Sunday, March 02, 2014

William o blaid heddwch - am unwaith

Mae'n dda deall bod William Hague yn erbyn rhyfel yn yr Iwcrain.

Yr unig broblem wrth gwrs ydi nad oes yna fawr neb am gymryd ei brotestiadau gormod o ddifri.  Mae'n chwyrn yn erbyn gweld gwledydd ag eithrio'r DU a'r UDA yn mynd i ryfela i bwrpas amddiffyn eu buddiannau, ond mae'n ei chael yn rhyfeddol hawdd i gefnogi ymyraeth milwrol gan ei wlad ei hun a'r UDA - hyd yn oed pan mae'n anodd iawn gweld bod yr hyn sydd wedi arwain at yr ymyraeth yn unrhyw beth o gwbl i'w wneud efo'r ddwy wlad.

Roedd o blaid mynd i ryfela yn Syria a Lybia, Afghanistan ac Irac ddwywaith.  A dweud y gwir fedra i ddim meddwl am unrhyw un o ryfeloedd diweddar y DU mae wedi bod yn eu herbyn - er nad oedd y rhan fwyaf o'r rheiny yn ddim oll i'w gwneud efo amddiffyn buddiannau uniongyrchol y DU.

A bod yn deg efo William mae'n edrych ar y Byd a'i bethau o gyfeiriad diwylliant gwleidyddol sydd wedi arwain at  ymosodau ar 90% o'r gwledydd sydd ar gael i ymosod arnynt.  Mae'n debyg nad yw'n gweld dim yn chwithig mewn ceryddu gwledydd eraill am ryfela tra'n fodlon neidio ar pob cyfle i ryfela ddaw ei ffordd ei hun.

Mae'n  weddol amlwg nad ydi ei air am gario llawer o bwysau efo neb yn y cyswllt yma.  

No comments: