Sunday, March 27, 2011

Seisnigrwydd yr Undebau Credyd

Diolch i PlaidWrecsam am dynnu sylw at y newyddion trist nad ydi y North Wales Credit Union yn gwneud defnydd o unrhyw fath o'r Gymraeg ar eu gwefannau. Mae'n arbennig o drist nodi bod hyd yn oed gwefan Undeb Credyd y Llechen yn gyfangwbl Saesneg - er bod mwyafrif llethol cwsmeriaid yr Undeb yn Gymry Cymraeg, ac er ei bod yn derbyn cymorth ariannol gan y Cynulliad. Mae pencadlys yr Undeb yn Stryd Llyn, Caernarfon.

Os oes unrhyw un yn amau'r angen am ddeddf a chomisiynydd iaith i amddiffyn hawliau Cymry Cymraeg, mae'r hyfdra rhyfeddol yma'n ateb yr amheuon hynny'n eithaf twt. Gallwch gwyno trwy e bostio'r cyfeiriad yma: info@northwalescu.co.uk

6 comments:

Alwyn ap Huw said...

Mae llawer o lwyddiant yr Undebau Credyd yn perthyn i'r ffaith eu bod yn cael eu cynnal, ar y cyfan, gan wirfoddolwyr sy'n cynnig amser ac arbenigedd i'r achos.

Os am weld Cymreigio'r Undeb newydd yn y gogledd, gai awgrymu bod cefnogwyr y Gymraeg a'r mudiad Undebau Credyd yn cysylltu ag Undeb Credyd Gogledd Cymru, nid er mwyn cwyno, ond er mwyn cynnig cymorth ieithyddol iddynt!

Cai Larsen said...

A reit - 'dwi'n deall rwan - mae'r Saesneg yn essential medde nhw.

Plaid Gwersyllt said...

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn dda iawn (neu mi roeddan nhe) am gynhyrchu adnoddau dwyieithog. Diffyg sydd yn agweddau rheini sydd yn rhedeg Undebau Credyd tuag at yr iaith!

Anonymous said...

Dyma'r drigionni syn dechrau pan mae gormod o Saeson yn gweithio mewn llefydd a swyddfeydd lle dylia Cymry Cymraeg geithio, mae na ormod o nw yn geithio yn y Cyngor hefyd. Fel dwi'n deallt, ni fedar Twrna Cyngor Mon siarad Cymraeg, ac mae rhaid iddi sgwenu popeth yn Saesneg.

Plaid Gwersyllt said...

Ar wahan i athrawon yn y sector addysg Gymraeg dim ond tua 6 swydd allan o 6000+ o swyddi yn Nghyngor Sir Wrecsam lle mae'r Gymraeg yn anghenrheidiol.

Anonymous said...

Mae A ap H yn llygaid ei le mai gwirfoddolwyr sydd yn cynnal Undebau Credyd. Waeth heb cwyno os nad ydym fel Cymry yn barod i gynnig gwasanaeth.