Wednesday, July 22, 2009

Cwis bach arall

Pa wlad sydd ag arweinydd sydd heb ei ethol gan neb ag eithrio'i blaid ei hun?

A sydd a 4,200,000 o gamerau CCTV - un am pob 14 person sy'n byw yno - a hynny er nad oes yna fewath o dystiolaeth eu bod yn lleihau tor cyfraith.

A sydd a'i llywodraeth yn coledu gwybodaeth yn ddi ddiwedd ynglyn a'i thrigolion i'w cadw mewn amrediad di ddiwedd o ganolfannau bas data - a sydd efo hanes cyson o golli'r data hwnnw ar dacsis, bysus ac ati

A sydd a chyfreithiau sydd yn eich cosbi am beidio gwirfoddoli data personol ar gyfer y dywydiedig amrediad o fasdata.

A lle mae'r wladwriaeth yn bwriadu gwario rhwng £12 biliwn ac £18 biliwn er mwyn gwneud i bawb gario cardiau adnabod sydd wedi eu cysylltu efo'r annwyl ganolfannau basdata.

A lle mae llawer o'r data y tu allan i oruwchwyliaeth y Comiwsiynydd Gwybodaeth.

A lle mae'r wladwriaeth yn defnyddio trais, arfau, canon dwr, bwledi plastig ac yn caethiwo pobl i un lle am oriau fel defaid wrth blismona protestiadau.

A sydd yn cadw samplau DNA pobl nad ydynt yn euog o unrhyw weithred o dor cyfraith - yn groes i Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop.

A lle mae'r heddlu yn cael atal ac archwilio pobl nad ydynt yn hoffi eu golwg a'u cloi i fyny am gyfnodau maith heb eu cyhuddo.

A lle mae'n bosibl i blentyn 10 oed gael ei gyhuddo o droseddau.

A lle nad yw'n bosibl i bobl gadw'n ddistaw wedi iddynt gael eu harestio heb oblygiadau i achos cyfreithlon posibl.

A lle mae yna Ddeddf Atal Terfysgaeth sy'n diddymu llawer o hawliau sifil sylfaenol diffynyddion, ond lle nad oes ond 0.5% o'r sawl a arestir oddi mewn i'w chyfyngiadau yn eu cael yn euog o unrhyw beth o gwbl.

A lle mae'r heddlu newydd dderbyn yr hawl i fynd i mewn i dai pobl a thynnu posteri sy'n beirniadu'r Gemau Olympaidd i lawr.

Y peth gwirioneddol ddychrynllyd ydi bod hyn oll wedi dod i fodolaeth yn gymharol ddiweddar ac nad ydyw'n poeni dim arnom, ac nad ydyw'n cael fawr o sylw yn y talwrn gwleidyddol..

3 comments:

Hogyn o Rachub said...

Dydi'r ddolen ddim yn gweithio i mi gyda llaw

Pwy fyddai'n meddwl mai Llafur fyddai'n torri ein hawliau dynol cymaint?

Pwy sy wirioneddol yn meddwl y bydd y Ceidwadwyr yn wahanol?

Ers 1997 mae'r wlad hon yn troi'n fwyfwy yn wladwriaeth heddlu - mae'n eithaf dychrynllyd dwi'n meddwl.

Cai Larsen said...

Mi dria i ei chael i weithio HoR

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Yng ngeiriau anfarwol Dizzee Rascal...BONKERS!
Be am rhyddid yr unigolyn?