Monday, March 31, 2014

Trosglwyddiad iaith

Diolch unwaith eto i Hywel M Jones am anfon mwy o graffiau, mapiau ac ati sy'n ymwneud a chanfyddiadau Cyfrifiad 2011 ynglyn a'r iaith Gymraeg.  Trosglwyddiad iaith sydd yn cael y sylw y tro hwn - ac yn benodol - hynny yw y ganran o blant 3/4oec sy'n gallu siarad yr iaith.  Mae'r oed yma yn bwysig i'r graddau ei fod yn rhoi syniad i ni o faint o blant sy'n gallu siarad y Gymraeg cyn i'r system addysg ddechrau dylanwadu  i raddau arwyddocaol.  Ceir nifer o batrymau diddorol - ond un o'r rhai mwyaf arwyddocaol ydi gwendid cymharol Ynys Mon - yn arbennig felly mewn teuluoedd lla mai un oedolyn yn unig sy'n siarad y Gymraeg.

Un rheswm posibl am hyn ydi bod y system addysg y tu hwnt i Gaergybi yn cynhyrchu llawer o siaradwyr Cymraeg, ond bod llawer o'r siaradwyr hynny ddim yn dod o gefndiroedd Cymreig - cafwyd llawer o fewnfudo hanesyddol i Ynys Mon.  Mae'n debygol bod pobl felly yn llai tebygol o drosglwyddo'r iaith na phobl oedd yn siarad yr iaith adref pan oeddynt hwy yn blant.

Gellir cael mwy o fanylion yma.











1 comment:

William dolben said...

Diddorol ond eto dylid ystyried cyfyngiadau'r cyfrifiad. Beth ydi diffiniad siaradwr Cymraeg? Rhyw 53% o blant 3-4 oed ym Môn yn "gallu siarad" Cymraeg ond mae'r un rhieni yn nodi mai llai na 40% sy'n ei siarad fel mamiaith. Yng Nghymru gyfan 24% os nad ydwi'n misio o blant 3-4 yn siarad Cymraeg ond yn ôl y cyfrifiad ysgolion rhyw 8% yn siarad C ar yr aelwyd a 8% wedi dysgu. Mae traean y plant sy'n "gallu" felly yn ddysgwyr heb fod yn rhugl....

Mae'r ystadegau hyn yn cynnwys ystod lydan iawn o gwpl Cymry cynhenid i gwpl o ddysgwyr sy'n siarad Saesneg hefo'i gilydd ond yn bwriadu i'w plant gael addysg Gymraeg. Fel mae Cai'n nodi, mae yna filoedd o Saeson ail-genhedlaeth yn y gorllewin sy'n "gallu" siarad Cymraeg ond tybed faint ohionynt sy'n gwneud defnydd ohoni wrth fagu plant

Byddai'n ddiddorol cymharu trosglwyddiad iaith o fewn grwp HOMOGENAIDD er mwyn canfod yr ardaloedd a'r cymunedau (yn ôl dosbarth, oed, galwedigaeth ac yn y blaen) lle mae trosglwyddiad iaith yn problem.

Wedyn, mae ffiniau' siroedd yn cymylu pethau. Môn yn cynnwys ardaloedd lle mae mwyafrif llethol y Cymry Cymraeg yn magu eu plant yn Gymry a llefydd eraill fel Caergybi lle mae'r iaith wedi darfod i bob pwrpas ymhlith y "werin"