Wednesday, October 31, 2012

Cwis bach arall

Mae hi'n dibyn o ystrydeb i stwffio'r gair gate ar ol gair arall i ddynodi rhyw sgandal neu'i gilydd, ond dwi am fod yn ystrydebol ar gyfer y cwis bach yma.

Dau gwestiwn bach hawdd iawn i chi felly.

1). Beth sy'n gyffredin rhwng Bethangate, Mickgatea Keithgate?

2). Pwy sy'n gyffredin rhwng Bethangate, Mickgate a Keithgate?

Y cwestiwn mwyaf anodd wrth gwrs ydi'r cyntaf, a rhag i chi orfod crafu pen gormod, alcohol ydi'r ateb i hwnnw.  

Cynghorau Sir a'r Gymraeg

Da iawn Arfon Jones - roedd hi'n hen bryd i rhywun ddefnyddio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddinoethi'r gwirionedd ynglyn a phwysigrwydd y Gymraeg i gwahanol awdurdodau lleol Cymru - er i lawer ddod o hyd i rhyw esgys neu'i gilydd i beidio ag ateb cwestiwn digon syml.

Wna i ddim pasio'r i nodi bod Cyngor Gwynedd ben, ysgwydd, bol, pen glin ac yn wir ffer yn well nag unrhyw gyngor arall o ran sicrhau bod y gallu i siarad a 'sgwennu'r Gymraeg yn greiddiol i'w darpariaeth.  Gwynedd wrth gwrs ydi'r unig gyngor sydd wedi ei arwain gan Plaid Cymru ers ei sefydlu.

Byddwn wedi tybio bod y wers yn eithaf syml - mae grym gwleidyddol i'r Blaid yn arwain at uwchraddio statws y Gymraeg.  Byddai cystal i'r sawl sy'n ymateb yn hysteraidd ac afresymegol os digwydd i'r Blaid ddefnyddio ei henw Saesneg wrth wneud datganiad i'r wasg yn y Saesneg gofio hynny.

Monday, October 29, 2012

Moesoldeb ymprydio

Dwi i ffwrdd ar hyn o bryd, ac mae fy mynediad i'r we yn gyfyng - ond fedra i ddim peidio a gwneud sylw brysiog ynglyn a sylwadau DET heddiw ynglyn ag 'anfoesoldeb' bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio.

Yn ol yn 1981 arweiniodd rhywbeth arall a ddywedwyd gan DET at is etholiad - ail is etholiad Fermanagh South Tyrone yng Ngogledd Iwerddon.  Canlyniad i farwolaeth yr ymprydiwr newyn Bobby Sands oedd is etholiad Awst 20, 1981.  Nid oedd llywodraeth Thatcher am gynnal yr is etholiad wedi marwolaeth Sands oherwydd y byddai'r amgylchiadau dirdynnol oedd yn bodoli ar y pryd yn debygol iawn o arwain at fuddugoliaeth i gefnogwyr yr ymprydwyr newyn.  Roedd ymprydwyr newyn yn marw un ar ol y llall, a phob tro y byddai hynny'n digwydd byddai ton o emosiwn - a thrais yn torri tros ardaloedd Pabyddol y Gogledd.  Gorfodwyd y llywodraeth i alw'r is etholiad oherwydd i aelod seneddol ifanc o'r enw Dafydd Elis Thomas fygwth symud gwrit i'w galw oni bai y byddai'r llywodraeth yn gwneud hynny.

Does yna erioed etholwyr wedi mynd i bleidleisio o dan yr un pwysau emosiynol a wnaeth rhai Fermanagh South Tyrone yn yr etholiad hwnnw.  Bu farw'r degfed ymprydiwr newyn , Mickey Devine ar y diwrnod enilliodd Owen Carron yr is etholiad ar ran yr ymprydwyr.  Roedd deg o bobl wedi bod ar ympryd newyn ar yr un pryd trwy gydol yr ymgyrch, ac roedd yr hyn mae DET yn cwyno amdano - pwysau oherwydd 'bygythiad o hunanladdiad' yn greiddiol i natur yr ymgyrch.  Yn wir - wnawn ni byth wybod i sicrwydd wrth gwrs -  ond mae'n ddigon posibl y byddai'r ympryd wedi dod i ben yn llawer cynt pe na byddai'r ymgyrch yn mynd rhagddi.  Roedd ystyriaethau gwleidyddol yn pwyso ar yr ymprydwyr ac arweinwyr y Mudiad Gweriniaethol fel ei gilydd.


Saturday, October 27, 2012

ASau a theithio dosbarth cyntaf

Diddorol nodi bod George Osborne yn ceisio osgoi gadael i bobl wybod ei fod yn teithio ar delerau dosbarth cyntaf.

Rwan mae teithio dosbarth cyntaf ar draul y trethdalwr yn broblematig.  Ychydig iawn o bobl sy'n teithio dosbarth cyntaf pan maent yn teithio ar eu cost eu hunain.  Mae yna reswm da iawn am hynny  - mae cost teithio dosbarth cyntaf fel rheol yn llawer uwch nag ydi teithio safonol, ond dydi'r manteision ddim yn arbennig o fawr.  Pan rydym yn delio efo'n pres ein hunain rydym yn bod yn gall a darbodus ac yn osgoi lluchio pres i lawr y draen.  Ond dydi'r ddisgyblaeth yna ddim yn bodoli pan rydym yn delio efo pres pobl eraill, a dyna sy'n digwydd pan mae ASau yn hawlio costau.  Mae yna lawer o aelodau seneddol sydd o hyd yn dangos diffyg disgyblaeth wrth wario pres y trethdalwr - er gwethaf y newid diwylliant sydd wedi dod i fodolaeth yn sgil sgandalau 2008.

Gweler er enghraifft ystadegau treuliau fy nghymydog Guto Bebb - ac yn arbennig felly y costau teithio.

Rwan mae dyn yn deall bod disgwyl i  Guto dalu mwy am deithio na - dyweder David Davies sy'n byw ym Mynwy.  Ond yr hyn sy'n nodweddu ffigyrau Guto ydi'r ffaith eu bod yn dangos mor rhyfeddol o hoff ydyw o deithio dosbarth cyntaf.  Er enghraifft yn 2010  - 2011 hawliodd gyfanswm o £5970.70 am deithio gyda thren - roedd £5656.70 o hwnnw, neu 95% am deithio dosbarth cyntaf.  Yn 2011-2012 roedd y gwariant ar deithio gyda thren yn is, £4575, ond unwaith eto roedd y rhan fwyaf o ddigon o hwnnw ar deithio dosbarth cyntaf - £4222 - neu 92%.

A bod yn deg, dydi Guto ddim ar ei ben ei hun pan mae'n dod i hawlio llawer mwy am deithio dosbarth cyntaf na theithio ail ddosbarth - mae nifer o aelodau eraill wrthi - Stephen Crabb - Alun Cairns - Simon Hart.  Mae aelodau o pob plaid wrthi, gan gynnwys fy mhlaid fy hun.  Ond mae'n ddifyr nodi bod cymaint o aelodau'r blaid sy'n honni i flaenori buddiannau'r trethdalwr yn llwyr ddi hid o'r trethdalwr pan mae'n dod i gydbwyso eu buddiannau nhw eu hunain a rhai'r trethdalwr.

Rhag ofn eich bod yn meddwl fy mod yn pigo ar ein cyfeillion Ceidwadol, dydi Glyn Davies ddim yn defnyddio trenau dosbarth cyntaf o gwbl.  Mae yna nifer dda o aelodau Cymreig eraill sy'n defnyddio dim - neu nesaf peth i ddim trenau dosbarth cyntaf, sef - Glyn, Mark Tami, Hywel Williams, Huw Irranca, Jessica Morden, Mark Williams, Dai Havard, Paul Murphy, Albert Owen, Ian Lucas, Nick Smith, Martin Caton a Jonathan Edwards.

O, a thra rydym ar bwnc treuliau aelodau seneddol, llongyfarchiadau i Chris Bryant am ddod ymhlith y criw dethol sy'n rhentu eiddo i eraill yn Llundain tra'n hawlio treuliau am ei rent ei hun.  Roedd Chris wrth gwrs ymhlith 'ser' sgsndal treuliau 2008.

Thursday, October 25, 2012

A ddylai Carwyn Jones ymddiheuro?

Tybed os ydych yn cofio'r ffrae bach rhyfedd yna yn y Cynulliad fis Ebrill diwethaf pan aeth Carwyn Jones ati i ateb cwestiwn nad oedd yn ei hoffi gan Leanne Wood trwy ofyn iddi hithau os oedd yn condemnio'r 'celwydd' gan arweinydd y Blaid ar Gyngor Caerdydd, Neil Mcevoy, bod Llafur yn bwriadu codi tai ar lawer o safleoedd glas y ddinas?

Wel, er gwaethaf yr holl wylofain ar ran Carwyn bod ei blaid yn cael cam - mae'r cyngor yn trafod cynllun datblygu newydd y weinyddiaeth Llafur yng Nghaerdydd fel rydw i'n 'sgwennu hyn - cynllun fyddai, o'i weithredu, yn arwain at adeiladu 45,000 o dai newydd oddi mewn i'r ddinas.  Bydd llawer o'r tai yn cael eu codi ar safleoedd glas - 7,500 gerllaw Pentrebane er enghraifft, ac 8,000 y naill ochr neu'r llall i Bontprennau.

Tybed os ydi Carwyn yn teimlo y dylai ymddiheuro am gamarwain y Cynulliad?

Fydda i ddim yn dal fy ngwynt a bod yn onest.

Tuesday, October 23, 2012

Ydi'r newid ffiniau yn bosibl o hyd?

Cafwyd cryn son heddiw am y posibilrwydd y gallai cynlluniau llywodraeth y DU i newid y ffiniau etholiadol fod y fyw unwaith eto gan bod peth lle i gredu y gallai'r Blaid ymuno efo'r SNP, y DUP a'r Toriaid i ganiatau i bleidleisio trostynt.

Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol y dylai'r newidiadau ddigwydd oherwydd bod y drefn arfaethiedig yn fwy teg na'r un sydd gennym ar hyn o bryd, ac oherwydd y byddai lleihau'r nifer o ASau yn gwanio dylanwad San Steffan ac yn cryfhau dylanwad y Cynulliad Cenedlaethol.  O ran y tegwch meddyliwch mewn difri - mae yna 53,733 o etholwyr yn Wrecsam, a  68,280 o etholwyr yn Gaer - ychydig filltiroedd i fyny'r lon.  Cynrychiolir trigolion Wrecsam yn San Steffan neu'r Cynulliad gan Ian Lucas, Susan Griffiths,  Llyr Huws Gruffydd,  Aled Roberts, Mark Isherwood a  Antoinette Sandbacgh.  Cynrychiolir trigolion Gaer gan Stephen Mosley.

Ta waeth - o ran y fathemateg - os ydi fy syms i yn gywir - go brin y byddai'n  bosibl i'r bedair plaid gael digon o bleidleisiau rhyngddynt i gael mwyafrif.  Yn absenoldeb 5 aelod seneddol Sinn Fein, byddai'n rhaid cael 324 pleidlais i ennill yn Nhy'r Cyffredin.  Mae gan y Toriaid 306, Plaid Cymru 3, yr SNP 6 a'r DUP 8.  Cyfanswm o 323.  Petai'r Toriaid yn cadw sedd Louise Mench yn Corby - a does ganddyn nhw ddim gobaith mul o wneud hynny - byddai'r cyfansymiau yn gyfartal, ond ni fyddai llefarydd y ty yn cael pleidleisio - a Tori (o fath) ydi hwnnw.  Byddai'n rhaid felly dwyn perswad ar yr SDLP (3 sedd), Sylvia Hermon, George Galloway neu Caroline Lucas i bleidleisio hefyd - a byddai'r newidiadau yn cael effaith negyddol ar y cwbl ohonynt.

Hyd yn oed pe llwyddid i gyflawni'r dasg anhebygol o berswadio un neu fwy ohonynt, mi fedrwch fetio cryn dipyn y byddai rhai o'r Toriaid fyddai eu seddau o dan fygythiad yn gwrth ryfela.  Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf y byddai ASau Toriaidd Cymru ar flaen y gad arbennig yna - dydi tyrcwn ddim yn pleidleisio tros Ddolig cynnar yn aml.

Saturday, October 20, 2012

Beth sydd mewn enw?

Mae'n debyg ei bod yn gwbl ragweladwy y byddai penderfyniad y Blaid i ddefnyddio'r term The Party of Wales weithiau  tra'n cyfathrebu yn y Saesneg yn esgor ar ymateb emosiynol - mae'r Gymraeg yn fater emosiynol yng Nghymru, ac yn arbennig felly'r agweddau totemig, arwynebol a chosmetig sy'n ymwneud a hi.

Wna i ddim mynd i mewn i'r ddadl fan hyn, ond mi hoffwn gyfeirio at un pwynt sy'n cael ei godi yn y  ddadl ar wefan Golwg360 - sef bod nifer o'r prif bleidiau Gwyddelig efo enwau Gwyddelig - ac enwau Gwyddelig yn unig.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod hynny yn hollol wir - y dair plaid fwyaf ar yr ynys yw Fianna Fail, Fine Gael a Sinn Fein.  Ond mae yna wahaniaeth eithaf sylfaenol rhwng yr Iwerddon a Chymru yn y cyswllt hwn.  Er eglurder, ystyrir SF a FF yn bleidiau mwy cenedlaetholgar na FG.

Mae'r gwahaniaeth o bosibl i'w weld ar ei gliriaf pan fydd arweinydd Sinn. Fein, Gerry Adams yn holi'r prif weinidog, Enda Kenny yn y Dail.  Kenny ydi arweinydd Fine Gael - plaid geidwadol sydd (mymryn  yn anheg efallai) yn cael ei disgrifio fel West Brits gan eu gelynion gwleidyddol.  Mi fydd Adams yn gofyn ei gwestiynau yn aml mewn Gwyddeleg, ond Gwyddeleg  digon elfennol, ac yn cael ei atebion mewn Gwyddeleg rhugl, coeth.  Mae Gwyddeleg y West Brit yn llawer gwell nag ydi  Gwyddeleg y Gweriniaethwr.

Does yna ddim cymaint a hynny o lefydd ar ol yn yr Iwerddon lle mae niferoedd arwyddocaol o bobl yn siarad yr iaith o ddiwrnod i ddiwrnod.  Un o'r ardaloedd sydd ydi Connemara yng Ngorllewin Galway - wele batrwm etholiadol Connemara - mae'n ddigon tebyg i un gweddill y sir ag eithrio cefnogaeth sylweddol i aelodau annibynnol.  Ceir llawer o siaradwyr Gwyddeleg hefyd yn ardal Glenties yn Donegal.  Eto mewn etholiadau lleol o leiaf mae'r patrwm yn debyg i un Connemara - adlewyrchiad o'r patrwm sirol, ond gyda chefnogaeth cryf i ymgeiswyr annibynnol.  A bod yn deg mae pethau ychydig yn wahanol mewn etholiadau Dail, lle ceir cefnogaeth sylweddol i SF - ond mae hynny oherwydd bod yr ymgeisydd, Pierce Dogherty yn byw yn Glenties.

Mae pethau'n dra gwahanol yma yng Nghymru wrth gwrs, mae'r iaith yn gryfach o lawer, mae yna berthynas lled gryf rhwng y gallu i siarad Cymraeg a thueddiad i fotio i Blaid Cymru, ac mae'r iaith yn fater gwleidyddol mewn ffordd nad ydyw yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Yn y Weriniaeth dydi'r Wyddeleg ddim yn cael ei chysylltu efo un plaid, na hyd yn oed un math o wleidyddiaeth.  Ar rhyw olwg mae'n perthyn i pob plaid.  O ganlyniad does yna ddim goblygiadau etholiadol i enwau Gwyddeleg ar bleidiau gwleidyddol.

Gyda llaw, mae rhai o bleidiau Iwerddon yn gwneud yr un peth a'r Toriaid neu Lafur yng Nghymru ac yn defnyddio fersiynnau Saesneg a Gwyddeleg eu henwau - Comhaontas Glas ydi'r enw Gwyddeleg ar y Blaid Werdd, a Páirtí an Lucht Oibre ydi'r Blaid Lafur.

Thursday, October 18, 2012

Beth am i Guto Bebb ddechrau wrth ei draed?

Felly mae Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb wedi - rhywsut, rhywfodd - argyhoeddi ei hun bod Deddf Iaith 1993 yn well peth na'r Mesur Iaith a ddaeth i rym eleni.  Plaid Guto oedd yn gyfrifol am Ddeddf 93 wrth gwrs tra mai'r glymblaid Plaid Cymru / Llafur oedd yn gyfrifol am y Mesur Iaith.



Mae'r honiad ei hun yn rhy chwerthinllyd i drafferthu mynd i'r afael efo fo mewn gwirionedd, ond cyn bod Guto yn ystyried ei hun yn cymaint o foi am yr iaith a ballu, tybed os y byddai'n syniad iddo ddechrau wrth ei draed ei hun yn hytrach na malu awyr ar lawr Ty'r Cyffredin?

Ystyrier er enghraifft wefan y Ceidwadwyr Cymreig.  Os wnewch chi chwilio yn ofalus - yn ofnadwy o ofalus - mi gewch chi hyd i dri gair Cymraeg yno, sef Ceidwadwyr, Cymreig a croeso.

Mae'n dda gen i ddweud fodd bynnag bod yna fwy o Gymraeg ar wefan Ceidwadwyr Aberconwy.  A dweud y gwir mae yna hafan Gymraeg er nad yw yn cyfateb i'r un Saesneg.  Y rheswm am hynny ydi bod yr ochr Saesneg yn cael ei diweddaru, tra nad ydi'r un Gymraeg wedi ei diweddaru ers cyn etholiad cyffredinol 2010.  Mae yna gryn dipyn o gobyldigwc digon rhyfedd yno hefyd - oes yna unrhyw un yn gwybod beth ydi Cymraeg Chyman Ymgeisydd yn ei olygu?  Neu cyfryngau oriel?

Dylai Toriaid Aberconwy hefyd ystyried cyflogi dylunydd i sortio'r ochr Gymraeg allan - mae'r testun yn un stribedun hir a hyll i lawr yr ochr dde - mae'r dylunio ar yr ochr Saesneg yn dwt a threfnus wrth gwrs.

Ceir fodd bynnag gyfres o lincs i lawr yr ochr chwith sy'n arwain at  adrannau sy'n ymwneud a materion o bwys - yr economi, iechyd, addysg, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth ac ati.  Ond o ddilyn y lincs  mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd.  Er enghraifft o ddilyn y linc Amgylchedd, dyma sydd i'w weld:


Dydd Llun – 10fed o Fai 2010


Diwrnod difyr!  Cyfarfod o bwyllgor y 1922 heno am 6pm oedd yn gefnogol i safbwynt arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.  Fydd y cynnig yn ddigon i’r Rhyddfrydwyr?  Os eu dewis fydd cefnogi Llafur yna da ni mewn twll.  Yr hyn sydd ei angen yw llywodraeth gadarn a hynny am 4 blynedd.  Ni all clymblaid Llafur/Rhyddfrydwyr/SNP/PC/SDLP/DUP wneud hyn.
Fel Plaid yr ydym wedi ymdrechu i gyfaddawdu er bydd y wlad.  A wnaiff y Rhyddfrydwyr?
Guto




Ac o ddilyn y linc Amaethyddiaeth mae'r un neges yn union yn ymddangos.  A dweud y gwir, dydi o ddim ots pa linc yr ydych yn ei ddilyn, mi gewch chi'r un neges cwbl amherthnasol.  

Maen siwr eich bod yn rhyw feddwl fy mod am ddweud bod y lincs Saesneg yn arwain at rhywle gweddol gall - ond dydyn nhw ddim pob tro.  Mae'r adrannau arbenigol yn y Saesneg yn llawnach, ond yn fwy bisar na'r rhai Cymraeg.   Er enghraifft o ddilyn y lincHealth dyma'r neges sy'n ymddangos:





Strategic Defence and Security Review


It has been a long day at Westminster.
First we had the announcement in relation to the Strategic Defence and Security Review. The impacts are severe as we expected but what is even more shocking is the mess that we were left by the previous Government.
1. In total Labour left us a £38bn black hole over the next ten years. To repeat, they had committed to spend £38,000,000,000 more than the money in the defence budget over the next ten years.
2. The top fifteen (15) spending programmes are currently £8.8bn over budget with the delivery programme for these commitments facing a delay of 32 years UNDER THE LABOUR PLANS!
3. Last year alone the Labour Government increased their spending commitments on defence equipment by an incredible £3.3bn in one year and yet made no additional funding available.
So the background is horrendous to say the least. However, the announcements at least attempted to make sense of the chaos left to the Coalition by the Labour Party – but there was a heavy price to pay.
The loss of the investment at St. Athan in South Wales was a serious blow to my colleague Alun Cairns, the Conservative MP for the Vale of Glamorgan and there are some unpalatable changes in all three services. However, as a result of this review there are important positives which we need to highlight;
Royal Navy
• There will keep a continuous at sea nuclear deterrent
• Seven attack submarines and 19 Frigates and Destroyers will be maintained
• All three naval bases will be retained
Army
• All 36 Infantry Battalions are to be kept
• There will be a new structure of five deployable Multi-Role Brigades
• There will be no changes to Army Units involved in Afghanistan
RAF
• Move to a fleet of Carrier Variant Joint Strike Fighters and a Typhoon Fleet by 2020
• New state of the art Strategic Airlift aircraft consisting of C17s, A400Ms and A330s
• No impact on operations in Afghanistan
Having attempted to digest all these announcements we then met the Minister for Culture, Jeremy Hunt, to discuss his proposed new funding arrangements for S4C. As I was attempting to get to grip with the details the story appeared on the BBC. I suspect that tomorrow will be exhausting. There will be the fallout from the Strategic Defence and Security Review and the funding announcements of the BBC and S4C coupled with the Comprehensive Spending review being revealed at 12.30.
Interesting times.

Mae'n ymddangos bod Guto yn llafurio o dan y camargraff gweddol sylfaenol bod yr adolygiad amddiffyn rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud efo iechyd. Ta waeth, tra bod ochr Saesneg y wefan yn rhyfedd o bryd i'w gilydd, byddwn yn fodlon betio mai'r ochr Gymraeg ydi un o'r gwefannau salaf yn yr iaith Gymraeg, ac yn wir un o'r rhai salaf mewn unrhyw iaith arall. Mae yna olwg y diawl arni, dydi hi byth yn cael ei diweddaru, dydi llawer ohoni ddim yn gwneud unrhyw synnwyr a does yna ddim oll ynddi fyddai'n gwneud i unrhyw un yn ei lawn bwyll fod eisiau ei darllen -  tokenism ar ei waethaf a mwyaf dibwynt.

Fydda i ddim yn galw am gael gwared ar ddarpariaeth Gymraeg yn aml, ond wir Dduw byddai'n well i bawb petai Ceidwadwyr Aberconwy yn cael gwared o'r nonsens di ystyr o wefan Gymraeg sydd ganddynt cyn gynted a phosibl. Byddai hefyd yn syniad i'r sawl sydd yn gyfrifol am yr erchyll beth, feddwl ddwywaith cyn doethinebu ynglyn a'r iaith a hawliau ieithyddol, cyn cael ei dy - neu o leiaf ei wefan - ei hun mewn trefn.

Monday, October 15, 2012

Y Cynulliad a cham ddefnydd o alcohol

Felly Bethan Jenkins ydi'r ddiweddaraf ymysg ACau'r Cynulliad i gael ei hun mewn dwr poeth oherwydd amgylchiadau sydd a chysylltiad o rhyw fath a'r ddiod gadarn.

Mae'r rhestr o ACau sydd wedi cael eu hunain mewn sefyllfaoedd anodd oherwydd alcohol yn un eithaf hir, ac fe sefydlwyd y patrwm yn nyddiau cynnar y Cynulliad.  Mae llawer o  straeon am aelodau cynulliad o pob plaid yn cam ddefnyddio alcohol, ond yn osgoi unrhyw broblemau cyfreithiol neu gyhoeddusrwydd gwael, wedi bod o gwmpas ers dyddiau cynnar y Cynulliad hefyd.  Mi wna i wrthsefyll y demtasiwn i fanylu.

Yr hyn sy'n weddol amlwg fodd bynnag ydi bod yna batrwm o gam ddefnyddio alcohol ymysg aelodau cynulliad.  Cyn i mi bechu neb, dwi'n prysuro i ychwanegu nad ydi pawb yn euog o hyn o bell ffordd - ond mae mwy o broblemau yn codi nag y byddai rhywun yn disgwyl ymhlith grwp cymharol fach o bobl.

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal tros y sawl sy'n gweithio iddynt.  Hynny yw mae dyletswydd  i edrych ar ol lles a iechyd gweithwyr.  Mae'n weddol amlwg bod un haenen o leiaf o'r sawl sy'n gweithio i'r Cynulliad yn agored i broblemau sy'n ymwneud ag alcohol.   Mi ddylai'r Cynulliad ystyried rhoi trefn mewn lle sy'n ei gwneud yn haws i unrhyw aelodau sydd a phroblem alcohol fynd i'r afael a'r sefyllfa.

Golyga hyn sefydlu gweithdrefnau i adnabod problemau,  creu trefn lle gall aelodau siarad yn agored efo rhywun yn y gweithle am broblemau alcohol,  cynnig gwasanaeth cwnsela a mynediad i wasanaethau iechyd galwedigaethol.  Mae'n bosibl bod trefniadau felly mewn lle wrth gwrs - ond mae tystiolaeth y misoedd ac yn wir y blynyddoedd diwethaf yn awgrymu'r gwrthwyneb.


Sunday, October 14, 2012

Homar o ffrae ar y ffordd?

Mae'n debyg bod llawer ohonoch yn cofio'r ffrae yn ol yn 2000 pan enillodd George W Bush arlywyddiaeth America, er iddo gael llai o bleidleisiau nag Al Gore.  Mae'r math yma o beth yn bosibl yn yr UDA oherwydd nad niferoedd pleidleisiau sy'n bwysig, ond cynrychiolwyr etholiadol.  Mae pob talaith yn danfon cynrychiolwyr i 'goleg 'etholiadol' ac mae'r cynrychiolwyr hynny yn pleidleisio tros arlywydd.  Mae'r sawl sy'n fuddugol mewn talaith yn cael enwebu pob cynrychiolydd.

Felly gallai (dyweder) y Democratiaid ennill yng Nghaliffornia o un bleidlais yn unig, ond cael pob un o'r 55 cynrychiolydd o anfonir i'r coleg etholiadol gan y dalaith boblog honno.  270 cynrychiolydd sydd ei angen er mwyn cael mwyafrif - ac felly digon o bleidleisiau i ennill yr etholiad.

Tan ei berfformiad trychinebus yn y ddadl etholiadol roedd yn edrych fel petai Obama am ennill yn weddol hawdd, ond ers hynny mae Romney wedi bod ar y blaen yn y polau cenedlaethol.  Ond - fel rydym wedi awgrymu dydi hynny ddim yn ddigon.  Mae'n rhaid ennill mwyafrif o gynrychiolwyr - a dydi'r rhan fwyaf o gynrychiolwyr ddim ar gael i'r naill ymgeisydd neu'r llall.  Er enghraifft dydi Romney byth am gael cynrychiolwyr o Efrog Newydd, California, Massachusetts,  neu Illinois - taleithiau poblog sy'n siwr o fotio i Obama.  Yn yr un modd fydd Obama yn cael dim o Texas, Utah na Kansas.

Yn wir - nifer cymharol fychan o daleithiau sydd ar gael i'r naill ochr na'r llall - Colorado, Florida, Iowa, Michegan, New Hampshire,  Nevada, North Carolina, Ohio, Pennsylvania, Virginia a Wisconsin.  Mae'r polau yn awgrymu mai Obama sydd am fynd a'r rhan fwyaf o'r cynrychiolwyr o'r taleithiau yma.  Gellir disgwyl udo a rhincian dannedd ar raddfa bythgofiadwy os bydd Obama yn ennill, er iddo gael llai o bleidleisiau na Romney.

Mae'r gyfundrefn yn hollol boncyrs wrth gwrs.  Oddi mewn i'r taleithiau prin hynny sydd yn y ras, nifer cymharol fychan o'u hetholwyr sydd ar gael i'r naill ochr neu'r llall - mae'r rhan fwyaf o Americanwyr yn sefydlog o ran hunaniaeth gwleidyddol - lleiafrif sy'n agored i berswad.  Ar ben hynny mae llawer eisoes wedi bwrw eu pleidlais - mae'r rhan fwyaf o daleithiau yn caniatau pleidleisio cynnar.  Mae cost yr etholiad yn anferthol i'r pleidiau - cymaint a £3.8 miliwn o bosibl - a bydd cyfran mawr iawn o hwnnw wedi ei wario mewn nifer fechan o daleithiau yn ceisio dylanwadu ar nifer cymharol fychan o etholwyr i newid ochr.  Ychydig o ynni a chyfalaf a fuddsoddir yn y rhan fwyaf o'r wlad - mae pawb yn gwybod sut mae'r rhan fwyaf o'r wlad am bleidleisio..

Mae'n rhyfeddol - i'r wlad sy'n ystyried ei bod ar flaen y gad o ran democratiaeth gael ei hun gyda threfn etholiadol sy'n gorfodi'r pleidiau i wario swmiau anferth o bres yn ceisio dwyn perswad ar ffracsiwn bach o'r etholwyr, tra'n rhoi ychydig iawn o sylw i bawb arall.  Siawns y byddai'n gallach - ac yn fwy democrataidd - jyst cyfri'r pleidleisiau i gyd  a gadael i'r sawl sydd wedi cael y mwyaf ennill - yn union fel mwyafrif llethol cyfundrefnau etholiadol arlywyddol eraill.

Saturday, October 13, 2012

Vaughan Gething a seremoniau rhyfedd

Mae Borthlas yn gwbwl gywir i dynnu sylw  Vaughan Gethingat y ffaith bod seremoniau yn bethau digon cyffredin yn y DU - a bod holl Aelodau Seneddol y DU yn cael eu gorfodi i dyngu llw i Mrs Windsor a'i holl ddisgynyddion - er y gallai'r disgynyddion hynny fod yn ddrwgweithredwyr neu'n llwyth o Jimmy Savils hyd y gwyr y sawl sy'n gorfod tyngu llw.



Mae Vaughan yn tueddu i ymateb yn emosiynol a hysteraidd i unrhyw dystiolaeth o genedlaetholwyr Cymreig yn cymryd rhan mewn rhyw seremoni neu'i gilydd.  Yr hyn sydd efallai'n anghyfarwydd  iddo ydi bod seremoniau braidd yn bisar yn bethau cyffredin iawn yn y DU, a bod llawer o'r seremoniau hynny yn ymwneud a milwriaeth, Mrs Windsor neu'r ddau.

Dwi ddim yn siwr pam nad ydi Vaughan yn ymwybodol o hyn - er iddo gael ei eni yn Zambia, mae ei dad yn Gymro, a bu'n byw yn y DU ers iddo fod yn ddyflwydd, ac yn wir mae bron yn sicr iddo gymryd rhan mewn seremoniau ei hun,  megis seremoni graddio - digwyddiad bisar os bu un erioed.

 Efallai ei fod yn greadur anarferol o sal am sylwi ar bethau nad ydynt yn ymddangos ar YouTube. .  Ta waeth, mae Blogmenai pob amser yn awyddus i helpu - felly dyma restr bach o seremoniau rhyfedd yn y DU:

Swan Upping - Seremoni sy'n ymwneud a chyfri elyrch ar Afon Tafwys.  Ymddengys bod y frenhiniaeth yn hawlio pob alarch sydd heb ei marcio, ac mae gan y sefydliad swyddogion sy'n cyfri'r cyfryw elyrch ar hyd Afon Tafwys yn flynyddol.  Un o ddefodau bach difir y seremoni ydi bod y cyfrwyr elyrch yn saliwtio Mrs Windsor efo'u rhwyfau wrth fynd heibio Castell Windsor.



Beating Retreat - Rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud efo cofio cau sefydliadau milwrol ar ddiwedd diwrnod.  Mae'n ymwneud a llwythi o filwyr yn dod at ei gilydd ar gefn ceffylau a ballu ac yn saliwtio Mrs Windsor a'i theulu.



Y Datguddiad - Seremoni flynyddol ar Ionawr 6  lle mae Mrs Windsor, neu ei chynrychiolwyr yn cyflwyno aur, thus a mur i Iesu Grist.

Gun Salutes - Seremoniau lle saethir rhwng 20 a 124 o ergydion o ynnau mawr - fel arfer i ddathlu penblwydd Mrs Windsor, ei gwr neu aelod arall o'r teulu brenhinol - neu i ddathlu genedigaeth babi i aelod o'i theulu.

Garter Thistle Services - Rhywbeth i'w wneud efo dynion yn gwisgo mentyll, capiau felfed du efo plu arnyn nhw ac yn mynd o gwmpas mewn cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau.

 
 


 
Ceremony of the Keys - Dynion sy'n  gwisgo  dillad Tuduraidd yn  crwydro o gwmpas Twr Llundain pob nos yn cloi y drysau.




Dwi ddim wedi son am y mesyns, yr Urdd Oren,  Yr Eglwys Anglicanaidd, yr Eglwys Babyddol sydd efo amrediad rhyfeddol o seremoniau bisar eu hunain rhag rhoi hartan i Vaughan druan.

Thursday, October 11, 2012

Y Swyddfa Gymreig a deddfau'r Cynulliad

Mae Ffred yn gwbl gywir i ddisgrifio'r sefyllfa sydd ohoni ynglyn a deddfu yng Nghymru fel llanast llwyr.  Mi'r ydan wedi cael gwared o un dull boncyrs o ddeddfu - y gyfundrefn Lcos-  ond wedi cael ein hunain gydag un sydd hyd yn oed yn wirionach, sef cyfundrefn sy'n caniatau i David Jones dreulio yr oriau di ddiwedd sydd ar gael iddo yn cribinio pob darn o ddeddfwriaeth i weld os y gall ei atal neu'i arafu am resymau  'cyfreithiol'.

Yn wir mae idiotrwydd llwyr yr ymyraeth yma yn tanlinellu'r gwendidau sydd yn y gyfundrefn deddfu yn well nag y gallai dim arall.  Ymddengys bod David Jones o'r farn nad ydi hi'n briodol i'r Cynulliad roi hawliau cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg oherwydd ei fod wedi argyhoeddi ei hun bod hynny yn ymwneud a'r Saesneg - a bod delio a'r iaith honno tu hwnt i bwerau'r Cynulliad.

Mae'r ffordd mae pwerau'r Cynulliad wedi eu diffinio yn creu cymhlethdod lle nad oes angen hynny. Mae cymhlethdod felly yn fel ar fysedd Swyddfa Gymreig - sefydliad sydd yn cael ei reoli gan bobl sydd yn sylfaenol wrth Gymreig a sydd erioed wedi dod i delerau efo'r sefyllfa newydd yng Nghymru.  Maent yn cael anhawster efo'r syniad o ddeddfu Cymreig sy'n annibynnol o San Steffan.  O dan y drefn sydd ohoni gallant geisio dod o hyd i rhyw broblem neu'i gilydd efo pob darn o ddeddfwriaeth, a cheisio mynd ati i'w atal neu ei newid.  Hyd yn oed os nad ydynt yn llwyddo i newid y ddeddfwriaeth newydd yn y pen draw, cant y cysur seicolegol o deimlo i San Steffan chwarae rhan ynddi.

Mae dau brif bwynt yn codi o hyn oll.  Yn gyntaf mae'n weddol amlwg y dylid diffinio pwerau'r Cynulliad yn yr un ffordd a mae pwerau senedd dai yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi eu diffinio, er mwyn osgoi cymhlethdod di angen.

Yn ail mae'n tynnu sylw at y ffaith ei bod yn wastraff adnoddau chwerthinllyd i gynnal Swyddfa Gymreig.  Mae'n anodd ar y diawl ddychmygu beth  yn union mae Steven Crabb, David Jones a Jenny Randerson yn ei wneud efo'u hamser.  Efallai bod yr ymyraeth yma yn adlewyrchu'r ffaith bod y tri yn gorfod crafu pen i ddod o hyd i rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud i lenwi'r oriau maith, diflas yn Nhy Gwydyr.

Ond mae agwedd gadarnhaol i'r bennod fach ryfedd yma hefyd - mae'n rhoi cymhelliad cryf i lywodraeth Llafur yn San Steffan unioni'r cam a wnaethant a Chymru trwy roi  setliad datganoli diffygiol i Gymru yn ol yn 1997 - ac mae hefyd yn rhoi cymhelliad iddynt anfon y Swyddfa Gymreig i aberfofiant haeddianol unwaith ac am byth.

Wednesday, October 10, 2012

Y neges o bol ITV

Mae'n galonogol nodi canfyddiadau pol piniwn diwedday ITV.

Yn ol y pol mae llawer mwy o bobl Cymru o'r farn y dylai'r rhan fwyaf o rym tros fywyd Cymru fod yn y Cynulliad yn hytrach na San Steffan.  Mewn ateb i gwestion oedd yn holi ym mhle y dylai'r mwyaf o rym fod roedd y canlyniadau fel a ganlyn:


  • Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad 57%
  • Llywodraeth y DU 22%
  • Cynghorau 6%
  • Undebau Llafur 1%
  • Busnesau mawr 1%
  • Y lluoedd arfof 1%
  • Yr Undeb Ewropeaidd 0%
  • Crefyddau 0%
  • Eraill 3%
  • Ddim yn gwybod  10%
  • Plaid Cymru mae'n debyg gen i ydi'r unig blaid sydd yn gwbl ddi amwys yn cytuno efo'r farn gyhoeddus ar y mater cyfansoddiadol yma.  - mae'r Blaid yn nes at y farn gyhoeddus na'r un blaid arall.  Mae lleoli plaid wleidyddol mor agos a phosibl at leoliad gwleidyddol y rhan fwyaf o etholwyr yn rhywbeth mae'n ffasiynol i bleidiau gwleidyddol modern geisio ei wneud.
  • Yn yr achos yma 'does dim rhaid i'r Blaid symud modfedd i fod wedi ei lleoli yn 'briodol'.  Yr hyn mae'n rhaid iddi ei wneud fodd bynnag, ydi sicrhau ei bod yn adeiladu naratif sy'n rhoi llais a fframwaith rhesymegol i'r lleoliad hwnnw, a thrwy hynny gysylltu efo'r etholwyr.  Fel rydym wedi ei drafod yn y gorffennol, y ffordd o wneud hynny ydi trwy ddangos sut y gallai mwy o rym i'r Cynulliad ganiatau i ni fynd i'r afael a phroblemau pob dydd yn fwy effeithiol.  

Sunday, October 07, 2012

Beth fyddai'n digwydd _ _ _

_ _ _ petai pol YouGov heddiw yn cael ei adlewyrchu mewn etholiad cyffredinol?

Wel - efo'r ffiniau presenol byddai Llafur yn ennill pob sedd yng Nghymru ag eithrio Meirion / Dwyfor, Brycheiniog a Maesyfed, Ceredigion a Maldwyn.

Efo'r ffiniau newydd - byddai Llafur yn ennill pob sedd ag eithrio Gwynedd, De Penfro, Ceredigion / Gogledd Powys a Mynwy.

Mi fyddai hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa digon tebyg i'r penllanw Llafur ymhell yn ol yn 1966.

Rwan dydi polau 'cenedlaethol' na rhaglenni darogan fel yr un mae'r lincs yn arwain ati ddim yn gweithio yn dda yng Nghymru oherwydd nad ydynt yn mesur cefnogaeth Plaid Cymru.  Hefyd rydan ni  ychydig ddyddiau ar ol cynhadledd y Blaid Lafur a thua hanner ffordd trwy'r senedd yma.  Gallai llawer iawn ddigwydd rhwng rwan a 2015.

Ond - ond dylai'r polau diweddaraf fod yn rhybudd i aelodau seneddol pob plaid ag eithrio Llafur yng Nghymru - os am oroesi i'r senedd nesaf bydd rhaid i'r rhan fwyaf ohonynt berfformio'n well na'u pleidiau yn ehangach.  Dyma'r amser i feddwl sut i wneud hynny - bydd 2014 yn rhy hwyr.

Sgandal ar ol sgandal ar ol sgandal

Mae'n beth rhyfedd, ond mae llawer o'r sefydliadau hynny oedd yn cael eu hystyried yn  elfennau digyfnewid o fywyd ugain mlynedd yn ol, bellach yn ffocws rheolaidd i rhyw sgandal neu'i gilydd.  Roedd y rhan fwyaf o'r sefydliadau hynny y tu hwnt i feirniadaeth tan yn ddiweddar hefyd.

Dyna i chi'r Bib i ddechrau - mae'r gorfforaeth wedi bod o dan sylw yn ddiweddar oherwydd i filoedd lawer o'r sawl sy'n gweithio iddi dalu treth ar gyfradd is na'r gweddill ohonom trwy smalio mai cwmniau yn hytrach nag unigolion ydynt, ac oherwydd y sefyllfa hynod anffodus parthed Jimmy Savile.  Gallai goblygiadau'r ail stori fod yn hynod bell gyrhaeddol.

Ac wedyn cafwyd sefydliad hoffus arall - News International - yn cael ei hun mewn trafferth go sylweddol oherwydd i rai o bapurau newydd y cwmni fynd ati i hacio ffonau symudol cannoedd o bobl - gweithred sy'n gwbl anghyfreithlon.  Mae'r sgandal yma yn ei dro wedi taflu goleuni ar sefydliad arall - yr heddlu.  Ymddengys bod News of the World wedi bod yn talu i aelodau'r heddlu am wybodaeth cyfrinachol - rhywbeth arall sy'n anghyfreithlon.

Mae sgandalau sy'n ymwneud efo ein hannwyl fanciau rif y gwlith wrth gwrs, a dydan ni ddim yn gorfod mynd yn ol yn rhy bell i ddod ar draws y sefyllfa ryfeddol lle'r oedd aelodau seneddol wedi creu system dreuliau oedd yn caniatau iddyn nhw eu hunain hawlio symiau rhyfeddol o bres gan y trethdalwr heb orfod datgan unrhyw fanylion i'r dywydiedig drethdalwr.  Er wedi dweud hynny pe byddem yn mynd ati i fynd ar ol sgandalau seneddol byddwn wrthi am gryn gyfnod - mae yna fwy na hanner cant wedi bod yn ystod fy mywyd i.

Mae sgandalau brenhinol yn gyffredin hefyd - ac mae'r un bresenol ynglyn a Savile yn cyffwrdd a'r teulu hwnnw hefyd  - ond dydi'r rheiny ddim hyd yn oed yn niweidio delwedd y teulu brenhinol bellach - wnaeth yna neb hyd yn oed meddwl dwywaith pan gafodd Charles godiad cyflog o 11% yn ddiweddar - er bod pawb arall sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus wedi cael eu cyflogau wedi eu rhewi ers blynyddoedd.

Y llinyn sy'n cysylltu'r holl sgandalau ydi eu bod yn ymwneud a sefydliadau ag iddynt ddiwylliant o hunan bwysigrwydd, lefelau isel o atebolrwydd ac ethos o gyfrinachedd a diffyg atebolrwydd.  Y rheswm eu bod nhw i gyd yn cael eu taro gan sgandalau fwy neu lai yr un pryd ydi oherwydd bod disgwyliadau'r cyhoedd wedi newid - mae pobl yn parchu sefydliadau llai bellach ac yn disgwyl tryloywder, atebolrwydd a pharch at y gyfraith ganddynt.

Does dim rhaid dweud bod hyn yn rhywbeth cwbl gadarnhaol.

Saturday, October 06, 2012

Tafodiaeth yn tynnu ei hanadl olaf

Mae'n drist deall i Bobby Hogg, siaradwr olaf tafodiaeth Cromarty Fisherfolk wedi marw yn yr Alban.  Tafodiaeth o Saesneg isel diroedd yr Alban oedd Cromarty Fisherfolk, ac fe'i defnyddid fwy neu lai yn unig gan gymunedau pysgota yn Cromarty.  

Yn anffodus, dydi hyn ddim yn rhywbeth anghyffredin - yn ol rhai amcangyfrifon mae un iaith yn marw pob pethefnos yn rhywle neu'i gilydd yn y Byd.  Er bod 7,000 o ieithoedd yn y Byd mae 78% o bobl yn siarad un o'r 85 iaith fwyaf.  Mae canran uchel iawn o'r rheiny yn siarad un o'r pump iaith mwyaf - Mandarin, Sbaeneg, Bengali, Saesneg, Hindi Arabaidd, Portigiaidd a Rwsieg.  Mae yna fwy na hynny o dafodiaethau yn marw wrth gwrs.

Daw hyn a ni at y Gymraeg.  Bydd llawer ohonom yn poeni am ddyfodol yr iaith - ac mae hynny'n ddigon teg.  Ond, a ninnau yn weddol agos at gyhoeddiad ystadegau Cyfrifiad 2011 mae'n deg dweud bod  yna lawer yn mynd o blaid yr iaith.

Mae'n debyg gen i ei bod yn syndod i'r rhan fwyaf o bobl bod y Gymraeg ymysg ieithoedd mwyaf y Byd o ran nifer siaradwyr - mae tua 93% o ieithoedd y Byd efo llai o siaradwyr na'r Gymraeg.  Mae'r Gymraeg hefyd efo statws llawer uwch na sydd gan llawer iawn o ieithoedd eraill.  Mae camau  yn cael eu cymryd i'w chynnal - rhywbeth sydd unwaith eto yn weddol anarferol.  Mae'r niferoedd a'r canrannau sy'n siarad Cymraeg wedi cynyddu yn ol y ddau gyfrifiad diwethaf.

Yn fwy arwyddocaol fyth o bosibl ydi'r ffaith bod yna bobl sy'n byw yn ddigon agos at ffin Cymru a Lloegr sy'n siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf, tra ymhell i'r gorllewin o hynny mae'r Saesneg wedi sgubo'r iaith Wyddeleg o'r neilltu ym mhob man bron ar dir mawr Iwerddon.  Mae i'r iaith wytnwch cynhenid.

Dydi hyn oll ddim yn golygu bod dyfodol y Gymraeg yn ddiogel wrth gwrs, ond mae mewn llawer gwell lle na'r rhan fwyaf o ieithoedd lleiafrifol.  Mae'n werth cofio hynny weithiau - 'mae pesimistiaeth di angen mor niweidiol i'r iaith ag unrhyw beth.





Friday, October 05, 2012

Carcharorion Kenya a'r Ymerodraeth Brydeinig

Mae'n dda cael nodi i dri cyn garcharor o Kenya ennill eu hachos yn erbyn llywodraeth y DU yn yr Uchel Lys.  Gellir gweld y dyfarniad yma.

Cafodd y tri eu harteithio gan yr awdurdodau trefedigaethol pan oeddynt yn garcharorion yn ystod rhyfel annibyniaeth Kenya yn y pump degau.  Mae'n debyg y bydd hyn yn agor y ffordd i hyd at 2,000 o'r cyn garcharorion sy'n dal yn fyw (allan o gyfanswm o tua 70,000) ddod ag achosion hefyd.  Mae hefyd yn fwy na phosibl y bydd achosion gan garcharorion o wledydd eraill maes o law - Cyprus er enghraifft. 

Wnes i (yn amlwg) ddim gweld sioe agoriadol y Gemau Olympaidd, ond dwi'n deall i hanes ymerodrol Prydain gael ei ddileu bron yn llwyr o'r naratif a gyflwynwyd - er bod cynnal ymerodraeth wedi bod yn rhan ganolog o hunaniaeth Prydeinig am y rhan fwyaf o hanes y wladwriaeth. 

Mae yna pob math o gwestiynau ynglyn a'r Ymerodraeth Brydeinig, ac mae'r rheiny yn mynd yn llawer pellach na cham drin carcharorion yn ystod dyddiau olaf yr ymerodraeth honno.  Er enghraifft, roedd trigolion rhai o drefedigaethau Prydain (ac ymerodraethau eraill) yn llwgu i farwolaeth mewn niferoedd rhyfeddol o uchel yn ystod Oes Fictoria, ac yn wir yn ystod y ganrif ddiwethaf.  Ychydig iawn (mewn cymhariaeth) a fu farw yn yr un ffordd wedi i'r Ymerodraeth ddod i ben. 

I unrhyw un a diddordeb yng ngwir natur yr Ymerodraeth Brydeinig, byddwn yn awgrymu eu bod yn darllen llyfr Mike Davies - Late Victorian Holocausts.  Mae'r llyfr yn dylunio'n glir y syniadaethau oedd ynghlwm a'r Ymerodraeth Brydeinig, ac effeithiau gweithredu'r syniadaethau hynny ar ddegau o filiynau o bobl. 

Tuesday, October 02, 2012

Beth mae helynt y diweddar Jimmy Savile yn ei ddweud wrthym

Yn bersonol dydi'r honiadau ynglyn a chamdriniaeth rhywiol gan Jimmy Savile ddim o llawer o ddiddordeb i mi.  Ond serch hynny mae'r stori yn codi cwestiynau sydd yn ddigon diddorol a pherthnasol.



Yn gyntaf dyna  ni'r Bib.  Os ydi'r straeon sydd o gwmpas yn y Daily Mail ac ati yn wir mae'n debyg bod aelodau o staff cynhyrchu y BBC wedi bod a lle i amau ers blynyddoedd lawer bod drwg yn y caws - ond nad oedd dim wedi ei wneud ynglyn a hynny.  Mae dau reswm posibl am hyn - naill ai bod diwylliant mewn rhannau o'r gorfforaeth yn un nad oedd yn hyrwyddo canu cloch ar gam ymddygiad selebs - neu bod rheolwyr y Bib yn gyndyn i weithredu mewn modd fyddai'n cael un o'r cyfryw  selebs o flaen llys barn.  Mae'r penderfyniad diweddar i ollwng y stori - er bod tim Newsnight wedi dechrau gweithio arni, hefyd yn awgrymu bod tim rheoli presenol y Bib yn bryderus ynglyn a lle y gallai'r stori arwain.

Yn ail mae'n ymddangos i'r heddlu holi Savile bum mlynedd yn ol ynglyn ag un o'r honiadau - ond i'r DPP benderfynu peidio a chynnal achos oherwyddc diffyg tystiolaeth.  Ond .mae ychydig o grafu o gwmpas gan ITV a'r Daily Mail  wedi dod a phob math o dystiolaeth i'r amlwg mewn dim amser o gwbl.  Dydi hi ddim yn swnio fel petai ymdrech fawr wedi ei gwneud i ddod o hyd i dystiolaeth.  Tybed os byddai mwy o ymdrech wedi ei gwneud petai'r sawl oedd yng nghanol yr helynt gyda phroffeil is na Savile.

Ac yn drydydd, os ydi rhai o'r straeon sydd o gwmpas yn wir mae lle i feddwl bod Savile wedi gwneud defnydd o'r ffaith ei fod yn hyrwyddo gwahanol elysennau i sicrhau nad oedd y papurau newydd yn cyhoeddi rhai o'r straeon oedd yn gwneud y rownds amdano.  Mae yna hen hanes o bobl adnabyddus yn hyrwyddo achosion da er mwyn hyrwyddo eu budd eu hunain.