Friday, August 28, 2015

Dychwelyd i'r deyrnas fanana

Felly dyma fi ar y llong ar y ffordd yn ol adref i'r newyddion gwych fy mod yn cael gwneud fy nghyfraniad bach i gadw 45 o 'arglwyddi' newydd mewn moethusrwydd.  Daw hyn a'r cyfanswm i 826.  Mae nifer o 'r 'arglwyddi' newydd ymysg y sawl oedd ynghanol y sgandal dreuliau enwog saith mlynedd yn ol.  Mae gan y Dib Lems 8 o aelodau seneddol etholedig a 102 o 'arglwyddi' efo'r hawl i ddeddfu - er na chawsant eu hethol gan neb. 

Mae'n debyg mai'r unig gorff llywodraethol mwy o ran maint ydi Cyngres y Bobl yn China sydd a bron i 3,000 o aelodau. Ond mae hwnnw yn gorff mwy democrataidd, llai drud a llai llwgr na Thy'r Arglwyddi.  




Mae yna etholiadau - o fath - i'r Gyngres. Yr unig beth sydd ei angen i fod yn aelod o Dy'r Arglwyddi ydi bod yn ffrindiau efo arweinydd un o'r pleidiau unoliaethol mawr, bod wedi cyfrannu pres i arweinydd un o'r pleidiau unoliaethol mawr, neu bod wedi cyfrannu i un o'r pleidiau unoliaethol mawr.  Mi fydd yna ambell i berson arall yn cael ymuno o bryd i'w gilydd am resymau cyflwyniadol.

Tra bod dod a thair mil o gynrychiolwyr o pob cwr o China at ei gilydd yn broses cymharol ddrud, dydi'r Gyngres ond yn cyfarfod am 10 i 14 diwrnod y flwyddyn - yn y gwanwyn fel rheol.  Mae Ty'r Arglwyddi yn cyfarfod ar hyn y flwyddyn - ac mae unrhyw aelod sy'n teimlo fel mynychu yn cael gwneud hynny - gan dderbyn 'costau' o £300 y dydd.  Yn naturiol ddigon bydd llawer yn cymryd mantais o hyn, a bydd rhai'n treulio'r diwrnod yn cysgu'n braf ar y meinciau coch cyfforddus.

Mae deddfwrfa fawr, anetholedig fel hyn yn arwydd o wladwriaeth lle nad ydi atebolrwydd yn gweithio'n iawn, a'r mwyaf mae rhywun yn edrych ar y drefn Brydeinig, y mwyaf mae dyn yn cael y teimlad bod yr atebolrwydd democrataidd sydd wedi ei sefydlu yng ngweddill Gorllewin Ewrop wedi mynd ar goll yn y  DU rhywsut.  Dwi'n gwybod i'r Chwyldro Ffrengig fethu a chyffwrdd Prydain - ond rhywsut llwyddodd i ddylanwadu ar wledydd eraill na effeithiodd yn uniongyrchol a nhw.  Ond rhywsut mae yna deimlad o Deyrnas Fanana am y DU - rhywle lle mae'r syniad o gyfartaledd  ac atebolrwydd llywodraethol wedi methu a gwreiddio'n iawn

Meddyliwch am Bennaeth y Wladwriaeth er enghraifft.  Dynas o'r enw Elizabeth Windsor sy'n 
cyflenwi'r rol arbennig yna ar hyn o bryd.  Mae wedi bod wrthi - heb fod yn atebol i neb na dim - am 
dros i hanner canrif.  Mae ei chymwysterau ar gyfer y swydd bwysig yma fel a ganlyn:

Hi oedd merch hynnaf ei thad.
Doedd ganddi hi ddim brawd.
Dydi hi ddim yn Babyddes, a dydi hi ddim wedi priodi Pabydd.




Mewn geiriau eraill cafodd ei phenodi ar sail secteraidd a llwythol.  Er gwaethaf hynny mae'r trethdalwr - yn Babyddion neu beidio - yn cael eu gorfodi i ariannu Elizabeth Windsor ac aelodau eraill ei theulu.  Mae'n rhaid gwneud hyn er gwaetha'r ffaith ei bod hi a'i theulu ymysg pobl gyfoethocaf y Byd - ac mae'r cyfoeth hwnnw wedi ei adeiladu ar y manteision mae'r olyniaeth llwythol a secteraidd wedi ei roi iddynt.  Mae ei mab hynaf - Charles Windsor - a'r brenin nesaf os bydd yn goroesi ei fam - yn hoff iawn o geisio dylanwadu ar weinidogion sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd trwy lythyru efo nhw i bwrpas  gorfodi ei gwahanol ddiddordebau esoterig ar y gweddill ohonom.  Mae atebion rhai o'r gweinidogion yn ogleisiol o grafllyd.




Erbyn meddwl, efallai fy mod wedi gwneud cam ddefnydd o'r gair 'democrataidd' yn y frawddeg ddiwethaf ond un.   Mae gan y llywodraeth bresenol fwyafrif llwyr i lywodraethu yn ol ei doethineb addfwyn ei hun ar 37% o bleidleisiau'r sawl a drafferthodd i bleidleisio.  Mae hynny'n fwy na'r 35% a gafodd Blair yn 2005 gyda llaw.   Mae'r wladwriaeth yn cael ei rhedeg gan gabinet sydd a 50% o'i haelodau wedi bod i ysgolion bonedd - 7% ydi'r ganran ymysg y cyhoedd yn gyffredinol.  Mae'r Prif Weinidog a'i Ganghellor yn perthyn trwy waed i'r dywydiedig Elizabeth Windsor a'i thylwyth llawen.  

Mae gennym drefn etholiadol sy'n caniatau i un blaid gael 3 sedd ar llai na 100,000 o bleidleisiau ac un arall i gael 1 gydag 3.8m o bleidleisiau.  Ar hyn o bryd mae'r brif wrthblaid yn cynnal etholiad arweinyddol.  Mae tri o'r ymgeiswyr efo gwleidyddiaeth tebyg iawn i'w gilydd ac nid anhebyg i un y llywodraeth.  Fel 17 aelod o'r cabinet Toriaidd mae 3 ohonynt wedi bod i Rydychen neu Gaergrawnt.  Oherwydd bod ofn cyffredinol ymysg arweinyddiaeth presenol y Blaid Lafur bod y rhan fwyaf o'r pleidleiswyr am bleidleisio i'r boi sydd wedi ei addysgu yn y coleg 'anghywir' a sy'n arddel y wleidyddiaeth 'anghywir' (hy gwleidyddiaeth y rhan fwyaf o aelodau ei blaid) mae yna ymarferiad enfawr i chwynu'r rhestr etholwyr o bleidleiswyr sy'n debygol o bleidleisio trosto yn mynd rhagddi.  Canlyniad chwerthinllyd hyn ydi bod arweinwyr undeb a phobl sydd wedi ymgyrchu tros hawliau pobl gyffredin trwy eu bywydau yn cael eu gwrthod oherwydd 'nad ydynt yn arddel gwerthoedd Llafur' tra bod dynion busnes cyfoethog yn cael eu derbyn.

Nid bod llawer o hyn am gynhyrfu'r cyfryngau wrth gwrs.  Mae'r rhan fwyaf o'r cyfryngau print ym mherchnogaeth pobl gyfoethog iawn sy'n rhannu'r un buddiannau materol a'r sawl sy'n llywodraethu, ac mae pawb yn cael eu gorfodi i gyfrannu at ddarlledwr cyhoeddus sy'n gweithredu fel darlledwr gwladwriaethol pan mae'n canfod bygythiad i fuddiannau'r wladwriaeth - ac yn mynd ati i stwffio propoganda amrwd i lawr corn gyddfau'r sawl sy'n ei ariannu.  




Gwelwyd hyn yn ystod ymgyrch refferendwm yr Alban yn ddiweddar, fe'i gwelwyd yn ystod y dwsinau o ryfeloedd mae'r DU wedi cael ei hun ynddynt ers sefydlu'r Bib, fe'i gwelwyd yn ystod Streic y Glowyr, fe'i gwelir yn yr hyrwyddo hysteraidd o ddigwyddiadau 'brenhinol' a sefydliadol, ac fe'i gwelwyd trwy gydol y stad o anhrefn maith yng Ngogledd Iwerddon.  

Yn wir mi fyddwn yn dadlau i lyfdra newyddiadurol yn ystod y cyfnod hwnnw a arweiniodd at fimicio cibddall o naratif llywodraethol bod problem wleidyddol yn broblem droseddol anesboniadwy gyfrannu  at golli cannoedd o fywydau yn ddi angen.  Ac ar ben hynny - er gwaethaf presenoldeb anferth yn y dalaith ar hyd y cyfnod - methodd y Bib a gweddill y cyfryngau a sylwi bod nifer sylweddol o ddynion oedd yn cael eu rheoli ac oedd yn derbyn cyflog gan y wladwriaeth yn rhedeg o gwmpas y dalaith yn saethu pobl a'u chwythu i fyny - a hynny er (a defnyddio idiom leol) bod y cwn ar ochrau'r strydoedd yn gwybod yn iawn.  

Gyda llaw mae'n ddiddorol yn y cyd destun yma i Douglas Hogg gael ei godi'n 'arglwydd' ddoe.  Enilliodd enwogrwydd amheus iddo'i  hun ddwywaith yn y gorffennol - am ddefnyddio trefn dreuliau llwgr San Steffan  i gael y treth dalwr i dalu am lanhau ei ffos, ac am sefyll i fyny yn Nhy'r Cyffredin i wneud honiad ffug bod  Pat Finucane, un o bartneriaid hyn cwmni cyfreithiol  Madden & Finucane o Felfast, yn gefnogwr i'r IRA.  Cafodd Finucane ei lofruddio o flaen ei wraig a'i blant lai na mis yn ddiweddarach tra'n bwyta ei ginio dydd Sul yn ei gartref gan gyn heddwas o'r enw Ken Barrett a dyn arall.  Fe'i saethwyd yn ei wyneb bedair ar ddeg o weithiau. Roedd y dryll a ddefnyddwyd yn y llofruddiaeth wedi ei ddarparu gan gyn heddwas arall ac asiant cyflogedig i'r gwasanaethau cudd - Bill Stobie, ac roedd y wybodaeth a ddefnyddwyd i gynllunio'r llofruddiaeth wedi ei ddarparu gan ddyn arall oedd yng nghyflogaeth y gwasanaethau cudd - Brian Nelson.



Ond wedyn mae'r system gyfreithiol yn un ryfedd yn ei chyfanrwydd. Mae'r system yn wych am ddod o hyd i bobl sy'n twyllo i gael budd daliadau, ond yn anobeithiol o sal am ddod o hyd i bobl sy'n gwrthod talu eu trethi - er bod sgeifiwrs treth yn colli mwy o bres o lawer i'r Trysorlys na hawlwyr budd daliadau anonest.  Mae'r heddlu yn cymryd degawdau i fynd i'r afael a chylch cam drin plant anferth honedig reit o flaen eu trwynau yn San Steffan (a llefydd eraill) tra'n delio yn effeithiol efo'r sawl sy'n dwyn Mars Bar o arch farchnad oherwydd ei bod yn llwglyd.  Gall ymchwiliadau cyhoeddus gymryd blynyddoedd a blynyddoedd i'w gweithredu (mae Chilcott wedi cymryd cryn dipyn mwy o amser na'r rhyfel mae'n edrych ar ei hachosion) neu gall y llywodraeth gyfarwyddo eu canlyniad (Widgery).  Mae ymddygiad anghyfrifol y banciau Prydeinig wedi dod yn agos at ddod a'r economi i'w gliniau, ac wedi achosi caledi gwirioneddol i rai o bobl mwyaf bregus cymdeithas - ond 'does yna neb wedi torri'r gyfraith. Yn wir mae'r rhan fwyaf o'r sawl oedd yn gyfrifol yn ol ar gyflogau anferthol.

Mae'n debyg na fyddai trefn lywodraethol sylfaenol anemocrataidd ac anatebol mor ddrwg petai'n effeithiol - ond yr hyn a gynhyrchir gan y gyfundrefn sydd ohoni ym Mhrydain ydi gwlad gyfoethog ond diarhebol o anghyfartal.  Mae'r anghyfartaledd i'w weld ar lefel bersonol a lefel rhanbarthol.  Mae gan Brydain rai o'r rhanbarthau ac unigolion tlotaf yng Ngorllewin Ewrop - ac mae gan Gymru fwy na'i siar - llawer mwy na'i siar o ardaloedd a theuluoedd tlawd.  Pan mae gormod o rym yn nwylo cydadrannau cyfyng o gymdeithas - mae cyfoeth yn cronni'n dwt o gwmpas yr union gydadrannau hynny - felly mae pethau'n gweithio mae gen i ofn.  

Ac wedyn dyna i ni'r gyfundrefn wobreuo bisar - sydd wedi ei seilio ar godi hiraeth am ymerodraeth ddiflanedig oedd yn ymestyn tros tua chwarter arwynebedd y Byd pan roedd yn ei hanterth.  Mae yna gryn gystadlu am anrhydeddau megis yr MBE a'r CBE - yn ein mysg ni fel Cymry yn fwy na neb.  Roedd yna gost i'r Ymerodraeth honno wrth gwrs - ac roedd y rhan fwyaf o'r gost honno yn syrthio ar drigolion yr Ymerodraeth.  Roedd yn rhaid wrth wladwriaeth arbennig o filwriaethus - mae'r DU wedi ymosod yn filwrol ar tua 90% o'r gwledydd sy'n bodoli heddiw - llawer, llawer mwy nag unrhyw wlad arall.  O sefydlu'r Ymerodraeth roedd rhai o'r dulliau a ddefnyddwyd i ddelio efo'r gwahanol wrthryfeloedd sy'n rhwym o ddigwydd yn dilyn concwest filwrol yn alaethus yn ol unrhyw safonau.  Ac roedd yna dueddiad anffodus i drigolion yr Ymerodraeth lwgu i farwolaeth yn eu miliynau.  Patrwm cyson ddaeth i ben yn llwyr pan ddaeth yr Ymerodraeth i ben. 



Ac ar y nodyn gwirioneddol anymunol yna dyna ddwy awr ar long wedi hedfan a ninnau yng nghysgod clogwynni gwyn De Lloegr.   Fyddwn i ddim wedi credu y gallai mordaith dwyawr ddiiflannu mor sydyn.  Well i mi godi fy mhac a mynd i chwilio am y car.

No comments: