Wednesday, August 05, 2015

Carwyn Jones - ffydd yn gryfach na thystiolaeth.

Felly mae Carwyn Jones o'r farn mai symud i'r 'canol' ydi'r ffordd ymlaen i'r Blaid Lafur - ac y bydd felly yn pleidleisio i rhywun sy'n debygol o symud Llafur tuag at y 'canol' hwnnw.  Mewn geiriau eraill fydd o ddim yn pleidleisio i Jeremy Corbyn.



Rwan bu 'symud tua'r canol' yn erthygl ffydd braidd ymysg gwleidyddion proffesiynol Llafur ers eu hetholiad trychinebus yn 1983 pan gafodd Llafur gweir anferthol gan y Toriaid - yn rhannol oherwydd i adain Dde'r Blaid Lafur benderfynu mai'r ffordd orau o symud tua'r 'canol' fyddai trwy ffurfio eu plaid eu hunain a chlymbleidio efo'r Rhyddfrydwyr.  Y 'prawf' tros gywirdeb y ddamcaniaeth yma ydi etholiad 1997 pan gafodd Llafur eu buddugoliaeth fwyaf erioed o dan arweiniad Tony Blair.  Roedd llawer o blatfform Blair wedi ei seilio ar blatfform etholiadol Bill Clinton yn 1992 pan aeth ati i ddadlau tros achosion adain Dde traddodiadol - cyfraith a threfn, 'cyfrifoldeb' cyllidol, ac ati.

Y broblem efo'r gred mai'r 'canol' ydi'r lle i fod ydi nad yw ynddi ei hun yn gred resymegol.  Yn wir mae 'n gred sydd wedi ei seilio ar gamargraffiadau rhesymegol.  

Er enghraifft fedrwn ni ddim cymryd yn ganiataol mai symud i'r Dde oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Blair - roedd llywodraeth Major mewn llanast llwyr erbyn 1997 - roedd wedi colli ei hygrededd economaidd yn llwyr wedi i'r DU gael ei gorfodi allan o'r ERM gan y marchnadoedd pres, ac roedd yr etholiad yn cael ei hymladd yng nghysgod cyfres hir o sgandalau ariannol a rhywiol - y cwbl ohonynt yn ymwneud a gwleidyddion Toriaidd.  

Ar ben hynny mae'r un mor rhesymegol i ddadlau mai'r unig gyfeiriad sy'n addas i'w gymryd ydi un tua'r Dde ar sail buddugoliaeth 1997 ag ydi hi i ddadlau mai'r unig gyfeiriad i'r gymryd ydi tua'r Chwith yn sgil buddugoliaeth 1945.  Mae cymdeithas yn newid, mae amodau economaidd yn newid, ac o ganlyniad mae union leoliad y 'canol' hefyd yn symud.  Petai pawb yn credu bod rhywbeth sydd wedi gweithio unwaith yn rhwym o weithio pob tro yn ei fywyd personol, yna byddai pawb mewn cryn lanast.

Ystyriwch y canlynol - etholiad gorau Llafur erioed oedd un 1997.  Daeth 13,518,167 o bobl allan i bleidleisio iddynt bryd hynny.  Erbyn 2001 roedd y cyfanswm wedi syrthio i 10,724,953.  Syrthiodd y bleidlais eto yn 2005, ac eto yn 2010.  Cynyddodd eto eleni - ond dim ond i 9,347,304.  Felly roedd tros i 4 miliwn o etholwyr wedi eu colli rhwng 1997 a 2015.  Roedd cyfanswm y Toriaid tua 2 filiwn yn uwch nag un Llafur yn 2015.

Yr etholiad cyffredinol cyntaf 'dwi yn ei gofio oedd un 1970 - ac roedd honno'n fwy o sioc nag un 2015 hyd yn oed.  Roedd disgwyl y byddai llywodraeth Lafur Harold Wilson yn cael ei hail ethol yn weddol hawdd - ond Toriaid Heath aeth a'r dydd, a hynny gyda mwyafrif clir.   Ond hyd yn oed pryd hynny cafodd Llafur 12,208,758 o bleidleisiau - mwy nag a gafwyd mewn unrhyw etholiad wedyn ag eithrio un 1997.  Roedd yna 7 miliwn o bobl yn llai yn byw yn y DU bryd hynny.  Oni bai am 1983 cafodd Llafur fwy o bleidleisiau ym mhob etholiad 1945 i 1997 nag a gawsant yn etholiadau'r mileniwm yma.  Roedd poblogaeth y DU tua 13 miliwn yn is yn 1945 nag yw heddiw.  

Felly beth bynnag ddigwyddodd cyn 2001 mae Llafur wedi colli pleidleisiau  yn y cannoedd o filoedd yn ystod y mileniwm hwn, ac maent wedi tin droi mewnsafle gwleidyddol canol y ffordd trwy gydol y cyfnod -  ond mae gwleidyddion proffesiynol fel Carwyn Jones yn ail adrodd hyd at syrffed  y farn mai dyna'r lle i fod os ydi Llafur i gael llwyddiant etholiadol.  Mae'r gred yma wedi ei seilio mwy ar ffydd nag ar dystiolaeth mae gen i ofn. 

Mae'n fwy rhesymol i gasglu bod lleoliad gwleidyddol presenol Llafur yn colli llawer mwy o bleidleisiau iddi na sy'n cael eu hennill.

1 comment:

Anonymous said...

dwi'n rhyw hanner cytuno efo ti a hanner ddim.

Beth sydd i'w esbonio am reolaeth ddi-dor Llafur yng Nghymru. Mae fel Fianna Fail efo hanes a naratif o gyfnodd 'euraidd' gwrth-sefydliadol ond mae'n geidwadol yn ei rheolaeth.

Mae Carwyn wrth gwrs yn pryderi am golli llefydd fel Gwyr neu Glwyd ac mae'n gwybod na eith digon o Lafurwyr i'r Blaid. Mae hefyd yn gwybod bod ymwybyddiaeth pobl o wleidyddiaeth Cymru yn ddigon isel fel eu bod yn hanner clywed a hoffi Corbyn ac yn rhyw hanner feddwl bod Carwyn yn ymgorffori hynny wrth ymladd yn erbyn 'priefateiddio'r NHS gan y Toriaid'.

Yr unig beth arall ddweda' i ydi, os yw dadansoddiad y Chwith o wleidyddiaeth mor gywir pam nad oes un wlad (arwahan i Gymru lle faswn i'n dadlau fod pleidlais Llafur yn un ethnig-ddiwylliannol)?


H.