Monday, May 16, 2016

Y dirywiad ym mhleidlais Llafur

Dwi'n gwybod nad ydan ni i fod i gymharu etholiadau o fathau gwahanol i'w gilydd.  'Dwi'n gwybod bod cyfraddau pleidleisio yn is mewn etholiadau Cynulliad a dwi hefyd yn gwybod bod etholiadau Cynulliad yn llai ffafriol i Lafur nag etholiadau San Steffan.

Ond mae yna ganfyddiad yng Nghymru bod gwleidyddiaeth Cymru yn ddigyfnewid - pan rydym yn cymharu efo'r Alban o leiaf - a bod yr hegemoni Llafur yn parhau i oroesi - fwy neu lai.  Mae yna beth sail i'r gred honno.  Serch hynny mae'n bwysig cofio bod is seiledd y gefnogaeth Lafur yn dirywio'n sylweddol - ond bod yr hegemoni yn parhau oherwydd cyfuniad o system etholiadol sy'n ffafriol i Lafur a dosbarthiad cefnogaeth ffodus o safbwynt y blaid honno.  Roedd yna amser, yn y gorffennol cymharol agos, pan allai Llafur ddisgwyl i ddegau lawer o filoedd o bobl ddod allan i bleidleisio mewn etholiad ar ol etholiad - byddionoedd o bobl a gweud y gwir.  

I ddangos hyn dwi wedi dethol ychydig o ganlyniadau o etholiad cyffredinol 1997 (etholiad nad oedd yn benllanw i Lafur yng Nghymru gyda llaw) ac etholiadau'r Cynulliad eleni.  Mae'r gwahaniaeth yn sylweddol.  





















Rwan, dwi'n gwybod fy mod wedi nodi bod y system etholiadol yn arbed Llafur rhag llawn effeithiau'r dirywiad yn ei chefnogaeth.  Ond dydi'r system ddim yn eu hamddiffyn o dan pob amgylchiad.  Petai Llafur yn cael llai na 30% - fell ddigwyddodd yn etholiad Ewrop 2014 - byddai'r system yn dechrau gweithio yn erbyn, yn hytrach nag o blaid Llafur.






























4 comments:

Anonymous said...

Interesting, even if you compare Wales’ 97 Westminster’s votes with 2015 Labour’s declining vote is obvious.

The bigger issue in the Assembly is the split opposition, the SNP weren’t afraid to chase Scottish Tory votes and hovered up a majority of discontented Labourites after indyref which with their existing support gave them a firm majority. For well rehearsed reasons Plaid Cymru won’t go down that path, the Tories have a Welsh vote ceiling and combined with Lib Dems irrelevance means Labour will survive a good while longer on 30 plus percent than most of us expect.

Anonymous said...


Ond, bydd rhaid ini aros am 5 mlynedd...

Cwlcymro said...

Er mor ddiddorol hdi gweld y gwymp aruthrol yn mhleidlais Llafur yn y lluniau y a, y broblem yng Nghymru ydi'r newid bychan yn mhleidlais y pleidiau eraill ar y cyfan. Dyw yr hen bledleiswyr Llafur ddim yn pledleisio i'r gwrthwynebwyr, ma nhw jusd yn aros adref.

Unknown said...

Roedd nifer o wybodusion yn canmol Llafur am effeithiolrwydd eu peiriant etholiadol - am y rheswm eu bod wedi cronni digon o bleidleisiau i gadw etholaethau (heblaw'r Rhondda!) er bod eu pleidlais ar i lawr gymaint. Rwy'n amheus o'r naratif yma: fe allai gogwydd ychydig yn fwy olygu colli nifer sylweddol o seddi'r tro nesaf.
Ac oes rhaid aros pum mlynedd? Bydd etholiadau lleol yn dod rownd whap.