Tuesday, January 09, 2018

Pwy sy'n trydar yn y Gymraeg?

Yn dilyn rhyddhau ffigyrau Cymdeithas yr Iaith sy'n dangos mai ychydig iawn o Gymraeg fyddai'n cael ei ddefnyddio yn y Cynulliad oni bai am aelodau Plaid Cymru roeddwn yn rhyw feddwl y byddai'n syniad cael cip ar faint o ddefnydd sy'n cael ei wneud o'r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol gan gwahanol wleidyddion Cymreig.  Felly dyna fynd ati i edrych ar gyfrifon trydar nifer o wleidyddion sydd wedi eu dewis oherwydd eu bod nhw'n ystyried eu hunain yn gefnogol i'r iaith Gymraeg a 'u bod yn rhugl(ish) eu Cymraeg.

Gair o rybydd i ddechrau - edrych ar y 20 trydariad (nid ail drydariad) diwethaf wnes i - mae hynny'n sampl bach, ac mae'n anheg efo un neu ddau.  Er enghraifft mae yna fwy o drydyriadau Saesneg yn sampl Rhun ap Iorwerth na sy'n arferol ganddo oherwydd iddo gael ei hun mewn dadl efo rhywun di Gymraeg yn ystod cyfnod y sampl.

Ta waeth - mae'r ffigyrau'n eithaf diddorol.  Mae trydyriadau Cymraeg Dafydd Elis-Thomas wedi mynd yn hynod brin ers iddo gael ei godi'n weinidog.  Mae Sion Jones yn trydar i'w etholwyr bron yn llwyr yn Saesneg er ei fod yn cynrychioli un o'r hanner dwsin ward mwyaf Cymraeg yng Nghymru, a dim ond pan mae'n cyfeirio at y Gymraeg mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg yn defnyddio'r iaith.  Mae'r Prif Weinidog yn ailadrodd pob trydariad Saesneg gair am air yn y Gymraeg - ac felly'n trydar hanner yr amser yn Gymraeg.  Un gair mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ei 'sgwennu'n Gymraeg mewn 20 trydariad - diolch - a hynny ar ddiwedd neges oedd fel arall yn uniaith Saesneg oedd wedi ei chyfeirio at ysgol cyfrwng Cymraeg. 

Fel arall mae pethau yn mynd yn ol y disgwyl - Pleidwyr sy'n defnyddio'r Gymraeg. 



Diweddariad ynglyn a chyfrifon swyddogol - hy Carwyn Jones - diolch i Aled ap Dafydd


A diolch i Vaughan am y diweddariad:


Mae'r cyfri personol Carwyn Jones fwy neu lai yn uniaith Saesneg (ar wahan i ail drydar) gyda 19 o'r 20 trydariad diwethaf yn Saesneg a'r un sy'n weddill yn llongyfarch un o'i etholwyr Cymraeg ei iaith - yn ddwyieithog.  


2 comments:

Wilias said...

Ha! Dyna syndod bo chdi heb gynnwys Leanne Wood yn dy dabl!
Mae fy sampl i hyd yn oed yn llai na dy un di, rhaid cyfadda' -dwi'n dibynnu'n bennaf ar fy nghof yn hyn, ond patrwm cyffredin ymysg gwleidyddion a staff cyfathrebu Plaid Cymru ydi trydar yn bennaf yn Saesneg, neu -ac mae Rhun ap Iorwerth yn euog iawn o hyn- ychydig eiriau Cymraeg, wedyn llawer mwy o eiriau Saesneg yn yr un trydariad. Hefyd pan maen nhw'n ail-drydar cydweithwyr neu'r BBC, yn amlach na pheidio, maen nhw'n ail-drydar y fersiwn Saesneg yn hytrach na'r fersiwn Gymraeg.
Tydi o ddim digon da gyfaill. Tria gael gair efo nhw!
Dwi ddim yn medru dilyn gwleidyddion Plaid am ei fod yn rhy ffrystreting!

Cai Larsen said...

Roeddwn yn meddwl fy mod wedi ei gwneud yn glir mai gwleidyddion rhugl eu Cymraeg oedd ar y rhestr. Ond hyd yn oed wedyn petaem yn edrych yn ol ar 20 trydariad olaf Leanne mae llai yn uniaith Saesneg na sydd gan yr un o'r gwleidyddion unoliaethol.

Mi fyddai'n well petaet yn samplu yn hytrach na gweithio o dy gof yn yr achosion eraill ti'n eu codi.