Monday, June 07, 2010

Llafur ymhell ar y blaen yn yr Alban

Felly mae'r pol diweddaraf gan TNS-BMRM yn ei awgrymu. Mae'n hen stori bod Llafur ar y blaen ar lefel San Steffan yn yr Alban, ond yr hyn sy'n newydd yma ydi'r ffaith eu bod ar y blaen yn eithaf hawdd ar lefel Senedd yr Alban hefyd.

Mae'r blog yma wedi mynegi'r gofid ar sawl achlysur y gallai Llafur yng Nghymru elwa yn sylweddol o lywodraeth Doriaidd yn San Steffan. Digwyddodd hyn o'r blaen. Ymddengys bod yr un gogwydd ar waith yn yr Alban. Mi fyddai creu patrwm o senedd dai Llafur yng Nghymru a'r Alban yn ymladd rhyw fath o ryfel guerilla yn erbyn llywodraeth Doriaidd yn Llundain yn gam sylweddol yn ol yng ngwleidyddiaeth y ddwy wlad, ac mi fyddai yn wir yn gwneud gwleidyddiaeth Cymru a'r Alban yn fwy Prydeinig. Byddai llinellau blaen maes y gad gwleidyddol Cymru yn ymwneud yn bennaf a dadl Brydeinig ynglyn a materion economaidd a chyllidol.

Dyna un o'r pethau gwaethaf am lywodraethau Toriaidd yn y gorffennol - maent wedi cryfhau Llafur yng Nghymru, ac i raddau llai yn yr Alban. 'Does yna ddim byd wedi dal gwleidyddiaeth a datblygiad Cymru a'r Alban yn eu hol yn y gorffennol cymaint a hegemoni'r Blaid Lafur yn y gwledydd hynny.

No comments: