Saturday, May 28, 2016

Week in Week Out a'r Gymraeg

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn ymwybodol nad ydi'r awdur pob amser yn cytuno efo'r BBC pan mae'n dod i faterion gwleidyddol, ond mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf erioed wedi cael lle i feddwl bod tueddiadau gwrthwynebus i'r Gymraeg yn neunydd cyfrwng Saesneg BBC Wales.

Welais i ddim o raglen Week in Week Out y noson o'r blaen chwaith - ond mae rhai a'i gwelodd wedi gweld natur newyddiaduraeth y rhaglen fel tystiolaeth o ddiwylliant gwrth Gymraeg yn y gorfforaeth.  Mae'n debyg ei bod yn hollol wir bod rhai o honiadau'r rhaglen wedi eu seilio ar ddata nad oedd llawer o hygrededd iddo  - ond bod cyfeiriad uniongyrchol at y data hwnnw wedi ei ddileu o'r rhaglen derfynol.  Mae'n ymddangos eu bod hefyd wedi rhoi llais i un ochr o'r ddadl - bod darparu hawliau i ddefnyddwyr y Gymraeg yn ddrud iawn - tra'n anwybyddu'r ochr arall i pob pwrpas.  Dydi'r naill wendid na'r llall ddim yn adlewyrchu'n arbennig o dda ar newyddiaduraeth y rhaglen, ac mae'n awgrymu rhagfarn ar ran y sawl oedd yn gyfrifol amdani - ond dydi hynny ynddo'i hun ddim yn awgrymu rhagfarn corfforaethol wrth gwrs.

Ond wedi dweud hynny mae'n bwysig bod y BBC - a darlledwyr eraill - yn ceisio ymarfer synnwyr cyffredin pan mae'n dod i faterion fel hyn.  Dydi ymdriniaeth newyddiadurol o'r Gymraeg ddim yr un peth ag ymdriniaeth newyddiadurol o faint o bres mae cynghorau yn ei wario ar brif weithredwyr, neu ar sut maent yn gweithredu eu cynlluniau unedol, neu sut mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn dosbarthu adnoddau i lywodraeth leol.  Mae yna fwy yn gyffredin mewn rhai ffyrdd efo hil neu grefydd.  

Mae materion felly yn faterion sensitif - ac mae yna reswm pam eu bod yn sensitif.  Mae cymdeithas yn aml wedi ei rannu ar seiliau crefyddol, ethnig neu ieithyddol - ac mae'n bwysig o safbwynt sicrhau cydlynnedd cymdeithasol nad yw rhai grwpiau yn teimlo bod yna ragfarnau strwythurol yn eu herbyn.  Mae gan ddarlledwyr gwladwriaethol gyfrifoldeb arbennig yn hyn o beth - mae canfyddiad o ragfarn yn erbyn grwp penodol gan ddarlledwr felly yn awgrymu rhagfarn gan y wladwriaeth ei hun. 

 Dydi ymddygiad y gorfforaeth yn ystod refferendwm annibyniaeth yr Alban ddim yn union yr un peth a'r hyn a drafodir ar hyn o bryd, ond mae'r canfyddiad (cwbl gywir) bod y BBC wedi cymryd ochr yn nyddiau olaf, ffrantig yr ymgyrch wedi niweidio delwedd y Gorfforaeth yn yr Alban - ac mae'n un o'r rhesymau tros y surni sydd yn parhau yn yr Alban ynglyn a thegwch y refferendwm - surni fydd yn arwain at refferendwm arall mewn ychydig flynyddoedd.  

Dydw i ddim yn dadlau nad oes trafodaeth i'w chael ynglyn  a chostau sefydlu hawliau cyfartal i grwpiau ieithyddol gwahanol yng Nghymru.  Mae pob dim yn agored i ddadl a thrafodaeth mewn democratiaeth iach.  Ond rhaid i ddadl felly gael ei chynnal mewn ffordd gall a theg - nid ar sail hysteria sy'n cael ei greu gan raglen sy'n seilio ei hymdriniaeth ar ddata amheus a sylwebaeth un ochrog.  

Calliwch bois.

4 comments:

Anonymous said...

Mae'r treuliau unedol o gynnal a chadw y ddatpariaeth o wasanaethau ag adnoddau iaith leiafrifol o rwym o fod yn uwch yn fathametegol: nid yw'r rhifyddeg yn "hiliol" gan eithrio iddi gyfrif a nodi gwahaniaethau go iawn sy'n perthyn i ddata ynghlwm wrth iaith, hil, crefydd ayb. Os nad yw'r rhifau'n gywir, mi ddylem eu herio, fel arall mae nhw'n ychwanegu ag y gronfa o wirionedd a gwybodaeth am ddethol bwnc ac mi ddylem eu croesawu er mor ofidus yw hynny I ba garfan bynnag sy'n gwrido'n goch yn eu cylch.
A dyma ni..Mae'r defnydd o'r Gymraeg fesul uned gost nid yn unig yn uwch o herwydd ei bod hi'n ddrutach i ddatparu gwasanaethau i farchnad lai o ddefnyddwyr (neu gymuned os fynnwch chi) ond gyda'r Gymraeg, mae gwell gan gyfran uwch o Gymry Cymraeg eu hunain anghofio'r hen "Gwnewch bopeth yn Gymraeg" gan arddel yr iaith fain yn lle er eu budd eu hunain. Ni werir y bunt ddwywaith: ar hon; nid ar hwn - neu fel arall. Y mae'r wladwriaeth yn tynnu arian o bocedau'r trethdalwyr ar draul darpar-ddiben posib arall ar gyfer eu harian. Elwa cwmnioedd trosi ymysg cwmnioedd eraill ar reidrwydd dwyieithrwydd er mai tila yw'r defnydd go iawn o'u cynnyrch ar y brydiau. Bydd rhaid i'r Gymraeg a'u cefnogwyr wneud y ddadl mewn heulwen ffeithiau yn hytrach na gweiddi "fyw I chi siarad am bethau fel hyn" yn mynd rhagddi..

Marconatrix said...

¨Dydi ymddygiad y gorfforaeth yn ystod refferendwm annibyniaeth yr Alban ddim yn union yr un peth¨

Ond ydi? Dwi´n gweld mwy o wahaniaeth mewn gwirionedd. Gnewch helaethu i ni sut mae hynny yn wir, o.g.y.dd.

---

Hefyd, diolch i´r rhai, Cymru Cymraeg mae´n debyg (herwydd y map o leia) sy´n wedi rhoi cefnogaeth i´r Gernwyeg yma :-) :

https://petition.parliament.uk/petitions/128474

Cai Larsen said...

Wel y gwahaniaeth ydi bod iaith, crefydd, ethnigrwydd yn diffinio cydrannau o'r boblogaeth - dydi sut mae pobl yn pleidleisio mewn refferendwm (Albanaidd o leiaf) ddim yn gwneud hynny. Roedd pobl o pob rhan o'r boblogaeth yn pleidleisio 'Ia'.

Marconatrix said...

Oeddyn, ar y gyfan. Rŵan dwi´n gweld eich point. Dyna, wrth gwrs, sut mae´n well, dwi´n credu, gadael y frwydr am y Gàidhlig ar wahân o´r un am annibyniaeth. Nid felly yng Nghymru wrth gwrs.