Saturday, April 25, 2009

Etholiadau Ewrop - rhan 2 - Lloegr

Wele'r ail yn y gyfres ar etholiadau Ewrop. Dau air bach o rybydd:

(1) Dipyn bach o hwyl ydi'r cwbl lot - peidiwch a chymryd pethau gormod o ddifri.
(2) Mae'n anodd iawn, iawn darogan y sedd olaf gyda'r drefn gyfranol sy'n cael ei defnyddio yn etholiadau Ewrop - felly hit & miss ydi'r sedd olaf yn y rhan fwyaf o'r etholaethau 'dwi'n edrych arnynt.

Ar un olwg yr oll sydd gennym i fynd arno ydi pol piniwn YouGov oedd yn gofyn yn benodol i bobl sut y byddant yn pleidleisio mewn etholiad Ewrop. Mae'r pol wedi ei gymryd tros y DU i gyd (ag eithrio Gogledd Iwerddon), felly yng nghyd destun Lloegr gellid disgwyl i'r ganran Llafur fod ychydig yn is a'r un Toriaidd i fod mymryn yn uwch.

Pol YouGov - canlyniad 2004 mewn cromfachau.
Toriaid 35% (27%)
Llafur 29% (23%)
UKIP 7% (16%)
Lib Dems 15% (15%)
Gwyrddion 5% (6%)
BNP 4% (4%)
SNP + PC 4% (2.4%)
Eraill 2% (6%)

A bod yn onest, dydw i ddim yn credu bod Llafur yn fwy poblogaidd heddiw nag oedd flwyddyn cyn eu buddugoliaeth yn 2005, a 'dwi ddim yn bwriadu ystyried y ffigyrau hyn wrth geisio darogan sut y bydd pethau yn mynd eleni - yn hytrach 'dwi'n bwriadu edrych ar sut mae'r polau piniwn confensiynol yn cymharu gyda 2004 a gweithio pethau allan o'r fan honno.

East Midlands 5 (6 y tro o'r blaen) Y sefyllfa ar hyn o bryd ydi Llafur 1, Toriaid 2, Lib Dems 1, UKIP 2. 'Dwi'n rhagweld mai'r sefyllfa y tro hwn fydd Llafur 1, Toriaid 2, Lib Dems 1, UKIP 1.

Eastern England 7 Y tro o'r blaen fel yma roedd pethau'n edrych - Llafur 1, Toriaid 3, Lib Dems 1, UKIP 2. Y tro hwn byddwn yn disgwyl Llafur 1, Toriaid 3, Lib Dems 2, UKIP 1.

London 8 (9) Ar hyn o bryd - Llafur 3, Toriaid 3, Lib Dems 1, UKIP 1 Plaid Werdd 1. Ar ol mis Mehefin - Llafur 2, Toriaid 3, Lib Dems 1, UKIP 1 Y Blaid Werdd 1.

North East 3 'Dwi'n disgwyl i hon aros fel y mae heddiw gyda Llafur, y Toriaid a'r Lib Dems efo sedd yr un. Mae'n bosibl y bydd y Toriaid yn cael mwy o bleidleisiau na Llafur.

North West 8 (9) Y sefyllfa ar hyn o bryd ydi Llafur 3, Toriaid 3, Lib Dems 2 ac UKIP 1. 'Dwi'n rhagweld mai'r sefyllfa eleni fydd Toriaid 3, Llafur 2 a Lib Dems 2. Mi fyddwn i'n disgwyl i Nick Griffin gael y sedd sy'n weddill i'r BNP. Mi fydd hi'n dyn iawn am ail sedd i'r Lib Dems - ac os byddant yn methu ei dal, yna bydd
UKIP yn dal eu sedd.

West Midlands 6 (7) Ar hyn o bryd - Llafur 2, Toriaid 3, Lib Dems 1, UKIP 1. Ar bapur mae'n ymddangos yn weddol syml - bydd Llafur yn colli sedd a bydd pob dim arall yn aros yr un peth - ond daeth y BNP o fewn 23,000 i ennill sedd o'r blaen, ac er bod mwy ganddynt i'w wneud y tro hwn oherwydd bod sedd yn llai, fedra i ddim osgoi y teimlad anymunol eu bod am wneud yn dda yma gyda phleidlais cyn Lafurwyr - felly 'dwi am ddarogan y byddant yn cymryd sedd - un y UKIP mae'n debyg - er y gallai fod yn drydydd sedd y Toriaid neu'r un y Lib Dems - felly - Llafur 1, Toriaid 3, BNP 1, Lib Dems 1.

Yorkshire & Humber 6 Y sefyllfa ar hyn o bryd ydi Llafur 2, Toriaid 2, Lib Dems 1, UKIP 1. 'Dwi'n rhagweld mai'r tro hwn y sefyllfa fydd Llafur 1, Toriaid 3, Lib Dems 1, BNP 1. Bydd yn dyn iawn am drydydd sedd i'r Toriaid - os na fyddant yn ei chael bydd pethau'n agos rhwng UKIP a Llafur am y chweched sedd.

South East England 10 Ar hyn o bryd y sefyllfa ydi Llafur 1, Toriaid 4, Lib Dems 2, UKIP 2, Y Blaid Werdd 1. 'Dwi'n meddwl y bydd newid sylweddol yn y canranau, ond bod fydd y dosbarthiad seddi yn aros yr un peth. 'Dwi'n disgwyl i Llafur ddod yn bumed y tro cyntaf mewn etholiad fawr hyd y gwn i.

South West England 6 (7) Ar hyn o bryd - Llafur 1, Toriaid 3, Lib Dems 1, UKIP 2. Ar ol Mehefin - Y Blaid Werdd 1, Toriaid 3, Lib Dems 1, UKIP 1. Eto gall Llafur gael llai na'r Blaid Werdd.

Felly y canlyniadau tros Loegr fydd (yn fy marn bach i) -
Toriaid - 24
Llafur - 10
UKIP - 7
Lib Dems - 12
BNP - 3
Y Blaid Werdd - 3

4 comments:

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n dallt bod Gibralta yn pleidleisio yn etholiadau Ewrop fel rhan o dde orllewin Lloegr.

Yn yr etholaeth yma mae Meibion Cernyw am sefyll pedwar ymgeisydd ac yn dweud (fel mae pleidiau gwleidyddol yn dueddol o wneud)eu bod yn lled obeithiol o ennill o leiaf un.

Sut mae Ynys Manaw ac ynysoedd mor Udd yn cael eu cynrychioli yn Senedd Ewrop?

Cai Larsen said...

Dydi Ynys Manaw ddim yn cael eu cynrychioli yn Senedd Ewrop - byddai hynny'n amhriodol - nid ydynt yn perthyn i'r Undeb Ewropiaidd.

Alwyn ap Huw said...

Rwyf wedi fy nrysu yn llwyr. Tydi Ynys Manaw ddim yn wlad annibynnol. Nid oes hawl sedd ganddi yn y Cenhedloedd Unedig gan ei fod yn rhan o'r DU. Os yn rhan o'r DU, pam nad ydi hi hefyd yn rhan o'r UE, megis Gibralta?

Be di sefyllfa Ynysoedd Môr Udd (Ynysoedd y Sianel i ddefnyddio new-Welsh)?

Holi er mwyn cael fy addysgu ydwyf, ar yr achlysur yma, nid er mwyn tynnu blewyn o dy drwyn, gyda llaw!

Cai Larsen said...

Ti'n gywir bod statws cyfansoddiadol Ynys Manaw yn gymhleth - ac yn rhyfedd braidd. Efallai y bydd y wefan hon o gymorth - http://www.gov.im/isleofman/externalrelations.xml

Dydi Ynysoedd Môr Udd ddim yn perthyn i'r Undeb chwaith - er bod perthynas arbennig yn sicrhau bod rheolau allforio / mewnforio yr un peth nag ydynt yng ngweddill y DU.