'Dydw i ddim yn amau cymhelliad yr aelodau o Gymdeithas yr Iaith a fu 'n protestio ar y Maes yng Nghaernarfon ddoe mewn ymgais i ddwyn perswad ar gynghorwyr Cyngor Gwynedd i ymwrthod rhag gwneud toriadau yng ngwariant y Cyngor. Serch hynny 'dwi'n meddwl ei bod yn amserol i atgoffa'r Gymdeithas o un neu ddau o ffeithiau.
1). Er mai cyngor o dan reolaeth Plaid Cymru ydi Cyngor Gwynedd, ac er bod y Cyngor yn gwneud toriadau, nid toriadau Plaid Cymru ydyn nhw. Pleidleisiodd y dair plaid fawr unoliaethol - Llafur, y Toriaid a'r Dib Lems - yn San Steffan o blaid hyd at £15bn o doriadau mewn gwariant cyhoeddus yr amser yma y llynedd. Dyna'r toriadau mae cynghorau ar hyd a lled y DU yn gorfod eu gweithredu rwan.
2). Penderfyniad llywodraeth Lafur Bae Caerdydd oedd rhoi setliad cymharol wael i Wynedd o gymharu a nifer o gynghorau Llafur De Cymru. Mae'r grant mae Gwynedd yn ei gael felly'n eithaf sal - ac mae'r broblem gweinyddu toriadau felly 'n fwy llym yma nag ydyw mewn rhai o ardaledd eraill Cymru.
3). Mae Cyngor Gwynedd wedi ymgynghori'n eang efo etholwyr Gwynedd cyn mynd ati i weinyddu 'r toriadau Llafur / Toriaidd / Dib Lems. Mae'r broses wedi bod yn llawer mwy tryloyw yma nag ym mron i unrhyw ardal arall yng Nghymru.
4). Er y bydd toriadau poenus yn digwydd, fydd yna ddim canolfannau hamdden - prif ragdybiaeth y brotest - yn cau.
Ond yn bwysicach na dim, petai Cyngor Gwynedd yn dilyn cyngor y Gymdeithas ac yn peidio a gwneud toriadau ni fyddai modd gosod cyllideb. Canlyniad hynny fyddai colli rheolaeth o'r Cyngor i gomisiynwyr llywodraeth Cymru, a byddant hwythau yn gweithredu'r toriadau - a phetai hynny'n digwydd fyddai yna ddim ymgynghori efo'r cyhoedd na thryloywder. Byddai'r toriadau yn cael eu gweithredu yn ddisymwth a di drugaredd. 'Does yna neb eisiau hynny.
14 comments:
Dwi'n meddwl fod y Gymdeithas yn ymwybodol o'r ffeithiau rwyt ti'n eu nodi. Nid yw'r Gymdeithas yn mynd allan o'r ffordd i dargedu Cyngor Plaid Cymru, protest wedi ei threfnu gan gell leol y Gymdeithas oedd hon ac yn digwydd bod Cyngor dan arweiniad y Blaid yw'r Cyngor lle mae'r gell leol o'r Gymdeithas wedi'i lleoli.
Yn eironig canghenau'r Blaid, nid celloedd y Gymdeithas, sy'n arwain ymgyrchoedd fel hyn mewn siroedd sy'n cael eu rhedeg gan Lafur!
Jest achos fod y Cyngor yma yn cael ei redeg gan gyd-Genedlaetholwyr dwi ddim yn meddwl y dylai'r Gymdeithas fod yn dawedog. A dweud y gwir gellid dadlau fod safbwynt y Gymdeithas yn nes at safbwynt canolog y Blaid am lymder nag ydyw'r naratif a gawn gan Gyngor Gwynedd.
Rhys - dydi'r Blaid yn ganolog ddim yn dweud wrth gynghorau am beidio a chyflwyno cyllidebau. Dyna mae galw ar gyngor i ymwrthod rhag cyflwyno toriadau yn ei wneud. Mae'n wahoddiad i gomisiynwyr ddod i fyny 'r A470.
Cytuno'n llwyr gyda'r blogiad. CYIG yn targedu Plaid/Gwynedd yn gwneud dim synnwyr. Pe byddai CG yn gwrthod gweinyddu eu cyllideb yn gywir, gor-wario'n fwriadol ayyb, yna byddai'r Cynulliad yn cymryd drosodd ac yn gwethredu toriadau, fyddai'n fel ar fysedd Llafur ac eraill (Plaid ddim ffit i redag sesh mewn bragdy fydda'r cyhuddiad!).
Dwi hefyd ddim yn deall pam fod CYIG yn edrych ar yr ongl canolfannau hamdden - a'i plaid wleidyddol neu mudiad protest iaith yw CYIG - gwnewch eich meddwl i fyny. Os dachi am fod yn Blaid - iawn dim probs efo hynny, rhowch ddarpar gynghorwyr ymlaen i gael eu hethol i weld os gallwch chi neud job well. Gallai weld gwrthwynebwyr yn minio'r cyllyll rwan "efallai sa canolfannau hamdden im yn cael eu torri 'sa na lai yn cael ei wario ar y Gymraeg etc" lol o ddadl wrth gwrs ond un hawdd i'w gwneud, ac un sy'n codi cwestiynau eto am gymhelliant CYIG a'r brotest ar y penwythnos. Mae arnai ofn dweud fod rhywun yn feddw wrth y llyw yn CYIG (yng Ngwynedd o leia), doswch nol i ganolbwyntio ar yr iaith bois.
O weld adroddiad Golwg, mae'n ymddangos fod y brotest wedi bod yn fethiant pathetig beth bynnag......
Ond protest yn erbyn beth? Protest yn erbyn diffig canolfannau hamdden yn cau neu brotest yn erbyn angen i fwy o lyrgelloedd gau. Neu protest am beidio protestio digon? Neu protest er mwyn protest a hunanboddhad? Eto.
Y rheswm pam fod Cymdeithas yr Iaith wastad wedi dangos diddordeb mewn materion cymdeithasol ac economaidd (dydy hwn yn ddim byd newydd i'r Gymdeithas) yw oherwydd fod Cymdeithas yr Iaith yn deall fod yr iaith Gymraeg ddim yn bodoli mewn faciwm. Pryder rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith yng Ngwynedd yw bod torriadau i wasanaethau sy'n cael eu defnyddio gan bobl ifanc fel canolfannau hamdden, celfyddydau ayyb... yn mynd i gael effaith negyddol ar hyfywedd cymunedau Cymraeg sydd, yn amlwg, yn allweddol i ffyniant yr iaith Gymraeg.
Neu protestio yn erbyn y cyngor yn talu pres mawr i arbenigwyr i neud ei gwaith nhw?
Ond does 'na ddim Canolfannau Hamdden am gau.
Mae'n dda clywed fod dim bwriad i gwtogi ar y canolfannau hamdden bellach - pwyso effeithiol tu mewn a thu allan y system! Er mae pryder o hyd am yr effaith y caiff unrhyw dorriadau Addysg ar y canolfannau hamdden gan fod sawl un ohonynt yn gweithredu'n agos ag ysgol/ysgolion.
Ond o ddifri, fe weli y pwynt cyffredinol a pam fod y Gymdeithas yn dangos diddordeb mewn materion sydd efallai ddim yn uniongyrchol yn issues "ieithyddol". Mae'r ffactorau yma i gyd yn effeithio hyfywedd ein cymunedau Cymraeg, yn arbennig o safbwynt yr ifanc.
Does gen i ddim problem mewn gwrthwynebu toriadau mewn gwariant cyhoeddus - dwi'n meddwl eu bod nhw'n hollol ddi angen fy hun - ond mae gwrthod gweithredu'r toriadau'n rhywbeth arall.
Effaith hynny fyddai cynghorwyr yn cael teimlo'n ddi lychwyn - ond pobl fregus sy 'n ddibynol ar wariant cyhoeddus yn dioddef.
Dwi'n meddwl ein bod ni, yn y bôn, yn cytuno felly.
Nid oes cynnig i ddileu yr Uned Celfyddydau a'r holl grantiau yn y Gylllideb yn adroddiad y Cabinet gyhoeddwyd heddiw. Siawns fod cyfrifoldeb i gyhoeddi ffeithiau cywir wrth drafod pwnc sydd yn anodd a chymhleth fel mae hi?
Rwy'n ymddiheurio, mae'r papurau yn argymell torri popeth ym mand 2 heblaw am "Dileu’r Uned Celfyddydau Cymunedol gan gynnwys yr holl grantiau a roddir". Fe wna i ddileu y sylwadau uchod sy'n awgrymu fel arall. Roeddwn i wedi drysu gan eu bod nhw WEDI eu rhestru yn yr argymhellion o dorriadau, ond wedyn mewn man arall yn nodi eu bod nhw wedi eu heithrio.
Post a Comment