Monday, September 05, 2016

Pam na fydd y DU yn cael bargen dda wrth adael yr Undeb Ewropiaidd?

Cyn ein bod yn son am gyfri trydar Felix Aubel, efallai ei bod werth aros efo'r trydariad canlynol - nid am ei bod yn esiampl o hurtni Felix yn benodol - roedd yr ymgyrch Gadael - Farage, Gove, Johnson ac ati - yn defnyddio'r un ddadl trwy'r ymgyrch.


Rwan mae'r gred mai ymarferiad masnachol ydi'r Undeb Ewropiaidd yn bennaf i wledydd tir mawr Ewrop yn rhannol wir, ond yn arwynebol.  Iddyn nhw ffordd o wella diogelwch cenedlaethol ydi sicrhau cydlyniant masnachol - nid amcan ynddo'i hun.


I'r Almaen a'r gwledydd cyntaf i glosio at ei gilydd yn gyfansoddiadol ym mhumpdegau'r ganrif ddiwethaf, nid ystyriaethathau masnachol oedd yn gyrru pethau mewn gwirionedd, ond ystyriaethau oedd yn deillio o drawma hanner cyntaf yr Ugeinfed Ganrif yn Ewrop  - ymgais i rannu buddiannau er mwyn gwneud y rhyfeloedd oedd wedi rhwygo'r cyfandir am ganrifoedd lawer yn llai tebygol oedd hi.  

Er bod Prydain wedi bod mewn mwy o ryfeloedd na'r un gwlad arall, mae wedi dioddef llai oherwydd rhyfeloedd na'r rhan fwyaf o wledydd tir mawr Ewrop.  Mae'n fil o flynyddoedd ers i fyddin dramor lanio ac ymosod ar dir mawr Prydain ac i sofraniaeth genedlaethol (Seisnig) gael ei golli.  Mae gwledydd tir mawr Ewrop wedi hen arfer a byddinoedd tramor yn llifo tros eu ffiniau - a phob dim sy 'n deillio o hynny.  Penderfyniad masnachol oedd o i Brydain ymuno a'r Farchnad Gyffredin dri chwarter ffordd trwy'r ganrif ddiwethaf.  Nid dyna oedd prif gymhelliad yr Almaen a gwledydd eraill creiddiol Ewrop ugain mlynedd ynghynt.  

Mae'n deg dweud nad oedd yr Almaen mewn lle da yn y blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd.  Roedd tua 7.5 miliwn o Almaenwyr wedi eu lladd, roedd y rhan fwyaf o'u dinasoedd a'u trefi yn rwbel, cafodd cannoedd o filoedd o'u merched eu treisio - yn bennaf - er nad yn gyfangwbl - gan filwyr Sofietaidd, collwyd sofraniaeth am gyfnod, holltwyd y wlad yn ddau, a chafodd tros i 15 miliwn o bobl eu gorfodi o'u pentrefi a'u trefi yn Nwyrain yr Almaen a gwledydd Dwyrain Ewrop mewn ymarferiad fyddai'n cael ei alw'n buro ethnig ar raddfa anferthol petai'n digwydd heddiw.  Bu farw tua 2 filiwn o'r sawl a orfodwyd i symud.  Roedd asgwrn cefn y genedl wedi ei dorri.  

Roedd rhyfeloedd gwaedlyd iawn yn rhan o hanes yr Almaen - ac roeddynt yn mynd yn ol yn llawer pellach na rhyfeloedd byd y ganrif ddiwethaf.  Bu farw efallai ddeg miliwn o bobl yn y Rhyfel Deg Mlynedd ar Hugain - lwmp sylweddol o holl boblogaeth yr ardal rydym yn ei galw'n Almaen heddiw.  

Doedd yr Ail Ryfel Byd ddim mor erchyll i Ffrainc yn eironig oherwydd iddi golli'r rhyfel ar y cychwyn.  Ond roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn llawer mwy costus iddi na'r un gwlad arall.  Fel yr Almaen mae rhyfeloedd gwaedlyd a chostus iawn wedi bod yn rhan o'i phrofiad cenedlaethol am ganrifoedd.

Rwan, mae ein cyfeillion oedd yn dadlau tros adael Ewrop yn honni y bydd yr Almaen a Ffrainc yn fwy na pharod i roi cytundeb ffafriol i Brydain oherwydd bod y naill yn awyddus i werthu Mercs a Bimars yn ddi doll i ni, a bod y llall yn poeni ein bod am ddechrau yfed Black Stump yn lle Chateuneuf de Papes

Byddai hynny'n wir petaent yn gweld yr Undeb Ewropiaidd fel trefniant masnachol syml.   Ond dydyn nhw ddim.  Byddai gadael i'r DU ddewis yr elfennau o'r Undeb Ewropiaidd mae'n ei hoffi, a gwrthod y gweddill yn annog gwledydd eraill i adael yr Undeb Ewropiaidd - a phetai hynny'n digwydd byddai'n fygythiad tymor hir i ddiogelwch  y rhan fwyaf o wledydd tir mawr Ewrop.  

Dydi hynny ddim am ddigwydd.



.  

2 comments:

Marconatrix said...

Dach chi wedi dweud, ¨Roedd tua 7.5 miliwn o Almaenwyr wedi eu lladd ... Roedd asgwrn cefn y genedl wedi ei dorri¨, a dwi´n credu hynny. Ond, er gwaetha´r oll, ac er gwaetha pob arswydd sydd wedi ei wneud gan yr Almaenwyr, mae´r Almaen yn bod o hyd ac yn wlad rydd, annibynnol, ac llawer mwy gyfoethog na´r DU (heb son am Gymru fach dlawd ddinewid?)

Felly, does dim syndod fod ´na llawer o bobl y DU yn erbyn ´Ewrop´, sy´n i´w weld fel dim ond rhywfath o Reich newydd barod i ormesu arnyn nhw ond y tro hwn drwy nerth ariannol.

Dwi ddim yn credu hynny fy hunan, ond mae´n hawdd ddeall teimladau y rhai eraill.

Cai Larsen said...

Pwrpas disgrifio'r sefyllfa oedd i ddangos bod gan yr Almaen gymhelliad cryf i wneud pob dim o fewn ei gallu i atal yr Undeb Ewropiaidd rhag chwalu.