Wednesday, February 03, 2016

Dail 31 wedi ei ddiddymu

Mae'r blog yma yn gwneud un peth sydd fwy neu lai yn unigryw - darparu sylwebaeth cyfrwng Cymraeg (a di duedd) ar wleidyddiaeth Iwerddon.  Rwan bod y 31fed Dail wedi ei ddiddymu, dwi'n gobeithio cynhyrchu ambell i flofiad ar y pwnc yn ystod yr ymgyrch.



Mae'r etholiad i'w gynnal ar Chwefror 26 - a bydd yr ymgyrch swyddogol felly ymysg y byrraf yn hanes y wladwriaeth.  Serch hynny mae ymgyrch answyddogol digon ffyrnig wedi bod yn mynd rhagddi ers wythnosau.  Bydd y 32fed Dail yn cyfarfod gyntaf ar Fawrth 10. 

Y diwrnodiau diddorol fodd bynnag fydd y Dydd Sadwrn a'r Dydd Sul ar ol yr etholiad pan fydd y pleidleisiau'n cael eu cyfri.  Mae'r dull pleidleisio - STV mewn seddi aml aelod - yn sicrhau bod y cyfri yn faith ac yn gymhleth.  Bydd datganiadau ar ddiwedd pob cyfri unigol ym mhob etholaeth, a gellir cael dwsin neu fwy o ddatganiadau cyn i ganlyniad llawn mewn etholaeth ddod yn amlwg.  Mae dilyn y cyfri mewn etholiadau Gwyddelig yn fwy tebyg i ddilyn cyfres o rasus gwahanol ar yr un pryd na gwrando ar ganlyniadau etholiad.

Dydych chi ddim angen bod yn anorac i fwynhau'r profiad.


1 comment:

Unknown said...

Edrych ymlaen!