Sunday, March 09, 2014

Y Toriaid a gwleidyddiaeth leol yng Ngwynedd

Mi fydda i'n tueddu i wenu pan mae gwleidyddion Toriaidd yn mynegi barn am wleidyddiaeth Gwynedd - fel y gwna Aelod Seneddol Toriaidd Aberconwy, Guto Bebb, yma.

Y ffaith amdani ydi nad yw'n bosibl cynnal dadl ystyrlon efo"r Toriaid am wleidyddiaeth leol yng Ngwynedd oherwydd nad oes ganddyn nhw'r diddordeb lleiaf yn y pwnc -  ag eithrio i bwrpas ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol pan mae etholiad mae'r Toriaid efo diddordeb ynddi ar y gorwel.  Yn wir cyn lleied ydi diddordeb y Toriaid yng ngwleidyddiaeth y sir fel nad ydynt prin byth hyd yn oed yn trafferthu cyflwyno unrhyw  ymgeiswyr ger bron yr etholwyr.  Dydi'r blaid erioed wedi trafferthu i  gyflwyno ymgeisydd ym mwyafrir llethol wardiau'r sir.  Maen nhw'n gadael yr hen fusnes 'amherthnasol ' yna o ymhel a gwleidyddiaeth leol i'r brodorion fel petai.

Mi fyddai rhywun yn rhyw ddeall petaent yn ddi gefnogaeth yn y sir - ond dydi hynny ddim yn wir - cawsant bron i 11,000 o bleidleisiau rhwng Meirion Dwyfor ac Arfon yn 2010.  Y sefyllfa ydi nad oes ganddyn nhw'r mymryn lleiaf o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth leol yma.  Pwy goblyn fyddai'n trafferthu gwrando ar farn plaid ynglyn a materion nad oes ganddi'r mymryn lleiaf o ddiddordeb ynddynt?

1 comment:

william dolben said...

Plaid y mewnfudwyr cyfforddus ydi'r Torïaid erbyn hyn yng Ngwynedd mae'n debyg

A mae'n bleidlais hynod o sâff. Fedr y blaid geidwadol eu hesgeuluso'n llwyr a rhoi'r bai ar Blaid Cymru bob hyn a hyn i gogio eu bod yn talu sylw