Saturday, January 13, 2024

Hynt a Helynt y Pleidiau ers 2016 - Y Toriaid

 Pan ddaeth y blogio rheolaidd yma i ben, roedd y Blaid Doriaidd Gymreig yn ymylu ar fod yn eithaf call a rhesymol – ar adegau o leiaf.  Er mai Andrew RT Davies oedd yn arwain bryd hynny hefyd, ‘doedd o heb syrthio i lawr y twll cwningod Adain Dde mae’n cael ei hun ynddo bellach bryd hynny – er ei fod wedi gogwyddo tua’r Dde o’r dechrau’n deg.



Beth bynnag am hynny, bu’n rhaid iddo ymddiswyddo fel arweinydd yn 2018 yn dilyn ffrae a gododd pan ddaeth yn amlwg ei fod yn cuddio ei swyddfa oddi wrth ei etholwyr ac yn dilyn sbel o gynllwynio yn ei erbyn gan aelodau seneddol Toriaidd yn San Steffan.


Cymerwyd ei le gan Paul Davies, ond bu’n rhaid i hwnnw fynd yn ei dro oherwydd iddo fod yn rhan o ddigwyddiad a allasai fod yn groes i reolau covid – er iddo yn ddiweddarach gael ei ganfod yn ddieuog o dorri Cod Ymddygiad y Senedd.


Arweiniodd hyn at ail ymddangosiad Andrew RT Davies fel arweinydd – ond a hithau’n gyfnod  Johnsonaidd  ac ôl Johnsonaidd – dychwelodd ar ffurf Andrew ‘Blanket’ Davies gwawdlun ohono fo ei hun sy’n treulio cryn dipyn o amser hynod swnllyd ar wefannau cymdeithasol yn myllio, blagardio, ffraeo, camarwain a mynegi daliadau Adain Dde plentynnaidd.

 

Cafwyd dau etholiad cyffredinol ers 2016 – y naill yn 2017 a’r llall yn 2019.  Llwyddodd y Torïaid i gynyddu canran eu pleidlais yn y ddau etholiad, gan barhau efo’r record (eithaf anhygoel a bod yn onest) o gynyddu eu canran o’r bleidlais ym mhob etholiad ers trychineb 1997.  Yn y flwyddyn honno 19.6% yn unig o’r bleidlais a sicrhawyd ganddynt a ni chawsant gymaint ag un sedd.  Cafwyd 36.1% o’r bleidlais ac 14 sedd yn 2019. 


O ran etholiadau eraill roedd pethau’n fwy cymysg o lawer.  Dyblodd y blaid eu cynrychiolaeth ar gynghorau sir yn 2017, ond cafwyd cwymp sylweddol o ran seddi a phleidleisiau yn 2022.  Enillwyd 5 sedd ychwanegol yn etholiadau Senedd Cymru yn 2021 – ond roedd hynny ar draul y pleidiau Adain Dde eraill yn bennaf yn hytrach na Llafur. Ar ben hynny – a ‘dwi ddim yn gwybod faint o bobl sydd am gofio hyn – cawsant eu canlyniad etholiadol  gwaethaf erioed yn yr etholiad Senedd Ewrop rhyfedd hwnnw a gynhaliwyd yn 2019 – daethant yn 5ed, gan sicrhau 6.5% o’r bleidlais yn unig. 


A rŵan rydan ni’n lle rydan ni.  Pan enillodd Thatcher 14 sedd a 31% o’r bleidlais yn 1983 cymrodd 4 etholiad cyffredinol i’r Torïaid Cymreig golli’r cwbl.  Yn sgil anhrefn Brexit, Johnson, Truss a Sunak ac ati ac ati, os ydi’r polau Prydeinig yn cael eu gwireddu, bydd yn cymryd un etholiad yn unig iddyn nhw fynd o 14 sedd i nesaf peth i ddim – neu ddim.


Ac o ran Senedd Cymru?  Mae’r sefydliad yn bodoli ers 1999 – a ‘dydi’r Torïaid ddim wedi llwyddo i ddylanwadu dim oll ar ddeilliannau llywodraethu Cymru ers hynny. Dim. Zilch. ‘Dydi hynny ddim am newid yn y dyfodol agos na chanolig – ac yn wir ‘does yna ddim rheswm i gredu y byddant byth yn ymarfer unrhyw ddylanwad ar lywodraethiant Cymru.

No comments: