Friday, February 19, 2016

Etholiad Gweriniaeth Iwerddon - rhan 4 - Sinn Fein

Er mai dyma'r blaid hynaf yn Iwerddon mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r blaid wedi tyfu yn etholiadol yn sgil y rhyfel hir yn y Gogledd, ac yn arbennig felly yn dilyn yr ymprydiau newyn yn Long Kesh yn 1981.  

Er ei bod yn blaid boblogaidd ymysg cenedlaetholwyr y Gogledd ers degawdau, nid yw wedi ennill llawer o boblogrwydd yn y Weriniaeth hyd yn gymharol ddiweddar.  Am y rhan fwyaf o gyfnod y rhyfel yn y Gogledd roeddynt yn ennill rhwng 1% a 2% mewn etholiadau yn y Weriniaeth gan fethu ennill unrhyw seddau.  Bu'n rhaid disgwyl tan 1997 a'r symudiadau tuag at heddwch i ennill sedd yn y Weriniaeth - er bod rhai wedi eu hennill yn y 50au.  Yn Cavan Monaghan oedd y sedd honno - etholaeth ar y ffin sydd a chysylltiadau agos efo'r Gogledd.  Aeth eu pleidlais i fyny i 6% i 7% yn negawd cyntaf y ganrif newydd gan roi 4-5 sedd iddynt. Cynyddodd eu pleidlais ymhellach i 9.9% yn sgil chwalfa Fianna Fail yn 2011, gan roi 14 sedd iddynt.  

Ers hynny maent wedi perfformio'n weddol gryf mewn polau piniwn (maent ar hyn o bryd yn yr amrediad 15%i 20%), ac yn etholiadau Ewrop a Cyngor 2014.  Roedd y perfformiad yn etholiadau Ewrop yn arbennig o gryf.  O'r pedair plaid fawr nhw sy'n debygol o ennill y mwyaf o dir wythnos i heddiw.mae'n debyg y bydd y ddwy blaid sydd mewn llywodraeth yn colli cryn dipyn o dir - yn arbennig felly y Blaid Lafur.  

Mae ganddynt broblemau - mae eu pleidlais yn ifanc, felly yn anodd i 'w chael allan i bleidleisio, maent yn ei chael yn anodd cael trosglwyddiadau gan bleidiau eraill (rhywbeth pwysig mewn etholiad STV) ac mae yna lawer iawn o gystadleuaeth ar y Chwith - yn Nulyn o leiaf.  Serch hynny maent bron yn sicr o fod yn drydydd plaid yn dilyn yr etholiad (mae yna bosibilrwydd bach y byddant yn ail).

Ar ol yr etholiad bydd ganddynt gwestiynau sylfaenol i fynd i 'r afael a nhw - ac mae'r pwysicaf yn ymwneud a'r arweinyddiaeth.  Ar hyn o bryd mae'r blaid yn cael ei harwain gan bobl o'r Gogledd sydd a chysylltiadau agos efo'r IRA.  Maent wedi bod yn llwyddiannus yn yr hir dymor, ond mae lle i feddwl y byddai'n datblygu ynghynt petai'n cael ei harwain gan rhywun ieuengach o'r Weriniaeth sydd heb gysylltiadau milwrol - Mary Lou McDonald neu Pierce Dogherty mae'n debyg.  Yn ail mae'n bosibl y byddant yn cael eu hunain mewn sefyllfa lle gallant glymbleidio - os felly byddai'n rhaid iddynt ddewis rhwng gwneud hynny a cheisio gorfodi FF a FG i glymblaid.  Gallai gorfodi'r gelynion traddodiadol i glymblaid ail strwythuro gwleidyddiaeth Iwerddon - er mantais i SF - ond gallai fod yn gryn demtasiwn i blaid sydd erioed wedi cael unrhyw rym yn y Weriniaeth i glymbleidio - os bydd rhywun yn fodlon clymbleidio efo nhw.  

No comments: