Tuesday, April 17, 2012

Sut i beidio a chwffio'r etholiadau lleol - gwers bach gan y Lib Dems Cymreig

Mae'n debyg gen i nad yw'n gwbl anisgwyl i'r Blaid Lafur Gymreig geisio ymladd eu hetholiadau llywodraeth leol trwy eu stwffio i gyd destun Prydeinig, a'u cyflwyno fel refferendwm ar y glymblaid amhoblogaidd sy'n rheoli yn Llundain. 'Dydi record Llafur mewn llywodraeth leol yng Nghymru ddim yn rhywbeth maent am i'r etholwyr feddwl gormod amdano.

Ond yr hyn sy'n fwy anisgwyl ydi bod y Lib Dems 'Cymreig' yn ceisio gwneud yr un peth. Dyna maent yn ei wneud a barnu oddi wrth eu darllediad gwleidyddol heno o leiaf. Doedd yna ddim son am y cynghorau sy'n cael eu harwain gan eu plaid yng Nghymru, a dweud y gwir doedd yna ddim son am Gymru o gwbl. Roedd pob dim wedi ei ganoli ar Nick Clegg a'r gwahanol ryfeddodau mae'n honni iddo eu cyflwyno fel dirprwy brif weinidog.

Rwan, mi fyddai dyn yn disgwyl y byddai'r Lib Dems yng Nghymru eisiau hoelio'r sylw ar eu cynghorau cymharol effeithiol yng Nghymru, a chuddio eu harweinyddiaeth amhoblogaidd yn San Steffan. Mae'n strategaeth y byddai unrhyw ffwl yn dod ati, bron iawn heb feddwl. Mae'r ffaith eu bod yn arddel y strategaeth idiotaidd o ganu clodydd eu plaid seneddol Brydeinig amhoblogaidd yn dangos yn gliriach na dim mai'r Lib Dems ydi'r blaid fwyaf llywaeth Brydeinig o'r pleidiau Cymreig.

1 comment:

Twm said...

Siwr o fod mae nhw'n faelu fforddio wneud ppb arbennig ar gyfer Cymru.