwneud hynny a phan roedd y fyddin Brydeinig wedi chwythu i fyny 90% o’r ffyrdd oedd yn croesi’r ffin.


Yn drydydd roedd mwyafrif clir o boblogaeth Gogledd Iwerddon yn erbyn gadael y DU (ac roedd mwyafrif mwy ohonynt o blaid y protocol ac mae mwyafrif tebyg o blaid Fframwaith Windsor gyda llaw). 


Nid yn aml mae pleidiau unolaethol yng Ngogledd Iwerddon yn gywir am unrhyw fater o gwbl, ond mae hyd yn oed cloc wedi stopio yn gywir ddwywaith y diwrnod.  Mae eu canfyddiad bod y mesurau i reoli symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU yn fygythiad sylweddol i undod y DU yn gwbl gywir. Mae’r trefniadau sy’n bodoli ar hyn o bryd yn gosod Gogledd Iwerddon ar lwybr economaidd cwbl wahanol i weddill y DU, ac mae goblygiadau pellgyrhaeddol am fod i hynny.  


Nid bod y DUP, TUV ac ati yn haeddu unrhyw gydymdeimlad wrth gwrs – gwthio am y Brexit caletaf bosibl wnaethon nhw hyd iddyn nhw weld (yn hwyr iawn) y canlyniadau anhepgor i Ogledd Iwerddon – canlyniadau oedd mewn gwirionedd yn anhepgor o’r dechrau’n deg.

No comments: