Sunday, May 03, 2009

Deg mlynedd ar hugain ers i Dduw roi Mrs Thatcher i ni


Ymddengys mai deg mlynedd ar hugain i fory y daeth y Fonesig Thatcher yn brif weinidog am y tro cyntaf.

Gan ei bod yn fwriad gennyf ddangos fideo gwleidyddol o bryd i'w gilydd o hyn allan, mae'n debyg ei bod yn addas fy mod yn dathlu'r diwrnod mawr efo fideo - can goffa hyfryd Christy Moore i Victor Jara - canwr poblogaidd o Chile a gafodd ei arteithio a'i lofruddio ar orchymyn ei chyfaill mynwesol, Augusto Pinochet.

6 comments:

Anonymous said...

Ry'n ni wedi bod yn aros am gyfle i chwarae hwn ers deg mlynedd ar hugain!:
http://www.youtube.com/watch?v=s4BCUWopQQ4

Anonymous said...

wrth gwrs, petai chwith basiffistaidd Plaid Cymru wedi cael eu ffordd yna fase Prydain wedi gadael i'r Falkland Islands gael eu gorsgyn gan Galtieri - ffasgwyr Yr Ariannin!

Tra roedd cenedlaetholwyr asgell chwith y Blaid yn son am yr angen i siarad a chymodi, fyddai Galtieri wedi tynhau eu rym ar yr ynysoedd. Thatcher ddaeth a democratiaeth i'r Ariannin gan guro Galtieri a'i ffasgwyr.

Thatche a Reagan wnaeth yn fwy na neb (ag eithro'r Pab 'adweithiol' a Solidarnosc) i ddymchwel yr Undeb Sofietaidd gan ddod a democratiaeth i Ddwyrain Ewrop a rhyddid i wledydd Bychain fel Latvia ac Estonia. Tra fod chwith Plaid Cymru'n mawrygu gwastraff amser hunangyfiawn 'Merched Greenham' a chredu fod cynnal gwylnos dros heddwch, wnawn nhw fyth cyfaddef i'w hunain mai Reagan benstiff a Thatcher egwyddorol a orfododd yr USSR i'r bwrdd trafod oherwydd na allen nhw fforddio curo NATO mewn ras arfau.

Felly, mae dwy ochr i'r geniog.

Byddai ychydig o wyleidd-dra gan y Chwith genedlaetholaidd wrth gofio da a drwg Thatcher yn gwneud lot i'w hygrededd.


Cenedlaetholwr a Phleidiwr

menaiblog said...

Mae'r llais yma'n un digon cyfarwydd - sut mae'r hwyl?

Mae'r truth yn swnio fel ymgais i gyfiawnhau lladd ac arteithio carcharorion trwy ddod a Reagan, yr Undeb Sofietaidd, Latvia, Comin Greenham, Galtiei, ffasgwyr, NATO, y Chwith ofnadwy o ddrwg a phob dim arall sydd yn rhywle yng nghefn y meddwl i mewn i'r ddadl.

Anonymous said...

na, nid ymdrech i gyfiawnhau Pinochet o gwbwl. Jyst fase'n braf unwaith clywed rhywun o'r chwith ym Mhlaid Cymru'n dweud nad oedd pob un wan jac o'r hyn wnaeth Thatcher yn anghwir a'u bod hwy wedi cael un neu ddau beth yn rong hefyd.

byddai'n braf darllen rhywle am mea cupla ar ran pawb.

Serch, ddim cweit yn deall pam fod Pinoche'n fwy o fwgan na Castro rhaid dweud. A gellid dadlau fod cwymp Galtieri wedi bod yn un darn bach tuag at droi Chile yn ddemocratiaeth.

Does gan y dde na'r chwith fonopoli ar y gwirionedd hyd y gwela' i.

menaiblog said...

Pethau prin iawn ydi mea culpas mewn gwleidyddiaeth mae gen i ofn.

'Does gen i fawr o gof o glywed y sawl oedd yn argymell mynd i ryfela yn Irac oherwydd bygythiad y WMDs dychmygol yn ymddiheuro, na'r sawl oedd yn dweud ei bod yn syniad da gadael i'r farchnad fynd trwy'i phethau heb oruwchwyliaeth na rheolaeth o ran hynny.

Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod Mrs Thatcher yn cysylltu ei hun efo Castro hefyd.

Anonymous said...

... a plague on both your houses 'de.

falle dy fod di wedi fy atgoffa pam nad ydw i'n cael lot o hiraeth am wleidyddiaeth pleidiol.

- mwynhau dy flog serch hynny.