Sunday, November 30, 2014

Coelcerth aelodau seneddol Albanaidd

Wele'r gyflafan o aelodau seneddol Albanaidd sy'n debygol o ddigwydd os ydi camlyniad etholiad San Steffan 2015 yn adlewyrchu is setiau YouGov ar hyn o bryd. Mae yna bolau eraill sy'n awgrymu bod cefnogaeth yr SNP yn uwch nag a awgrymir gan YouGov. Tabl wedi ei ddwyn oddi yma


Lab
Seats
Con
Seats
SeatMP at 2010ElectorateTurn
out %
CON
%
LAB
%
LIB
%
NAT
%
MIN
%
OTH
%
2010
Win
Pred
Win
117Glasgow North EastWillie Bain59,85949.135.0656.920.0031.042.714.27LABLAB
216Coatbridge, Chryston and BellshillTom Clarke70,06759.427.6855.170.0034.540.002.61LABLAB
315Glasgow EastMargaret Curran61,51652.294.2850.120.0039.282.104.20LABLAB
414Glasgow South WestIan Davidson58,18254.626.2251.070.0034.460.008.25LABLAB
513Kirkcaldy and CowdenbeathGordon Brown73,66562.188.8153.110.0032.800.005.27LABLAB
612GlenrothesLindsay Roy67,89359.656.8450.910.0038.700.003.55LABLAB
711Dunbartonshire WestGemma Doyle66,08563.967.2749.860.0037.490.005.37LABLAB
810Motherwell and WishawFrank Roy66,91858.468.8749.690.0037.100.004.35LABLAB
99Rutherglen and Hamilton WestTom Greatrex76,40861.499.1649.380.0036.950.004.51LABLAB
108Paisley and Renfrewshire SouthDouglas Alexander61,19765.369.4348.180.0036.790.005.60LABLAB
117Airdrie and ShottsPamela Nash62,36457.488.2946.730.0040.950.004.04LABLAB
126Cumbernauld, Kilsyth and Kirkintilloch EastGregg McClymont64,03764.267.8545.800.0042.450.003.90LABLAB
125Glasgow CentralAnas Sarwar60,06250.916.6940.590.0042.082.628.02LABNAT
135Glasgow North WestJohn Robertson60,96858.369.4242.620.0039.440.008.51LABLAB
144InverclydeDavid Cairns59,20963.3611.3844.540.0039.670.004.42LABLAB
143Glasgow SouthTom Harris65,02961.6610.8640.290.0040.930.007.92LABNAT
153Paisley and Renfrewshire NorthJames Sheridan63,70468.6113.8442.600.0038.850.004.71LABLAB
152Dunfermline and West FifeThomas Docherty73,76966.356.4034.829.1243.520.006.14LABNAT
152Dundee WestJames McGovern63,01358.928.8437.040.0049.180.004.94LABNAT
152East Kilbride, Strathaven and LesmahagowMichael McCann76,53466.5712.3140.080.0042.230.005.38LABNAT
152Kilmarnock and LoudounCathy Jamieson74,13162.8013.4341.110.0042.950.002.51LABNAT
152Linlithgow and East FalkirkMichael Connarty80,90763.5911.3338.400.0047.090.003.19LABNAT
152LivingstonGraeme Morrice75,92463.1010.2137.030.0046.050.006.71LABNAT
152Glasgow NorthAnn McKechin51,41657.596.6933.086.8643.540.009.83LABNAT
152MidlothianDavid Hamilton61,38763.9311.2635.590.0046.040.007.11LABNAT
152Lanark and Hamilton EastJimmy Hood74,77362.2614.2238.530.0041.470.005.78LABNAT
152FalkirkEric Joyce81,86962.0210.6434.280.0049.690.005.39LABNAT
152Edinburgh EastSheila Gilmore60,94165.4210.3632.000.0047.805.104.72LABNAT
152Aberdeen NorthFrank Doran64,80858.1711.7332.990.0048.950.006.33LABNAT
152Ayrshire North and ArranKaty Clark74,95361.5314.8335.970.0045.360.003.83LABNAT
152Na h-Eileanan An Iar (Western Isles)Angus MacNeil22,26666.104.1721.450.0062.349.592.45NATNAT
152Ayrshire CentralBrian Donohoe68,35264.2519.3336.280.0040.300.004.09LABNAT
152East LothianFiona O'Donnell73,43866.9418.6333.160.0041.580.006.63LABNAT
152Edinburgh North and LeithMark Lazarowicz69,20468.4314.1726.038.3642.482.246.72LABNAT
152Ayr Carrick and CumnockSandra Osborne73,32062.5924.5035.710.0037.000.002.79LABNAT
162Renfrewshire EastJim Murphy66,24977.2629.3839.350.0027.760.003.51LABLAB
161Edinburgh South WestAlistair Darling66,35968.5123.2231.410.0038.740.006.64LABNAT
161Dunbartonshire EastJo Swinson63,79575.1614.6922.7111.3045.070.006.22LIBNAT
161Dundee EastStewart Hosie65,47161.9614.4421.920.0057.690.005.95NATNAT
161StirlingAnne McGuire66,08070.8922.9930.330.0040.790.005.90LABNAT
161Ochil and South PerthshireGordon Banks75,11567.1919.4526.480.0048.430.005.64LABNAT
161Aberdeen SouthAnne Begg64,03167.2119.6825.115.0743.040.007.10LABNAT
171Dumfries and GallowayRussell Brown74,58169.9530.5934.480.0030.870.004.07LABLAB
170Edinburgh SouthIan Murray59,35473.8020.5423.318.4740.780.006.89LABNAT
170Caithness Sutherland and Easter RossJohn Thurso47,25760.8812.3413.1912.9354.530.007.02LIBNAT
170Inverness Nairn Badenoch and StrathspeyDanny Alexander72,52864.9212.6410.6712.5353.830.0010.33LIBNAT
170Ross Skye and LochaberCharles Kennedy51,83667.2111.596.4819.7351.860.0010.34LIBNAT
170Orkney and ShetlandAlistair Carmichael33,08558.479.964.5725.3848.230.0011.87LIBNAT
170Edinburgh WestMichael Crockart65,16171.2822.1416.319.6346.950.004.98LIBNAT
170GordonMalcolm Bruce73,42066.4317.718.699.6955.960.007.95LIBNAT
170Argyll and ButeAlan Reid67,16567.3122.9911.307.0251.240.007.45LIBNAT
170Fife North EastSir Menzies Campbell62,96963.6220.717.3514.7149.450.007.77LIBNAT
170MorayAngus Robertson65,92562.2025.027.320.0061.760.005.90NATNAT
170Dumfriesshire, Clydesdale and TweeddaleDavid Mundell66,62768.8837.0017.470.0038.880.006.64CONNAT
170Perth and North PerthshirePeter Wishart72,14166.9129.507.040.0059.440.004.03NATNAT
170AngusMichael Weir62,86360.3929.887.380.0058.440.004.30NATNAT
170Aberdeenshire West and KincardineSir Robert Smith66,11068.3629.235.8411.1347.150.006.65LIBNAT
170Banff and BuchanEilidh Whiteford64,30059.8229.756.000.0059.010.005.24NATNAT
170Berwickshire, Roxburgh and SelkirkMichael Moore73,82666.3932.744.3815.3341.330.006.23LIBNAT

Thursday, November 27, 2014

Y broblem efo'r Lib Dems

Er gwaethaf ffigyrau hynod o isel y Lib Dems yn y polau 'cenedlaethol, mae'n nhw'n debygol o ddal mwy o'u seddi na mae'r polau hynny'n awgrymu.  Mae pol Ashcroft a gyhoeddwyd heddiw o seddau ymylol Lib Dems yn dangos hyn yn dda.  Mae Ashcroft yn gofyn dau gwestiwn - sut y byddech chi'n pleidleisio yn gyffredinol? a sut y byddech chi yn pleidleisio yn yr etholaeth hon?  Mae yna wahaniaeth sylweddol yn y gefnogaeth i'r Lib Dems mewn etholaethau maent yn eu dal ar hyn o bryd.

 Er enghraifft edrychwch ar Brycheiniog a Maesyfed.  Ar y cwestiwn cyffredinol 18% o'r bleidlais mae'r Lib Dems yn ei gael - ac maent yn dod ar ol UKIP a'r Toriaid.  Am y cwestiwn penodol etholaethol maen nhw'n cael 31% ac yn ennill y sedd.

Mae'n fwy na phosibl y bydd UKIP yn cael tair gwaith pleidlais y Lib Dems ym mis Mai - tra'n cael traean ( neu lai) o'u haelodau seneddol.  Mae gennym ni drefn etholiadol ryfedd iawn.

O - bu bron i mi anghofio son bod cefnogaeth y Blaid yn treblu o gymharu ag etholiad 2010.  

Cliciwch ar y ddelwedd i'w gweld yn well - neu gweler yma


Saturday, November 22, 2014

Rali SNP yn yr Hydro heddiw

Tair mil ar ddeg o bobl yn yr Hydro heddiw mae'n ymddangos.  I'r sawl sydd ddim yn gyfarwydd a daearyddiaeth Glasgow mae'r anghenfil o adeilad yma  yn wynebu Pencadlys y Bib o'r ochr arall i'r Afon Clyd.  Mae yna lawer o ser adloniant sydd wedi methu llenwi'r lle.

Tybed pryd oedd y tro diwethaf i blaid wleidyddol drefnu rali mor fawr yn y DU?






Plaid pobl fawr, ddinesig

Roedd yr hyn wnaeth Emily Thornberry trwy ymddangos i edrych i lawr ei thrwyn ar Sais, gwlatgarol  dosbarth gweithiol yn drychinebus o safbwynt etholiadol.  Y rheswm am hynny ydi bod yr agwedd roedd yn ei ddangos yn datgelu'n glir yr hyn ydi'r Blaid Lafur erbyn hyn - plaid sy'n cael ei rheoli gan snobs cefnog, dinesig sydd a gwerthoedd cwbl wahanol i'w cefnogwyr traddodiadol.  Dyna pam bod pobl fel Ms Thornberry - sydd  o gefndir breintiedig iawn ei hun - yn meddwl ei bod yn iawn i edrych i lawr eu trwynau ar Saeson gwlatgarol cyffredin fel Dan Ware.  A dyna pam bod pobl fel Mr Ware yn troi oddi wrth y Blaid Lafur yn eu degau o filoedd.
Mae'r tueddiad yma wedi bod yn y Blaid Lafur ers degawdau, ond yng nghyfnod Tony Blair aeth pethau i'r diawl go iawn - dyna pryd aethwyd ati i droi cefn ar gefnogaeth draddodiadol Llafur.  Daw hyn a ni at y brawd Chris Bryant.  Fo oedd y boi a gafodd fynd ar y bocs i feirniadu Ms Thornberry.  
I think the first rule of politics is you respect the voters and by Emily's own admission her tweet clearly didn't do that.
Ond y broblem ydi bod gwerthoedd Chris Bryant yn debyg iawn i werthoedd Emily Thornberry.  Mae yntau yn edrych i lawr ei drwyn ar bobl wlatgarol - fel mae'r geiriau yma o'i eiddo yn ei ddangos.  

All of which makes me realise that I'm no nationalist. I detest the exaggerated belief in one's own cultural heritage, the puffed-up, arbitrary and unmerited self-confidence, the swift denunciation of all that is alien or foreign, the desperate desire to support anyone from the home team, however lazy or hideous. Nationalism is a nasty creed and the path from well-meaning nationalism to xenophobia and racism is slippier than the luge track in the Winter Olympics.

A barnu oddi wrth y geiriau yna mae'n ymddangos bod Chris Bryant yn edrych i lawr ei drwyn ar Mr Ward mwy na hyd yn oed Emily Thornberry.

Thursday, November 20, 2014

Etholiad syml yn y bon

Cyn cychwyn ymddiheuriadau am y blogio ysgafn diweddar - mae pethau'n brysur iawn o safbwynt proffesiynol ar hyn o bryd, a does gen i ddim llawer o amser.

Beth bynnag,  mae'n ddiddorol - os nad anisgwyl - bod David Cameron eisiau cadw fformiwla Barnett am byth bythoedd am wn i.  Mi fydd y sawl sy'n dilyn y pethau yma yn gwybod bod y fformiwla  yn tan gyllido Cymru o £1.2bn o gymharu a'r Alban, a hynny er bod yr Alban yn llawer cyfoethocach na Chymru.  Mi fyddant hefyd yn ymwybodol i'r fformiwla gael ei dyfeisio yn 1978 fel dull dros dro o ariannu gwledydd llai y DU.  Felly os caiff Cameron ei ail ethol ym mis Mai y flwyddyn nesaf gallwn ddisgwyl mwy a mwy o doriadau mewn gwariant cyhoeddus.  

Ac os caiff Llafur ei hethol mi fedrwn ddisgwyl yr un peth - beth bynnag maen nhw'n ei ddweud ar hyn o bryd.  Cawsant dair mlynedd ar ddeg hir i ddiwigio'r ffordd mae Cymru'n cael ei chyllido - ond ni wnaed hynny.  Does yna ddim rheswm i feddwl y bydd pethau'n wahanol y tro hwn.  

Felly os ydych eisiau i Gymru gael ei chyllido'n briodol - rhywbeth fyddai'n dod a'r toriadau enbyd sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd mae yna ffordd syml o wneud hynny - bwrw pleidlais tros Blaid Cymru a gobeithio am etholiad agos tros y DU - un digon agos i'r Blaid fod mewn sefyllfa i fargeinio ynddi.  Mae'n etholiad syml yn y bon - os ydych yn byw yng Nghymru.

Sunday, November 16, 2014

Araith Leanne yn Perth dros y Sul.



Os ydych yn defnyddio ipad gallwch weld yr araith yma

Hanes Glyn Davies yn ymddangos ar dudalen flaen y Sunday Times

Mae'n debyg y dylai Blogmenai longyfarch aelod seneddol Maldwyn, Glyn Davies.  Nid yn aml y bydd aelod seneddol mainc gefn o Gymru yn llwyddo i gael ei hun ar dudalen flaen y Sunday Times, ond mae Glyn wedi llwyddo i wneud hynny - ac am reswm clodwiw iawn hefyd, sef peidio a chanfasio i'r Toriaid yn Rochester.

I dorri stori hir yn fyr ymddengys bod y chwipiaid Toriaidd yn disgwyl i pob un o aelodau seneddol y blaid fynd i Rochester i ymgyrchu ar gyfer yr is etholiad o leiaf dair gwaith.  Yn anffodus 'dydi Glyn ddim yn gwneud y stwff canfasio 'ma oherwydd bod ei gefn yn brifo, ond aeth, serch hynny,  i westy yng nghyffiniau  Rochester efo'i wraig i chwarae golff tra bod ei gyd aelodau seneddol yn ymgyrchu saith milltir i fyny'r lon yn Rochester.

Mae'n anodd barnu pa ran o'r stori sydd fwyaf anhygoel a dweud y gwir.  

Fel cyd ddioddefwr poen cefn achlysurol dwi'n cydymdeimlo efo Glyn.  Ond pan mae gen i broblemau cefn mae cerdded yn weddol hawdd - tra bod chwaraeon yn hynod anodd.  Mae'n rhaid gen i bod Glyn yn dioddef o rhyw anhwylder cefn hynod anarferol.  

Ac wedyn mae gennym y Blaid Doriaidd druan - gwta chwe mis o etholiad cyffredinol - mor brin o actifyddion nes peri i Michael Gove fwlio aelodau seneddol y blaid i fynd i droedio lonydd Rochester yn crefu ar drigolion anffodus y dref honno am bleidleisiau. 

Ta waeth, llongyfarchiadau i Glyn ar ei gamp a gobeithio y bydd ei gefn wedi gwella cyn mis Mai.  Mi fyddai'n bechod petai Maldwyn fyddai'r unig sedd i'r Lib Dems ei chipio trwy'r DU y flwyddyn nesaf.  Neu efallai bod y problemau mae Glyn yn ei gael efo'i gefn yn rhoi cyfle i Gwynfor.  Pwy a wyr?

Rhagrith Toriaidd o Rochester

Hmm, felly mae'r Toriaid yn Rochester yn ymosod ar Reckless am fod a gradd Rhydychen mewn gwleidyddiaeth - sy'n un o'r pynciau a astudiodd David Cameron ar gyfer ei radd tra yn Rhydychen.

Rhyfedd o fyd. 

Friday, November 14, 2014

Awgrym arall o senedd grog

Delwedd ydi'r isod o farchnad Sporting Index ar y nifer o seddi mae pleidiau gwahanol am eu hennill yn etholiad San Steffan y flwyddyn nesaf.  Mae'n awgrymu'n gryf bod pethau am fod yn hynod o agos rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol ac mai senedd grog sy'n ein haros.  

Fel rydym wedi son eisoes mae canfyddiad cyffredinol mai senedd grog fydd hi yn cynnig cyfle gwych i'r pleidiau llai lunio naratif oddi amgylch yr hyn maent am ofyn amdano yn ystod unrhyw fargeinio ol etholiad.  Mae'n gyfle gwych i wneud argraff go iawn.


Tuesday, November 11, 2014

Bargeinio i gael y gorau i Gymru

Mae'r graffiau isod wedi eu cymryd o Politicalbetting.com.  Maent yn adlewyrchu'r llif arian ar gyfnewidfa betio Betfair ar fwyafrif llwyr i'r Toriaid a Llafur yn etholiadau'r flwyddyn nesaf.  Mae'n gwbl glir nad yw'r marchnadoedd betio yn ystyried bod gan y naill blaid unoliaethol na'r llall  gyfle cryf i ennill mwyafrif llwyr - ac yn anhygoel maent yn dangos  bod y tebygrwydd o hynny yn syrthio i'r Toriaid a Llafur ar yr un pryd.  Go brin i hynny erioed ddigwydd o'r blaen.

Mae gan hyn oblygiadau pell gyrhaeddol i natur etholiad y flwyddyn nesaf.  Yn hytrach na'r gystadleuaeth arferol am oruwchafiaeth rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol, bydd yn gystadleuaeth lle mae cyfle i bob plaid gael eu hunain mewn sefyllfa o allu dylanwadu ar gyfeiriad polisi y llywodraeth nesaf.  

Oddi tan amgylchiadau felly dydi pleidleisio i'r pleidiau unoliaethol yng Nghymru ddim yn ddefnydd effeithiol o bleidlais os mai cael y fargen orau i Gymru ydi bwriad y sawl sy'n pleidleisio.  Dim ond un blaid sydd am fargeinio i gael y gorau i Gymru yn annad dim arall.  Bargeinio i gael y gorau iddyn nhw eu hunain fydd y pleidiau unoliaethol.  Bargeinio i gael y gorau i Gymru fydd Plaid Cymru.





Monday, November 10, 2014

Y Bib a'r stori Pontio

Mae'n ddiddorol i'r BBC yr wythnos ddiwethaf ddewis disgrifio Alun Pugh fel 'cyn weinidog diwylliant' yn hytrach nag ymgeisydd Llafur ar gyfer etholiad San Steffan pan alwodd am ymchwiliad i'r oedi cyn agor Canolfan Pontio ym Mangor.

 Cafodd Alun Pugh ei benodi'n weinidog diwylliant yn 2003 - unarddeg mlynedd yn ol, ac arhosodd yn weinidog nes iddo golli ei sedd yn 2007. Rwan dydi hi ddim yn briodol i farnu Alun Pugh am wneud sylwadau ynglyn a'r mater - mae o'n wleidydd sydd yn ymgeisio am sedd ac mae gwleidyddion mewn sefyllfa felly yn mynd i gael eu temptio i wneud sylwadau am faterion lleol sy'n dod a chyhoeddusrwydd yn eu sgil. Fodd bynnag mae'r ffaith ei fod yn ymgeisydd seneddol yn fwy perthnasol i'r stori ar hyn o bryd na'i fod yn gyn weinidog - ac mae'n anodd gweld pam nad aeth y Bib ati i ddweud  hynny wrthym.

Chawsom ni ddim  gwybod dim am gyfnod diddorol Alun fel gweinidog celfyddydau chwaith.  Roedd  yn gyfnod digon bywiog.  Ei weithred mwyaf enwog oedd gwrthod ail benodi Geraint Talfan Davies i'w swydd fel cadeirydd Cyngor y Celfyddydau. Roedd hyn yn rhan o ymgais ehangach i ddiwygio'r ffordd roedd y celfyddydau yng Nghymru yn cael eu hariannu mewn modd a fyddai wedi canoli llawer o rym tros y celfyddydau yn y Cynulliad. Arweiniodd hyn yn ei dro at feirniadaeth sylweddol gan sefydliadau celfyddydol, y gwrthbleidiau a'r cyhoedd. Ni welodd yr argymhelliad olau dydd oherwydd maint y gwrthwynebiad iddynt.

Fel y dywedais, roedd y cyfnod yn un lliwgar.



Sunday, November 09, 2014

Pam nad ydi trydar yn hwyr yn y nos pob amser yn syniad da

Mae trydar yn hwyr yn y nos yn gallu bod yn ddadlennol - ac yn rhywbeth digon peryglus i'w wneud.  Dwi ddim yn meddwl bod angen rhoi sylwebaeth ar sylwadau pwy bynnag sy'n cadw cyfri trydar Antoinette Sandbach ynglyn a'r helynt Lidl.  

Gellir gweld pethau'n gliriach ar @ASandbachAM






Wednesday, November 05, 2014

Plaid Saesneg Cymru

Mae'n gryn syndod i mi nodi bod rhai o fy nghyfeillion bach Llafur yn beirniadu Aelodau Cynulliad y Blaid - o bawb - am beidio a gwneud digon o ddefnydd o'r Gymraeg ym Mae Caerdydd.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi ffigyrau am y defnydd o'r Gymraeg yn y Cynulliad (ar gyfer y llynedd) a fydd hi ddim yn syndod i neb mai aelodau Plaid Cymru sy'n gwneud y mwyaf o ddefnydd o'r iaith yno o ddigon.  Ar wahan i Keith Davies does yna ddim un o aelodau'r pleidiau unoliaethol gwneud cymaint a 50% o'i gyfraniadau trwy gyfrwng y Gymraeg.  19% ydi ffigwr Carwyn Jones (yr ail Lafurwr) -  dyn sy'n siarad y Gymraeg fel mamiaith - ac mae'r rhan fwyaf o'r ffigwr hwnnw oherwydd ei fod yn gorfod ateb cwestiynau sydd wedi eu gofyn yn y Gymraeg gan aelodau Plaid Cymru trwy gyfrwng yr iaith honno.

Petai Plaid Cymru ddim yn bodoli yn y Cynulliad byddai'r sefydliad mor Seisnig a'r holl gynghorau Llafur hynny ar hyd a lled y wlad.  Y gwir ydi wrth gwrs mai plaid Saesneg iawn ydi'r Blaid Lafur 'Gymreig'.  Does yna ddim cyfieithu yn eu cynhadledd - felly mae bron pob dim yn Saesneg.  Mae eu gweinyddiaeth fewnol yn Saesneg.  Does yna ddim offer cyfieithu yn eu Pwyllgor Gwaith, felly mae hwnnw yn uniaith Saesneg, mae eu pwyllgorau cenedlaethol  yn uniaith Saesneg a bron i pob un - os nad y cyfan o'u pwyllgorau lleol -  yn wir i bob pwrpas ymarferol mae'r Blaid Lafur 'Gymreig' mor Seisnig a'r Blaid Geidwadol neu UKIP.

I weld y ddelwedd yn gliriach gweler yma



Monday, November 03, 2014

Cwymp y ddwy 'brif' blaid







Mwy o newyddion drwg i Lafur

Gyda newyddion trychinebus i Lafur yn dod o'r Alban ac o'r polau 'cenedlaethol' mae'n ddiddorol nodi i Alwyn Humphreys - ymgeisydd Llafur ym Meirion Dwyfor benderfynu gadael y Blaid Lafur ac ymuno a Phlaid Cymru.  Dewiswyd Alwyn gan Lafur Arfon hefyd i ymladd etholiad Cynulliad 2011, ond penderfynodd beidio sefyll trostynt yn y diwedd.  Er bod Alwyn yn byw yn Rhosllanerchrugog, Wrecsam ar hyn o bryd cafodd ei eni a'i fagu yn Nyffryn Nantlle, Arfon.

Yn ol Alwyn y rheswm ei fod wedi gadael y blaid adain Dde, unoliaethol ydi ei fod bellach o'r farn mai dim ond Plaid Cymru sy'n amddiffyn gwerthoedd traddodiadol y Blaid Lafur - sefyll tros hawliau pobl gyffredin a gofalu am y llai ffodus mewn cymdeithas.  Mae o'r farn bod y Blaid Lafur yn fwyfwy gefnogol o bolisiau Toriaidd. Amen i hynny. 




Alwyn ar y chwith ac ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Clwyd, Mabon ap Gwynfor ar y dde.

Saturday, November 01, 2014

Sut i beidio ag ymddwyn ar Hawl i Holi

Joan Burton ydi'r feinwen - arweinydd presenol y Blaid Lafur Gwyddelig.

Os ydych yn defnyddio ipad, gweler yma


Mewnfudwyr - mynd ar ol y gelynion anghywir

Reit, gair neu ddau ynglyn a mewnfudo i'r DU ac UKIP - cyn bod hwnnw'n fater gwleidyddol. mor obsesiynol  Yn y lle cyntaf gallaf gydymdeimlo efo pobl - Saeson yn bennaf - sy'n gweld eu cymdogaethau yn newid yn sylweddol mewn cyfnod byr o amser.  Mae pobl yn hoffi sicrwydd a theimlad o barhad yn eu bywydau - ac mae newidiadau cymdeithasegol mawr a chyflym yn tanseilio hynny.  Mi'r ydan ni sy'n byw yn y Gymru Gymraeg yn deall hynny'n iawn.  Ond dydi'r rhan fwyaf o gymdogaethau yn Lloegr ddim wedi gweld lefelau uchel o fewnfudo, a dydi llawer o'r ardaloedd lle mae UKIP yn gryf ddim wedi profi hynny chwaith.  Mae 95% o drigolion Clacton yn disgrifio eu hunain fel White British.

Ar y llaw arall mae ardaloedd sydd wedi derbyn niferoedd uchel o fewnfudwyr yn aml iawn yn rhai lle nad ydi UKIP yn gwneud yn arbennig o dda.  Mae Llundain yn esiampl nodedig.    Mewn geiriau eraill mae llawer o'r sawl sy'n cwyno am fewnfudo (ac yn fotio ar sail hynny) yn cwyno am rhywbeth sydd ddim yn effeithio yn uniongyrchol arnynt.  Y cwestiwn diddorol ydi Pam?

Cyn ateb y cwestiwn hwnnw efallai y byddai'n syniad edrych ar effaith economaidd mewnfudo.  Does yna ddim llawer o amheuaeth bod mewnfudo i'r DU yn llesol o'r safbwynt hwnnw.  Mae poblogaeth y DU yn gymharol hen, sy'n golygu bod llawer o'r boblogaeth y tu hwnt i'r farchnad waith.  Mae mewnfudwyr yn tueddu i fod yn ifanc, felly maent yn newid y cydbwysedd gweithwyr / pensiynwyr er gwell.  Pe na byddai unrhyw fewnfudo ni fyddai yna ffordd o lenwi llawer o fylchau yn y gweithle.  

Bu cynnydd sylweddol mewn mewnfudo diweddar (roedd yna fewnfudo net o 243,000 y llynedd - cynnydd o 40% ar y flwyddyn flaenorol), ac mae tua hanner hwnnw'n dod o'r Undeb Ewropeaidd.  Mae yna rymoedd economaidd mawr yn gyrru'r symudiadau poblogaeth yma - yn 2013 roedd GDP y DU yn €29,600 y person.  Y ffigwr cyfatebol ar gyfer Bwlgaria oedd €5,500.  Mae gwahaniaeth o'r maint yma'n rhwym o greu symudiadau poblogaeth mawr lle nad oes cyfreithiau yn atal hynny - a does yna ddim cyfreithiau felly oddi mewn i'r Undeb Ewropiaidd.  

Os ydych yn un o selegion y Daily Mail, neu'r Express mae'n debyg eich bod yn credu bod y bobl hyn yn dod yma i gael budd daliadau.  Dydi'r data ddim yn cefnogi'r farn honno.  Ers 1999 mae mewnfudwyr wedi talu £25bn yn fwy mewn trethi na maent wedi ei gymryd mewn budd daliadau.  Mae mewnfudwyr yn 45% llai tebygol na brodorion y DU i dderbyn budd daliadau neu gredydau treth.   

Serch hynny mae mewnfudo yn fater llawer pwysicach yn wleidyddol yn y DU heddiw nag yw wedi bod ers talwm iawn - neu yn wir erioed.  Ac cheir canfyddiad cyffredinol bron bod mewnfudo yn niweidiol i economi'r DU.  Mae cefnogaeth UKIP wedi tyfu yn gyflym yn yr amgylchiadau hyn.  Ar wahan i gam arwain arferol y papurau newydd adain Dde mae'n debyg bod dau reswm cysylltiedig am hyn.  Mae mewnfudo wedi cynyddu yn sylweddol tros y blynyddoedd diwethaf ar union yr un pryd a mae'r rhan fwyaf o bobl wedi profi cwymp yn eu safon byw.  Mewn amgylchiadau felly mae'n hawdd argyhoeddi pobl bod un sefyllfa wedi arwain at y llall - ond dydi hynny ddim yn wir.

Yr hyn sydd wedi arwain at gwymp mewn safon byw carfannau mawr o'r boblogaeth ydi'r mesurau sydd wedi eu cymryd gan lywodraethau i fynd i'r afael a'r argyfwng  a achoswyd gan benderfyniadau a gymerwyd i arbed cyfres o fanciau  ar ddiwedd y ddegawd diwethaf, ynghyd a'r tynhau rhyfeddol yn y marchnadoedd benthyg arian. Mae'r sefyllfa yn cael ei chymhlethu gan y ffaith bod Prydain yn economi cyflogau isel beth bynnag - mae'r ail strwythuro  economaidd a ddigwyddodd yn 80au a 90au y ganrif ddiwethaf wedi sicrhau hynny.  

Neo ryddfrydiaeth sy'n dod a hyn oll at ei gilydd.  Mae'r set yma o gredoau ynglyn a sut y dylid rheoleiddio'r economi wedi dominyddu gwleidyddiaeth ym Mhrydain a thu hwnt ers deg mlynedd ar hugain a mwy.  Dyma oedd wrth wraidd ail strwythuro economi Prydain, a neo ryddfrydiaeth oedd hefyd wrth wraidd y swigan gredit a achoswyd gan fanciau nad oedd yn cael eu rheoleiddio'n briodol yn ystod y ddegawd diwethaf.  Mae egwyddorion neo ryddfrydiaeth hefyd yn gyson a'r ymgais i dorri gwariant cyhoeddus i'r bon yn ystod y blynyddoedd diwethaf - ac yn wir mae'r Undeb Ewropeaidd  yn gyson ag egwyddorion neo ryddfrydiaeth wrth ganiatau symudiadau di lyffethair mewn cyfalaf a llafur oddi mewn i'w ffiniau.  

Ond mae'r anfodlonrwydd sydd wedi tyfu yn sgil y cwymp mewn safonau byw wedi ei sianelu i un deilliant yn unig o lywodraethiant neo ryddfrydig - mewnfudwyr o wledydd tramor - ac nid ar y gyfundrefn ehangach.  Mae hyn wedi ei lywio gan y cyfryngau newyddion wrth gwrs.  

A daw hyn a ni at etholiad y flwyddyn nesaf a'r cyfryngau torfol.  Ar hyn o bryd bwriad y sianelau teledu ydi ceisio cyfyngu'r drafodaeth i un rhwng arweinwyr y pedair brif blaid unoliaethol - pedwar miliwnydd sydd i wahanol raddau yn derbyn y consensws neo ryddfrydig - er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd yn ei sgil.  Petai'r Blaid Werdd, Plaid Cymru a'r SNP yn  cymryd rhan yn y dadleuon cyhoeddus, yna mi fyddai agweddau ar y consensws sydd wedi'n cael ni yn y twll rydym ynddo ar hyn o bryd yn cael ei herio - ac mae yna lawer o bobl sydd mewn safleuoedd o rym sydd ddim am i hynny ddigwydd tros eu crogi.  Does yna'r un system yn well am wneud y cyfoethog yn fwy cyfoethog.