Thursday, April 09, 2009

Pam blogio yn y Gymraeg?

Gan fy mod mewn hwyliau i gymryd rhan yn yr arfer bach llosgachol braidd o flogio am flogio sydd mor boblogaidd ar hyn o bryd, mi ddyweda i air neu ddau am y flogio yn Gymraeg. Dau sydd wedi son am hyn yn ddiweddar ydi fy nghyfaill HRF a Dyfrig Jones.

Dim ond yn y Gymraeg y byddaf yn blogio – a ‘dwi ddim yn rhagweld y byddaf byth yn blogio yn y Saesneg. Mae hyn yn golygu fy mod yn cael llai o ddarllenwyr o lawer na phe byddwn yn blogio yn y Saesneg – ‘dwi’n cau tua 80% o ddarllenwyr posibl yng Nghymru allan – heb son am ddarllenwyr y tu hwnt i’r wlad. Tua 100 o ddarllenwyr unigol fydd yn ymweld a blogmenai yn ddyddiol ar gyfartaledd, ac mae llai na dwywaith hynny o dudalennau yn cael eu llwytho yn ddyddiol. Ar ddiwrnod ‘da’ iawn bydd tua 200 o ymwelwyr unigol yn ymweld – ar ddiwrnodiau felly byddaf naill ai wedi postio sawl gwaith – neu bydd rhyw ffrae anymunol yn mynd rhagddi – bron yn ddi eithriad ynglyn a rhyw fater lleol iawn a phlwyfol iawn yng Ngwynedd. ‘Dwi’n hoff o feddwl y byddai’r ffigyrau hyn cryn tipyn yn uwch pe byddwn yn blogio trwy gyfrwng y Saesneg.


Mae HRF yn cadw dau flog – un Saesneg ac un Cymraeg. Mae’n dweud ei fod yn gwneud mwy o ddefnydd o’r un Saesneg yn rhannol oherwydd mai’r Saesneg yw ei famiaith. ‘Dydi hynny ddim yn wir amdanaf i – y Gymraeg ydi fy mamiaith – ‘dwi’n llawer mwy cyfforddus yn siarad Cymraeg, ond o ran ‘sgwennu a darllen, does gen i ddim mewath o ots pa iaith ‘dwi’n ei defnyddio – cefais fy addysg uwchradd yn bennaf yn y Saesneg, gradd Saesneg sydd gen i ond ‘dwi’n gwneud fy ngwaith dyddiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn yr ystyr yna mae’n debyg fy mod ymhlith yr ychydig bobl cyfangwbl ddwyieithog.


Mater ideolegol sy’n peri i Dyfrig flogio yn y Gymraeg – mae’n ystyried dwyieithrwydd yn broblematig i’r Gymru Gymraeg. Mae gen i gydymdeimlad efo dadansoddiad Dyfrig, ond dydw i ddim yn llwyr gytuno chwaith – mae’r llinellau sydd ym myd Dyfrig yn rhy glir i mi. Nid wyf yn ystyried bod y gwahaniaeth rhwng sefyllfa’r Cymry Cymraeg y tu mewn i’r Fro a’r tu allan mor glir a mae Dyfrig yn awgrymu, a ‘dwi’n credu bod mwy i’r adfywiad yn y Gymraeg yn rhai o’r ardaloedd Seisnig na chanlyniad i ehangu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg – ond mater i gyfraniad arall rhyw dro arall ydi hynny.


I'r Hogyn o Rachub mater o greu cornel bach lle mae'r Gymraeg yn oruchaf ydyw. Mae'n debyg mai dyma'r safbwynt sydd agosaf at fy un i.


I mi, mater ymarferol ydi blogio yn y Gymraeg – mater ymarferol o ran ceisio amddiffyn yr iaith honno. ‘Dwi’n sylweddoli ei bod yn chwerthinllyd o ryfygys a fi fawraidd i awgrymu bod blog di nod fel hwn am gael unrhyw ddylanwad ar ddyfodol y Gymraeg – ond son am egwyddorion cyffredinol ydw i. Y gwir syml ydi bod y Gymraeg yn tyfu mewn rhai rhannau o Gymru oherwydd cymysgedd o ewyllys da tuag ati a rhesymau ymarferol (neu hunanol os mynwch) – canfyddiad bod addysg Gymraeg yn un o safon uchel yn ogystal a bod siarad Cymraeg yn rhoi mynediad i adrannau (dosbarth canol) o’r farchnad gyflogaeth.. Heb yr ystyriaethau hunanol ni fyddai’r holl ewyllys day n y byd yn gwneud llawer iawn o wahaniaeth.


I roi pethau mewn ffordd mymryn yn wahanol mae pobl yn fodlon dysgu’r Gymraeg pan bod rheswm clir ac ymarferol / hunanol tros wneud hynny.


A dyna pam mae dwyieithrwydd yn broblem i minnau hefyd – os ydi pob dim yn cael ei gyfieithu mae’n rhoi un rheswm pwysig yn llai tros ddysgu’r Gymraeg. Os oes yna agweddau ar ein bywyd cenedlaethol nad oes mynediad iddynt heb allu daeall y Gymraeg mae’n rhoi rheswm ymarferol i bobl ddysgu’r iaith. Dyna’r cyd destun ‘dwi’n blogio trwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn unig ynddo.

No comments: