Thursday, September 05, 2013

Peter Rogers yn gadael y glymblaid sy'n rheoli Ynys Mon

Dwi'n gwybod fy mod yn hwyr ar hon, a dwi hefyd yn gwybod ei bod yn ddigri mai un o gwynion Peter am y glymblaid ydi nad oes pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg ar y cabinet.  Hyd y gwn i dim ond dau o gynghorwyr Ynys Mon sydd ddim yn siarad y Gymraeg, a Peter ei hun ydi hanner y cyfranswm  hwnnw.

Serch hynny mae'r hyn sydd ganddo i'w ddweud fel arall yn ddigon gwir - does yna ddim ymdeimad o bendantrwydd na chyfeiriad yn perthyn i'r weinyddiaeth newydd.  Mae hefyd yn ddiddorol ei fod yn awgrymu y dylid clymbleidio efo Plaid Cymru.  Mae Peter wedi casau'r Blaid yn y gorffennol, fel mae'r sylwadau isod a wnaed ganddo yn dilyn etholiad San Steffan 2005 yn ei awgrymu.
They are the most arrogant people to speak to on the doorstep. 
Everybody is desperate in Anglesey for Plaid not to come back again. Some of these people are absolutely appalling.  I've never met supporters like them. I'm very pleased that they're losing seats in Wales.

Os ydi Peter yn closio at y Blaid, gallai unrhyw un wneud hynny. Fyddwn i ddim yn betio llawer y bydd y glymblaid bresenol yn dal i reoli ym Mon flwyddyn i rwan.  

No comments: