Tuesday, September 13, 2016

Yr etholaethau newydd

Mae'r ffiniau yn wahanol i'r rhai a argymhellwyd y tro diwethaf, ond mae'r egwyddorion yn debyg iawn. Dwi heb gael cyfle i edrych yn rhy fanwl ar lle yn union mae'r ffiniau newydd yn syrthio, ond o edrych yn fras does yna ddim rheswm o gwbl i'r Blaid beidio ag o leiaf ddal eu tair sedd.

Ddim yn aml y byddaf yn angytuno efo fy mhlaid - a dwi'n derbyn y ddadl bod San Steffan efo hanes hir o ddisgrimineiddio yn erbyn Cymru o gymharu a'r Alban a Gogledd Iwerddon trwy roi pwerau mwy cyfyng iddi - ond yn gyffredinol dwi'n cytuno y dylai Cymru gael llai o aelodau seneddol.  Mae hyn yn rhannol oherwydd fy mod yn credu mai'r nifer delfrydol o aelodau San Steffan i Gymru ddylai fod sero, ac mae unrhyw gam i'r cyfeiriad hwnnw i'w groesawu.  
  


Ond mae hefyd yn ymwneud a thegwch sylfaenol.  Os ydi rhywun yn byw yn Wrecsam mae ganddo chwe gwleidydd proffesiynol yn ei gynrychioli - Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad etholaethol a phedwar Aelod Cynulliad rhanbarthol.  Ychydig filltiroedd i fyny'r lon yng Nghaer mae mwy o etholwyr ar y gofrestr, ond un cynrychiolydd seneddol yn unig sydd gan trigolion y ddinas honno - yr Aelod Seneddol.  

Ac mae yna fater arall y dyliwn ei godi wrth gwrs - er bod unioni maint etholaethau yn creu tegwch ar un ystyr, mae'r gyfundrefn etholiadol ei hun yn sobor o anheg anheg yn y DU.  

Beth bynnag rydym yn ei feddwl o UKIP, mae'n sylfaenol anheg bod eu 3,900,000 pleidlais yn cynhyrchu un sedd, tra bod 99,000 yr SDLP yn cynhyrchu tair.  Mae'n sylfaenol anheg bod y Toriaid efo 330 sedd a mwyafrif llwyr ar 37% o'r bleidlais. Ni fydd y newidiadau hyn yn unioni'r sefyllfa yma - bydd yn hytrach yn debygol o'i gwneud yn waeth.  

Yn y pendraw system gyfrannol ydi'r unig ffordd o wneud etholiadau ym Mhrydain yn deg.  Ar hyn o bryd mae gennym un o'r systemau mwyaf anghynrychioladol yn y Byd.  Delio efo un agwedd gweddol gyfyng ar anhegwch y gyfundrefn mae'r newidiadau hyn - dydyn nhw ddim yn cyffwrdd a'r gwir anhegwch. 

No comments: