Sunday, September 29, 2013

Hystings Ynys Mon

Bydd yr hystings cyntaf am enwebiaeth y Blaid i ymladd am sedd San Steffan yr Ynys wythnos nesaf.  Dwi'n cyhoeddi deunydd ar gyfer un o'r ymgeiswyr - Ann Griffith isod.  Os ydi'r ymgeiswyr eraill - Vaughan, John neu Ken - eisiau i mi gyhoeddi deunydd ar eu rhan nhw rydw i'n hapus iawn  i wneud hynny - cysylltwch a fi ar olaf@larsen7223.fsnet.co.uk neu'r cyfeiriad sydd ar dudalen flaen y blog. 



Annwyl Aelod,

Mae’n siŵr eich bod yn gwybod erbyn hyn fy mod i wedi cyflwyno fy enw ar gyfer enwebiad Plaid Cymru ar gyfer sedd Ynys Môn yn etholiadau San Steffan yn 2015.

Ar gyfer y rhai ohonoch chi sydd ddim yn fy adnabod i, rwyf wedi atodi cylchlythyr sydd yn amlinellu fy nghefndir a pham mod i’n credu y dylech bleidleisio drostaf i.

A minnau  wedi byw ar Ynys Môn trwy gydol fy mywyd fel oedolyn ers gadael coleg, rwyf wedi ymroi fy hun i wasanaeth cyhoeddus trwy weithio fel gweithiwr cymdeithasol gyda rhai o’r unigolion mwyaf bregus a diamddifad mewn cymdeithas.

Rwy’n teimlo mai estyniad naturiol o’r broses hon yw cael fy ethol fel cynghorydd sir, a chynnig fy enw fel darpar Aelod Seneddol, ac fe fyddaf yn rhoi o fy ngorau ac yn gweithio dros fuddiannau pobl Ynys Môn.

Oherwydd natur fy ngwaith, a’r cyfrinachedd oedd yn gorfod bod ynghlwn wrtho, gweithio’n ddistaw yn y cefndir fu fy hanes i dros y blynyddoedd. Golyga hyn bod rhaid imi weithio’n galed i godi fy mhroffil. Eisoes, rwyf wedi cael sylw yn y papurau newydd a’r radio yn sgil fy ngwaith gyda’r cyngor ynghyd â fy ymdrechion i sefydlu cangen Plaid Cymru ym Mro Aberffraw a chynyddu aelodaeth y Blaid trwy drefnu digwyddiadau gwleidyddol gyda siaradwyr amlwg yn trafod pynciau cyfoes.

Os gwnewch chi fy newis i, chewch chi mo’ch siomi. Rwy’n hyderus y gallaf wneud argraff gadarnhaol ar etholwyr Ynys Mon gan ennyn eu hyder a’u perswadio i bleidleisio drosta’i. Credaf fod gen i’r aeddfedrwydd a’r profiad bywyd angenrheidiol i ennill y sedd a gwasanaethu fel Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Ynys Môn ers Megan Lloyd George 62 mlynedd yn ôl.

Rwy’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r dull gwleidyddol ‘o’r top i lawr’ arferol. Byddaf yn defnyddio fy sgiliau cyfathrebu  er mwyn gweithio gyda chi a phobl Ynys Mon. Byddaf yn gwradno arnoch chi ac yn rhoi llais i chi. Byddaf yn gweithredu mewn modd gynhwysol gan roi angehnion Ynys Mon gyntaf. Byddaf yn agored, gonest a thrylow a byddaf yn gweithio’n galed.

Gyda’ch help chi a’ch cefnogaeth chi, gallwn adfer enw da Ynys Môn ar draws Cymru a thu hwnt. Gallwn sbarduno economi Ynys Môn, byddwn yn sicrhau rhagor o bwerau i Gymru a phan fo’r amser yn iawn, cawn ein hannibyniaeth o’r diwedd.

Os teimlwch yr hoffech ddod i fy adnabod yn well cyn ymrwymo i’m cefnogi, mae croeso i chi fy ffonio. Neu os hoffai eich cangen fy nghyfarfod, byddwn yn barod iawn i ddod draw i siarad gyda’r aelodau.

Hoffwn apelio arnoch i ystyried fy ngwerthoedd a fy sgiliau bywyd. Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod yn ystod nosweithiau yr hystings, un ai yn Amlwch neu Borthaethwy.

Yr eiddoch yn gywir,

Ann

No comments: