Wednesday, June 02, 2010

Yn ol yn 97 _ _ _

- - - roedd y map etholiadol Cymreig yn hynod o goch.

Mi fydd llawer yn cofio i Lafur ennill 34 o'r 40 etholaeth Gymreig. Yr eithriadau oedd Ynys Mon, Caernarfon, Meirion Nant Conwy, Ceredigion, Brycheiniog a Maesyfed a Maldwyn. Roeddynt yn ail mewn pedair o'r 6, ac roeddynt yn ddigon agos at fod yn ail ym Mrycheiniog a Maesyfed a Maldwyn. Roeddynt wedi cael 886,935 o bleidleisiau (54.7% o'r cyfanswm). 531,601 (36.2%), oedd eu cyfanswm eleni.

Yr hyn na fydd cymaint o bobl yn ei gofio ydi'r graddau roedd Llafur wedi llwyddo i feddiiannu'r tirwedd gwleidyddol ar pob lefel arall oedd ar gael iddi. Nid oedd trefn gyfrannol yn cael ei defnyddio bryd hynny ar lefel Ewropiaidd, ond roedd gan Lafur y bum sedd Gymreig a 55.9% o'r bleidlais. Roedd Glenys Kinnock wedi llwyddo i ennill 74% yn Ne Ddwyrain Cymru.

Yr un oedd y darlun mewn Llywodraeth Leol. Ar hyn o bryd dau gyngor yn unig a reolir yn llwyr gan Lafur - Castell Nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf. Bryd hynny roeddynt yn tra arglwyddiaethu tros y rhan fwyaf o'r wlad. Roedd ganddynt fwyafrif clir ym mhob un o'r 22 Awdurdod ag eithrio Ynys Mon, Powys, Gwynedd, Penfro, Ceredigion, Caerfyrddin, Conwy a Dinbych. Yn wir nhw oedd i bob pwrpas yn rheoli'r tri chyngor diwethaf ar y rhestr yna. Roedd eu rheolaeth yn llwyr tros ddinasoedd mawr y De, ac roedd ganddynt fwyafrifoedd cwbl ryfeddol ar rhai cynghorau - 46 o'r 47 sedd yng Nghasnewydd er enghraifft. Roedd gan Lafur sawdl ddur wedi ei gosod yn soled tros fywyd gwleidyddol Cymru.

Roedd pedwar piler i'r dominyddiaeth rhyfeddol yma:

  1. Amhoblogrwydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru.
  2. Gallu Llafur i wneud eu hunain yn ffocws i'r gwrthwynebiad hwnnw.
  3. Anallu Plaid Cymru i greu, neu o leiaf gyfathrebu naratif amgen oedd yn gredadwy y tu allan i'r Gymru Gymraeg.
  4. Parodrwydd Llafur i wneud yr hyn oedd ei angen i ddelifro'r hyn roedd eu hetholwyr ei eisiau - neu o leiaf i addo gwneud hynny.
Yr olaf o'r rhain oedd y pwysicaf, ac i raddau roedd hwnnw'n rhan o strwythur y tri philer arall hefyd. Delifro digon di gywilydd a secteraidd ar gyfer eu cleiantiaid fu cryfder Llafur yng Nghymru erioed.

Does yna ddim amheuaeth mai prif amcan Llafur yng Nghymru, gyda'r maen melin o lywodraeth amhoblogaidd yn San Steffan wedi ei symud oddi ar eu hysgwyddau, fydd ad ennill y tir a gollwyd ers 97 - ar pob lefel. Gellir gweld yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf mewn perthynas ag Ysgol Treganna yn y goleuni yma. Ystyriaeth gweddol ymylol ydi gweithredu ei strategaeth addysg ei hun i Lafur wrth ymyl yr hyn sy'n bwysig iddi go iawn - delifro ac adeiladu cefnogaeth etholiadol ar sail hynny.

Mi fyddai'n drychineb petai'r Cynulliad yn cael ei droi'n ffatri casgenni porc i'r Blaid Lafur yn hytrach nag yn offeryn i reoli Cymru'n effeithiol.

2 comments:

Anonymous said...

Cytuno a'r dadansoddiad ac yn credu fod hyn yn berthnasol iawn. O safbwynt Ynys Mon - lle wnaeth y Blaid Lafur yn well nac yn gweddill Cymru, dwi yn credu fod hyn yn hollol wir - mae Albert Owen yn ddi-gywilydd ei gefnogaeth neu ei wrthwynebiad i unrhyw beth sydd ar rhestr uchaf y pleidleiswyr/boblogaeth ar y pryd - ta waeth os ydi hynny yn erbyn polisi ei Blaid ei hun a'i peidio (dyna sut mae wedi llwyddo dal ei afael yn y sedd a cynyddu ei bleidlais - ond nid ei fwyafrif). Bydd llawer yn y Blaid Lafur yn troi at brofiad a thactegau Llafur Mon er mwyn dysgu o hyn a'u mabwysiadu eu hunain - a credwch chi fi, yma yn y Fam Ynys, bydd LLafur yn targedu'r sedd yma yn ddi-drugaredd dros y flwyddyn nesaf a hynny yn rhannol oherwydd 'llwyddiant' Albert Owen a Llafur Mon yn sedd Arweinydd Plaid Cymruy a Dirprwy Prif Weinidog y Cynulliad. Mae'n amser i'r Blaid ym Mon ddechrau gweld a sylweddoli hyn a dechrau herio Albert a Llafur go iawn. Hynny yw, sut mae Albert yn torri gwynt yn cael y tudalen flaen yn y Daily Post a'r Holyhead Mail - am ei fod yn meithrin y Golygyddion a'r newyddiadurwyr ar bapur sydd yn gefnogol i Llafur beth bynnag (Grwp Trinity Mirror). Roedd yn Blaid yn gallu gwneud hyn ar un adeg - pam ddim rwan? Pam mae Albert a Trinity Mirror yn gallu dweud fod Polisi y Blaid yn erbyn Ynni Niwcliar - ac 'awgrymu' fod IWJ a Dylan Rees yn erbyn hefyd, er wedi gwenud datganiadau i'r gwrthwyneb - tra mae Polisi swyddogol Llafur Cymru yn y Cynulliad yn hollol yn erbyn Ynni Niwcliar a does neb yn hyd yn oed pwyntio hynny allan? Ond yn waeth na dim arall mae polisiau Llafur Cymru a Llafur Prydain wedi llwyr ddinistrio cymunedau Cymraeg a Chymreig Ynys Mon dros y 10 mlynedd diwethaf ac mae'n hen bryd iddynt ddechrau gael eu herio go iawn ar y record honno ym Mon

Anonymous said...

I wonder just what Frank will change with this =D

Wayne
http://logicinsurance.info