Tuesday, October 04, 2016

Dechrau'r diwedd i 'r Ddeddf Hawliau Dynol yn y DU

Bu cryn ddathlu yn y wasg Asgell Dde yn sgil y datganiad bod y DU am symud i gyfeiriad  Belarus a Kazakhstan i ddod yn un o'r triawd o wledydd yn y DU sy'n gwrthod cydnabod y Ddeddf Hawliau Dynol.  Mae llywodraeth May am ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol lle mae'n effeithio ar filwyr mewn brwydr - ac yn ddi amau gallwn ddisgwyl gweld y Ddeddf yn cael ei gwanio ymhellach maes o law.

Mae rhai o'r papurau hynny wedi cynnal ymgyrchoedd i ryddhau rhai o'r ychydig filwyr sydd wedi eu carcharu yn sgil cyflawni troseddau rhyfel.  Y dadleuon a wneir fel rheol ydi bod y Fyddin Brydeinig yn anarferol o foesol a chyfrifol yn y ffordd maent yn cynnal eu mynych ymgyrchoedd milwrol, bod gweithdrefnau'r Fyddin Brydeinig i ddelio a chamymddygiad yn hynod effeithiol a bod yr honiadau a wneir gan bobl yn erbyn y Fyddin Brydeinig o dan amodau'r Ddeddf yn rhai annilys.  



Yn anffodus o edrych ar hanes cymharol ddiweddar y Fyddin Brydeinig dydi'r ffeithiau ddim yn cefnogi'r honiadau.  Mae defnydd chwarter awr o Google wedi dod o hyd i'r _ _ ahem _ _ camgymeriadau canlynol gan y Fyddin Brydeinig yn ystod y ganrif yma a'r un diwethaf.  

Sefydlu'r Concentration Camps gwreiddiol yn ystod Rhyfel y Boer.  Arweiniodd hyn at farwolaeth tua 27,000 o ferched a phlant gwyn.  Mae'n debyg i nifer tebyg o bobl ddu farw hefyd - ond wnaeth neb drafferthu cyfri.

Arteithio cannoedd o bobl yn Ail Ryfel Irac.

Cyflafan Amritsar yn 1919.  Lladdwyd rhwng 400 a 1,000 o brotestwyr heddychlon mewn tua 10 munud pan daniodd y fyddin Brydeinig i ganol y dorf.  Cafodd y swyddog - Reginald Dyer- oedd yn gyfrifol am roi'r gorchymyn ei symud o'i swydd (ond ddim o'r fyddin) - ond gwnaed casgliad sylweddol iddo o £26,000 (tua £350,000 ym mhres heddiw) gan y cyhoedd rai o'r papurau newydd - gan gynnwys rhai sy'n clochdar am ddiflaniad y Ddeddf Hawliau Dynol heddiw.  Arwydd o ddiolch oedd y rhodd. Eglurodd Reginald Dyer iddo orchymyn y gyflafan oherwydd yr effaith moesol y byddai'n ei gael yn yr ardal. 



Arteithio degau o filoedd o garcharorion yn nyddiau olaf yr Ymerodraeth.  Kenya, Aden a Cyprus ydi'r esiamplau mwyaf enwog o artaith yn cael ei ddefnyddio yn gyson a systematig ar garcharorion - ond roedd llawer o enghreifftiau eraill hefyd.

Llofruddio milwyr Almaenig oedd wedi goroesi wedi i'w llongau gael eu suddo.

Defnyddio arfau cemegol a difa pentrefi (a phob dim oedd yn byw ynddynt) wrth ddelio a gwrthryfel yn Irac yn 1920.

Ac wedyn wrth gwrs mae yna Iwerddon - yng nghyd destun y rhyfel diweddaraf a'r Rhyfer Black & Tan.  Roedd y digwyddiadau hyn yn ymwneud yn bennaf a lladd heb gyfiawnhad, arteithio a difa eiddo. 

Mae gan llywodraeth Prydain, y gyfundrefn filwrol a'r gyfundrefn gyfreithiol record sal iawn yn hanesyddol o fynd i'r afael a thor cyfraith a dirmyg tuag at hawliau dynol mewn sefyllfa o ryfel.  Mae'r hyn mae May wedi ei wneud yn debygol o sicrhau y bydd yr un patrymau yn ail adrodd eu hunain yn rhyfeloedd y dyfodol - a gallwn fod yn gwbl sicr y bydd yna rhai.




No comments: