Monday, July 06, 2009

Rhyfel Affganistan a phroblemau heroin Prydain

Pam ydi o bod pobl sy'n hoffi rhyfeloedd hefyd yn cael problemau efo dweud y gwir?

Fe gofiwch i ni gael ein perswadio i fynd i ryfela yn Irac ar y sail bod y lle yn llawn o WMDs. Erbyn dod i ddeall, yr unig bethau oedd yn llawn o WMDs (oni bai am arfdai'r Unol Daleithiau a Phrydain) oedd dychymyg George Bush, Dick Cheney, Tony Blair, Alistair Cambell, Ann Clwyd a gweddill y giwed gegog oedd yn bloeddio mor groch am waed yn ol yn y misoedd oedd yn arwain at ryfel 2003.



Wrth yrru adref o'r gwaith heddiw, roedd rhyw gaplan neu'i gilydd i'r fyddin yn egluro pam mor ofnadwy o bwysig ydi'r gyflafan yn Affganistan er mwyn (ymysg pethau eraill) atal heroin rhag cyrraedd strydoedd Prydain. Gan ei fod yn gwneud ei sylwadau ar y radio, fedrwn i ddim barnu os y llwyddodd i gadw ei wyneb yn syth wrth ddweud hyn. Roedd Nia Griffith - aelod seneddol Llafur Llanelli (a dynes rwyf yn ei hystyried yn ddeallus) yn hoff iawn o'r sylw - ac aeth ati i nodi sylwadau mor dda a gafwyd gan y parchedig gaplan. Fedrwn i ddim barnu os y llwyddodd hi i gadw ei hwyneb yn syth chwaith.

Un neu ddau o ffeithiau syml am heroin yn Affganistan. Cyrhaeddodd cynhyrchiant heroin ei uchafbwynt yno yn 1999 - roedd 350 milltir sgwar o dir wedi ei blanu efo popi (y planhigyn sy'n cynhyrchu opiwm - craidd heroin). Y flwyddyn ganlynol cafodd planu popi ei wneud yn anghyfreithlon yn y wlad gan y llywodraeth - llywodraeth a reolid gan y Taliban. Roeddynt yn brysur yn gwneud pob dim yn anghyfreithlon ar y pryd. Erbyn 2001, 30 milltir sgwar o'r wlad oedd o dan bopi. Blwyddyn wedyn roedd llywodraeth y Taliban wedi ei ddymchwel ac roedd 285 milltir sgwar o'r wlad o dan bopi drachefn. Affganistan oedd prif ffynhonell heroin y Byd unwaith eto. Bu cynnydd cyson mewn faint o'r cyffur a gynhrchir oddi ar hynny.

Mae'r rheswm am y cynnydd yn syml - y rhyfel sydd yn creu'r cymhelliad i gynhyrchu opiwm. Mae'n rhaid i'r gwahanol grwpiau sy'n ymladd yno nad ydynt yn cael eu hariannu gan yr UDA ddod o hyd i rhyw ffordd o brynu arfau. Felly maent yn annog ffermwyr i dyfu'r stwff, amddiffyn y cnwd, ei symud tros yr afon Oxus - ffin Tajikistan - a'i ffeirio yn y bazars ar hyd y ffin am AK 47s, drylliau saethu hofrenyddion ac ati. Gellir ffeirio 1kg o heroin am chwech AK 47 fe ymddengys.

Mae yna ddadleuon tros ryfel Affganistan - 'dydw i ddim yn cytuno efo'r rhan fwyaf ohonyn nhw, ond o leiaf mae rhai yn rhesymegol. Ond mae dadlau bod y rhyfel yn ymwneud a delio gyda phroblemau cyffuriau adref yn nonsens anonest.

Y rhyfel a'r cynhyrchiant uchel o heroin sy'n dod yn ei sgil ydi un o'r prif resymau pam bod pris heroin ar strydoedd y DU yn gymharol isel, ac felly'r rhyfel sy'n gyfrifol am y defnydd uchel o'r stwff - a'r holl dor cyfraith sy'n ei ddilyn fel cysgod.

'Dwi'n un am redeg, ac mae yna ddarn o dir gwastraff ar gyrion Caernarfon 'dwi'n rhedeg trwyddo yn aml lle ceir dwsinau o nodwyddau wedi eu gwasgaru ar hyd y llawr yn ddi eithriad. Mae yna hefyd nifer go dda o hogiau a genod y dre yn Affganistan ar hyn o bryd. Ceir cysylltiad uniongyrchol rhwng y naill beth a'r llall - ac mae'r cysylltiad hwnnw'n un torcalonus.

'Dydi gwrando ar droelli rhyfelgar Ms Griffith a'r parchedig gaplan ddim yn gwneud i mi deimlo'n garedig tuag at y naill na'r llall mae gen i ofn.

1 comment:

Anonymous said...

Hеllo theгe! I juѕt want to offeг уou a huge thumbs uр foг the excellеnt infогmation you
have got right here on thiѕ ρost.
I'll be coming back to your site for more soon.

My blog: payday loans
Also see my page :: payday loans