Thursday, March 03, 2011

Diwrnod y refferendwm

Wel - dyna fy refferendwm i drosodd o leiaf. Fel nifer dda o aelodau eraill cangen y Blaid yng Nghaernarfon 'dwi wedi bod wrthi ar y ffon trwy gyda'r nos yn ceisio sicrhau bod ein cefnogwyr yn y dref yn mynd allan i fwrw eu pleidlais.

Am yr hyn mae'r wybodaeth yma ei werth - 'dydi Caernarfon ddim yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o Gymru - roedd y gyfradd a aeth allan i bleidleisio yn isel, ond 'dwi'n eithaf sicr i drwch cefnogaeth y Blaid yma bleidleisio. Beth bynnag, cawn weld i sicrwydd 'fory.

Mae'r blog yma wedi bod mewn sefyllfa yn y gorffennol i ddatgan canlyniadau gwahanol etholiadau ymhell cyn iddynt gael eu datgan yn swyddogol, ac ymhell cyn i'r cyfryngau prif lif eu datgan. Yn anffodus mae'r cyfri yn ystod y dydd y tro hwn, ac mi fyddaf wrth fy ngwaith ac allan o gysylltiad efo gwleidyddiaeth, etholiadau a phob dim arall bron yn ystod y cyfri. Fodd bynnag mi gaiff y Mrs ei gadael yn gyfrifol am y blog - am y tro cyntaf erioed - ac mi gawn ni weld os ydi hi cystal a mi am chwilota am wybodaeth etholiadol.

3 comments:

Guto Bebb said...

Patrwm rhyfedd iawn yn ardal Llandudno / Cyffordd Llandudno a Chonwy. Nifer fychan iawn yn bwrw pleidlais mewn wardiau traddodiadol Llafur ond canran llawer uwch mewn wardiau megis Deganwy, Craig y Don, Gogarth a Bae Penrhyn.

Gwnewch o hynny yr hyn y mynwch!

Anonymous said...

Pob hwyl arni Mrs Menai!

IRh

Anonymous said...

Pleidlais post sylweddol (60-70%) ar draws y de-orllewin, un go lew yn y gorsafoedd pleidleisio gwledig (tua 50%), ac un isel yn yr ardaloedd (ôl-)diwidiannol yn y de (tua 25%).

Ardaloedd Llafur, mor belled 5-1 i'r Ie. Ardaloedd "cymysg" tua 4-3 i'r Ie.

Tynnu ffigwr o dop fe het: 57%-43% i ochr yr angylion erbyn amser te ddydd Gwener.