Sunday, September 04, 2016

Mae'n bryd i Felix Aubel gael cyfri trydar newydd

Dwi'n gwybod bod Lol wedi rhedeg stori ar anoddefgarwch cyfri Gweplyfr Felix Aubel - ond gan nad ydw i'n defnyddio'r cyfrwng 'dydw i ddim mewn sefyllfa i wneud sylw ar y mater.  Ond mae yna ambell i sylw hoffwn eu gwneud ar gyfri trydar y gweinidog  o Sir Gaerfyrddin.  

Fel rheol ail drydar y bydd Felix, er bod trydyriadau o lygad y ffynnon o bryd i'w gilydd.  Mae yna nifer ohonynt heddiw er enghraifft.  Mae'r rheini'n bennaf yn hysbysebion uniaith Saesneg i ymddangosiadau rhyfeddol o fynych ( i rhywun sydd erioed wedi ei ethol hyd yn oed ar gyngor plwyf) Felix ar y cyfryngau prif lic Cymraeg eu hiaith, ambell i sylw gwrth Ewropiaidd, cyfeiriad neu ddau at ddiddordebau Felix (rwdlan cwbl ddi dystiolaeth Andrew RT Davies ei fod yn 'teimlo' y byddai pobl Cymru'n fotio i gael gwared o'r Cynulliad, neu cred ymddangosiadol Felix  y byddai carnifal Notting Hill yn gyflafan oherwydd digwyddiad treisgar ar gychwyn y digwyddiad).  Ond mae'r llawer o'r ail drydar yn ein harwain at gynnyrch hyfryd cyfri trydar dyn o'r enw David Jones.  

Rwan, a dweud y gwir dwi'n gwybod dim byd o gwbl am David Jones ag eithrio'r hyn mae ei gyfri trydar yn ei ddatgelu. Mae ganddo enw  Cymreig, ond dydw i ddim yn gwybod os yw'n Gymro neu beidio.   Mae'n hoff o UKIP, mae ganddo nifer fawr o ddilynwyr - rhai ohonynt yn amlwg yn hynod hiliol, anoddefgar neu hollol boncyrs, mae'n rhyfeddol o gynhyrchiol o ran creu propoganda - y rhan fwyaf ohono'n ymwneud a'i gasineb tuag at yr Undeb Ewropiaidd, ei wrthwynebiad i fewnfudo i'r DU, ei gariad at genedlaetholdeb Prydeinllyd eithaf amrwd a chyntefig, a'i awydd i rwbio trwynau'r ochr a gollodd yn y refferendwm Ewrop yn y baw.  Wele isod rhai o'r trydyriadau mae Felix wedi eu hoffi cymaint mae wedi eu hail drydar.

 












Dwi'n gwybod nad ydi ail drydar yn gyfystyr a chytuno - weithiau bydd pobl yn ail drydar  pethau maent yn anghytuno'n llwyr a nhw.  Ond nid dyma a geir yma - mae'r ffordd mae David Jones a Felix Aubel yn gweld y byd yn weddol debyg, a does yna ddim rheswm i feddwl nad trydar stwff mae'n ei ystyried yn agos at y gwir di goll mae Felix.

O - bu bron i mi ag anghofio, bydd Felix hefyd yn trydar rhyw ychydig am ei fywyd a'i waith yn ogystal a'i ragfarnau.  Felly byddwn yn cael lluniau o Felix a'i gymar ar amrywiol ymweliadau bach digon diddorol ac annwyl yr olwg a lluniau / gwybodaeth am seremoniau crefyddol mae wedi eu gweinyddu - gwasanaethau, seremoniau bedyddio, priodasau ac ati.

Mae nifer o bwyntiau yn codi o hyn oll, dwi'n eu rhestru isod.

1). Mae Felix yn lwcus ei fod yn aelod o blaid cymharol oddefgar o ran hawliau ei haelodau i fynegi eu safbwyntiau yn hytrach na phlaid hollol anoddefgar megis y Blaid Lafur.   Mae'r blaid honno yn gwahardd pobl rhag pleidleisio yn yr etholiad arweinyddol am ddatgan llawer llai o gefnogaeth i bleidiau / grwpiau amgen.  Mae yna lawer o ail drydar Felix yn stwff sy'n canmol plaid wleidyddol arall - UKIP yn benodol.  

2). Mae'r cenedlaetholdeb Prydeinig amrwd, ethnig mae Felix a David Jones yn ei arddangos yn gwneud i sylwadau bach sniffi fel hyn am genedlaetholdeb pobl eraill ymddangos yn ddigri braidd:


3). Yn fwy difrifol mae'r cwestiwn o'r sylwadau sy'n ymddangos mewn ymateb i gwahanol drydyriadau David Jones - hwn er enghraifft:


Neu hwn - cyfeirio at bobl sy'n chwilio am loches mae Mr Brookfield.


Neu hwn:


Neu hwn:




Mae yna pob  math o sylwadau tebyg yn ymateb i drydariadau David Jones - mae'r cyfrif yn Fecca i eithafwyr Asgell Dde sy'n ymdrybaeddu mewn hate talk dyddiol.  Mae llawer o'r sylwadau yn ol pob tebyg yn anghyfreithlon.  Maent hefyd yn hynod niferus.

Rwan peidiwch a chamddeall - dydi Felix ddim yn defnyddio'r ieithwedd yma ar ei gyfri trydar, a dydi David Jones ddim yn defnyddio ieithwedd mwy ymfflamychol na'r hyn a ddefnyddir gan y Daily Mail, neu'r Daily Express (gan amlaf).  Mae David Jones fodd bynnag yn parhau i gynhyrchu ei drydariadau ymfflamychol er ei fod yn gwybod yn iawn ei fod yn annog ymateb hiliol, neu ymateb sy'n annog trais ac anoddefgarwch ar sail crefydd.  Mae Felix yntau yn parhau i gynhyrchu lincs i drydyriadau David Jones, er yr ymatebion eithafol a llawn casineb maent yn eu hannog.

Er fy mod yn ystyried llawer o ddaliadau Felix yn hynod anymunol ac anoddefgar, mae ganddo pob hawl i'w harddel - a byddwn yn amddiffyn ei hawl i arddel ei ddaliadau ffiaidd.  Byddwn hefyd yn amddiffyn ei hawl i gysylltu ei gyfri yn agos at un David Jones - er gwaetha'r sylwadau eithafol ac anghyfreithlon sy'n cael eu gwneud mewn ymateb i lawer o'i drydar.  Serch hynny dwi ddim yn meddwl ei bod yn briodol nag yn ddoeth iddo gynnwys trydariadau sy'n ymwneud a'r seremoniau crefyddol mae'n eu gweinyddu rhwng dwy linc sy'n arwain at sespit David Jones.  Petai'n cynnwys seremoni sy'n ymwneud a rhywun o fy nheulu fi ar y cyfrif trydar yma, dwi'n meddwl y byddwn yn chwydu.  

Mae'n bryd i Felix gael cyfri trydar arall - un i wyntyllu gwybodaeth am ei weithgareddau crefyddol a'i ymweliadau teuluol, a'r llall i gofnodi ei fflyrtio efo'r Dde eithafol.







2 comments:

Anonymous said...

Pwyntiau dilys iawn. Mae rhai o'r trydariadau'n hynod annymunol - petai gwenidog anghydffurfiol o genedlaetholwr yn hybu teimladau gwrth-Brydeinig mor gryf, mi fuasai nifer o'i braiid yn teimlo'n anghyffyrddus.
Dwi'n tybio fod nifer o aelodau a swyddogion eglwys y Parch Aubel ( fel pob capel arall bellach) yn oedrannus, a ddim felly'n cymryd llawer o ddiddordeb yn y cyfryngau modern. Fel y dywedais o'r blaen, mae ei bregethu'n ddigon rhesymol, ond wrth eu gweithredoedd.....

Cai Larsen said...

Wel cweit - petai cyn ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn cysylltu ei hun efo'r math yma o beth byddai pob dim o Golwg 360 i'r Mirror tros y stori i gyd. Ond cyn mai Tori sy'n cysylltu ei hun efo eithafiaeth gorffwyll, dydi hi ddim yn stori - mae tu hwnt i'r naratifiau cyfryngol arferol, felly ddim werth mensh.